Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I PRYDAIN A'R IWERDDON.

[No title]

ALLTWEN.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ALLTWEN. Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn Ysgoldy Tanygraig, y lie uchod, dydd Sadwrn, Mawrth 2Tain, o dan nawdd canghen o Ysgol Sabbathol yr Alltwen. Llywyddwyd y cyfarfod yn ddeheuig gan Mr. William E. Morgan, Alltwen. Cafwyd cyfarfod lluosog, ac ni welwyd y fath ddystawrwydd mewn cyfarfod o'r fath yn y gorpbenol-lieddweh yn teyrnasu rh wng y naill gystadleuwr a'r llall. Gobeitliiaf fod hyn yn ddechreuad diwygiad yn y maes cystadleuol. Clorianwyd y cerddorion gan Mr. John Main waring, A.C., Ystalyfera, a'r amrywiaeth gan Mr. David Jenkins (Urbanus), Alltwen, a'r prize bags gan Mrs. M. Bale, Miss E. Nathaniel, a Miss L. Davies, Alltwen. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Miss Thomas, Dyffryn Road. Agorwyd y cyfarfod drwy ch wareu ar y crwth gan y beirniad, ac yna awd yn mlaen a rhaglen y cyfarfod. Ni wnaf ond enwi y cystadleuwyr buddugol :—Unawd alto, <c Yr Hogyn Drwg," goreu, Mr. Howell Lewis, Craig Llanguicke unawd soprano, Bwthyn yr Amddifad, rhanu rhwng Miss Mary Davies a Miss Mary Jones, Alltwen; unawd tenor, Bradwriaeth y Don," Mr. John C. Jones, Alltwen; unawd bass, Y Cymro Dewr," Mr. Jenkin Thomas, Alltwen; unawd ar y crwth, "Im Volkston," Mr. John Jones, Alltwen; triawd, Y Bugeiliaid Mwyn," Mr. David C. Jones a'i gyfeillion; y prize bag goreu, Mrs. Margaret Jones, Ynysymond; ail oreu, Miss Maggie Thomas, Dyffryn Road; adroddiad, "Y Bont ar Dan," rhanu rhwng Mr. Einon Bowen, Rhos, a Mr. Tom Davies, Ty Llwyd, Neath Abbey; llythyr caru, wyth yn cynyg, Mr. Thomas Rees, Ystalyfera; y pedwar penill goreu ar "Dal dy dafod," naw yn cynyg, Mr. John Walters, Pontardawe; am y dadansoddiad goreu o englyn, Yr lawn," un anturiodd i'r maes, Mr. David J. Lewis, Rhos, a dyfarnwyd ef yn deilwng o'r wobr; cystadleuaeth i barti.o fechgyn, Awn i ben y Wyddfa fawr," gwobr, 20s., dau barti yn cynyg, un o'r Allt, a'r llall o Lwyn y Bedw, yr olaf yn fuddugol, o dan arweiniad Mr. David Owen, Birchgrove; cystadleuaeth i barti o leisiau cymysg, Ffo rhag y cwpan, gwobr, 25s., a 5s. i arweinydd y cor buddugol, un yn dod i'r maes, parti o'r Allt, o dan arweiniad Mr. David C. Jones, a dyfarnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. Yna ymadawodd pawb am eu cartrefi, wedi mwyahau y prydnawn yn fawr. "Meltis, moes eto, ar raddfa eangach," yw llais y bobl. Gobeithiaf y eymer dynion blaenllaw yr ardal hyn i ystyriaeth. UN OEDD YNO.

EINDYLEDI'RYSGOLSUL.I EIN…

iTEIMSAEAN.

I-LLYFR MORMON.