Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
YSGREPAN GWILYM MOBLAIS. j
YSGREPAN GWILYM MOBLAIS. j Yr wyf yn cael ar ddeall fod Mr. William Lewis, gynt o Felinfoel, wedi cael galwad un- frydol i Ffynonhenry. Bu y Parch. T. Idwal Jones, Bethel, yn ughyd a'r Parch. \Y. A. Jones, Sion, Merth- yr, yn sefydlu achos newydd i'r Bedyddwyr yn Llanbedr dydd Mawrth diweddaf. Nid peth bychan yw anturio fel hyn i dir cysegr- edig Eglwys Loegr yn Nghymru. Yr oedd y Parch. B. Humphreys, Felin- foel, yn pregethu yn Lerpwl dydd Gwener a'r Sul diweddaf, yn Nghymanfa Flynyddol Bedyddwyr y ddinas. Cymerwyd ei le yn Adulam gan Mr. B. Elliott, Gorseinon. Y raie'n dda genyf gael ar ddeall fod y nodiadau a wnaethpwyd yn y golofn hon yr wythnos ddiweddaf o berthynas i'r Gymraeg wedi peri cyffro nid bychan yn mhlith aelod- au Cymdeithas y Cymmrodorion. A fydd iddo ddiweddu mewn mwg, tybed, neu a oes digon o wroldeb yn aelodau y Bwrdd Ysgcl yn gwneuthuv eu dyledswyddau yn y cyfeiriad hwn, ac yn roddi ei safle briodol i'r Gymraeg yn ein hysgolion dyddiol. Cawn welpd. Nid wyf yn gwybod a yw y Parch. T. Johns yn golygu derbyn y gwahoddiad a roddais iddo yr wythnos ddiweddaf i brofi fod Bwrdd Ysgol Llanelli yn rhoddi pob apwyntiad sydd ganddynt i'r athrawon sydd yn Fedyddwyr, am fod pedwar Bedyddiwr yn aelodau or Bwrdd. Hyderaf y gwna hyny. Y mae o dan Fwrdd Ysgol Llanelli tua 36 obrif athrawon, ac o ran golygiadau crefydd- Dl safant fel ycanlyn:—Eglwyswyr, 13; Bedyddwyr, 13; Annibynwyr, 8; Method- istiaid, 2. Eto i gyd, yn iigwyneb y ffeithiau anwadadwy hyn, teera Mr. Johns fod y Bed- yddwyr yn cymeryd mantais ar eu nifer ar y Bwrdd i osod Bedyddwyr yn brif athrawon yn yr holl ysgolion. Nid yw, oddiwrth yr uchod, yn ymddangos felly. Heblaw hyn, y mae dau o'r tri attendance officers yn Anni. bynwyr, a'r llall yn Eglwyswr, a'r clerk yn Fedyddiwr. Yn mhrif ysgolion y Bwrdd, sef yr Higher Grade a'r Pupil Teachers' i Central Classes, y mae tri o'r prif athrawon yn Eglwyswyr; a'r Hall yn Annibynwr. Rhaid yw na roddodd Mr. Johns fawr o ystyriaeth i'r ffeithiau hyn cyn ysgrifenu ei lith parthed yr etholiadau. Dylasai dyn cvf- rifol fel Mr. Johns fod yn dra gofalus pa beth a ysgrifena, Yn awr, y cwestiwn yw, A yw yr Annibyn- wyr wedi bod mor ddiduedd yn y materion hyn pan y maent yn y mwyafnf ar unrhyw Fwrdd ? Cymerwn y Cynghor Trefol er enghraifft. Yn yr etholiad dd wy flynedcl yn ol yr oedd ar y Cynghor Trefol dau Fed- yddiwr a dau Annibynwr. Y swyddog cyntaf gawsant ethol oedd caretaker i'r neuadd dref- 01 newydd. Pwy gafodd yr apwyntiad Wm. Jenkins, aelod o Gapel Als. Yr apwyntiad nesaf oedd clerk, a phwy etholwyd ond Mr. Spowart, yr hwn sydd wrandawr os nid aelod o Eglwys y Park-. Dau Annibynwr. Heblaw hyn, a fedr Mr. Johns wadu nad oedd ganddo fys uniongyrchcl yn y ddau ap- wyntiad ] A fedr efe wadu na fu efe ei hun yn canvassio dros y ddau am yr unig reswm eu bod yn Annibvnwyr. Os gwna bydd yn bleser genyf roddi chapter and verse am y gosodiad hwn. Mwy na hyny, gallaf brofi fod yr Annibynwyr ar y Cynghor wedi rhed- eg Mr. Peregrine Thomas am ei fod yn Anni- bynwr, ond eu bod wedi ei roddi i fyny yn flafr Mr. Spowart ar y fynyd olaf. Nid wyf am foment am ddweyd nad yw Mri. Spowart a Jenkins yn ddynion rhagorol, ac yn cyf- lawni eu gwaith i foddlonrwydd, ond fy am- can yw profi nad yw Mr. Johns mor anen- wado! ag y carai efe i ni gredu ei fod. Gweithio dros AnniLynia o dan gochl y mae Mr. Johns wedi gwneuthur ar hyd y blyn- yddau. Bu Mr. Johns yn gryf dros Mr. David i gael ei ethol am ei fod yn ddirwest- wr selog, ond pan ddeallodd fod Mr. Pere- grine Thomas ar y maes ymgollodd ei ddir- westiaeth yn llwyr yn ei enwadaeth, a meth- odd a gweled drwy y spectol enwadol na daioni na chymhwysder yn neb ond Annibyn- wyr.
. TABERNACL, LLWYNHENDY.
TABERNACL, LLWYNHENDY. Llanwyd pulpud y capel uchod dydd: SuI diweddaf gan y Parch. B. Evans (Telynfab), Gadiys, Aberdar. Prydnawn dydd Sul aeth drwy y gorchwyl o ordeinio saith o frodyr i'r swydd diaconaidd. Nos Fawrth bu y Parch. D. C. Jones, Cwmparc, yn anrhegu yr eglwys a phregeth, o herwydd ei analll1 i ddyfod i roddi Sul iddynt. Cawsom wledd.
CLYWEDION O'R TUMBLE. 1
CLYWEDION O'R TUMBLE. 1 Clywed fod seindorf bres y lie yu dyfod yn mlaen yi, gamplis, Clywed fod rbyw derfysg yn y lofa yr wythnos ddi- weddaf o herwyd fod rbywun wedi cael lamp fach. Clywed fori y lie hwn yn cynyddu mewn dirwestwyr. Clywed fod rhai dynion cloi yn y He hwn. Clywed fod mwy o lo yn dyfod i lan o'r gwaith hwc yn bresenol nag erioed o'r blaen, Clywed foil Uawer o ferched glan yn y lie hwn, Clywed fod y Tumble Row bron yn llawn. Clywed foJ mwy nag un leader gan y seindorf bres tzycid yu y htvii. Fox. i
Y DWYLAW CROESION.
Y DWYLAW CROESION. Y mae yn dda genyf glywed fod eich newyddiadur clodvviw wedi gwneud llawer o ddaioni i'r lie uchod, ac, yu wir, y mae ytaa ddigon o lei wella eto. Y mae y Lodger yn parhau o hyd i roddi ychydig o hanes y lie yma, ac yr wyf yn gobsithio y bydd iddo ddal yn mlaen am hir amser eto, oblegyd y mae eisoes wedi dysgu gostyngeiddrwydd i'r lie. Pan y byddaf yn cyfarfod a rfcywuu ar yr heol yn awr, bydd yn sicr o dynu ei het i lawr yn lie ysgwyd ei ben. Yr oedd yn flin genyf glywed fod un sydd yu pro- ffesu bod yn aelod o'r gymdeithas ddirwestol sydd wedi ei sefydlu yn yr ardal hou, wedi cvflawni gorchwyl nad oedd yn weddus iddo yn ddiweddar, sef rhanu'r ddiod feddwol i'r arad wyr ya yr ymdrechfa aredig ddiweddaf, ger y Tumble. Carwn yn fawrjpe byddai yr ymdrechfeydd aredig yma wedi cael eu symud o'r wlad, o herwydd nid ydynt o un lleshad. Y maent yu cynyrchu mwy o anfoesol- deb a meddwdod yn mhlith yr amaethwyr nag ar un adeg arall. Trueni na buasai gan rywun waith 'r ddau berson hyny, yn lie eu bod yn ymrolio ar y cae o dan ddylanwad Syr John. Gallasem feddwl, hefyd, eu bod bron newynu wrth eu gwel'd yn ym- drechu bwyta naill y llall fel cathod Kilkenny. Cofiwch y gorchymyu, fechgyn, 16 Cerweh eich gilydd." Ymddangosodd un person ar dudalenau y MERCUET ychydig amser yn ol, yr hwn a gyfenwa ei hun yn Shoni Chwareuteg. Yr oedd yn ceisia egluro pabam y dywedodd y cyfrwys hwnw fod y merched yn myn'd i cbwilio am eu cariadon. Ni chefais fawr o eglurhad ar y mater o gwbl ganddo. Yr oeddwn mor dywyll wedi darllen ei lythyr ag oeddwn cyn hyny. Ni ddywedodi fawr paham yr oedd y Llwynog yn dweyd hyn, ond aeth i adrodd hanes y dyn a'r ysgyf- arnog, a chredaf, Mr. Gol., iddo dynu darlun cywir o'i huuan cyn y diwedd. Yaol ei farn ef, yr oedd y Llwynog yn siarad am y merched bron mewn gwaradwydd, tra yr oedd ef ei hun yn ei lythyr di- weddaf yn gwaradwyddo y rhyw fenywaidd. Nis gwn pwy yw'r Llwynog, ac nid wyf chwaith am gymdeith- asu a'r fath daclau cyfrwys. Yr oedd Shon yn teimlo ei bod yn ddyledswydd arno i fyn'd i geisio amddiffyn y merched. gan ei fod wedi cyfenwi ei hun yn Shon Chareu-teg, onide buasai y wlad yn edrych arnynt yn y modd y gosododd y Llwynog hwynt allan yn y MERCURY. Cynghoraf Shon i adael rhwng y merched a'r Llwynog, rhag ofn iddo ef gael y gwaethaf yn y iliwedd. == ERYB. I
HERMON, PENBRE. 'I
HERMON, PENBRE. I Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol,dan nawdd yr eglwys uchod, nos Sadwrr., Ebrill 17eg, yn Ysgoldy'r Bwrdd. Cymerwyd y gadair gau y Parch. Thomas Jones, ein gweinidog parchus, a'r cyuulliad yn rhagorol, er ger- windeb yr hin. Beirniadwyd y canu gan Mr. Joseph Jenkins, A.C., Burry Port; air adroddiadau a'r Ilythyr caru gan y Parch. Thomas Jones, Llanelli. Yr oedd rhestr y buddugwyr fel y canlyn :-Solo alto i feibion, Nefol Wlad," Mr. J. Hill; solo i ferched dan 15 oed, Wyres fach Ned Puw," Miss E. A. Hughes solo tenor, Gwroniaid gwlad y gan," Mt. Thomas Thomas; Llythyr Caru, Morgan Bevan solo bass, "Merch y cadben," Mr. Rd. Arnold; adrodd Salm xi., a rhanwyd y wobr rhwng pedair can y don Hos- annah i rai dros 40 oed, Mr. Wm. Jones, Penbre parti ddim dan 8 na thros 12 meffn iiifer, Ai difater genyt ein colli ?" gwobr 10s., Parti Carmel; adrodd darn o Bryddest Goffadwriaetilol Cynfaen, gwobr 5s., rhanu rhwng Mr. John Wilkins a Miss Mary Hall, Penbre; i'r cor a gano yn oreu, Briallen gyntaf y Gwanwyn, gwobr 3Cs. cor Capel Hermon. Cafwyd cyfarfod adderchog o'r dechreu i'r diwedd. a mwyn- haodd pawb eu hfenain yn ardderchog. Drwg genyf trwy amryfusedd adael enw Miss E.A. Hughes allan yn adroddiad cyfarfod Ysgol y Ile hwn yn eich newydd- iadur clodwiw yr wythuos ddiweddaf. Darfu iddi ganu yn swynol, ac yn ddeniadol dros ben, a chafwyd ad- roddiadau arddcrchog ganddi- GOHEBYDD.
TUMBLE. j - i
TUMBLE. SYR.—Gobeithio y maddeuweh i mi y tro hwn am na fuaswn yn anfon ychydig o banes y lie i chwi yr wyth- nos ddiweddaf, a'r rheswm am hyny oedd i mi gael y llythyr canlynol oddiwrth fy meiuwen Ffos-y- Clawdd, R.S.O., Ebrill lOfed, 1891. I Shoni Tanwr,- Hyti sydd i hysbysu na, fydd derbyuiad i chwi genyf fi, os na ddeuwch am dro i fy ngweled nos Sadwrn nesaf. -Yr eiddoch, Miss Hwut-ac-Yma." Fe welir oddi- wrth y llythyr uchod y rheswm na fuaswn wedi anfon llith ilch newyddiadur fel arfer, o herwydd ei bod yn dweyd y buasai yn fy ngwrthod os na ddeuwn i'w gweled nos Sadwrn. Penderfynais ar unwaith y buasai yn well i mi fyned i'w gweled, rhag ofn y buaswn yn cael fy ngadael yn hen lane. Fe gyrhaeddais Ffos-y- Clawdd erbyn 12 o'r gloch nos Sadwrn. Dyma ffasiwn o garu sydd yma gyda ni. Nid gwiw my-ied yno yn nghynt rhag ofn y buasai ei thad a'i mam yn fy ngwel- ed.Cefais dderbyniad cariadus gan Miss Hwnt-ac-Yma, ac nid teg hysbysu yr ymddyddan, rhag ofn iddi glyw. ed, canys y mae yma "glapcwn lawer. Y peth cyntaf a glywais wedi i mi ddychwelyd i'm lodgins oedd fod benywod y lie hwn wrth y drysau y dydd canlynol y daeth eich papyr allan, gan ddweyd fod Shoni Tanwr Tyllau wedi danto, ond camsynied y maent, a gwell iddynt fod ar eu gwyliadwriaeth. I SHONI TAKWR TYLLAU.
JAMES RYAN, MAESCANNER ROW,…
JAMES RYAN, MAESCANNER ROW, DAFEN. Bu farw James Ryan yn foreu iwan, iawn, Pan nad oedd efe y pryd hwnw ODd dechreu ymagor, a chyn y prydnawn Yn plygu ei ben bach i farw. Bu farw pan ydoedd mor debyg o fyw Ag uu o'i anwylaf gyfeillion Bu farw yn clawel ar fynwes ei Dduw, Cyu cwrdd a daearol drafferthion. Bu farw yn annysgwyliadwy i ni, Bu farw yn Gristion bach duwiol Ac iddo, ar fron y .Jeruslem fry, Troes marw yn elw tragwyddol. Am hyny, rhieni, na fyddwch yn drist, Yn ngwyneb ei symud mor sydyn Ond boed i chwi bwyso ar lawn Iesu Grist, Y graig lie y pwysodd eich plentyn. "LLEF UN YN LLEFAIN."
— ANERCHIAD BARDD
— ANERCHIAD BARDD Wrth gyflwyno anrheg fecban i'w hen gyfeilles a'i gyfaill, Miss E. M. E mns a Mr. D. Charles, Dafen, ar eu huuiad mewn glan briodas. Priodas dda i chwi eich dau Yn awr, o eigion caloa Eich bywyd fyddo'n deg fel Mai, Siriolai fis y meillion. Hir oes a gaffoch i'w mwynhau, A hono'n oes ddvmunol; Ac os yn dri yr a y ddau, Bydd hyny yu naturiol. Gwn mai pleserwaith gan y fam Fydd suo hwiangerddi Wrth siglo cryd ei bach dinam, Nes hudo'r pet i gysgu. Duwioldeb b'n addurno nen 'I Eich oes yn myd y pechod, A'r Hwn fu farw ar y pren F'o testyn eich myfyrdod. DafeD. B. D 1
I CWYD DY BEN.I
I CWYD DY BEN. I Wel, cwyd dy ben paid llwfrhau, Mae'r uef yn uwch na'r ddaear, Yr awr dywyilaf sy'n dyddhau, A'r nos dry'n oleu llachar Mae'r mynydd du yn swrth a serth, Yn auhawdd iawn ei ddriugo, Oud 'nol dy ddydd y bydd dy nerth, Yw'r gras mae'r nef yu addo. Ni raid i feibion dawn a moes, Mewu unrhyw oes i fethu, Wrth herio'r don, a cbario'r groes Mae'r dewr yu dringo i fyny Mae'r ffordd i'r bywyd fyny fry I ochel uffern isod, Mae'r tal yu werth dy ymdrech di, A'r cysur am y tiallod. Os daw amheuaeth megys cawr, A'i gleddyf i dy gablu, Gwna dithau ymvvroli 'nawr, Mae ffydd yu gwueud gwrhydri Nid oedd gan Dafydd ond ei ffon, A chareg yn ei gwdin, At ben Goiiath taflodd hon, A chwympai'r cawr yn rhondyn. Paid byth gofidio am a fu Neu'r llaetU ar 01 ei saruu, Ni ddaw y ddoe yn ol i ti, Feallai cei yfory Mae pob diwrnod ar ei daitb I'r byd yu dud o'r uewydd, Ymafael dithau yn dy waith, A clijfiif ddoe yu rkybudd. "Ni IWJtlda. and a gaLs" yu siwr, Medd hen ddiareb Uymru, Paid gorwedtl beuyndd dau y dwr, Neu'r diwedd fydd dy Joddi; Mae'r eweh yu aros ar y lan, 'Nawr dyro lam 1 naid iddo, Mae'r hafau draw i ti yu rhan, Oud dal dy gweh a'i rwyfo. A BIB. I
IY SEREN.I
I Y SEREN. I Mor brydferth ydwyt, seren dlos, Ar fyuwes las yr wybren, Yu ytnddisgleirlo yn y nos Gau danbaid oleu'r heulwen Sirioldeb ddawusia ar dy wedd, Mesvn nwyfiaut aniffygiol, Wyt er's cannfoedd ar dy sedd, Rhwng dyn a Duw'u wastadol. Os bychau wyt i'u golwg ni, Mae ynot for o fawredd, Fel llygad byw tanbeidiol fry, Abbyd o'th iewit yu gorwedd Nid yw gogouiaat perlau'r byd I gyd oud cysgod egwan, O'rmawr ogouiant sydd o hyd Yn aros yu dy huuan. Fe welir weithiau gwmwl du Yu cuddio gwedd dy wyueb, Er hyn, nid ydwyt llai dy fri, Na llai yu dy ddysgleirdeb; Gogoniant mawredd gallu'r lor, Sydd yn dy anfarwoli, A'i fawr doeChineb sydd yu foe Dihysbydd yn dy gylchu. 0 seren hardd, er bod yn fien,. Wyt mewn ieuangrwydd oesol, Yn ddigyfnewid yn dy weu, Ac yu dy wisg urddasol; Yn byw a bod wyt, hyd yn hyn, Yn nghanol y pellderoedd, Ar hvybr cysegredig gwyn, r Gweddia'r saint i'r nef oedd. Fe fnost ganwaith cyn yn awr, Yn destyn myfyrdodau, Ac ynot gael golygfa fawr, Ar lu o ryfeddodau Wrth ganfod dy ogoniant fry, A'th fawredd anfesurol, Pa beth yr Hwn a'th greodd di A'i fawredd yn anfeidroL O ddedwydd fraint, pe byddwu i Fel hyn yn nghanol drygfyd, Yn ymddisgleirio fel tydi Heb ddim o frychau bywyd Dyrchafu clod yr Hwn a'm gwnaetb. Trwy'm oes yn arbenigol, Yn ddigyfnewid yn y gwaith, 'Run fath a'r seren siriol. I Llwynhendy. YNYSOG.
I CAN HIRAETHLON i
I CAN HIRAETHLON i 1 David Davies (Dai'r Cantwr), pau yn garcharor yn Nghaerfyrddin am y terfysg yn amser Becc. I Cenir ar y don-' Roslin CastZe., I Drych i fyd wyf i fod, Collais glod all'swn gael, Tost yw'r nod, dyrnod wael I'w gafael ddaeth a mi. Yn fy ieuenctyd drygfyd ddaeth, Yn lie rhyddid, caethfyd maith, 'Chwanegwyd er fy ngofid, Alltud wyf ar ddechreu'm taith, Ca'm danfon o fy ngwlad, Ty fy nhad, er codiad tirion, I blith Y duoll gar, Dros y mor o'm goror gron O'r fath ddryghin i mi ddaeth, Alltud hir, gyr b,yii filti gaeth Dros ugain o flynyddoedd, Tost yw'r modd, cystudd maith. Cant ffarwel i fy ngwlad, Anwyl fad, fu wrth fy modd, Am les ges ar g'oedd Rhwng dy wych aberoedd di. 0 ffarwel i Walia gron, Ei dolydd gwys a'i llwyni lion. Heb bryder gwn mai Prydain Yw gardd y byd i gyd o'r bron. Hil Gomer, mwy ffarwel, I dir Babel fe'm danfonir; Dros heli mae fy nhaith Arw faith, Duw fo i mi yn fur. Ffarwel i rianod glan, Teca'u bryd a chroewa'u gran, Er penyd, mae poen auian, Dyrwyn mae Dewi i'r man. Plas Tre-gof angbof fydd, Cystudd prudd i Dafydd ddaeth, Calon lwys droir yn llaith, Wrth wel'd y fordaith bell. Plwyf Sant Atban, bras fan bro, A Phenybont-ar-Ogwr, Ffafr Duw fo i'ntyn do. Yn iach Forganwg wych, Swn dy gylch heuffych i'th deulu. Dy froydd a'th ddolydd glan, Hafal fan i Eden fu, Ffarwel Mynwy Ion ei swyn [gwyn 0 Droedrbiw'r Clawdd yn hawdd caf Tredegar a'i thngolion, Hylon fan bu imi'll lwytl. Dichon bydd rhai o'u bodd Yn gofyn pwy oedd y bardd ? Un a dardd o'm hanwyl dir, o wlad Forgan wiwlan daetb Yr impyn lion sy'n awr yn llaetb, Yng tigharehar sir Gaerfyrddin Cur < 'm cof 'rwy'n eithaf caeth. Llaiu;, rfan ydyw'r plwyf Lie tai ldodd nwyf fy nhyfiant dynol, Fe'm ganed yn Nhregof- » Ffwrdd y fio'f-ddo'i byth yu ol, Rho'f f'enw i chwi'll drue, David Davies hoenus yw, Dyinuil wil iIm hiliogaeth Hir oes faith uwch gwaith fy Nuw.
Advertising
1897. DIAMOND JUBILEE YEAR SHOW • AT London House, Llanelly. RANDELL & SONS Beg respectfully to announce their return from the London Markets with a well assorted Stock of FRENCH & ENGLISH NOVELTIES, FOR THE SPRING SEASON, INCLUDING Mantles, Jackets, Capes, Blouses, Skirts, Corsets, etc. W LADIES SHIRTS in Lawn, Fancy Cambric and Silk. French and English Millinery. FLOWERS, FEATHERS, ORNAMENTS, OSPREYS, JET SPRAYS, etc., etc. Ribbons for Millinery in all Newest Shades. SAILORS IN GREAT VARIETY. DRESS DEPARTMENT. All Wool Covert Cycling Cloths in Dark and Light Greys and Fawns. A Good Assortment of Fancy Black Materials, Plain and Figured Lustres, etc. Dressmaking & Millinery Departments UNDER THE MANAGEMENT OF THOROUGHLY EXPERIENCED HANDS. Show Thursday Next AND THROUGHOUT THE SEASON. THE FAVOUR OF AN EARLY VISIT IS SOLICITED. NOTE.—Throughout the year 1897 (Diamond Jubilee Year) we are determined to mark all Goods at such prices that must prove beneficial to all who purchase. COMPARE PRICES. ♦ RANDELL & SONS, London House, 1 & 3, Thomas Street, LLANELLY. NOTICE TO FARMERS & CATTLE FEEDERS. MAIZE At 8s. per sack of 240 lbs. W. KNOYLE, COWELL STREET. LATE STEPNEY STREET. MYNYDD MAWR COAL DEPOT. ANTHRACITE. LARGE (Big Vein) 128 6d per ton LARGE NUTS 13s 6d „ SECOND QUALITY NUTS 10s 6d „ HAULAGE EXTRA. Attention is requested to our ANTHRACITE NUTS, from Great Mountain Colliery, produced by the breakage of selected Large Coal by machinery- They are of uniform size, from two to three inches' and are screened perfectly free of dust. Orders to JOHN WADDELL & SONS, Mynydd Mawr Offices, Llanelly. Explosions! Explosions!! SAFETY J J, TO BE VALVE SpC For preventing HAD ONLY Explosions ))E?????? in Domestic and other Bath AT Boilers. u T. PUGH JONES', Builders' Merchant & Ironmonger 48, STATION ROAD, AND J LLANGATHEN YARD LLANELLY. Builders and Contractors promptly supplied with every requisite. FOR EVERY DESCRIPTION OF PRINTING, GO TO THE "Mercury" Offices* UPPER PARK STREET, LLANELLY CARMARTHEN United Breweries* LIMITED. + ALES AND STODT OF THE FINEST QUALITY. Raad what the Trade Papers say of tbeio Exhibits at the Brewers' Exhibition" 1895: BRETVING TRADE REVIEW," Dec. 1st The Carmarthen United Breweries, Limitecl.-Ales of splendid quality and rich, full-fiavoured Stout. | The COUNTRY BREWERS' GAZETTE, Nov. 19th The Carmarthen United Breweries, Limited, wers represented by Pale and Best Ales of splendid qu&l^ and also by "SSS" stout, which was rich and {o! flavoured. THE BRETVERS' JOURNAL," Nov. 15th. Passing to the products of other districts, we b? nothing but praise for the Pale and Mild Ales bre?- by the CARMARTHEN UNITED BREWERIES, Ltd., WD'? the SSS stout from the last-named was particuiarly rich and full flavoured.: The above Ales and Stout supplied at the followiag Prices: IN CASKS. ô 18 Gallons 9 Gallons 4J Gan0011 7s I P A (Bitter Ale) 27s 138' 6d. 75 A K(Li?ht Dinner Ale) 205. 10s. 553 X X X X (Mild Ale) 24s. 12s. 65. S S S (Invalid Stout) 24s 12s. Os. Highly Recommended INEOTTLEI Pints. H?f-?'? IPA 3s. 6d. is. 9? A K (Dinner Ale) 23. 6d. Is. iL f S S S (Invalid Stout) 28. 6d, 1s,9 tsr Bottles charged Is. per dozen. Full price 1 when returned. -ORDERS PROlKPTJY ATTENDED TO- Printed and Published by the LLANELLY MEBCtlf PRINTING COMPANY, LIMITED, at their OfficeS, Upper ParK Street, Llanelly, in the County of Caf raarthen, April 22nd, 1897. I
FELINFOEL.
FELINFOEL. Cynaliwyd cyngberdd gysegredig yn Adulam nos Sul diweddaf ar ol y cyfarfod eyhoeddus,a chafwyd gwledcl gerddorol o'r iawn ryw. Hyderaf y ceir un tebyg yn fuan eto. Awd drwy y rhaglen ganlynol --Anthem, Y blodeuyn olaf," y cor solo, Pleserfad y Niag- :ara," Mr.C. Dulais Rees trio, The angels' night song," Miss Williams, Prospect Place, a Mri. Dd. Rees a Dd. Morris; solo, "Easter daisy," Miss M. J. Williams solo, "Llythyr fy mam, Mr. Dd. Morris solo, "The children's home," Miss E. A. Williams adroddiad, "Dinystr Johnstown, "'Mr. H. J. Williams duett, Mri. Dd. Morris a Dd. Rees solo," Holy City." Miss Williams, Prospect Place anthem, "We never will bow down," y cor. Cyfeiliwyd yn fedrus fel arfer gan Mr. Dd. Williams. Yr oedd y cor dan arweiuiad Mr. Dd. Rees, a llanwyd y gadair gan Mr. W. B. Jones. Yr oedd y capel bron yn llawn o wrandawyr astud.