Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I PRYDAIN A'R IWERDDON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I PRYDAIN A'R IWERDDON. GORMESWR yw John Bull, ond ni fyn efe addef hyny. Y mae y gwledydd wedi ei adnabod-wedi colli eu hymddiried ynddo. Honir fod y deyrnas hon y deyrnas oraf o dan haul, one pa le y mae y profion o'r rhyddid a'r chwareu-teg 1 Dyledswydd Llywodraeth yw amddiffyn y deiliaid, ond nid felly y mae yn Mhrydain heddyw. Tra y dylai y deiliaid gael yr ystyriaeth flaenaf, nid ydynt yn cael ystyriaeth o gwbl, ond mor bell ag y mae hyny yn ateb y dyben o osod mwy o feichiau arnynt. Y mae Llywodraeth Prydain heddyw yn deddfu ar gyfer y dosbarthiadau, ac nid ar gyfer y miliynau. Y mae yr arglwyddi tirol a'r clerigwyr yn cael yn haelionus, ond y mae yr oil a gant yn dyfod o logellau y werin-yn cael ei dynu oddiyno o'u hanfodd, neu o'u hanwybod. Yr oedd yr hen feddygon yn ceisio gwella pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobloedd trwy ollwng eu gwaed—tori gv-ythien, a gadael i'r gwaed redeg hyd nes y byddai perygl i'w adael yn hwy. Yr oedd gollwng y gwaed yn gwneud y cleifion yn rhy wan i deimlo eu poenau, beth bynag. Y mae y meddygon gwleidyddol yn y deyrnas hon I wedi bod yn honi gwella y werin trwy ollwng eu gwaed. Onid dyna wnaed pan basiwyd Mesur Trethiad y Tiroedd? Onid yr un peth wnaethpwyd drachefn yn mhasiad y Mesur Addysg, neu, yn hytrach, y Mesur Gwrth-addysgol ? A dyna sydd wedi cael ei wneud trwy y canrifoedd. Y mae yn llawn bryd i'r meddygon gwleidyddol gael ar ddeall nad yw gollwng gwaed y werin i gael ei ganiatau yn hwy. Y mae yr Iwerddon, o bosibl, wedi goddef mwy nag unrhyw ran arall o'r deyrnas yn yr ystyr o'i gwanychu a'i llethu. Tua haner can mlynedd yn ol, yr oedd poblogaeth yr Iwerddon dros naw miliwn, tra nad yw y boblogaeth heddyw ond tua haner hyny. Rhwng 1841 a 1891, y mae y boblogaeth yn yr Iwerddon wedi lleihau tua 42 y cant, a'r boblogaeth weithfaol wedi lleihau 61 y cant. Dyma ganlyniadau yr ormes a'r trais y mae Prydain yn eu gosod ar y trigolion. Nid yw tywallt gwaed y werin yn foddion i'w gwella. Y mae Seneddwyr Toriaidd Prydain yn ym- wybodol mai angen yr Iwerddon yw Ymreolaeth, ond ni fyddai hyny yn cydfyned a'u buddiant hwy, fel dosbarth, ac am hyny y maent yn penderfynu lladd yr Home Rule trwy ddifa yr Home Rulers. Y mae cynydd mawr y boblogaeth yn Nghymru a Lloegr yn enfawr, a thrwy hyny y mae y beichiau yn dod yn ysgafnach; ond am yr Iwerddon, y mae baieh y trethoedd yn mwyhau fel ag y mae y boblogaeth yn lleihau. Nid oes dim yn fwy o waradwydd i'r deyrnas hon na'r ffaith mai y dosbarthiadau tylotaf sydd yn goifod cario y beichiau trymaf, ac y mae hyn yn cael ei brofi yn amlwg yn hanes yr Iwerddon. Rhwng 1851 a 1885, ychwanegwyd y swm o < £ 2;500,000 at drethoedd y wlad orthrymus hono, er fod y boblogaeth wedi lleihau yn aruthr. Er y flwyddvn 1850, y mae y trethoedd wedi lleihau yn Mhrydain tua thri swllt y pen, ond yn yr un cyfnod y mae wedi cynyddu lis. lie. y pen yn yr Iwerddon. Y mae y gwastraff sydd o gylch yr orsedd, a lluosogrwydd y segur-swyddwyr, yn sicr o fod yn foddion i agor llygaid y werin, a pha bryd bynag yr agorir eu llygaid, y maent yn sicr o osod pethau mewn gwell trefn. Y werin yw y gallu llywodraethol yn y deyrnas, ac ni ddaw pethau i'w lie, hyd nes y caiff pob cenedl lywodraethu ei hachos ei hun. Yr ydym yn foddion i'r Gwyddel gael Ymreol- aeth, ond y mae yn rhaid i'r Cymro ei gael hefyd. ♦ —————

[No title]

ALLTWEN.I

EINDYLEDI'RYSGOLSUL.I EIN…

iTEIMSAEAN.

I-LLYFR MORMON.