Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.LLUNDAIN1 -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLUNDAIN 1 DYDD I AU, MAVTRTII 10. DERBtNIASOM bapupan EUmynaidd? J? N??? ? y rhai a. gynmvysant yr hysbysiaeth D gatilynol:-?? Y mae WiHiam Tywysog Orange? Wedi danfon cyhoeddiad i drigolion Utiol Dal- eithau'r Netherlands, o'r Hague ar yr ait o'r mis hwn yn yr hwn y inynega iddo alw ynghyd ,rdi olr dynion enwocaf, wedi cael o hoiiavv ei wahodd i gymmeryd llywodraeth y taleithan rhag-grybwylledig arno ei hun, mewn trefn i ffurlio trefn llywodraeth, gan orchymyn iddynt drefni cynllun o'r fath ffurf a fyddai yn cyfateb i arferion y bobl, ac angenion yr amseroedd pre- sennol.' Cymerasant y gorchwyl mewn llaw yn siriol, gan ei gyflawni yn awyddus, ac wedi hyny gosodasarit ffrwyth eu llafur o flaen ei Uchder Breninol, yr hwn, yn ol ei fanwl chwil- io, a'i cymeradwyodd. Gofalir yn y cynlluu uchod am anymddibyniaeth y wlad, diogelweh crefydd, yr hwn a ystyrir yn ffynon pob daioni; ac ni oddefir i rydd-did crefyddol gael ei allon- yddu gan neb achosion gwladol; ystyrir fod addysgu'r ieuenctyd mewn gwybodaeth gelfydd- ol gyifredin yn beth angenrheidiol gan y Lly- wodraeth; ac na chaiff rydd-did personol fod mwyach yn enw gwag. Pennodwyd ar ddir- prWywyr gau y Llywodraeth, y rhai ydynt i dùewls chwe' cant o bersonau addas o'r rhes lioso o enwau a roddwyd i'r Tywysog, yn gyf- arta-1 irifedi trigolion yr amryw daleithan, y rhai I, gymgynIlull ar yr o'r mis yn y brif ddina, Amsterdam; ond cyn y cymmero hyn Ie, rhaid i'r personau a ddewisir dros bob talaeth gael eu hysbysu i'r trigolion, ac ymae iJjfr i gaelei gadwyn agored dros wyth diwr- liod yn mhob un o'r taleithau, a gahvad ar bob un a fyddoyn cynual ty, ac mewn oed yn y cyfryw dalaeth ysgrifenu ei enw ar y cyfryw lyfr os bydd yn anghymeradwyo'r person a dde- wiswyd gan. y dirprwywyr, fel y byddo yr hwu ddewisir feddu yrnddiried y bobl, a phan ym- ddangoso i'r Llywodraeth fod rhan amtaf y tri- golion yn foddlon i'r cyfryw hessonai^ ystyrir hwy fel y cynnjrchiolwyr y bobl; a chknt ddechren ar eu llafur, ac hytbysu'r hyn a gy- ionir yn eu pUth i'r Llywodraeth. A chyn gyntcd ag y sefydlir y Aurf-lywodraeth yn y Wodd hyn, cymmerir y llw a drefair gan y cytryvv sefydliad gan y 1 ywysog ynghanol y gymmanfa. Mynega y Tywysog mai daioni a lies ei wlad yw y gwrthddrych penaf o'i flaen, a mai'r un y w aclios y bobl a'i achos yntef. Rotterdam, Muwrth 5.—Yr ydym yn dysgu o Goes iddynt glyyved saethu trwm yno ar yr all, yr hyn a achlysurwyd gan fynediad dwy long ar- fog o 50 mangnel yr un i'r Schelt, un yn per- thyn i Frydaiii a'r llall i Russia, ar y rliai v tin. odd y gwarchgloddiau Ffrengig o Flushing. Gly- nodd y ddwy long wrth y tir, ond nofiodd yr un Russaidd yn ebrwydd: danfonwyd badau arfog i ysgafnhau y llong Frutanaidd, yr hon oeddetto ar y ilawr, ond yr oedd allan o gyrhaedd tan y gwarchgioddiau. Cadarnheir yr hysbysiaeth o fod Castell Ve- rona (Italy) wedi ei roddi fynu i'r Awstriaid ar yr 1 leg o'r diweddaf. Yr oeddid yn gwarchae ar amddiffynfeydd Luxemburg (Netherlands) a Thiouville (ffrainc) gan ran o luoedd Etholyd.dol lIesr, ac ereitt o'r Cyngreirwyr. Gyrwyd dau gyho^ddiad gan y Cyngreirwyr, i Antwerp^ i'r dyben i annog y trigolion godi yn erbyn y Ffran- cod, fel na byddai rhaid dinystrio y dref a. mang- nelau; ac i lybuddio yr amddiffynfa rhag gwn- etithai- un gwithwynebiad mileingar, yr hyn a berai iddynt gael eu danfon i Siberia yn ol dar- y lie. Dy wedir fod amddiffynfa Ffreng- ig 0 tend yn cyunwys 1,200 o wyr, a bod y wlad (,'i hamgylch wedi gorchuddio a dwfr, yr h ynagÿffrodd y trigolion fel yr ymarfogodd ynghy lch 4,000 o honynt, apharasallti wyr yr amddiftynfa gadw o fewn i'w mhuriau. Ysgrifenwyd y llythyra grybwyllasom yn 01- ysgrifen ein papur diweddaf, ynghylch derbyn- iad croesawus y Bourbons yn Ffrainc, o Vesoul ar y 22ain o Chwefror, gan y Count D'Escars, pendefig ag sydd yn teithio gyda Monsieur, brawd. ieuangaf Louis y XVIII. Yr ydys yn T hoaAAd- i c, el cyflawn i'r hyn a gynnwysir ynddo gall y a derbyniodd yn Llundain danfon. wyd ad-y-sgrifiQu (copies) o honaw yn ddioed at y Tywysog Rhaglaw a'i weinidogion. Dywedir ynddo fod tn. golion yr hoU drefi a'r pentrefi yn derbyn Monsieur gyda, gorfoledd mawr, a bod yr Jvenaint yn cusanu ei ddwylaw a'i ddillad; yr oedd dedwyddwch yn ailiwiedig ar bob gwyneb,1 a. llifai dtgrau gorfoledd o bob tu; dywedai yr henaint, u byddwn farw mewn boddlonrwydd am weledo honom ddychweliad ein hen Feistr- xaid," a lywedai ereHl," yr ydym yn rhoddi .J«n.gl°nai i chwi, canys ni adawodd yr ang- neanl ddimarall yn ein meddiant." Rhoddason yr hanes fer uchod ger bron ein enwyr, o herwydd ei hyntddangosiad mewn })llpurau ereij > ac 0 blegid y dichon fod yn wir- any amseroedd rhyfedd yw y rhai hyn, yn y thai y jae llawer o bethau annysgwyliad- wy yo c^mn-ryd lie mewn ychydig amser; pa fodd ynagj taid cael eadainach tyjtiolaeth i'r hysbysiaeth uchod cyn rhoddi coel cyflawn iddi. Nid oes neb papiirau Ffrengig ychwanegol wedi dyfod i law, ond yn eu habsenoldeb y mae 11awer o newyddion yn caeLeu taenu ar sail llythyrau o amryw bar,thau, megis bod y Gossacs wedi meddiannu Boulogne, ac yn dynesu at Dunkirk, a bod y Cyngreirwyr wedi cymmeryd Ostend, Blucher wedi maeddu Bonaparte, ac ysgafaelu 70 o fangnelau, a'r cyffelyb; ond' doetlvineb fyddai dysgwyl yn amyneddgar am newyddion, ac nid clytio hanesiou o'n gwaith, aèyn ol ein dymuniadau ein hunain, rhag cael ein siomi. Derbyniwyd banesion oddi wrth fyddin y Maes-Iywydd Welington i'r 24ain o'r mis diwe- ddaf, y rhai a ddangosant eu bod yn dechreu ymosod ar y gweithiau allanol o eiddo y gelyn- ion, yn Bayonne, ac yr ymosodid yn ebrwydd ar y dref ei hun. Wrth hyn ymddengys, uad yw'r Ardalydd Pendefigaidd, yn cychwyu yn ddioed yn y blaen yn Ffrainc, a gadael ychydig wyr wilio Bayonne, megis y dywedid cyn hyn; d 'd ond i'r gwrthwyneb, deallir ei bod yn angen- rheidiol darostwng y lie uchod yn gyutaf, inewn trefn i ddiogelu pob angenrheidiau i'w fyddin ac i feddianau llong-borth cyIleus i gyfxinachu a'r wlad hon. 0 Ymladdwyd brwydr boeth gerllaw Saba ar yr lleg o Ionawr diweddaf, rhwng Maeler-long (Merchant ship) o Lundain, a elwir I- libei-iiial Cadpen John Lennon, o 6 mangnel a 22 o wyr a llanciau, a'r herw-long Americaidd, a elwir Co- met, o 14 o fangnelau a 125 o wyr amddiffyit- odd Cadpen Lennon a'i ddyrnaid gwyr eu llong dros naw awr yngwyneb holl ymosodtadau yr herw-long, a thros y rhanfwyaf o'r amser hyn yr oeddynt yn gorescyn byrddau y naill y llall; yr oedd agwedd yr Hibernia, pan ddaeth i'r llofig-borth, yn eglur ddangos effeithiau y tan dychrynllyd a gadwodd y gelynion fynu yn yr amser; nid oedd gymmaint ag un hwyl wedi ar- bed gan belenau y gelynion, ac yr oedd ei thrawstiau a'i thaclau wedi eu dryllio yu fawr: o'r 22, lladdwyd un, a chlwyfwyd 11 o wyr yr Hibernia, y mae'r olaf yu debyg i wella. Add- efir gan Gadpen y Comet i 3 gael eu lladd, ac 11 eu clwyfo yn ei long ef; ond yrydys yn dra sicr iddo goUi ychwaneg. Fel hyn y curwyd y I gelynion ymaith, er eu bod yn fwy nà 5 am yr un.

[No title]

Advertising