Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I PRYDAIN A'R IWERDDON.

[No title]

ALLTWEN.I

EINDYLEDI'RYSGOLSUL.I EIN…

iTEIMSAEAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TEIMSAEAN. SY.R,-Caniatewch i mi ofod fechan o'ch newyddiadur clodwiw i gofnodi y gorchwyl pradd am farwolaeth Mrs. Eleanor Eynon, priod anwyl Mr. Arthur Eynon, Waunhir, yr hon a hunodd yn yr angau dydd Iau, Mawrth lleg, yn 52 mlwydd oed. Yr oedd i'w gweled yn gwanychu er's misoedd, ond ni chyfyngwyd hi i'w gwely hyd at ychydig ddiwrnodau cyn ei marwolaeth, pryd y dyoddef- :1 "t 1 0(1(1 ooenau c-alect yn dawel ac amyneddgar. Ganwyd iddi ddeuddeg o blant, pa rai sydd oil yn fyw. Nid yn ami y gwelir teulu mor Iluosog wedi en magu i fyny nad yw angeu wedi bod a'i saeth farwol yn eu mysg, ond dyma y tro cyntaf iddo ddod i'r teulu hwn gan gymeryd y fam dyner i ffwrdd. Dymunodd lawer am gael maarw o flaen neb o'r teulu, a chafodd ei dymun- rad. Ei hoff lyfr oedd y Beibl. Darllenailawer- arno, a phan y byddai yr hen babell o glai yn cael ei lethu gan wendid, ac yn ei hatal i fyn'd i foddion gras, cymerai yr hen Gyfrol Sauctaidd i'w ddarllen am oriau lawer. Yr oedd yn flin ganddi, bob amser. nad allasai fod yn fwy mynyoh yn y cyfarfodydd, a llawer nos Sad- wrn y dywedodd, Yr wyf yn myn'd i'r cwrdd yfory os byw fyddaf," ond erbyn y boreu, y eyfansoddiad yn rhy wan i deithio'r ffordd. Ymdrechai bob amser i osod ei serch ar y pethau sydd uchod. Iesu, y pur a'r santaidd, oedd prif nodwedd ei bywyd. Bydd ei lie yn wag yn y teulu i'w weled a'i deimlo yn fawr iawn, yn enwedig gan y rhai ieoengaf. Myuych y galwai y plant o'i hamgylch wrth y tan yn y nos, ac yn y fan hyny y ceisiai eu dysgu a'u hyfforddi, gan ddymuno am iddynt dyfu i fyny yn blant ufudd, sobr, a dnwiol. Yr oedd wedi bod yn arddel orefydd Mab Duw am yn agos i bum mlynedd ar hugain, ac yr oedd yn y dydd- iau olaf y bu ar y ddaear fel pe buasai wedi addfedu am y byd tragwyddol. Yr oedd yn teimlo fel Paul, Chwant ymddatod a bod gyda. h.• 1. n j 1 'JUU. Mmiya xiawoL lnwii gweii yw, ac arciayua Mawrth cyn ei marwolaeth, dywedodd nad oedd am wella, ond am i'r Arglwydd wneud fel y byddai dda yn ei olwg. Yr oedd yn teimlo ei bod wedi cael digon o fyw yn yr anialwch, ac yn teimlo rhyw hiraeth am feddianu'r Ganaan nefol yr ochr draw, a'i llygaid megys yn gweled yr hyfryd iachawdwriaeth, ac a hwyliodd, ni a. hyderwn, i mewn i'r porthladd dymunol Dydd Linn canlynol, ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd i dalu iddi y gymwynas olaf, trwy heb- rwng ei gweddillionmarwol i fynwent Rheoboth, lie yr oedd yn aelod. Yr oedd wedi dewis testyn i bregethu yn ei hangladd, ac emyn i ganu cyn cychvvyn oddiwrth y ty. Gwasanaeth- wyd yu y ty ac yn y capel gan y Parch. J. Ll. Hughes, ei gweinidog. Cysured yr Arglwydd ei phriod sydd ar ol, a'r plant, a'r perthynasau i gyd yn eu hiraeth trwm, a dyged hwy oil i ddilyn esiampl yr hon a gymerwyd oddiw-rthynt. l CYFAILL.

I-LLYFR MORMON.