Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y CYNGHORAU PLWYFOL AI! THREFOL.

CAPEL ANNIBYNOL LLOYD ! '-STREET,LLANELLI.…

TUMBLE. I

YR ETHOLIADAU LLEOL. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ETHOLIADAU LLEOL. i MK. Got,—Wythnos fywiog a pbwysig ydyw hon yn Llanelli, ac y mae gal wad am onestrwydd, pend&r- fynolrwydd, a doethineb o da y trethdalwyr a'r etholwyr. Mae yr hen apcliad ar led, lief" Erryn eich pleidlais a'ch cynorthwy arddydd yr etholiad,"ac,wrth gwrs, ceir yr "Amen" arferol, sef Os etholir ii, gwnaf fy ngoreu i wylio eich buddiantau, ac i gyflawni pob dyledswydd orphwysedig arnaf ar eich rhan ar y Cyngbor." Eithaf da mor bell, ond pa sawl gwaith y cafwyd yr apeliadau a'r addewidion hyn ? a pha sawl gwaith y mae yr addewidion wedi cael eu hanghofio ar ol dydd yr etholiad ? Gellir dweyd am lawer ymgeis- ydd fod ei addewidion wedi eu gwneuthur i'w tori. O'r hyn lleiaf, gwelwyd llawer addewid yn ddeilcbion ar faes anghofrwydd, mympwy. gwaseiddiwch, a diofalweh-" ofn dyn wedi dwyn magi." Felly, dylai yr etholwyr fod yn wyliadwrus yn awr parthed pwy a ddychwelir ganddynt i'r Cynghor, gan goflo ei bod yn- hawddach o lawer i gadw dynion anghymhwys, gwas- aidd, a diwerth allan o'r Cynghor na'l cael allan unwaith yr ant i fewn. Afraid dweyd fod llawer o bethau pwysig perthynol i bresenol a dyfodol ein tref yn hawlio gofal, doethineb, peitderfynolrwydd, a gouestrwydd er eu cario allan i fautais y dref a'i thrigolion, megys eangiad rheilffyrdd, gwrthglawdd er dvocelu buddiantau a meddianau cymydoeaethau y Forge, Pembrey Road, yr Hen Gastell, a'r Sandy, adgyweiriad a chyfodiad gwrthglawdd y Doc Newydd rhag cael ail ddiluw dinystriol ac ofaadwy tebyg i'r hwn gafwyd yn Hydref, 1896 (a'r hwa a ofnwyd oedd i gymeryd Ile dydd Gwener diweddaf), yn nghyd a llawer o bethau ereill na raid i ni eu henwi yn awr. Yn ngwyneb hyn, y gofyniad naturiol yw:—Pa bersoullu ydynt y rhai mwyaf tebygol i ofalu am y pethau hyn er mantais y dref ? Ai cyfreithwyr a swyddogion i stad yr hwn (yn ol a fynegwyd yn nghwrdd cyhoeddus y Doc Newydd nos Lun, yr 22ain cyfisol), sydd wedi penderfynu, doed a ddelo am iechyd, bywyd, a meddianau pobl y Doc, i beidio gwneudei ran i adgyweirio y gwrthglawdd ? Ai dynion dalant ymweliad yn awr ac eilwaith a'r Cynghor, gan wylio pa fodd y pleidleisia Mr. Hwn-a-Hwn, nea Mr. -and-So, cyn pleidleisio eu hunain, neu ddynion o fedr, annibyniaeth barn, a phenderfynolrwydd ? Dywedir fod aelodau wedi bod ac yn bod ar y Cynghor nad oes ganddynt syniad am bleidleisio ond trwy ddilyn rhyw bersonau arbenig. 0 !'r fath eiddilod gwasaidd, onide ? Gwyddom fod etholiad mawn tair rbanbarth o'r dref, sef Dosbeirth 1, 2, a 3. Dosbarth Rhif 1.—Ceir tri ymgeisydd, sef Meistri John Griffiths, Tom Hughes, U.H., a G. F. Blake, Diau y gwnaethai y tri aelodau rhagorol iawn. Mae y ddau blaenaf yn ben aelodau profedig, tra mae Mr. Blake yn adnabyddus fel dyn o fedr a galluoedd cryfion, ac yn aelod o'r Bwrdd Ysgol. Bydd yn rhedegfa galed yma, yn ot yr arwyddion presenol. Sicr yw y ceir dau i fewn, Gobeithiwn mai y goreuon fyddant, ac yn llaw y trethdalwyr mae penderfynu y mater. Hyderwn y gwaant fesur a phwyso yn gydwybodol. Desbarth 2.-Ceir tri ymgeisydd yma hefyd—dau o waed coch cyfan fel ymgeiswyr ar y maes, a'r llall yn adnabyddus fel cyfreithiwr da, dyn caredig. ysgrifenydd yr ynadon, cadeirydd Pwyllgor Meddianau y Cynghor, ac yn ot siarad y dref, yn gyfreithiwr lleol Syr Arthur Stepney. Ofnv/n, er cystal ydyw, y gwna rhai o'r pethau a nodwyd filwrio yn ei erbyn, o herwydd nid tebyg y gwna gwas weithredu yn groes i fwriad a pbenderfyniad y sawl sydd uwch nag ef, er fod hyn yn bosibl. Am y Meistriaid Arthur Edgar Davies a W. Knoyle, gellir;dweyd, er eu bod i raddau yn newydd, eu bod yn feddianol ar gymhwysderau i wneuthur aelodau rhagorol iawn. Mae Mr. Davies yn un o fasnachwyr a threthdalwyr trymaf y dref er ys deng mlynedd, ac y mae Mr. Knoyle yn ysgwyd teyrnwialen lied bwysig yn yr un cyfeiriad, a chredwn, pe dychwelid bwynt, y byddai yn gaffaeliad i'r Bwrdd a'r gymydogaeth. Dosbarth 3.-Ceir pedwar ymgeisydd yn y dosbarth hwn, sef Meistri Owen Charles, David Thomas (hen aelodau), Josiah Davies, a W. Coombs. Ymddengys mai dyma lie bydd yr ymgyrch galetaf, o herwydd amgylchiadau y gwrthglawdd chwilfriwedig, a'r dilaw y crybwyllwyd am dano, yn nghyd a'r cyfarfod cyhoeddus sydd newydd gael ei gynal yno. Rhaid dyogelu bywydau a meddianau y Doc Newydd, ac y mae y ddau hen aelod ffyddlon, a Meistri Davies a Coombs, wedi addaw gwneud y ewbl a'r a fedrant os dychwelir hwynt i gynorthwyo y Cynghor i orfodi Syr Arthur Stepney i wneud ei ran ddyledus, neu ei orfodi i daln ar ot i'r gwaith gael ei orphen gan y Cynghor. Credwn yr ymgeiswyr, a diamheuol genym y gwnaethai y pedwar yr hyn maent yn ei addaw pe caent eu dychwelyd, ond gan mai dan sydd i fod yn etholedig, gofaler am y goreuon. Mae newid doniau, achymysgu tipyn ar ddoniau, talentau, a phersonau yn fauteisiol lawer pryd. Bachgen go addawol yw y Josiah yna, er cystal yr hen foys sydd wedi bod wrthi am gryn amser. Gan hyderu y ceir dynion anghysylltiedig a lies uniaolion i fewn, er lies ac anrhydedd y dref, y gorphwysaf, Mr. Gol., HEN FORWR.

CROSSHANDS A'R CYLCHOEDD

CADWEN ODLEDIG -

.....j "FY NHADCU:"

♦ I ANERCHIADi

I CYFLWYNEDIG

Advertising