Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
NODION WYTHNOSOL.
NODION WYTHNOSOL. Y mae yn dda genym i gael arddeall fod Mr. Behenna, Abertawe, wedi cymeryd ei sedd, am y tro cyntaf, ar Ymddiriedaeth y Porthladd dydd LIun diweddaf, fel un o'r Ymddiriedolwyr. Estynwn iddo ein 110n-: ?yfarchiadau mwyaf gwresog, a llongyf'archwn ?etodauyr Ymddiriedaeth hefyd am eu bod wedi bod mor Sbrtunus a sicrhau gwasanaeth Mr. Behenna ar y Trust, ac wedi llwyddo i gael ganddo i gymeryd dyddordeb yn y dref ar porthladd. Hyderwn y caiff fyw am flynyddati lawer i hyrwyddo llwyddiant y dref a'r porthladd. --0- Dichon y bydd i'r llongyfarchiadau hyn sWllio yn rhyfedd ar glustiau llawer o'n darllenwyr, ae, fel canlyniad, y bydd i ofyn- iadau tebyg i'r rhai hyn ruthro i'w meddyilau 0 berthynas i Mr. Behenna :—(1) Pwy yw y r. Behenna hwn o Abertawe (2) Pa hawl sydd ganddo ef i sedd ar yr Ymddir- iedaeth ? (3) Ar awdurdod pwy yr eistedda feI un o Ymddiriedolwyr y POrthladd1 ac yn (4) Pwy y mae yn gynrychioli 1 Y mae yr oil o'r gofyniadau yn eithaf teg, ac yn hollol naturiol, ac y mae gan bob Trethdalwr yn y dref berffaith bawl i'w gofyn, ac hefyd i I ddysgwyl atebiad teg a chyflawn i bob un o honynt, ac yn y nodiadau canlynol ymdrechwn I wneuthur hyny. I —0— 0 barthed i'r gofyniad cyntaf, dywedwn ttai un o'r allforwyr glo mwyaf, os nid y I mwyaf, yn Abertawe yw Mr. Behenna. Perthyna i'r cwmni a adwaenir yn Abertawe -ac yn Llanelli hefyd ar yr adeg bresenol- ¡ wrth y teitl Thomas Williams, Sons an d Behenna, Shippers and Coal Exporters. Yn yr ardaloedd hyn yr ydym braidd yn ddieithriad yn adwaen Meistri Thomas Williams a'i Feibion. Hwy yw perchenogion gweithiau glo Talyclyn a Pengellyddrain. Y cyfran-ddalwyr mwyaf yn ngweithiau alcan y Morlais, Llangennech; a'r Teilo, Pontardulais; gwaith priddfeini Talyclyn; a chreigiau meini calch Llandebie, &c. Mr. Behenna yw cynrychiolydd y Owmni yn Abertawe, ac arno ef y mae y gofal o allforio boll lo y Cwmni hwn, yp nghyd a glo amryw lofeydd ereill. Gwelir felly fod Mr. Behenna yn ddyn sydd yn cario yn 1 nalaen drafnidiaeth ar raddfa eang iawn rhwng y wlad hon a boll wledydd Cyfandir Ewrop. Gallasem feddwl wrth ei enw mai estron (foreigner) yw, ond pa genedl bynag ( yr hanai ei gyndeidiau o honi ganwyd I Mr. Behenna yn y Mumbles, ac felly o ran genedigaeth y mae yn Gymro, beth bynag. Fel broker, credwn na fyddem yn mhell o'n lie pe dywedem fod Mr. Behenna yn allforio o filiwn i ddwy filiwn o dunelli o lo yn flynyddol o Abertawe, a hwn yw y Mr. Behenna sydd yn awr yn aelod o Ymddiried- aeth Porthladd Llanelli. 0 berthynas i'r ail ofyniad, dywedwn fod hawl gan Mr. Behenna, fel Trethdalwr yn Llanelli, i eistedd fel Ymddiriedolwr y Porthladd. Ond nid fel Trethdalwr yn unig y mae ganddo hawl i eistedd ar yr Ymddir- iedaeth. Ychydig fisoedd yn ol, ymddi- swyddodd Cadben John Williams o fod yn aelod o'r Trust, ac ar awgrymiad Mr. John Rees, Goruchwyliwr y Porthladd, gwahodd- wyd Mr. Behenna gan yr Ymddiriedolwyr i gymeryd ei le. Derbyniodd yntau y gwa- hoddiad, ac etholwyd ef yn unfrydol gan yr Ymddiriedolwyr i'r sedd wag. Dichon fod rhai yn barorl i gollfarnu yr Ymddiriedolwyr am wneuthur hvn, gan ddadleu mai dyled- swydd yr Ymddiriedolwyr oedd cynyg y sedd i un o Llanelli. Efallai y byddai hyny yn fwy cydweddol a mympwy rhai, ond lies y Trethdalwyr yn gyffreiiinol oedd mewn golwa, gan yr Ymddiriedolwyr, ac nid an- rhydedd un person unigol, a chtedwn y cytuna pawb sydd yn teimlo dyddordeb yn llwyddiknt y dref a'r porthladd fod yr Ymddiriedolwyr wedi rhoddi cam i'r iawn gyfeiriad pan ddarfu iddynt wahodd Mr. Behenna i gymeryd sedd ar yr Ymddiried- aeth. -0- Yr ydym wedi ateb y trydydd gofyniad wrth geisio ateb yr ail, ac felly awn yn mlaen at y pedwerydd. Cynrychiola Mr. Behenna y fasnach lo yn Neheudir Cymru. I Aliforwr yw wrth ei alwedigaeth, ac i borth- ladd fel Llanelli y mae hyny mor bwysig i ni I ag unrhyw gynrychiolaeth fedrwn gael. ^Grwyddom fod tuedd y dyddiau rhai'n i ofalu fod Llafur yn cael cyflawn gynrychiolaeth. Y mae gan Lafur ei hawliau, yn ddiamheu, ac nid yw ond teg a chyfiawn fod yr hawliau hyny yn cael eu cydnabod yn briodol. Credwn yn gydwybodol fod y duedd hon yn cael ei chario i eithafion mewn llawer cylch, ac, yn ddiamheu, y mae Ymddiriedaeth y Porthladd yn un o'r cylchoedd hyny. Nit..( Cynrychiolwyr Llafur sydd eisieu fwyaf ar yr Harbour Trust, ond Cynrychiolwyr Cyfalaf. Nid dynion i ofalu fod pob gweithiwr ar y Doc yn cael chwareu-teg, fe ofala eu hundebau hwy am hyny,-ond dynion fedrant lywodraethu a dwyn masnach i'r Porthladd, fel y bydd y gweithwyr yn cael digon o waith, a'r Trethdalwyr gyllid ychwanegol o'r Doc. Un o'r rhai hyn yw Mr. Behenna. Dydd Llun diweddaf, dywedodd 4f Rhowch i mi bedair troedfedd o ddyfnder o ddw'r yn ychwanegol wrth y goleudy, ac yr wyf yn addaw i cbwi yn Pendant y bydd i mi allforio o'ch porthladd cyn pen dwy flynedd dros ddau can mil o dunelli o lo yn flynyddol. Nid wyf yn J gwybod beth sydd yn angenrheidiol er cario allan eich cytundeb a'r Bangc, ond yr wyf yn gwybod eich bod yn cael cynyg rhagorol peidiwch ar un telerau ganiatau iddo slipio drwy'ch bysedd. Os ydyc-h am fod yn boithladd llwyddianus, peidi weh oedi mewn unrhyw fodd i gario allan y cytundeb a'r Bangc, fel y byddwch mewn sefyllfa i ddyfnhau y sianel, a sicrhau drwy hynv borthladd fydd yn fendith i'r dref." Y roa(-r addewid hon yn weith ei chael, ac 0 id iwi th ein hadnabyddiaeth o Mr. Behenna bydd yn sicr o'i chyflawni os gosoda y dref ef mewn safle i wneuthur hyny. -0- Golyga allforio 200,000 o dunelli. o lo yn ychwanegol o'r doc, el w uniongyrchol o £ 3,500 yn flynyddol i'r dref, heb gyfrif y dadforion ddichon y llongau hyny ddwyn i fewn i'r porthladd, na'r arian a werir gan y morwyr yn y dref. Rhwng y ewbi, ciedwn y byddai y cyllid dderbynir o'r porthladd yn ddigon i dalu holl hawliau y Bangc ar y dref, ae ychydig dros ben i ysgafnhau y beichiau llethol sydd ar ysgwyddau y Trethdalwyr yn bresenol. Yn fuan, cynelir cyfarfod cyhoeddus er ystyried y priodoldeb o fyned yn mlaen a'r Bil Seneddol er sicrhau y cytundeb a'r Bangc, ac hyderwn na fydd i'r Trethdalwyr gymeryd eu hudo gan unrhyw un sydd yn cymeryd amo ei fod yn deall y cwhl, a thrwy hyny atal y dref i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hunan yn nglyn a'r porthladd. Dywedwn yn ddibetrus ein bod heddyw mewn safle na fuom ynddo erioerl o'r blaen, ac os caniatawn iddo slipio drwy'n dwylaw, na fydd i ni gael y fath fantais fyth mwy. Yr ydym yn cael cynyg X237,000 yn 01 3 punt y cant, tra y maent yn Abertawe yn gorfod talu 3 am bob X97 10s. dder- byniant. Y mae llwyddiant dyfodol Llanelli yn ymddibynu ar yr hyn a wnant yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
 Clywedion o'r Pedwar Gwynt.…
 Clywedion o'r Pedwar Gwynt. ¡ Clywed, gydag awel y mor, swn cab yn myn'd i un eisteddfod, a taw y rheswm iddo gael ei hurio oedd fod y ddau gystadieawr yn saff o'r prize cyn starto. Clywed fod y beirniad wedi dangos yn rhy blaen ei fod yn ochro, a'i bod yn bryd iddo ddiwygio rhag cywilydd. Clywed nad oes un o'r clic wedi enill gwobr erioed am draethawd, penillion, nac hyd yn nod llythyr caru byddai hyny yn fwy o enw iddynt na'r gwobrau y maent yn gael yn awr trwy sgeman. Clywed un o'r clic yn dweyd ei bod yn ben arno ef am gael gwobr mwy, acbos y clyw- edion ar y "Mercury," Trueni hefyd, ac yntau wedi talu mor ddrud am ddysgu. Clywed fod boss y clic yn bragio ei fod ef wedi enill mwy o wobrau na neb, a bod ei ddysgyblion yn enill mwy na dysgyblion rhai ereill. Dim rhyfedd, achos en cael hwy y maent i gyd. Cly wed fod aelodau'r clic yn dda am gadw 'stwr os dygwydd i rywun y tuallan i'r clic i enill. Clywed amryw yn gofyn ffordd y mae un o'r clic yn dodi ar y newspapers bob prize y mae yn enill, ac wedi pallu dodi dim am y prize diweddaf gafodd. Yr ydym yn gwybod. Clywed fod un o'r clic ddim yn myn'd i adrodd rhagor, am na fydd shiawns am ragor o wobrau, oherwydd fod rhai y tuallan i'r clic yn gwybod am y tricks. Clywed fod un adroddwr hunanol wedi enill prize unwaith trwy i'w dad wneud cymwynas i'r beirniad, drwy arbed bywyd ei geffyl. Clywed ei fod wedi cystadla bob tro dan yr un beirniad ar ol hyny, ond. ddim wedi enill unwaith, a bod ei dad yn dechreu danod y ceffyl iddo. Clywed, pe b'ai y beirniad hwn yn yfed, y cawsai ddigon o gwrw am ddim. Clywed taw'r u Groes Ddu yw favouvite piece un o'r clic, am ei fod wedi sgernan mwy o wobrau drwy ei adrodd na'r un darn arall. Clywed ei fod wedi rho'i un darn heibio ) am i un beirniad gonest ddweyd ei fod yn ddarn dieuaid. Clywed un o'r clic yn dweyd fod y wobr ddiweddaf enillodd wedi costio mwy iddo na gwerth y gadair-rhwnz rho'i yr haner-gini i boss y clic a rho'i footing y gadair i amryw, I iddo wario sofren gyfan. Clywed i un adroddwr da fyn'd yn dost wedi dydd Gwener y Groglith a'r Sadwrn canlynol. Dim rhyfedd. Clywed ei bod yn bryd i adroddwr hunanol sy'n adrodd "Flarri Dafydd, Bwlchgarw," ddvsgu darn arall, belifich-os gall ef. Clywed ei bod yn hen bryd i'r adroddiad, Arvverthiant y Caethwas," gael ei anghotio, a dysgu adroddiadau mwy newydd i'r pupils. Clywed, o gyfeiriad y dwyrain, fod y clic yn fond iawn o ddysgu adroddiadau ar ol adroddwyr da, ac nad ydynt vn gallu dysgu darnau newydd eu hunain. Mae hyn yn wir gyd. Clywed fod eynllllniau ar waith pwy o'r die sydd i gael y wobr yn Mhenbre bod un o honynt yn dweyd taw 'i dro fe yw hi i fod- nad yw ef wedi cael gwobr er's llawer dydd. Clywed fod un beirniad wedi gwobrwyo yr un baehgen saith waith o'r bron, a bod gwyr y clic yn ynfyd. Nid oes un gystadleuaeth yn onest os. na fydd un o honynt hwy yn enill. Clywed, mewn tafarn, taw un o'r clic sydd i enill y National y tro nesaf os ceir y plans i weithio. Ciywed fod lluniau rhai adroddwyr yn cael eu dosbarthu er mwyn bod yn siwr o'r wobr, a swlit nen ddau gyda hyny. Clywed taw mewn cwrw yr oeddid yn talu am wobrwyon er's llawer dydd, ond taw yn sych y mae y beirniad am gael ei dalu yn awr. I CYSTADLEUWR GONEST. ANWYL SYR,—Yn gymaint a hod rhywun caredig ei ysbryd yn y Mercury diweddaf yn ensynio mai myfi yw ysgrifenydd y Clywedion uchod, a'i fod ar gefa hyny yn ysgrifenu dipyn yn genfigenllyd, byddaf yn dra diolchgar i chwi am gyhoeddi nad oes a fynof fi, na neb yn perthyn i mi, a Chlywedion y Pedwar Gwynt," nac unrhyw glywedion ereill yn y Mercury." Yr eiddocb, Swansea Road. E. WILLIAMS.
I FELINFOEL.
I FELINFOEL. MR. GOL.Dyniunaf am ofod fechan o'ch papyr pobloaidd ) r wythnos hon i gofnodi rhai pethau sydd wedi cymeryd lie yn y penti-ef hwn yn ddiweddar. Gan fod y Mercury mor boblogaidd, credaf mai teg fydd gwneud yn liysbys, trwy ei dndalenau, am un peth gymerodd le nos Sadwrn di- weddaf (Ebiill 16eg) yn Ngwesty y Dderwen Freiniol, Felinfoel, yn nglyn a'r Gymdeithas sydd yn cael ei chynal yno, sef y Brodyr Diwyd. Cychwynwyd y Gymdeithas hon tua saith mlynedd yn ol, ac ar y cychwyniad dewiswyd y Brawd John Price, Adulam Row, yn ysgrifenydd iddi, ac y mae wedi bod yn y swydd oddiar hyny hyd Mawrth 19eg, 1910. Oherwydd amgylchiadau, y mae y Brawd John Price wedi symud o'r ardal hon i ymgartrefu gerllaw Poutyberem, a thrwy hyny wedi gorfod rho'i ysgrifenyddiaeth y Gymdeithas i fyny ac ar ei ymadawiad a'r swydd, y mae aelodau y Gymdeithas wedi gweled a theimlo y dylasent wneud rhywbeth fel arwydd o barch i John Price, a hyny trwy roddi iddo awrlais ardderchog, fel anrheg am ei ddiwydrwydd a'i ffyddlondeb yn ystod yr amser y bu yn y swydd; a nos Sadwrn diweddaf oedd y noson i'w anrhegu, pryd y dewiswyd y Brawd James Derrick i gymeryd at y gwaith o drosglwyddo yr awrlais iddo. Yn ei anerchiad, dywedodd y Brawd Derrick am ffyddlondeb a gweithgar- wch John Price, ac am lendid ei gyfrifon a'i gywirdeb, oddiar ddechreu y Gymdeithas hyd yn bresenol. Wedi hyn, trosglwyddodd yr anrheg; ac wedi i John Price ei derbyn, diolchodd am dani mewn geiriau byr a cbynes iawn, gan hyderu y byddai llwyddiant I ruawr eto yn dilyn y Gymdeithas yn y dyfodol. UN OEDD YNO. f
Y Tabernael, Pontyates.
Y Tabernael, Pontyates. Nos Fawrth, Ebrill 12fed, bu y brawd ieuanc galluog a darllengar, Mr. William Levi, o Bontyberem, yn pregethu yn Nghapel y Tabernacl. Er fod yr hin braidd yn anffafriol, fe ddaeth cynulliad da o bobl yn nghyd, a chafwyd oedfa lwyddianus, a phregeth ragorol. Am 6.30, cynelid cyfarfod y plant, pryd yr addysgwyd hwy yn hanes teithiau Crist gan y gweinidog. Y mae yr eglwys wedi penodi Mr. William Lewis, Penthenry, i ofalu am gerddoriaeth yr oes sy'n codi, ac y mae y cor plant yn ymbarotoi ar gyfer Cymanfa Ysgolion Dosbarth Llan- ddarog, a gynelir eleni yn Llangyndeyrn. Arweinydd y cor a'r canu cynulleidfaol ydyw Mr. D. Treharne, Waunygwiail: y mae yntau yn arweinydd dyogel a medrus. Da genym allu hysbysu fod yr eglwys ieuanc hon mewn ystad ganmoladwy gyda gwahanol agweddau y gwaith. Er's ychydig amser yn ol, ymwelwyd a'r eglwys, dros y Cyfarfod Misol, gan y Parch. Caleb Williams, Oydweli, a rhoddodd efe gymeradwyaeth uchel i'r frawdoliaeth am ystad ddymunol yr achos yn y He. Teimla pob aelod neu wrandawr dyeithr a ddaw i'r cysegr hwn ei fod yn dyfod i wir gartref crefyddol. Nid llawer o hen bobl sydd yn mhlith addolwyr y Tabernacl, ond haedda dau o honynt i gael eu benwi oherwydd eu ffyddlondeb i'r cyfar- fodydd, a'u safle barchus yn y gymydogaeth, sef y Meistri David Thomas a John Griffiths -y ddau dros eu 80 oed ond er cymaint yr oedran, y mae y ddau yn meddu ar lawer o ieuengrwydd ysbryd. Cofiwn hefyd am Mr. Joseph Jones, ag sy'n glaf er's tro. Fe gymer yntau ddyodordeb arbenig yn yr achos goreu. Cydymdeimlwn yn fawr a Mr. Griffiths yn ei brofedigaeth ddiweddar o golli ei anwy l briod. Yr oedd Mrs. Griffiths hefyd yn aelod eglwysig gwerthfawr yn y Tabernacl, a theimla yr eglwys chwitbdod ar ei hol. Yn Nghyfarfod Misol Cwmdwyfrau, fe basiodd cynrychiolwyr eglwvsi y sir ben- detlyniad yn mynegu eu cydymdeimlad a Mr. Griffiths: dengys hyn fod y Metliodist- iaid yn gwerthfawrogi llafur a ffyddlondeb Mr. Griffiths yn nglyn ag achos crefydd yn Mhontyates. Dymunwn bob llwyddiant i'r eglwys a'r gynulleidfa ag sy'n atfer ymgynull yn y Tabernacl bydded iddynt barhau i gerdded rhagddynt megys y gwnaethant o'r cych wyn. Llwydded crefydd hefyd yn gyff- redinol yn y gymydogaeth. GWYLIEDYDD. I
IClywfedion o'r "Ty Pwyso."…
Clywfedion o'r "Ty Pwyso." I Clywed fod y Cystadleu wr Gonest" wedi methu cysgu ar ol y Clyweilioii o'r 'Ty Pwyso' yr wythnos ddiweddaf. Clywed ei bod yn edifar ganddo, erbyn byn, iddo ysgrifenu dim. Gwn na buasai wedi traethu gair pe buasai ei fitb wedi llwyddo i gipio'r wobr am y traethawd neu y penilvion mewn eisteddfod neillduol y Grog- lith. Clywed fod C. G." wedi myned i gystadlu i Lwyahendy un tro, o dan ei I weinidog, ac yn herwydd iddo beidio ei wobrwyo, fod llai gyferbyn a'i enw tuag at y weinidogaeth byth oddiar hyny. Clywed, cyn i'r pwyswr ddod, iddo addaw gwobr i aelod o'r clic (fel y geilw efe hwy) os cawsai efe yr order nesaf. Clywed, y tuallan i'r Ty Pwyso," fod C. G." ar y blaen un tro-nid mewn areithyddiaeth, ond mewn peth mwy cydnaws a'i ysbryd. Clywed fod adroddiad newydd i ddod allan yn fuan-" Nothing to do with the dead." Clywed y gwr a'r llais gwichlyd" yn achwyn nad yw yn cael digon o dal am hyfforddi rhai i adrodd. Clywed yr un gonest yn ymffrostio fod f dwy linell yn Dinystr yr Alabama" nad oedd y beirniad ei hun yn eu deall. Wrth gwrs, yr oedd Epg yn eu deall. Clywed nad yw C. G." byth yn adrodd darn os na bydd ynddo wets bwysig. Clywed y dylai "0. G." 10sgi "Y Cwac Anffaeledig," a darnau tebvg sydd uanddo- ei fod wedi adrodd "ligon arnynt, bellach, er eu bod yn amddifad o wers. Clywed, o ganol y llwch, na ddaw Lloyd I George byth cystal dyn » C. Gonest." Clywed nad ydym wedi cael tone ar y "'Stori Gyffredin er ys llawer dydd. Gall areithydd fel C. G." adrodd 'stori fel hon yn dda. Pa'm 1 Clywed y dylai efe gofio am "Shot in the Back." Buddugoliaeth anrhydeddus oedd hono i'r Carmarthen Boy. Y PWYSWR.
Capel Emmanuel, y Doc Newydd,…
Capel Emmanuel, y Doc Newydd, Llanelli. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chwrdd 'II pregethu haner-blynyddol dyddiau Sul a Llun diweddaf, pryd y pregethwyd gan y Parch. G. R. Cole, Tondu, yn alluog a derbyniol i I gynulleidfaoedd Ilaosog. Dechreuwyd y i gwahanol oedfaon gan y Parchn. G. R. Cole I a P. Phillips, James Street.
Yehydig Linellau er Cof I
Yehydig Linellau er Cof I Am ein brawd ymadawedig, adnabyddus wrth yr cnw John Jenkins, Tyrhyn, Llannon. O wanwyn, gwenwynig yw'th gynwys, Rhai bronau'n ddolurus v sy' Hir ddysgwyl fu yma am flagur, I A nwyfiant o gwmpas pob ty Gwel'd bywyd yn pefru o ymdrech, j Y gan yn y goedwig a gawd, 1 Molawd yr afon yn dyner, ? Ond bwthyn y weddw yn d'lawd. j Ragluniaeth dy droion sydd ddyrys, I I'n dynol esboniad nid gwiw Ceir dadgudd ar ffyrdd yr Anfeidrol ¡ Doeth sydd Lywydd gan Dduw Os anhawdd cymod a'r chwerw, Gobeithia try Elim yn salm Paid aros, na chyffwrdd a'r cwmwl, Gad allan nodiadau'r paham." Ti weddw, tyn allan, rho wybod Dy brofiad yn unig i Dduw Cei wybod fod ynddo Ef ddigon 0 falm er adteryd dy friw; Fe'th glwyfwyd cyn yma wrth ddringo, ¡ Bu ymdrech yn ddyfal ddi-gwyn Dy nodded bryd hyny oedd agos, Mae goreu y Crist er dy fwyn. Hiraeth a'th letha wrth gofio, Nad oes genyt gydmar yn bod; Aeth John, mab tangnefedd, i'r Wynfa, I'r Duw a'i cymerodd bo'n clod; Cei dithau fyn'd ato yn fuan, Dymuniad dy oreu yw hyn, Diolcha'n feunyddiol, na pheidia A chadw dy brofiad yn wyn. Yna ni raid iti wylo Er rhoddi dy briod mewn bedd, Mae ef o ran ysbryd yn ddedwydd Yn nofio mewn cariad a hedd Ti wyddost fel bu pethau yma, Cei wybod rhagoriaeth y nef, Rho ogwydd dy enaid ar lesu, Dy obaith yn unig y-w Ef. Llannon. — E. G. G. I
Advertising
BAKE with the assurance MM of SUCCESS by using BORWICKIS J f BAKING POWDER.
I Coroniad " Morleisfab."
I Coroniad Morleisfab." I I « [PAKHAD.] I Morleisfab," mawr ei ysfa,—ei alia Enillodd drwy Walia ¡ Daw Arfon sain y dyrfa, A brwd ernyu i'r dyn da. Cawr a nyddwr Carneddi,—yw heno Dau swynion coroni A glew frawd mysg Gwalia fri 0 beraidd ddawu barddoni. Yn ei awdl wele'r odlydd-yn esgyn I rwysgedd coronydd Yn ei dawn bed can y dydd, A'i bri boewaf drwy'n broydd. Cawr o yni coronog-inab y Llan Yu mhob lie, gwr enwog Dan hwyl a gwledd mor fawreddog, Yn fawl i gyd mae fel y gog. Goruwch ystyr gwaith gorchestol,-cipier Bob copa ymgeisiol Nes mynid gadewid-hol Yn wyl iaith 'run Genedlaethol. Bryn. GEO. WILLIAMS. -0- Llwydd i fardd hardd Yr Ardd ber i—fyw'n I fwynhau'i goron fri; [hir A nef o fel, Naf a'i foli, gwneud myrdd 0 gerddi gwyrdd myg Ardd y gerddi. Crosshands. MATHRY. Mae Afon Llwchwr, a'i chwaer Gwili, Yn eu gwelyau bron a berwi, Gan y gwres sydd yn croesawi Coron arian bardd Carneddi. Pontardulais. EDGAR THOMAS. -0- Mae plaut y Llan yn gwenu'n lion Wrth weled eu henwog fardd Fel ymherawdwr ger ein bron, Yn gwisgo ei goron hardd. Nid oes yn ei goron berlau 'Nawr uwchben ei wyneb glan, Ond mae perlau hardd a gemau ¡ Yn dysgleirio yn ei gan. I Os mai'r Brenin Edward heddyw Sy'n rheoli Prydain Fawr, Wele yma wron gloew Heno'n frenin ac yn gawr. Nid o etifeddiaeth cafodd, Nid ychwaith drwy rym y cledd Ond ei dalent bur enillodd, Ac a'i cododd i'r fath sedd. Newid ei enw raid mwyach Ddaeth ag anrhydedd i'r lie Gelwir ei enw ef bellach- Morleisfab, Brenin y De." Cydweli. JAMES JONES (Perenog). Y dyn goreu dan goron-a welir, 0 Walia y Brython Lluniaf o'r Ilenorion lion Yw yn nglyn ag englynion. Hen athraw'n llawn o atbroniaetb-yw'r gwron Gariodd fuddugoliaeth; Drwy ei gerdd ca'dd ragoriaeth—ar naw gwr, O'i aruchel d\'r cadd oruwehafiaeth. Llangennech. ARDYN. Mae yma fardd talentog- Y goreu yn mhob man Enillodd goron berlog Sy'n anrhydedd byth ilr, Lian. Llangennech. ISAAC JONES (81 oed). —o— Bentrsfwyr oil sydd yn Llangennech, Cyfeillion lawer na feddyliech Llawenydd mawr sydd yn eu mynwes- Llwyddianus fardd yw'r achos cynes. Meddianydd ydyw'n bardd presenol Ryfeddol anian ddiamheuol; Dyfeisiwr goreu yn 'r eisteddfod, Cyflawnwr balch o'r dysglaer gyrchnod. Enwogi'r pentref wnaeth -1 Morleisfab," Anfarwol byth fydd ein hanwylfab Meddyliwr hynod, mae e'n enwog, Morleisfab wnawd yn fardd coronog. Llangennech. AP IOAN GLANMOR. -0- I fardd yr Ardd rhown hwre,—haedda un Ddaeth o ddeg yn ore O'i fodd llefarodd efe, Heb lediaith am ei blode. Ei cbyfrinach fireina'-hudodd ef I Gyda'i ddawn hyfryta'; I'w swyn hoff yn nhlysni ha', Dyma'i thyst yn Methesda. Gwobrwywyd gwiwber awen,—a chludwyd Ei chlodydd i'w pherchen A choron brid Ceridwen Yn addurn bydd ar wyn ben. Llwynhendy. T. DAVIES (Gardde). I
Atebion i Ddychymyg ' Myrddinfab.'I
Atebion i Ddychymyg Myrddinfab.' I Am ben dychymyg Myrddinfab Chwerthinais i yn iachus, Wrth wel'd bod dyn a dryll go dda Yn helwr digon medrus; 'Roedd saith o adar ar y mur, 'Rwy'n dweyd y gwir am danynt, Fe saethwyd un i'r llawr fel hoJI, 'Doedd dim ar ol o honynt. Tumble. MYRDDFRAWD. -0- Yr oedd dyn a dryll go dda, Yn hela yn y gwanwyn, Saethodd un aderyn hardd 0 saith yn ngardd y Myrddin; Cwympodd hwn i'r llawr fel hoel, A chwech aeth bant yn sydyn. Gwelwch 'nawr nad oedd ond un Yn ngodreu gardd y Myrddin, Ac er mwyn mwynhau fy hun l'I Tumble af gael loshin, A bwyta wnaf efo'm mun Y loshin gaf gan Myrddin. Dyn saethodd at saith aderyn,—un gwympodd Fel ho'l, aeth yn dwlpyn; Chwech aeth ffwrdd yn sydyn, Myrddin, Un ar ol,-i fi mae'r loshin. BENI.
IThe Beat-a-ll The Beat-ali…
IThe Beat-a-ll  The Beat-ali O?ntm?ni. I THE MABVELLUIIS OURR. Guaranteed to cure in an exceedingly short period pimples, chill blains, burns, scalda, chapped or dry hands, boils, carbuncles, acabt (wet or dry), barber's itch, eczema., and &U other eruptions of the skin. Mothers who require their breasts dried will receive im- mediate relief by the use of the ointment. It will prevent gangrena, etc. Supplied in boxes at Is. lid each. Apply for the aame to the patentee and sole manufacturer- Mr. D. W. WATKINS, Burry Port. COPIES OF TESTIMONIALS. Coalbrook Lodge, Cross Hands, February, 1910. Dear Sir, Having suffered a great deal with boils. which caused me much inconvenience and expense, I was visited by a friend, who recom- mended your ointment known as the Beat-All, which I used with great success. After the few first dressings I have had a complete cure. I shall always keep a box in the house, in case of emergency. It is also very good for cuis and burns. I am. yours truly, DAVID VAUGHAN.
Advertising
J. DAVIES & SON, A.M.I.CE, M.S. A., CIVIL & MINING ENGINEERS, ARCHITECTS, SURVEYORS, VALUERS, ESTATE AGENTS & AUCTIONEERS, COWELL HOUSE, LLANELLY, AND LLWYDCOED, CROSSHANDS, Sales by Public Auction or Private Treaty of Pro- perties, Plant. Stock, etc. Surveys, Plans, Valuations, Reports, Life, Fire, Accident. Illness, and Workmen's Compensation Insurances. Telegrams Davies, Surveyors." Telephone 367 National. Established 1854. 2426 The Charing Cross Bank. Established 1870. CARDIFF BRANCH-73, ST. MARY STREBT, Head Offices :-28, Bedford Street, Charing Cross, London and 39, Bishopsgate Street Within, London, B.C. Branches: Manchester. Liverpool. Leeds, Bradford Bristol, Ac., Ac. Assets. 21,607,949; Liabilities, 21,2-36.871. Surplus, 9371,078 LOANS of L,30 to £2,000 granted at a íewv hours' notice in Town or Country, on personal security, jewellery, precious stones, stocks, shares. and furniture without removal. Stocks and Shares bought and sold. 2t per cent, allowed on Current Account Balances. DEPOSITS of ieio and upwards received as under:- Subject to 3 months' notice of withdrawal, 5 per cent. coraa* 11 6 11 11 11 6 12 „ 7 Special terms for longer periods. Interest paid quarterly. Owing to the nature of our investments, we are able to pay rates of interest on deposits that will compare favourably with dividends paid on almost any class of stock or share- holding insuring the safety of capital. We have been established for 40 years, and our position in the banking world to-day testifies to the success of our business methods and to the satisfaction of our customers. Write or Hi for Prospectus. A. WILLIAMS & H. J. TALL, Joint Managers ASK OF THE OWL ? and he will wisely advise » a you to use Bliss Native JK J } Herbs-the Original Herb fiB I Compound-the common- J? j sense remedy for purify- gaS I S ing the blood, toning the II | | liver, restoring the kid- J??m ?' neys, correcting constipa- ?S y | tion and rheumatism, and J?[ ? putting the entire system raft ? in perfect health. Many Tlillf* ? testimonials in our Alma- 'B g ? nac tell of wonderful N? i? cures-and the cost is so j? | little-only 4/- for a box W ? w of 200 tablets-enough for y | j the whole family. Re- I J member the name-BLISS. I t FOR SALE BY | WILLIAM DAVIES, Glasfryn, Dunraven Terrace, Gowerton, Glam. Mrs. EVANS, 30, TREBANOG RD., CIMMIB, FORTH, says: I was crippled by Rheumatism and had to use crutches. Bliss Native Herbs has conquered the pain and made me well. HARMLESS. IMMEDIATE. PURE. NOTHING DANGEROUS IN — PRESTO DOWDERS for Headache. I for Neuralgia, for Toothache, for Quinsy ACCEPT NOTHING ELSE. RUN NO RISKS. Box (If 12, j W. DAN IKS it <T)., Klasfryn, .j Agencies ]S lrl <T<>\verron, WA"K". offered. FOR SALE.-Stephens' Ink (the best in the market), Carr's Inks, and Webster's Inks, Fountain Pens, Letter Files, and all kinds ol stationery useful to house or office, at lowest prices, at the Mercury" Office. 21 Markta fltXMft
IMaescanner, Dafen.I
Maescanner, Dafen. Prydnawn Sul diweddaf, cynaliwyd cyfar- fod chwarterol Ysgol Sul yr eglwys uchod. Llywyddwyd yn ddoeth a phwrpasol gan ein gweinidog ieuanc, y Parch. T. R. Williams. Dechreuwyd y cyfarfod gan y brawd ffydd- lawn Daniel Owen, Cwmnant. Yna cafwyd adroddiadau gan Mary E. Daniel ac Eddie Williams, Trosmaen can, "Y Nef," Miss Ol wen John adroddiad, Meddyliau Plent- yn," Miss Edwina John ton, plant y festri, dan arweiniad Mr. Willie Treharne; ad- roddiad, Miss Rachel Anne Daniel; can, Miss May Jones j adroddiad, Miss Maggie Jones; can, "O! rho'wch i mi Bregeth Gymraeg," Miss Ethel B. Owen arholiad ar Ddirwest," plant y festri adroddiad, Bedd y Dyn Tylawd," Miss Gwendoline Griffiths; can, 'Rwy'n myn'd i'r nef," Miss Edith May Davies; adroddiad, Cynghor Mam," Miss Mabel Williams; can, Miss Ethel B. Owen; adroddiad, Beth sy'n Hardd 1" Miss Sarah Anne John ton, plant y festri; adroddiad, Miss Elizabeth Ann Griffiths adroddiad, Goleuni y Byd" (gwaith Ben Bowen), Tom Sidney Bowen; pedwarawd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Mr. David J. Morgan a'i gyf- eillion Cafwyd cyfarfod buddiol, a naws y nef ynddo. Trefnwyd y rhaglen odidog gan yr arolygwr, y Brawd Tom O. Morris. Yr oedd y plant bycbain yn canu yn gampus, a'r arweinydd ieuanc, y Brawd Willie Treharne, yn arwain yn orchestol. Nid rhyfedd i'r anfarwol Ben Bowen ganu mor dlws :— Oes ar glust yn unlle'n disgyn Fiwsig gwell na moliant plentyn ? I Gydag hyfrydwch y dymunaf longyfarch I awenydd athrylichgar Maescanner, sef Mr. I Ben Davies (Pelydrog), ar ei lwyddiant anrhydeddus eleni eto yn Eisteddfod Fawr- eddog Goginan, Ceredigion, Wener y Groglith. Enillodd y clod a'r gwobrau am y darnau adroddiadol i blant dan 10 a 14 oed, a'r darn heb atalnodau." Y beirniad oedd yr awengar ° Twrchfab," Penyparc. Pel- yd rog" enillodd y tl ws arian (gold centre) y llynedd am y darn desgrifiadol o'r Ddaear- gryn yn Sicily," gyda chymeradwyaetb uchel, ac hir y cofir yr adroddiad campus gawd o hono yn ein heisteddfod ar ol hyny. Pro- ffwydwn ddyfodol llwyddianus i Fardd I Cadeiriol Dafen. EDMYGWR. I