Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y GALLUOEDD YN DYFOD I'W SYNWYRAU.

[No title]

TABERNACL, PENBRE. I

HYNODION 0 GWM LLETY-FEDACH.

,EIN DYLED I'R YSGOL SUL.…

CWMMAWR, CROSSHANDS. I .,…

! PEDAIR HEOL.

LLYFR MORMON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFR MORMON. [PAR. HAD.] Ac felly y mae y ddau lyfr. y nail! fel y Hall, yn tystiolaethu y naill am y llall, fel y cawn weled oddiwrth yr Ysgrythyrau a ganlyn:— Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddi! Ychwanegwch flwyddyn at fiwyddyn; lladdant ebyrth. Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan: a hi a fydd i mi fel Ariel (Esaiahxxix. 1,2.) Mae yfrawddeg, ''Ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth," yn arwyddocau y caniateid iddynt fyned rhag eu blaen am lawer o flwyddi i offrymu eu haberthau, megys ag y gwnaent y pryd hwnw, cyn y buasai y broffwyd- oliaeth hon yn cael ei chyflawni. Er hyny, y mae yn cael ei sicrhau iddynt y bydd iddi gael ei chyflawni yn yr amser gosodedig; am hyny, efe a ddywedodd, Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan." Cafodd y geiriau hyn etf cyflawni i'r llythyren pan amgylchynwyd y ddinas gan y fyddin Rufeinig, ac y rhigolwyd yn ei herbyn nes iddi o'r diwedd gael ei llwyr lorio, ac y lladd- wyd ei phrif ddynion, tra y gwasgarwyd y gweddil o honynt yn mhlith y cenedloedd, lie y maent wedi bod yn crwydro mewn tywyllwch hyd y dydd hwn. Y mae y rhan olaf o'r ail adnod yn llefaru am ddygwyddiad arall, yn hwn fyddai yn gyffelyb i'r un a ddelai ar Ariel, neu Jerusalem. Y mae rhediad y geiriau fel hyn "A ki a fydd i mi fel Ariel." Nid yw hon yn cyfeirio at Ariel ei hun, ond at rywbeth a fyddai i'r Arglwydd fel Ariel." Ofer fyddai dywedyd, "Ariel a fydd i mi fel Ariel; am hyny, y mae y gair "hi" yn cyfeirio at ryw genedl arall, yr hon a dderbyniai gyffelyb farnedigaethau ag a ddygwyddasent i Jerusalem. Ac y mae yr Arglwydd yn rhoi desgrifiad mwy cyflawn o'r ail ddygwyddiad yn yr adnodau canlynol. Efe a ddywed A gwersyllaf yn grwn i'th erbyn, ac a warchaeaf i'th erbyn mewn gwarch- dwr, ac a gyfodaf wrthglawdd i'th erbyn. A thi a ostyngir; o'r ddaear y lleferi, ac o'r llwch y bydd isel dy leferydd dy lais fydd hefyd o'r ddaear fel llais swynwr, a'th ymadrodd a hustyng o'r llwch. A thyrfa dy ddyeithriaid fydd fel llwch man, a thyrfa y cedyrn fel peiswyn yn myned heibio ie, bydd yn ddisymwth ddiatreg. Oddiwrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir trwy daranau, a thrwy ddaear- gryn a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thymhestl, a, fflam dan ysol (3-6 o adnodau). Nid yw y proffwydoliaethau hyn o eiddo Esaiah yn cyfeirio at Ariel (Jerusalem) o gwbl, canys nid yw hi yn "llefaru o'r ddaear," nac ychwaith "o'r llwch yn isel ei lleferydd." Nid yw ei hymadrodd ya hustyng o'r llwch." Eithr cyfeirir yma at weddill llwyth Joseph, y rhai a ymadawsant a Jerusalem tua chan mlynedd cyn Crist tuag America, ac a gynyddasant nes dyfod yn genedl gref, ond a ddinystriwyd yno tua phedair canrif ar ddeg yn ol. Ac y mae Llyfr Mormon yn desgrifio eu cwymp, ac yn wir, yr oedd yn fawr ac yn ofnadwy iawn hefyd. Yn amser croeshoeliad Crist, bu i dyrfa y cedyrn fod fel peiswyn yn myned heibio," a hyny hefyd, fel y dywed Esaiah yn mhellach, yn ddisymwth ddiatreg." Gofwywyd hefyd trwy daranau, a, thrwy ddaeargryn a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thymhestl, a fflam dan ysol." Cyflawnwyd y geiriau hyn yn llythyrenol, fel y gwelir yn Llyfr Mormon, tud. 38G. Tua phedwar cant o flynyddau ar ol hyn, neu wedi dyfodiad Crist, syrthiodd y genedl drachefn i ddrygioni, a bu rhyfel mawr iawn. Miloedd lawer a syrthiasant trwy fin y cleddyf, a dyoddefasant fel y dywedwyd trwy Esaiah: Gwersyllaf yn grwn i'th erbyn," &c.; ac fel y daeth dinystr ar Ariel drwy ymosodiad byddin Rhufain ami, felly yn gywir y gwnaeth y genedl hon alanasdra o honi ei hun. Priodol iawn y gallai yr Arglwydd ddywedyd am dani, A hi a fydd i mi fel Ariel." A thi a ostyngir; o'r dclaear y lleferi, ac o'r llwch y bydd isel dy leferydd," &c. Nid Ilei na phedair gwaith y mae yr nn geiriau yn cael eu llefaru yn yr un adnod. Ni lefarwyd proffwyd- oliaeth fwy eglur erioed, ac ni chyflawnwyd proffwydoliaeth yn fwy llythyrenol. Cuddiwyd y coflyfr yn y ddaear gan un o'r profitwydi diweddaf a fu yn eu plitb, a chymerwyd ef oddiyno yn y flwyddyn 1827, yr hwn goflyfr yw Llyfr Mormon. Y mae geiriau y bobl hyn yn llefaru o'r ddaer y maent "yn isel eu lleferydd o'r llwch," neu yn "hustyng o'r Ilweh," i'r genedlaeth hon. EZEOM. (I'w barhau).

ICROSSHANDS.