Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y LLYWODRAETH A'R WLAD.

[No title]

ARDAL GLANYMOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARDAL GLANYMOR. Cynaliwyd cyfarfod adloniadol nos Fawrth, Mawrth 23ain, yn Siloah, o dan nawdd y Temlwyr Da, trwy ymweliad Teml Ynysy- cwm (Ffwrnes) a Choron Glanymor, pryd y cafwyd arlwy o'r pethau goreu mewn adrodd, canu, ac anerchiadau. Yr oedd pawb ar eu goreu, ac ar eu huchelfanau, o'r bechgyn a'r merched ieuangaf hyd yr henaf. Llonwyd y dorf wrth wrando ar yr adroddiadau a'r tonau a genid mor hyfryd a swynol, o dan arweiniad medrus gwahanol frodyr. Hefyd, gwnaethpwyd yn anrhydeddus gan yr holl ddadganwyr a'r parti, yn nghyd a'r adrodd- wyr a'r anerchwyr, nes yr oedd yr holl dorf yn dywedyd, Melus, moes eto," a theimlwyd fod gwlith nefolaidd yn disgyn ar y cyfarfod. Cymerwyd y gadair gan y Prif Demlydd, Mr, Robert Jones, yr hwn a wnaeth sylwadau byr a phwrpasol. Awd drwy y rhaglen ganlynol:—Anthem, parti; unawd, Mr. Richard Jones; adroddiad, Mr Dd. Bonnell; unawd, Miss Jane Evans; adroddiad, Mr. Robert Saunders; unawd, Mr. John Phillips; deuawd, Mr. W. J. Evans a Miss Jane Evans; unawd, Mr. David Thomas unawd, Miss Gwladys Roberts adroddiad, Mr. Hugh Lewis; unawd, Miss Lizzie Jones adroddiad, Mr. R. Saunders dadl, Mr. R. Saunders a'i gyfeillion; anerchiad, Mr. Dd. Roberts; unawd, Mr. George Hughes adroddiad, Mr. Robert Saunders; anthem, parti unawd, Mr. William John Evans unawd, Mr. John Emanuel; anthem, parti Terfynwyd y cyfarfod, ar ol treulio noswaith ddymunol, gan Mr. David Roberts. Da genym hysbysu fod agwedd fywiog a llewyrchus ar y Goron, o dan ofal y Prif Demlydd, Mr. John Bowen. Dymunaf hysbysu y cynelir cyfarfod o'r nodwedd hwn eto yn fuan. TEMLWR DA.

!LLYFR MORMON. --

ICLYWEDION O'R TUMBLE. i__

ETHOLIAD Y CYNGHOR TREFOL.