Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Y PARCH. T. JOHNS AC ENWADAETH.…
Y PARCH. T. JOHNS AC ENWADAETH. ■~GA>- Gwiiyir MORLAIS.] Ysgrifena gohebydcl o Llanelli iV Taricin fod finvgwd enwadol yn clebyg o gvmerycl lie rhwng y boneddwr ucliod a'r Parch. R. 3.1. Humphreys, os bydd i'r blaenaf gymeryd sylw o haeriadau amddiffynol Machno. Y mae'n rhaid fod y gohebydd hwn yn hynod o anwybodus cyn ei fod yn camgymeryd haer- iadau Mr. Johns am fteitluau, a ffeithian Gwilym Morlais am haeriadau. Rhaid nad yw wedi darllen y ffeithiau didroi-vn-ol a roddir yn y MERCURY, neu ei fod yntau fel ei flaenor yn Nghapel Als wedi eu darllen drwy spectol yr enwad. Rhaid ei fod yn hynod fyr ei gyrhaeddiadau neu ni fuasai yn gwneuthur y fath gamsynied dybryd a' phriodoli ysgrifau Gwilym Morlais i Machno. J)ylasai fod yn hollol gyfarwydd a ieithwedd f ddau ers amser bellach. Yn fy llith diweddaf addewais ymgymer- jj yd a'r Cynghor Sirol er dangos pa fodd yr ymddyga yr Annibynvvyr a'r Bedyddwyr j tuag at eu ffryndiau enwadol. Gwneir y Cynghor Sirol i fyny o ddan-at-bymtheg o Henaduriaid, ac unarddeg-a-deugain o Gynghorwyr a'r hyn sydd yn bur rhyfedd yw fod yn y Cynghor Sirol rhyw swyn aughySredin. i weinidogion yr Annibynwyr, o herwydd yn yr etholiad diweddaf bu saith (rIlif perffaith, onide 1) o'r cyfryw yn ym- geiswyr am s eddaii, a bn pedwar o'r saith yn llwyddianus. Gweloddy ped war nad oeddent yn rhif cjdnabyddedig. IN id oeddent yn saith, rhif perffaith, na thri, rhif Ysgry thyrol, nac hyd yn nod rhif pump, rhif y morwynion call, na rhif yrhai frol hefyd, felly pender fynasant fod o nifer y morwynion, beth bynag,ac ethol- asant y Parch. W. 'Davies, Llandilo, i fod yn Henadur, ac yn awr y mae genym. Gynghor Sirol Santaidd dros ben, a phump o enwog- ion y ffydd yn ei addurnc. Beth p3 bai yr en- wadau eroill yn dilyn yr esiampl, tybed na fuasai y Cynghor yn fwy tebyg i Gynadledd gymysg o'r gwahanol enwadau, a pliump-ar- hugain o arweinyddion y bobl yn eistedd arno er trefnu pt fodd i osod ceryg ar yr heolydd, i bontio nentydd, i agor cwteri, a mil a mwy obethau pwysig cyffelyb. Y mae gan y Cynghor Sirol hawl i ddewis dau aelod ar yr University Court, y rhai ydynt, Prof. D. E. Jones, Caerfyrddin (An- nibynwr), a Mr. Gwilym Evans (Methodist). Ar y Joint Education Committee y mae gan y Cynghor hawl i ddewis tri aelod, y rhai ydynt, Mr. Gwilym Evans (Methodist),Prof. D. E. Jones a'r Parch. W. Thomas (Annibyn- wyr). Yr oedd angen Clerk ar y Pwyllgor hwn, ac etholwyd Mr. Powell, aelod o eglwys y Parch. W, Davies, Llandilo (Annibynwr). Yr oedd angen archwiliwr y cyfrifon hefyd, etholwyd Mr. Davies, mab i'r Parch. W. Davies, Llandilo (Annibynwr). Yr oedd,ac y mae gan y Pwyllgor hwn hawl i ddewis prif athrawon yr Ysgolion Canolraddol, ac y maent bron yn ddieit-hriad wedi ethol Anni- bynwyr. Allan o bob deg a gyfansodda y Corff Llywodraethol Sirol, y mae pedwar yn Annibynwyr, pedwar Eglwysvvr, un Meth- odist, ac un Bedyddiwr; felly gwelwn fod yr Annibynwyr braidd yn ddieithriad yn gofalu, os byddant yn y mwyafrif, i osod Annibynwyr yn y prif swjddfeydd, ac eto i gyd, yn ngwyneb ffeithiau fel yr wyf wedi nodi, a'r rhai sydd yn liollol tufewn i gylch gwybod- aeth Mr. Johns, cwyna o herwydd ei fod yn tvbio fod Bwrdd Ysgol Llanelli yn delio yn annheg tnag at rhyw brif athrawon nad oes neb ar wyneb daearDuw yn gwybod dim am danynt. Y mae Mr. Johns yn ddirwestwr selog,ond fel y dywedais o'r blaen, credaf ei fod yn fwy o Annibynwr nag o ddirwestwr, er ei fod un- waith wedi boddloni aberthuei fywyd ar allor dirwest. Er mwyn profi hyn, carem gael gwybod ei resymau dros bleidleisio dros Mr. AVatkins, Llandovery, i fod yn Henadur; ai am ei fod yn Annibynwr, ynte am ei fod yn Ddarllawydd (Brewer) 1 Os mai am ei fod yn Ddarllawydd, pa le y saif fel pleidiwr Tenny- son Smith, ac aelod o'r Ironsides? Os mai am ei fod yn Annibynwr, paham y cwyna fod ereill yn gwneuthur yr un modd ag ef ? Gair o eglurhad a rydd foddlonrwydd hyd hyny, bydd edwych.
YSGREPAN GWILYM MORLAIS.
YSGREPAN GWILYM MORLAIS. Cynaliwyd cyfarfodydd blynrddol Moriah, Llanelli, y Sul a nos Lun diweddaf. Gwas- anaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. J. Willians, Aberteifi, a W. P. Williams, Lan- dwr. Cafwycl cytarfodydd da dros ben, a phregethau ardderchog. Bu y Parch. R. Machno Humphreys, Calfaria, yn pregethu yn nghyfarfodydd blynyddol Rhydwilym, y Sui a nos Lun diweddaf. Cynaliwycl cyfarfodydd blynyddol Taber- nacl, Llwynhendy, dydd Sul a nos Lun di- weddaf. Y pregeth wyr oeddent y Parchn. Dan Davies,Porth, a W. Saunders,Rhymney. Yr oedd y cynulliadau yn fawr, y pregethu yn rymus, a'r casgliadau yn dda.
CYFARFOD CHWARTEROL Y BEDYDDWYR..
CYFARFOD CHWARTEROL Y BEDYDDWYR. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol Bedyddwyr Dwy- rain Caerfyrddin dyddiau Mawrth a Mercher di- weddaf, yn Hermon. Llannon. Dechreuwyd y gyn- adledd prydnawn dydd Mawrth o dan lyvvyddiaeth y Parch. W. J. Lewis, gweinidog y lie, ac etholwyd y Parch. D. Morgan (Mathryfardd), Crosshauds, yn ysfrifenydd.Ar ot i'r Parch. Moses Jones,Landyfan.ati- trch gorsedd gras, pasiwyd y peuderfyniadau caulyuol 1. Darllenwyd cofnodau a phenderfyniadan y cyf- arfod diweddaf a gynaliwyd. yn Soar, Llwynhendy, a chadarnhawyd hwynt. 3. Pendcrfynwyd ein bod yn mawr-lawenhau yn y ffiaith fod y cynllun i chwyddo cyfalaf Cymdeibhas Genuadol y Gymanfa yn llwyddo mor rhagorob an bod yn acog yr boll eglwysi i wneud eu goreu ar ei rhan. 3. PendcrFynwyd fod y Parch. R. M. Humphreys i bregethu ar y pwnc, Y Genhadaeta Gartrefol," yn y eyfarfod nesaf. 4. Pellderfynwyd ein bod fel cynadledd yn teimlo yn ddwys o herwydd cyflwranffodus y Groegiaid, acyn priodoli eu sefyllfa adfydns i wendid gwleidyddol Arglwydd Salisbury, a gwendid moesol y llywodraeth Doriaidd bresenol, ae yn dymuno ar i'r Rhyddfrydwyr i wneud eu goreu ar ran Groeg a'r Cretiaid. 5. Ein bod fel cynadledd yn teimlo yn ddwys fod y Parch. Dr. Fred Evans yn parhau yn wael ei iechyd, a,c yn dymuno iddo lawer o nawdd y nefoedd. 6. Eiu bod vu llawenhau wrth glywed fod eglwys i'r Bedyddwjr wedi ei chorffori yn Mhontyberem, ac yn falch i glywed fod yr eglwysi yn y Tumble a Phonty- btrem wedi penderfynu ymuno a'u gilydd o dan yr un weiuidogaetb. 7. Dymunwr, ddadgan ein llawenyJd fod y Parch. Eonanuel Jones wedi dwyn alian ddwy bregeth, ae yu (lyinutio kklo lwyddiant yn eu gwerthiad. 8. Penderfyuwyd fod y cwrdd chwarter nesaf i w jJ gyual yn Sulfctn, Caio, yr wythnos gyntaf yn Awsi. j tI. Perllkrfynwyd fod diolchgarwch gwresocaf y gy*- j adledd yn cael ei gyflwyno i eglwys Hermon,Llanon,am I y derbyniad croesawus a roddodd i'r cwrdd chwarter. j Dechreu.vyd yr oedfaon pregetbu nos Fawrth, a j gharhawyd hwy drwy y dydd y ddoe. <
LLWYDDIANT EISTEDD-FODOL.…
LLWYDDIANT EISTEDD- FODOL. I Da genym hysbysu mai un o Soar, LIT, yiibeii- dy, gipiodd y cwd a'r clod yn Eisteddfod Dafen prydnawn Sadwrn diweddaf ar y solo alto, Paliam yr wyt yn oediP" allan o wyth, a hefyd y Llun canlynol yn Eisteddfod Owm-mawr, allan o ddau-ar-bymtlieg, ar Bu genyf fam a thad.' Mae yn lion genyf glywed fod Sarah Fach mor llwyddianus. Merch Mr. John Jones, assorfcer, Cvvmcarnhowell, ydyw. Credaf fodrliieni plant y Llwyn yn barod i longyfarch ei hath raw, Mr. John Thomas (Hendre gynt) am ei barodrwydd i addysgu plant y lie yn ddiwahaniaeth. Yr ydym yn meddwl yn uchel am Mr. Thomas fel bandmaster y Llwyn; ond credaf fwy am dano pan yn ymgymeryd at blant y lie i'w addysgu mewn cerddoriaeth personol. Hir oes i Mr. Thomas i wneud daioni yn ei gylch, a phob Ilwyddiant i Miss Jones yn ughyd a'i chyd- I ddysgyblion yn y byd cerddorol yw dymuniad CYF AILL. I
I PONTYEATS.i
PONTYEATS. i I Sn:Vrth edrych o'n cwmpas, gwelwn bob I peth agos yn ysgogi yn cliwyrnwyllt a chyflym. Cawsom y fraint o fyw yn oes y mudiadau ni welir dim, braidd, yn aros yn y byd crafyddol na!r un gwleidiadol. Nid oes un radd, sefyllfa, na llwyth o ddynion, yn unrhyw wlad, yn llonydd ac yn foddlon i bethau fel y maent yn y byd naturiol na moesol. Felly mae yma y dyddiau hyn. Ceir fod mudiad ar droed er cael diwygiad i fasnachu mewn creaduriaid. Clywyd llawer yn siarad a dweyd fod y lie hwn yn fanteisiol i gynal fFair, felly, dyma'r fantais wrth y drws. Dydd Gwener, y 14eg o'r mis hwn, bydd yn ddiwrnod cyfleus i holl fasnachvyyr y trefi cylchynol. a'r wlad yn gjrflredinol, i fod yn bresenol, er gwneud elw mewn prynu a gwerthu. Mae yma lawer o rhagbarotoi er gwneud pob cyfleusdra a ellir er sicrhau ei llwrrldiRDt yn mhob ystyr. Ni phetruswn broffwydo y bydd yn ffair frwdfrydig iawn. Y mae yn ddywenydd genym fod arwyddion yn cynyddu y ffyna ac y llwydda y mudiad sydd ar droed er cael meddyg i artrefi i'r lie hwn. Yn hwyrdrwm iawn ydym ni, yn gyffredinol, yn cyfodi i weithio rhaid siarad llawer iawn cyn cychwyn, ond pan gychwynom yr ydym yn lied egniol gyda phob achos. Dysgwyliad sydd yn awr am i bobl y gweithiau cylchynol i roddi pob cynorthwy a allont er dwyn y mudiad daionus hwn yn mlaen. Gwyddom y bydd yn fendith ac yn iachawdwriaeth i'r bobl 1 oil i gael meddyg yn fwy cyfleus. I IJWLADGAKWB J
I LLYFRMORMON.; _
I LLYFR MORMON. I PARHAD. Sylwer mai ar ol, ac nid cyn, i'r lIyfr" gael ei ddadguddio y mae "Libanus" i gael ei throi yn ddoldir." Y mae Libanus (Palestina) wedi bod yn gorwedd yn anrheithiedig am gan- rifoedd, fel y cyflawnwyd geiriau y proffwydi, ac yn neillduol broffwydoliaeth Moses yn Deut. xxviii. Y mae yr Arglwydd, yn ei lid, wedi gwasgaru Judah yn mhlith yr holl genedloedd am ei anwiredd, ac wedi anrheithio y tir sanctaidd," ond eto, nid yw wedi eu llwyr anghofio. Am hyny, y mae wedi addaw adferyd y tir, a'i barotoi erbyn eu dychweliad, ac y mae wedi dechren cymeryd lie, fel y cyflawnwyd y geiriau, Onid ychydig bach fydd eto, hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a'r doldir a gyfrifir i yn goed," ac yun. efe a ddywed, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef. Eithr pan welo ei feibion o'i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie, sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofuanfc Dduw Israel" (Esaiah xxix. 22, 23). Ond rhag bod neb yn amheu mai nid yr un yw Libanus a Phalestina, cawn sylwi ar yr adnodau canlynol" Canys fel hyn y dywed yr Arglwyd, Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto, yn ddiau. mi a'th wnaf yn ddiffaethwch, ac yn ddinasoedd anghyfaneddol" (Jer. xxii. 6). A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasg-laf hwynt o Assyria, ac arweinaf hwynt o dir Gilead a Libanus, a ni cheir lie iddynt" (Zech. x. 10). Y mae fod Israel i ymgasglu i Gilead a Libanns" yn profi mai tir Jacob yw "Libanus," sef Palestina. An yn awr, er mwyn profi fod Palestina wedi derbyn ei chynar a'i diweddar wlaw, a thrwy hyny gael ei "throi yn ddoldir," yn ol gair y proffwyd, cynygiaf y tystiolaetliau a ganlyn Y mae ganddi yr un haul dysglaer, ac wybr ddigwmwl, yn ogystal a'i chynar a'i diweddar wlaw" (Chamber's Eiicyclopredia, vol. 7, p. 11—"Palestine"). "Sicr yw fod y wlad o amgylch Jaffa yn un plwyf liyfryd-gwastad- eddau helaethion, yn orchuddiedig a llysiau brasdyfol, yn ymestyn ar hyd glan y mor, ac yn mhell i'r canoldir-llwyni mawrion aurafalau, yn dwyn eu cynhauaf toreithiog o ffrwythau aurafalau. Ni welais y fath aurafalau o'r blaen, ac ni feddyliais y gallent dyfu i'r fath faintioli. Yr oedd y ddaear wedi ei man-nodi a blodau amryliw, a'r awyr yn seiniol gan gerddoriaeth adar" (A. D. Randall's I-flttidwriting of God, p. 23). (I'w barhau.)
I CLYWEDIO O'R HENDY.I
I CLYWEDIO O'R HENDY. Clywed fod Eisteddfod Tynewydd wedi troi allan yn llwyddianus, Clywed mai rhan o'r Fife Band agorodd yr eistedd- fod. Clywed fod beirdd a chantoriori yn cynyddu yn y lie hwn. Yti mlaeu yr ewch, fechgyn, Clywed fod y cadeirydd yn gorfod rhybuddio y bech* gyn ieuainc yn ami am fod eu tafodau dipyu yn rhydd. Clywed mai bechgyn o'r Bont oedd y rhan fwyaf o honyut. Clywed fod bechgyn o'r Bont yn dyfod i lawr yma i gadw "mwstwr" ar nos Suliau. Cofiwch gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath, fechgyn. Clywed mai y merched isuainc sydd yn gyfrifol am y 'stwr i gyd. Clywed fod rhai bechgyn o'r Bont yn methu myn'd I i orphwys heb weled eu hanwyliaid o'r lie hwn bob nos, CADNO.
IBETHANIA, LLANOS.
BETHANIA, LLANOS. Cynaliodd y Gobeithlu ei chyfarfod adloniadol chwarterol nos Sadwrn diweddaf. Cymerwyd y gadair gan y Parch. E. H. Davies (gweinidog). a dymunwn ddatgan, fel cymdeithas, ein diolchgarwch gwresocaf iddo am ei anerchiad bwrpasol ac amserol o blaid y Gobeithlu. Cyfeiliwyd gan Mri. Daniel Jenkins a Thomas James yn dra meistrolgar. Ir oedd yua lafur mawr wedi bod i barotoi gogyferar cyfarfod hwn, ac ni fydd y llafur hwn yn ofer, canys yn mhob llafur y mae el w. Cymerwyd rhan yn yr adroddiadau gan Daniel Jones, Daniel a Thomas Wilkins, Eleazer Jenkins, Joseph Morgans, Louisa a Lyciia Hannah Evans, Willie Evans. Sarah Jane Jones, Ivor Williams, David .Jones, Nellie Henry, George Walters, a Owen E. Hughes yn y dadleuon, Howard Davies a David Thomas, Hannah Jenkins a Anne Williams, John Jones a David Jenkins, a Tom a Martin Richards yn v gerddoriaeth, Johnny Jenkins, William a Daniel Jenkins, Maggie Williams, Mary Ann Jones, Ellen Davies, a Herbert Morris. Hefyd, cafwyd gan y cor ganu da dan arweiniad Mr. William Jenkins. Darllen- wyd papyr gan yr Ysgrifettydd ar 11 Y Gob{,iblu." Hol- wyd y plant ar eu maes llafur p.m y tymhor gorphenol. Credaf fod pawb wedi cael en llwyr foddhau, ac nid oes amheuaeth na chafodd y rbai nad oedd yno golled. Mae y sefydliad bwn yn wir deilvvng o gefnogaeth, a chredaf yn gydwybodol pecawsai y Gobeithlu yn cael y parch dyledus yn ein heglwysi, y buasai llewyrch y cyfryw yn llawer mwv dysglaer, acyn fwy uerthol i chwalu cestyll mawr meddwdod i'r llav/r. Brysied y dydd y byddo y gelyn aflan hwn wedi ei lwyr orchfygu. Dynayr amser pryd y bydd heddweh a tbangnefedd yn teyrnasu. Frodyry Gobeithlu, byddwcb yn ddiwyd ac yn wrol i weithio er gwaethaf ein gelyniot), daw concwestcyn hir. Paham, tybed P 0, am fod Brenin y cefoedd ei hunan o'n tu. r. /"T. eus -xi&mD {xsg.j I I
•PEMLLION I
•PEMLLION I Cyflwyneaig i Mr. Thomas a Mrs. Hannah Lewis, I Dolybar House, Cwnifeliti,ar beu y deugeinfed flwyddyn o'u bywyd priodasol. Dydd llonder a gorfoledd Yw hwn i deulu glanwedd, Yr hoffus ddau sydd wedi bod Yu briod ddeugain mlynedd. I Dad y trugareddau, A ro'es i'r ddau o'i ddoniau, I'w cadw'r deugaiti mlynedd hyn, Boed dibrin ddiolchiadau. Y tirion Thomas Lewis, A Hannah 'i briod serchus, Eu cofio'r wyf, pan o'wu i'u llanc, Yn gwpwl ifauc hapus. Ni bu siriolach deu-ddyn Yll byw mewn plas na bwthyn Na neb parotach yn y fro I geisio helpu gwau-ddyn. Mae'n hyfryd genyf gofio, Y blwyddi aethant heibio, Pan oeddynt hwy yn lion a ffri, Drws uesa' i ni 'n preswylio. Ni cheid un gair o groesni, Na chilwg barai surui; Ond llygaid siriol geid o'r bron, Yn lion fel ser goleuni. Er pob cyfnewid rhyfedd Ar fyd mewn deugain mlynedd, Parhau yr un mae'r deu-ddyn mad 0 hyd trwy rad drugaredd. Boed eto lawer blwyddyn 0 ddedwydd fyw i'r deu-ddyn, A gwenau Duw yn gweiui dydd Llawenydd hyd y terfyn. Tabernacl, Caerdydd. I  CHARLES DAVIES, I
I 'BEDD.,I YN Y BEDD.
I BEDD. I YN Y BEDD. Tydi, wr ieuanc, sydd A'th awydd am gael byw I fyny i ry w nod Ddistrywgar iawn ei rhyw Ystyria byd dy oes ddihedd, Rhyw lam a roi o'r bru i'r bedd. Os cefaist lendid bryd, Os wyt yn heiuyf un, 0 paid ymffrostia dim Mewn tegweh harddweh llun Er glaned, teced, yw dy wedd, Fe golli hwn yn mhridd y bedd. Tydi, gyfoethog wr, A'th drachwant ain y byd, Yr aur a'r arian yw Dy ddelw ar bob pryd Er mor ddymuucl yw eu gwedd 'Does iddynt werth wrth borth y bedd. Bydd rhaid rhoi cyfrif oil O'n hamser byr i Dduw, Bob eiliad yn ddigoll A gawsom yma fyw Os sathrwn gyfleusderau'n gam, Yn llwyr fe'ucosbir boreu'r farn. Un fer yw tymor oes, Yn brysur dylem fyw, Mewn rhinwedd pur a aioes, A cbadw deddfau Duw Mae'n taith duearol oil dan len, t Nis gwyddom pryd daw hon i ben. I Crosshands. GWALCH GWlLI. I
ICAN Y GWANWYN.I
I CAN Y GWANWYN. I Ar gopa'r bryn Mae bywyd gwyn Tan heulwen Hon yn chwareu; Y meillion sydd A llygaid dydd Fel siriol ser y boreu. Mae'r defaid mwyn A'r dyfyr wyn Yii pt)ri liethrau'r myiiydd Pob un beb nam Yn rhoddi 11am Tan wenau bywyd newydd. Mae'r adar man Yn seinio can Ar lWYlli gwyrdd y gwanwyu Eu iiodau clir o galon bur Y bore a'r hwyr sy'n dilyn. 0 na bai'r byd Yn lion o hyd, Fel ysbryd mwyn y gwanwyn Yn bur dilyth, Ac ieuanc byth, A'i fysedd ar y delyn. Mae Seren Ffydd Yn Ngwlad y Dydd, A gwenau gwanwyu beunydd; Ac ar bob bryn Mae engyl gwyn A'u molawd byth yn newydd. I wan wyn Ner, Uwchlaw y ser, Wyf finau am gyrhaeddyd 0 gatiol cur At hoender pur, Tan wenau llonach bywyd. I EURWEDD. I
4MAM.. -I I CARIAD MAM.I
4 MAM.. I I CARIAD MAM. I O tyred gyda fi yn ol I foreu gwyn fy oes, Cyn bod un gofid dan fy mron I beri i mi loes Dydd hapus oedd—dydd goraf byth, Pan yn un bach dinam, Yti ngofal cariad mynwes gu, Set cariad tyner mam. Hi gollodd iawer ar ei chwl-g, Hi roddodd laeth ei bron, Er ceisio gwneud ei hoffus un Yn ddiddig ac yn lion Ei theimlad oecld yn ferw i gyd Pan oeddwn yn cael cam Nid oes nIl curiad drwy y byd Mor fawr a chariad mam. Hi dreuliodd lawer d'wrnod maith I weriu arnaf 6, A'i thyner law a roddai'n fwyn I'm harwain gylch y ty Pwy fesur ei Hawenydd, pan Y rhoddais gyntaf gam ? Ei breicbiau roddai'n fur o'm cylch, Er dangos cariad mam. Edrychai ar fy wyneb lion, A phawb ddoi at y ty A holai, mewn pryderus iaith, Beth fydd fy mhlentyn cu ? Gweddiai lawer am i'r nef Fy nghadw rhag cael cam, Athreuliodyddiauboreufoes I garu Duw fy mam. A dyma'i chyngor mwy" i mi Wrth gefnu ar fy ngwlad O colia fyw fel dysgwyd di Gan anwyl fam a thad, A boed i'r lesu mawr ei hun I enyn ynot fflam 0 gariad cynes at/i hun, Fel sydd gan d'anwyl fam." Ond iraeth yn fy mynwes sydd Pa, :ofiaf am fy mam, Yr ho;, "i wrendy ar fy nghwyn, A'm cadw rhag cael cam; Ond trwy ei mwyn gyngorion im', Tra yma yn y byd, Caf un a'm harwain at fy mam I'r nefol Wynfa glyd. Crossliands, Llanelli. GLAN 'XEUIU. 1
Advertising
I 1897. DIAMOND JUBILEE YEAR SHOW AT London House, Llanelly. RANDELL & SONS Beg respectfully to announce their return from the London Markets with a well assorted Stock of FRENCH & ENGLISH NOVELTIES FOR THE SPRING SEASON, INCLUDING Mantles, Jackets, Capes, Blouses, Skirts, Corsets, etc. W LADIES SHIRTS in Lawn, Fancy Cambric and Silk. French and English Millinery. FLOWERS, FEATHERS, ORNAMENTS, OSPREYS, JET SPRAYS, etc., etc. Ribbons for Millinery in all Newest Shades. SAILORS IN GREAT VARIETY. f DRESS DEPARTMENT. All Wool Covert Cycling Cloths in Dark and Light Greys and Fawns. A Good Assortment of Fancy Black Materials, Plain and Figured Lustres, etc. Dressmaking & Millinery Departments UNDER THE MANAGEMENT OF THOROUGHLY EXPERIENCED HAN DS. Show Thursday Next AND THROUGHOUT THE SEASON. THE FAVOUR OF AN EARLY VISIT IS SOLICITED. NOTE. -Tilroughotit the year 1897 (Diamond Jubilee Year) we are determined to mark all Goods at such prices that must prove beneficial to all who purchase. COMPARE PRICES. RANDELL & SONS, London House, 1 & 3, Thomas Street, I LLANELLY. NOTICE TO FARMERS & CATTLE FEEDERS. MAIZE At Ss. 6d. per sack of 240 Ibs. W. KNOYLE, COWELL STREET. LATE STEPNEY STREET. MYNYDD MAWR COAL DEIIOT. ANTHRACITE. LARGE (Big Vein) 12s 6d per ton LARGE NUTS IBs 6(1 „ SECOND QUALITY NUTS 10s 6d „ HAULAGE EXTRA. Attention is requested to our ANTHRACITE NUTS, from Great Mountain Colliery, produced by the breakage of selected Large Coal by machinery. They are of uniform size, from two to three inches' and are screened perfectly free of dust. Orders to JOHN WADDELL & SONS, Mynydd Mawr Offices, Llanelly. EVAN EVANS, Public Accountant and Auditor. Address :-STATION ROAD, LLANELLY. Secretai, Llanelly Terminable Building Society, Llanelly Permanent Building Society. Money advanced on Leasehold and other Properties. Short or long terms. Easy repayments. APPLY AS ABOVE. ESTABLISHED OVER A QUARTER OF A CENTURY. FOf Welsh Butter and Welsh Bacon TRY D. S. PHILLIPS, Grocer and Provision Merchant 30, WATERLOO STREET, LLAN ELLY. Also every Article in the Grocery and Provision Trade of the best quality at lowest possible prices FOR EVERY DESCRIPTION OF PRINTING, GO TO THE "Mercury" Offices, UPPER PARK STREET, LLANELLY CARMARTHEN United Breweries, LIMITED. -♦ 1 ALES AND STODT OF THE FINEST QUALITY. Read what the Trade Papers say of theit Exhibits at the Brewers' Exhibition 1896: I PRETVING TRADE REVIElV," Dec. 1st The Carmarthen United Breweries, Lirnited.-AleS of splendid quality and rich, fall-flavoured Stout. The COUNTRY BREWERS GAZETTE, Nov. 19 ih The Carmarthen United Breweries, Limited, were represented by Pale and Best Ales of splendid quality and also by "SSS" stout, which was rich and full flavoured. THE BREWERS' JOURNAL," Nov. 15th. Passiag to the products of other districts, we have nothing but praise for the Pale and Mild Ales brewed by the CARMARTHEN UNITED BBEWERIES, Ltd., whilst the SSS stout from the last-named was particularly rich and full flavoured. • 'I The above Ales and Stout supplied at the following Prices:— IN CASKS. 18 Gallons' 9 Gallons « Gallons I P A (Bitter Ale) 27s. 13s. fid. 7s A K (Light Dinner Ale) 208. 10s. 5s] X X X (Mild Ale) SSS (Invalid Stout) 2-ls 12s. 68. Highly Keeommended Ix BOXTLE l Pints. 1-falf-Pillt" I P A. i's. tid. Is. gd A K (Dinner Ale) 2s. Gel. Is. 4(1 S S (Invalid Stont) 2s. (id, Is. (1(1- a Bottles charged Is. per dozen. Full prjce allowed when returned. -ORDERS FJROMPTIY &TTENDR.D TO- -p -r Printed and Published by the LLANFLLY MERCIOUY PRINTING COMPANY, LIMITED, at their OffireF' Upper Paric Street, Llaaelly, in the County of marthen, May 6th, 1897.