Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y LLYWODRAETH A'R WLAD.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

9 —————— Y mae yr orfodogaeth a fygythid gan y galluoedd erbyn heddyw yn ffaith yn ei ber- thynas a Crete. Y mae yn ymddangos yn rhyfedd i ni fod y galluoedd wedi dechreu ar waith mor annynol ac mor annuwiol am wytb o'r gloch foreu Sabbath A oeddynt am roddi gwedd grefyddol ar eu hanfad waith ? Nid oedd dim yn galw am iddynt dori ac halogi dydd yr Arglwydd wrth ddechreu gwithwynebu rhyddid a Christionogaeth. Y mae y deyrnas hon, sydd yn ymffrostio yn ei moeoldeb, yn cael ei galw yn wlad Gristionogol, yn condemnio ei hun wrth roddi ei galltz a'i dylanwad yn ffafr y Sultan gwaed- lyd a llofruddiog, ac o blaid teyrnas sydd wedi tynu barnedigaeth y nefoedd arni. Y mae Llywodraeth y Twrc wedi ei dedfrydu i ddinystr. Y mae y llygredd sydd o'i mewn yn ei gwneud yn bwdr, a byddai wedi myned yn ddeilchion oni bai ei bod yn cael ei chylchu ag aur cyfoethogion Prydain. Y mae pamphled Mr. Gladstone ar yr ar- gyfwng yn y Dwyrain wedi cael ei gyhoeddi yr wythnos ddiweddaf. Y mae y pamphled yn taflu goleuni ar yr holl gwestiwn. Ni fydd y Toriaid mwyach yngalludweyd fod y wlad mewn tywyllwch ar y pwnc. Dywed Mr. Gladstone fod amcan daionus ffurfiad y cydgord wedi cael ei golli yn hollol. Amcan cyntaf cydgord rhwng y galluoedd oedd gofalu am anrhydedd, dyledswydd, rhyddid, a dynoliaeth, ond yn awr y mae y cydgord wedi myned i ddiystyru a sathru dan draed amcan ei fodolaeth. Y mae drwg presenol y cydgord yn codi o'r ffaith fod dau ddyn ieuanc ag sydd yn dwyn yr enwau uchel o Ymerawdwyr, ond y mae un, meddai Mr. Gladstone, yn hollol heb wybodaeth na phrofiad, a'r Hall a'i wybodaeth a'i brofiad yn rhyfeddol o gyfyng-mor gyfyng nes taro y byd a syndod pan y mae y cyfyngdra yn dod i'r golwg. Nid yw Ymerawdwyr Germani a Rwsia ond plantos yn bwhwman; ond y mae eu bwhwmiadau wedi bod yn ddigon effeithiol i hudo Arglwydd Salisbury i'w dilyn nid am nad yw yn gwybod gwell, ond ei fod yn rhy wan—yn rhy wanaidd i wrthwynebu ymer- awdwyr, neu am eu bod hwy yn gwneud yr hyn y mae ef yn hoffi. Y mae Groeg fechan, yn nerth ei ffydd mewn cyfiawnder, rhyddid dynoliaeth a Duw, yn debyg i Dafydd yn gwynebu, yn y chwech gallu, ar chwech Goliath. Nid yw yr orfodogaeth wedi cyrhaedd yr amcan tybiedig. Yr oedd y galluoedd yn tybio y byddai i Groeg ddychrynu i ufydd- dod, ond dylanwad hollol wahanol y mae yr orfodogaeth ar Grete wedi ei gael ar Frenin Groeg a'r deiliaid, ac nid yw yn debyg y bydd i'r Groegiaid blygu heb gael yr hyn a geis- iant, neu gael yr hyn a ystyriant yn fraint, sef aberthu eu bywydau dros hawliau eu gwlad, eu cenedl, a'u l-refydd. Y mae aneSeithioleb y gwarchead ar Crete yn dwyn y pwerau i ail ystyried yr hyn a maent yn eu wneud. Ni lwyddant i newynu y milwyr Groegiaid yn Creta am fed gan- ddynt ddigon o gynaliaeth am fisoedd o leiaf. Nid yw y gwarchead yn dychrynu dim ar Crete, a daliant i frwydro am eu hawliau, a dywedant y mynant gael yr hyn a geisiant, neu farw yn yr ymdrech am dano. Y mae y Milwriad Vassos a'r fyddin Roegaidd, yn Creta, yn ymosod ar y Tyrc- iaid, vn enill eu hamddiffynfeydd, ac yn parotoi i ymosod ar fyddin unedig y gallu- oedd. Y mae pethau yn ymddangos yn rhyfedd pan ydym yn myned i'r wasg—Groeg yn benderfynol i gwrdd a'r gwaethaf—y Tywysog Coronog wedi cychwyn allan i Macedonia i gymeryd y gadlywyddiaeth. Nid oos neb ar y ddaear yn gwybod pa beth a ddygwydd y dyddiau nesaf. Y mae arwyddion rhwyg yn y cydgord, a phe rhwygai yn ddarnau byddai yn fendith. Melldith ydyw yn bresenol.

ARDAL GLANYMOR.

!LLYFR MORMON. --

ICLYWEDION O'R TUMBLE. i__

ETHOLIAD Y CYNGHOR TREFOL.