Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y PARCH. T. JOHNS AC ENWADAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PARCH. T. JOHNS AC ENWADAETH. — ♦ Bum yn ymdrin ychydig a'r Parch. T. Johns, Capel Als, y ddau dro diweddaf parthed i ymddygiadau y Bedyddwyr a'r Annibynwyr, pan y maent yn y mwyafrif ar unrhyw Fwrdd. Ond rhywfodd neu gilydd gwnaeth d-I y wasg gam a mi drwy osod "dan" fel rhif yr Annibynwyr a etholwyd ar y Cynghor Trefol ddwy flynedd yn ol, yn lie y gair saith, a'r wythnos cyn hyny gosododd "Tyst a'r Dydd yn lIe "Tyst." Tebyg iawn fod y darllenydd wedi deall mai camsyniadau oeddent. Ni fuasai synwyr yn- ddynt fel y darfu iddynt ymddangos, Yr wyf wedi bod yn traethu fy Hen ar y Bwrdd Ysgol, a hefyd ar y Cynghor Trefol, ac wedi profi yn ddigamsyniol fod y Bedydd- wyr, pan yn y mwyafrif a y Bwrdd Ysgol, wedi ymddwyn yn hollol deg  v A "b a ?C?t, ?.c ? yv Aniiibyiiwyr pan yn y mwyafrif, wedi ymddwyn yn hoU- ol enwadol, gan edrych ar bob etholiad drwy spectol yr en wad, ac nid barnn teilyngdod y naill ymgeisydd a'r llall. Yn awr symudaf gam yn mlaen, a chymeraf olwg ar y mater- ion hyn fel y maent wedi eu cario allan ar Fwrdd y G-warcheidwaid. Y mae 27 o warcheidwaid yn cyfansoddi Bwrdd Llanelli, ac o ran golygiadau crefydd- ol gellir eu dosbarthu fel y canlyn :—Eglwys- wyr, 12; Bedyddwyr, 9; Annibynwyr, 3;. Methodistiaid, 3. Gwelir felly fod 3 Bedydd- iwr am bob Annibynwr ar y Bwrdd. Pe bu- asent yn euog o'r hyn y cyhudda Mr. Johns hwy, buasai 3 allan o bob 4 o'r swyddwyr yn Fedyddwyr. Ond gadawer i ni edrych i fewn ai felly y mae mewn gwirionedd. Pan ddarfu i Mr. W. B. Jones ymddiswyddo fel Relieving Officer, etholwyd Mr. James Isaac (Annibynwr) yn ei Ie. Pan giliodd Mr. James Isaac etholwyd Mr. White (Annibyn- wr) yn ei le. Pan ymddiswyddodd Miss Trinder o fod yn Assistant Matron, etholwyd Miss Jones (Annibynwraig) yn ei lie. Gweithiwyd yn galed i gael gwared o Mr. Thomas (Eglwyswr), Assistant Overseer Llanedi, er niwyn ethol INIR. Jones (Annibyn- wr) yn ei le. Gwnaethpwyd pob ymdrech i gael Mr. John Williams (Methodist) allan o fod yn Assistant Overseer Llannon, er mwyn ethol Mr. Jenkins (Annibynwr) yn ei le. Nid yw hyn felly yn ymddangos fel pe bai y Bedyddwyr yn cymeryd mantais o'u liifer ar y Bwrdd i ethol Bedyddwyr i'r swyddi. Y mae gan Bwrdd Gwarcheidwaid Llanelli 24 o swyddwyr, a dosberthir hwy yn ol eu golygiadau crefyddol fel y canlyn— Eglwyswyr, 8; Annibyn-wyi-, T; Methodist- iaid, 5 Bedyddwyr, 4. Gwelir felly nad yw y Bedyddwyr yn cymeryd mantais ar eu nifer ar unrhyw Fwrdd i roddi y swyddi i'r rhai sydd yn dal yr un golygiadau crefyddol a hwy, fel y gwna yr Annibynwyr. Yr wythnos nesaf, os byw ac iach, ymgymeraf a'r Cynghor Sirol, &c., ac yma gwelir Annibynia yn anterth ei nerth yn gweithio dros ei phlant, ac nid y lleiaf ar y llwyfan yw y Parch. T. Johns ei hunan

YSGREPAN GWILYM MORLAIS.

1 ! LLITH CROMWELL.I ji

-. I ! URDD ANNIBYNOL Y TEML-I…

ITUMBLE. I -

Y DWYLAW CROESION.I

iI ¡CYFRINFA RIIOSYN GLAN-…

ANERCHIAD1

ITELYNEGI

I ODLAU HIRAETH;

Advertising