Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

MESUR Y BYRDDAU YSGOL A SIR…

[No title]

'CENWCH FAWL I DDUW. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CENWCH FAWL I DDUW. I PI. I Cynwysa y gair li Cenwch fawl iDduw anog- aeth bwysig, anogaeth a gymhellir i ystyriaeth yn dra mynych gan yr Ysbryd Glan. Gogon- iant a fyddo i'r Duw Goruchaf. Os teithiwn y gorphenol yn nghwmni y Beibl, fe gyfarfyddwn a'r geiriau hyn yn fynych iawn. Ceir hwynt yn y manau enwocaf, wedi evi cerlio mewn esiamplau, gan gymeriadau uchaf daear a nef- oedd. Cenwch fawl, medd ser y boreu Cenwch fawl, medd Israel a'i henwogion Cenwch fawl, medd Crist a i Apostolion Cenwch fawl, medd lluaws o lu nefol; Cenwch fawl, medd pedair mil a'r saith ugeinmil yn y gogoniant. Hefyd, trwy hanesyddiaeth, clywir yr eglwysi boreuaf yn dywedyd, Cenwch fawl, ond os teithier trwy wersyll crefyddwyr yr oes hon, fe gwrddir a llu o weinidogion a phregethwyr, a'u liesiampl yn dywedyd, Na chenweh fawl, a mwyafrif aelodau ami i eglwys yn dywedyd, Na chenweh fawl i Dduw. Beth ydyw achos y gwahaniaeth hwn, tybed ? Pwy aateba F Awdwr yr anogaeth ydyw Duw, Creawdydd y bydysawd, a'r Hwn y mae bodolaeth pob creadur, ar bob moment, yn ym- ddibynu ar ei allu a'i drugaredd. Rhoddwyd hi i'r byd llawer gwaith a llawer modd," gynt trwy Moses, Miriam, Debora, Barac, Dafydd. Solomon, Apostolion y Groes, ie, Mab Duw. Maey anogaeth yn cael ei chyfeirio at bob dyn, "Cenwch yn llafar i'r Arglwydd yr holl ddaear. Pob perchen anadl molianed yr Arglwydd." Mae'r anogaeth yn galw ar y teimlad i siarad yn eiiaithei hunan. Nis gelir cydymffurfio a hi heb fod yn feddianol ar lais, gradd o wybodaeth gerddorol, yn nghyd a theimlad o barch ac ym- ostyngiad i Dduw. Yn y goleu yna, gwelir fod pob dyn wedi ei gynysgaethu a pheiriant cerdd- orol, offeryn i gynyrchu seiniau cerddorol, neu lais i ganu; y gall, ac y dylai, gyrhaedd cymaint o wybodaeth gerddorol ag a'i alluoga i ymarfer ei beiriant i adrodd neu i gynyrchu dilyniad o seiniau ag a esyd allan, ac a ddeff ry deimlad; ac y dylai feddu parch ac ymostyngiad i Dduw. 0, chwi nefoedd, mawrygwch yr Arglwydd! Pwy nad ymhyfryda i folianu ei enw ef ? Tydi haul, dyrchafa ei allu a thithau leuad, mawryga dy Greawdwr. Chwychwi ser dysglaer, cleuadwy y nos, gogoneddweh eich Duw; chwithau gym- ylau, y rhai a grogir ganddo yn yr awyr, ey- hoedwch ei fawredd Efe a lefarodd, a derbyn- iasoch fodolaeth! Llawenyched oil yn ei ddaioni ef! Clodforwch ef holl drigolion y ddaear! Boed i bysgyr eigionfoli eu Creawdwr! Cyhoedded y tan ei allu, a'r mynyddoed ei gadernid Boed i'r ager esgynawl fod yn arogL darth i'w fawl ef! Boed i'r dymhestl a bair ddychryn trwy ei swn, tra y mae yn fendith i'r byd, fod yn emyn er anrhydedd i'w allu ef! Chwi heddychawl braidd, y rhai a ymborthweh ar wellt y maesydd a chwithau brenau, y rhai a Iwythwyd a bendition, clodforwch y Duw hael- ionus. Boed i leisiau y datgeniaid awyrol, boed i ddiwydrwydd y trychfilyn ag sydd yn ymlusgo ar y ddaear, a boed i'r oil a fodolant fawrygu yr Arglwydd. Yr ydym i ganu clodydd gaIlu creadigol. I'r perwyl hwn y mae amryw o Salmau Dafydd yn cael eu cyfeirio yn neillduol, y rhai a adrodd- ant am ogoniant y Creawdwr mawr, ac a ddyrch- afant ei glod yn ffurfiad uchelwych nef a daear, yn yr addurnindau teg a'r amrywiaeth dirfawr o fodau, yn holl nodau ei ogoniant ar y gread- igaeth, a'r holl enghreifFtiau o'i dragwyddol allu ef a'i Dduwdod. Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw a'r ffurfafen sydd yn mynegu gwaith ei ddwylaw ef." Drachefn, yr ydym yn canu clodydd prynedigol gariad. At hyn y mae amryw o Salmau ardderchocaf Dafydd yn cyfeirio yn benodol, y rhai a rhagfynegant ddyfodiad y Messiah, ac a ddarluniant ogoniant ei berson a ffrwythau ei farwolaeth. Y mae y Salmydd yn canu am ardderchogrwydd a gogoniant y Brenin, ac yn nodi yn neillduol, mewn iaith ddyrchafedig, frenhiniaeth ac offeiriadaeth y Gwaredwr, ei ddyoddefiadau a'i ymorfoleddiadau. Drachefn, yr ydym yn canu clodydd ragluniaethol ofal, ei lywodraeth reol- aidd ef dros ei holl greaduriaid, a'i sylw neillduol o honynt. Y mae efe, yn feunyddiol, yn cynal bodolaeth, ac yn diwallu anghenion aneirif greaduriaid. (I'w barhau.) Moriah, Llanelli. MAB Gwynfbr. I

LLYFR MORMON. I

PWLL.

Y RECHABIAID.