Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

NODION WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION WYTHNOSOL. Y mae y frwydr wleidyddol yn myned yn ei blaen megys yn anterth ei nerth, a chyn belled ag a fyno y Blaid Ryddfrydol a'r cwes- tiwn, yn dra boddhaol. Gellir dywedyd yn ddibetrus fod hoffwyr rhyddid a chyfiawnder yn cerdded yn drwm drwy y tir y dyddiau rhai'n. Y mae eu hegwyddorion wedi cael eu gosod i brawf, ac, i bob ymddangosiad, deuant allan o bono fel aur wedi ei buro drwy dan. Er cymaint yr anwireddau daenir led-led y wlad gan y Ceidwadwyr a'r Anghredinwyr (sef y blaid hono a adnabyddir, fel rheol, wrth yr enw "Sosialiaid "), eto i gyd y mae mwyaf- rif mawr o drigolion y wlad wedi glynu yn dyn, ac wedi sefyll yn ddiysgog, wrth yr egwyddor- ion a broffesant, fel y medrwn ddywedyd yn ddibetrus, erbyn heddyw, mai Sppedd Rydd- frydol fydd Seiiedd igii. Canfyddir ein bod wedi rhoddi taw newydd spon-sef Anghredinwyr "-il r bobl hyny 3. Jionant cu bod yn cred n mewn Sesjal&§th^pa beth bynag a olygahyny. Hona rhai gweinidog. ion eu bod yn credu mewn Sosialaeth Gristion. ogol," a gyra byny ni yn mhellach nag erioed. Gwyddom rywbeth am egwyddorion Cristion- ogaetb, a gwyddom hefyd ychydig am eg- wyddorion yr hyn a elwir yn Sosialaeth ond pa beth yw Sosialaeth Gristionogol" nid oes genym yr amcan lleiaf. Amcan al thuedd yr egwyddorion Cristionogol yw dyrchafu dynoliaeth drwy fod pob un i wneu- thur aberth dros ereill, gan ddwyn beichiau ein gilydd. Amcan a thuedd Sosialaeth yw codi y gwan yn unig, a hyny ar draul gostwng y cryf: dysgwyl i ereill i ddwyn y beichiau, tra y bjddwn ninau yn edrych yn mlaen ereill i aberthu, ac, os bydd modd, i niuau i gael rhan go helaeth o'r anrhaith. Yr oil i mi, ac ereill i ofalu am Jack fy mrawd. Pa fodd, felly, y gellir uno Cristionogaeth a Sosialaeth, a galw yr uniad yn "Sosialaeth Gristion- ogol ? Heblaw hyny, nid yw y dynion a honant eu bod yn Sosialiaid yn credu yr hyn a broffesant, ac felly nis medrant gredu eg- wyddorion Cristionogol. Nid Sosialiaid mo honynt, ond Anghredinwyr. -0- Y mae blaenor y Blaid Sosialaidd wedi peidio a chymeryd dyddordeb mewn dim. 51 Yr wyf," ehe Mr. Robert Blatchford, yr Anffyddwr ell-ymodlawn, Ilyn metbu teimlo I dyddordeb yn yr ymgyrch wleidyddol bre- senol. Nid wyf yn hidio dim am Dy yr Arglwyddi, nac ychwaith am Lywodraeth Gartrefol i'r Iwerddon, nac ychwaith am Ddyfarniad Osborne, na 'chwaith am y Tori- aid, y Rhyddfrydwyr, na Phlaid Llafur." Paham y mae Mr. Blatchford wedi myned i deimlo fel hyn ? Am ei fad wedi gwneuthur ei ffortiwn ar gefn cruglwyth o ffyliaid, ac yn awr teimla ei fod yn hollol aunibynol oddi- wrthynt, ac mai ei ddyledswydd yn ol llaw yw mwynhau ei hun i derfyn ei oes. Nid yw Mr. Blatchford heddyw yn credu yn y sothacb a gyhoeddai gynt yn y Clarion," ac, yn ddiamheu, crechwena a chwerthina yn galonog am ben y rhai sydd yn ddigon gwasaidd i'w credu. Y mae yn talu y ffordd yn dda i rywrai i honi eu bod hwy yn Sosialiaid: casglant gyfoeth mawr yn nghyd drwy anog ereill i goleddu y syniadau ond yr hyn sydd yn rhyfedd yw, nad yw y blaenor na'i ganlyn- wyr yn credu dim yii yr hyn a broffesant. -0- Y mae Keir Hardie yn Sosialydd mawr iawn. Y mae gyda'r mwyaf sydd genym yn Nghymru ar hyn o byd. Efe yw blaenor yr I.L.P. (Plaid Annibynol Llafur), ac y mae ei ganlynwyr yntau yn dra lluosog y dyddiau byn. Y mae yr egwyddorion Sosialaidd yn talu yn dda iddo. Drwyddynt, y mae Ethol- wyr Merthyr wedi ei ddychwelyd i'r Senedd, ac oddiar y mae yn Aelod Seneddol y mae wedi fforddio cymeryd gwibdaith o amgylch y byd. Bu yn India, yn Australia, yn Canada, ac yn Neheudir Affrica, yn bau hadau gwen- wynllyd ya erbyn y Llywodraeth Brydeinig, ond, yn ddiddiolch iddo ef, nid ydynt wedi dwyn llawer o ffrwyth. Oddiar y mae yn flaenor yr I.L.P., y mae wedi medru gwario canoedd lawer ar ei bleserau ei bun, end pa faint y mae wedi wario ar weddwon ac am- ddifaid y wlad ? Medrodd greu ychydig gynhwrf yn Nhy y Cyffredin parthed yr hedd. geidwaid a'r milwyr ddanfonwyd i'r Rhondda ac i Aberdar, ond pa faint ddaeth allan o'i logellau i roddi bwyd i'r trueiniaid sydd yn dyoddef ei angen yn y parthau hyny ? Medrodd wario canoedd o bunau ar yr Etholiad yn Merthyr y dydd c'r blaen,—os yw yn credu yr egwyddorion a broffesa, ai nid gwell fyddai iddo eu gwario ar ddyoddefwyr y Rhondda ac Aberdar ? -0- Y mae Mr. C. B. Stanton wedi myned i Ogledd Morganwg i wneuthur ymdrech i daflu yr Ymgeisydd Rhyddfrydol allan yn yr Ethol- iad presenol. Gwaria yntau ganoedd lawer o arian y mae glowyr Cymru wedi llafurio yn galed am danynt. Ai nid gwell fuasai i'r gwr hwn, os yw yn credu yn yr egwyddorion a broffesa, i gyfiwyno yr arian hyny i borthi y lluoedd sydd yn newynu o eisieu bara yn Aberdar ? Gwariodd Mr. Vernon Hartshorn ganoedd lawer o arian glowyr Cymru, y dydd o'r blaen, i dreio enill Sedd Seneddol yn Morganwg oddiar y Rhyddfrydwyr, a hon yw yr ail waith iddo wneuthur hyny y flwyddyn hon. Cafodd arddeall yn ddigamsyniol gan yr etholwyr y tro cyntaf, sef yn Ionawr di- weddaf, pan geisiodd fyned a'r sedd oddiar Mr. Gibbins, nad oeddent am ei gael fel Cynrychiolydd Seneddol, ac y maent wedi gwneuthur yr un peth eto. Wrth gwrs, nid yw yr Etholiadau yn costio yr un ddimai iddo, ond onid yw yn drueni fod arian y gweithwyr yn cael eu gwario yn y modd hwn, yn hytrach na'u bod yn cael eu defnyddio i bwrpas gwell ? Os yw Mr. Hartshorn yn Sosialydd, fel y proffesa ei fod, paham na f'ai yn ddigon o ddyn i ddywedyd, Na: cymerwch yr arian i borthi y gweiniaid newynog sydd yn y Rhondda ac Aberdar ? Y mae yr ychydig enghreifftiau hyn yn ddigon o brawf nad yw y Sosialiaid yn credu dim yn yr hyn a broffesant, neu ni fuasent yn gwastraffu cymaint ar hunan-ddyrchafiad, yn hytrach nag ar godi y gwan i fyny o'r Ilaid, a'r newynog o'r domen. Gwelir, felly, fod yr enw "Anghredinwyr" yn enw llawer mwy cyfaddas iddynt na'r enw Sosialiaid." I Os cymerir eto i ystyriaeth ymddygiadau y Blaid Anghrediniol yn yr Etholiad diweddaf yn Nwyreinbarth Sir Gaerfyrddin, ac yn neillduol felly ymddygiadau y giwaid anwar- aidd hyny berthynant iddi sydd yn trigianu yn Llangennecb, credwn yn ddiysgog na fydd i unrhyw un sydd yn feddianol ar y groyn lleiaf o hunan-barch fyth eto roddi ei bresenol- deb yn eu plith. Son am anwariaid sicr yw, pe cludid trigolion Canolbarth Affrica i gyfarfod Mr. Abel Thomas gynaliwyd yn Methesda, y byddent yn ymddwyn yn foesgar o'u cydmaru ag ymddygiadau aelodau y Blaid Anghrediniol y noson hon. Gwir fod y Toriaid yn taenu ystoriau anwireddus am y Rhyddfrydwyr yn adeg pob Etholiad, ond pan ddygwyddant roddi eu presenoldeb mewn cyferjpd Rhydd- frydig ymddygant yn foesol ac ya foneddig- aidd. Ond am y Blaid Anghrediniol yn Llangennecb, yr oeddent yn gyntaf wedi taenn celwyddau noetblym am Mr. Abel Thomas, ac yn ei gyfarfod ymddygasant fel bleiddiaid wedi eu gollwng yn rbydd yn mhlith praidd o ddefaid. Yr oedd yn bur amlwg eu bod yn greaduriaid nad kdynt yn I ofni Duw, nac yn parchu dyn. Os y vv y fath ymddygiadau yn sylfaenedig ar eu liegw y ddor- jon, y mae y Blaid fel Plaid, a'r aelodau fel I 1 J — I personau, yn warth ac yn waradwydd i Gymru. Yr ydym wedi myned i'r drafferth o gasgll1 yr boll ffeithiau yn nglyn ag ymddygiadau yr anwariaid hyn yn nghyf- arfod Mr. Abel Thomas, a rhoddwn ffrwyth ein llafur yn y colofnau hyn yr wythnos nesaf; a chredwn y bydd i'r adroddiad yru braw ac arswyd, fel cleddyfau dau-finiog, i galon pob dyn sydd yn feddianol ar ycbydig o synwyr cyffredin, pa un ai Tori neu Rydd- frydwr a fydd. I

IFORIAETH.

Cymdeithas Cymrodorion Llanelli.I

PENILLION I

Atebiad i Ddychymyg "Vaga."I

-Er Cof AnwylI

Advertising