Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

YSGREPAN GWILYM AIORLAIS.),

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSGREPAN GWILYM AIORLAIS.), Nos Wener diweddaf cynaliodd Chamber of Commerce Llanelli gyfarfod neillduol er gwrandaw darlleniad papyr gan Mr. Sidney Jones, M.A., B.Sc., Llundain, ar Addysg Fasnachol." Yr oedd y papyr yn wir alluog, ac yn deilwng o'n cyd-drefwr ieuanc, Mr. Jones. Llanwodd Mr. Dan Williams, Box, y gadair. Yr wvf yn metliu deall pa beth sydd yn cynyrchu y fath atgasrwydd yn mynwes Mr. Dan Williams, Box, tuag at yr iaith Gym- raeg, gan ei fod nos Wener diweddaf wedi dweyd y carai yn fawr pe bai wedi marw. Y mae Mr. Williams yn boffiawn o'r Ffrainc- aeg a Germanaeg, a dywedai y carai weled ein plant yn cael eu gorfodi i'w dysgu. Efallai fod y French a'r German wedi bod yn fwy defnyddiol i Mr. Williams fel gor- uchwyiiwr gweithiau glo Llanelli a'r cylch. Y mae Mr. Jones, H.M.I., wedi gwneud ei oreu i gael gan Ysgolion Byrddol Llan- elli i gymeryd i fyny y Gymraeg fel pwnc efrydiaeth yn yr ysgolion; ond hyd yn hyn nid oes dim wedi cael ei wneutbur gan y Bwrdd Ysgol i'r cyfeiriad hwn. Credaf nad oes hawl gan hyd y nod y Bwrdd Ysgol i edrycli yn mlaen yn dawel gan ganiatau i'r trethdalwyr i golli canoedd o bunau yn y flwyddyn o herwydd anallu a diofalwch yr athrawon. Mae etholiadau y Cynghor Trefol wedi i myned heibio, yr ymgeiswyr wedi cyflwyno eu diolchgarwch i'r trethdalwyr; y mwyafrif, am eu bod wedi cael eu dychwelyd fel aelod- au, a'r lleiafrif, am eu bod wedi cael eu gwrthod. Y rhai dderbyniant y budd mwyaf yw y rbai gwrthodedig, o herwydd costia lafur a lludded i'r rhai sydd wedi eu dych- welyd am y dair flynedd nesaf. Hyderaf, er hyny, y bydd iddynt brofi eu hunain yn deilvvng o'r ymddiriedaeth a osod wyd yn- ddynt, fel y medrwn ddweyd wrth bob un o I honynt ar ben eu tymor, Da, was, da a ffyddlawn." Rhyfeddais yn fawr fod Mr. Bradley, un o is-feistriaid yr Ysgol Ganolraddol, yn cael yr eofndra i ddweyd yn gyhoeddus yn yr Athenaeum nos Wener diweddaf fod yn 11awn bryd i Gymru ddysgu rhyw iaith llai bar- baraidd na Chymraeg rhyfeddais yn fwy fod Mr. John Ho wells, meistr Ysgol y Doc Newydd, yn gwaeddi, Hear, hear," at y I dywediad haerllug hwn; ond y rhyfeddod mwyaf oedd fod y ddau yn ddigon presaidd i ddweyd hyny yn ngwydd Mr. J. A. Williams, yr hwn sydd yn aelod o'r Bwrdd Ysgol. Credaf ei fod yn 11awn bryd i ni fel Cymry i edrych allan, neu ni feiddiwn cyn pen nemawr o amser gyfaddef ein bod yn deall Cymraeg yn ngwydd dynion galluog fel Mri. Bradley a Howell. Mae ochain mawr a gwaeddi yn ngwersyll Annibynia y dyddiau hyn, a barnu oddiwrth lythyr cwynfanus y Parch. T. Johns, Capel Als. Dylasai Mr. Johns fod wedi taro y nodau hyn flynyddau yn ol pan ymddangos- odd y llythyr hwnw yn y Tyst a'r Dydd ac nid yn awr. Nid yw ei lythyr diweddaf yn tueddu at gyfanu y rhwyg a wnaed,os nid ganddo ef ei hunan, gan rywun sydd yn agos iawn at ei benelin, Nid wyf yn credu mewn rhedeg yr etholiadau hyn ar dir enwadol; ond nid wyf yn credu 'chwaeth mai bod yn Annibynwryw prif gymwysder dyn i swydd gyhodddus, fel y mae wedi bod yn Llanelli a Sir Gaerfyrddin, o ran hyny, yn ystod y blynyddau diweddaf. Dylasem gael maes agored, a gosod y dynion cymwysaf i lenwi swyddi, pa beth bynag fydd eu golygiadau crefyddol. Achwynai Mr. Johns fod gan y Bedydd- wyr mwy o aelodau ar y Bwrdd Ysgol nag y maent yn haeddu, a'u bod hwy fel Annibyn- wyr wedi cadw at eu rhif. Gadewch i iii- weled pa mor bell y dal hyn ei dir. Yn yr etholiad diweddaf yr oedd y Bedyddwyr wedi penderfynu enwi dau ymgeisydd pan y caw- sant ar ddeall fod yr Annibynwyr yn golygu rhedeg tri, sef Mri. John H. Howells, John Hopkins, a Robert Stuart. Felly darfu i'r Bedyddwyr benderfynu rhedeg tri ymgeisydd yn erbyn tri ymgeisydd yr Annibynwyr, set Mri. Henry Wilkins, William David, a David: Harry. Yr unig wahaniaeth rhwng yr An- nibynwyr a'r Bedyddwyr yw fod y Bedydd- wyr wedi cario eu tri i fewn, tra y darfu i'r Annibynwyr golli un o'u hymgeiswyr hwy. Mae'n wir fod Bedyddiwr arall ar y Bwrdd yn mherson Mr. John Thomas, Berwick, ond cofler mai nid o dan nawdd y Bedydd- wyr y rhedodd Mr. Thomas, ond fel Inde- pendent Candidate, felly nid yw yr enwad yn gyfrifol ond am un peth, sef ei fod wedi dilyn yr esiampl a osodwyd i lawr iddynt gan yr Amribyn vvyr. Dywed Mr. Johns fod y Bedyddwyr yn cymeryd mantais o'u nifer ar y Bwrdd i osod Bedyddwyr yn brif athrawon yn holl Ysgol- ion v Bwrdd. Un peth yw wneuthur haer- iad, peth arall hollol yw v profi hyny, a char- wn yn fawr pe bai Mr. Johns yn cymeryd at y gorchwyl tra dyddorol, gan roddi manylion o'r holl etholiadau sydd wedi eymeryd He oddiar y mae'r Bwrdd hwn mewn awdurdod, a cnredaf na fydd, ar ol cwblhau y gwaith hwn, wedi cyflawni rhyw orcuwyl caled iawn. Ond drwy ei fod wedi gwneuthur yr haeriad. teg fydd iddo brofi y cyfryw hefyd. Yn y rhifyn nesaf bydd genyf air i ddweyd ar yr etholiadan lleol, a hefyd ar gysylltiad union- gyrchol Mr. Johns a'r cyfryw, yr hyn a ddengys yn dra eglur pa le mae'r esgid yn gwasgu mewn gwirionedd. O'r boll dref sy'n yinveisio am yr anrhyd- edd o ddarparu cartref i Swyddfeydd Prif- ysgol Cymru, Caerdydd yw'r unig un sydd wedi bod yn ddigon ieithgarol i wneud y cais yn Gymraeg. Mae y rhesymau o blaid y dref hono wedi cael eu cyhoeddi yn llyfryn hardd a thestlus,yn cynwys toraeth o wybod- aeth fo.ddiol a dyddorol am boblogaeth, iaith, addysg, a masnach siroedd a phrif drefi Cymru. Yr hyn a'n tery a syndod wrth ddar- llen hwn yw gweled y rhan bwysig a chwar- eua Caerdydd yn mywyd cenedlaethol y Dy- -Nvysogaeth ac nis gellir llai na sylweddoli mai mantais annhraethol i genedlaetholdeb Cymru fydd enill o'i phlaid ddylanwad, a chyfoeth, ac ysbryd anturiaethus y dref fawr hono. Er mai i aelodau Llys y Brifysgol y bwriadwyd y llyfr gwerthfawr hwn, mae awdllrdodau Caerdydd yn ddoeth wedi trefnu i ddanfon copi yn rhad i'r neb a ddymuna ei gael. Danfonir cais am dano at Mr. J. L. Wheat.ley, Ysgrifenydd y Dref, Caerdydd, a cheir ef gyda'r troad ac amheuwn yn fawr os na fydd y sawl a'i darlleno yn teimlo ei fod wedi cael goleu newydd a gobeithiol ar ddy-j lbdol Cymru, Cymro, a Chymraeg.

PENBEE. I

Y DWYLAW CROESION. I

-PONTYENTS. -1

I-PUMP -HEOL. !

ILLITH Y LODGER.

PONTYBEREM. I

ARADR -HYNOD.-I

♦————— ODLAU SERCH.I

I-BLODEUYNI

Advertising