Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y GALLUOEDD YN DYFOD I'W SYNWYRAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GALLUOEDD YN DYFOD I'W SYNWYRAU. Y MAE y Galluoedd wedi bod yn gofyn yr hyn oedd yn annheg ac yn afresymol pan y ceisient ac yr hawlient i'r catrodau Groegaidd ymadael a Crete, a gadael y Cretiaid at drugaredd y Tyrciaid. Y mae yn ymddangos nad oedd y Galluoedd, ar y cyntaf, ac yn y cynygion cyntaf a osodasant, yn ddim amgen na phawen cath i dynu y cnau o'r tan i fwnciod ymerodrol Rwsia a Germani. Ond erbyn heddyw, y maent yn dechreu dod i'w, hiawn bwyll, ac yn dechreu meddwl drostynt j eu hunain, er nad ydym yn diolch iddynt am hyny, am mai eu gorfodi gawsant gan leisiau gwerin y gwahanol wledydd. Y mae lleisiau y Rhyddfrydwyr, yn y Senedd ac allan, lleisiau y werin yn y cyfarfodydd, lleisiau yr eglwysi Anghydffurfiol, a'r wasg,wedi llwyddo i gael y Seneddwyr, y gwledydd, a chyn- rychiolwyr y Galluoedd i ystyried yr hyn y maent yn ei wneud. Y mae y llyngeswyr wedi gweled mai ofer yw ceisio gwasgu ar y Cretiaid eu cynllun yn mhellach, am eu bod wedi cael ar ddeall na wna dim eu boddloni heblaw Ymreolaeth, neu gael eu huno a ■ Groeg. Y mae y llyngeswyr wedi dod i'r penderfyniad mai ofer fydd pob ymgais hyd nes y gellir sicrhau i'r Cretiaid y bydd i'r catrodau Tyrcaidd gael eu galw o'r ynys. Y mae y cydgord wedi dod i deimlo mai yn ofer ac am ddim y maent yn treulio eu nerth hyd yma. Y mae cadw yr Ymerodraeth Dyrcaidd yn gyfan yn ffolineb yn yr argyfwng presenol. Y mae wedi cael ei chad w yn rhy hir, ac oni b'ai fod gallu oddiallan yn ei chadw felly, byddai yr ymerodraeth fudr, lygredig, wedi myned yn chwilfriw. Y mae yr Ymerodraeth Dyrcaidd wedi cael ei chadw gan gylchau o aur a roddwyd am dani gan Brydain Fawr, yn fwyaf neillduol, ac er mwyn y cylchau, yn benaf, os nad yn unig, y dadleuir ac yr ymdrechir ei chad w yn ei chyfander. Cyn y ceir trefn ar linellau teg— trefn a chyfiawnder a rhyddid, a dynoliaeth i gael ei pharchu-y mae yn rhaid i'r Cretiaid gael Ymreolaeth yn yr ystyr eangaf. Y mae y llyngeswyr yn edrych ar y cynyg a rodd- asant i'r Cretiaid fel un anobeithiol, ac y mae y Uys-genadon wedi dod i'r penderfyniad nad oes gobaith am heddwch yn Crete hyd nes y ceir sicrwydd ymarferol fod y Galluoedd yn amcanu at wella eu cyflwr a'u hamgylchiadau hwy, fel ynyswyr. Y mae llongau y Gallu- oedd wedi bod yn tan-belenu y Cretiaid, ond nid ydynt yn gwneud hyny a deiliaid y Sultan. Nid oes gan y Galluoedd ond un llwybr i gael trefn deilwng o'r enw yn Crete, a hwnw yw trwy alw ar y catrodau Tyrcaidd i ymadael aIr ynys, ac yna gofyn i'r catrodau Groegaidd ddilyn, ar yr amod y bydd i'r Cretiaid gael perffaitli ryddid i ddewis eu Llywodraethau eu hunain. Y wp.3 yn debygol iawn, yn bresenol, y bydd i'r Cretiaid gael yr hyn a geisiant, a phe deuai y Llywodr- aethau i ganiatau hyn yn fuan, byddent yn Ilwyddianus i gadw heddwch Ewrop, a byddai atal y rhyfel yn fendith annhraethol i Groeg yn ei hamgylchiadau presenol, ac yn sicr, y peth goreu i'r Ymerodraeth Dyrcaidd, yr hon sydd yn awr yn methu cwrdd a'i gofynion. Os parha yr heddweh am ychydig ddyddiau, yr ydym o'r farn yr osgoir rhyfel, ac y bydd Crete yn Grete rydd, a Gro&g yn Roeg fuddugoliaethus, a chyfander yr Ymerodraeth Dyrcaidd wedi ei dori.

[No title]

TABERNACL, PENBRE. I

HYNODION 0 GWM LLETY-FEDACH.

,EIN DYLED I'R YSGOL SUL.…

CWMMAWR, CROSSHANDS. I .,…

! PEDAIR HEOL.

LLYFR MORMON.

ICROSSHANDS.