Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

- LLUNDAIN.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWENEIl, 18. Derhyniwyd cemdiaethiau neithiwr oddiwrth y mihvriadLowe (Brython)y rhai a gyhoeddwyd am hanner nos mewn Llys-argraff Anarferol, y rhai a ddarluniant mewn modd tra helaeth y gorchestion milwraidd rhwHg Bonaparte a Blucher o'r 3v dd hyd yr lleg o'r mis hwn. Pigion o'r cenadiaethau hyn -,t Amserwyd hwy Laon, Mawrth lleg. My- negant i'r lluoedd sydd dan dywysiaeth y Cad- fridogion Winzingerode a Bulow, uno a Blucher yn Soissons yn mhrydnawn y 3ydd o'r mis hwn; ac ar y dydd canlynol cymmerodd Blucher sef, yllfa yn ymyl Soissons, a'i aden ddeau yn cyr- haedd hyd bentref Luffaux, a'r aswy yn agos i Craon. Yr oedd Bonaparte a'i holl osgorddion, a lluoedd Marmont- a Mortier a chryn gorff o farchluoedd, wedi dylyn byddin Silesia (byddin Blucher) ar ei chyehwyniad o'r afon Marne i'r Aisne. Ar y 5ed, ymroddodd Bonaparte aden- nill tref Soissons, yr hon a amddilTynid gan ddeng mil o Russiaid dan y Cadfridog Rud- zewich. Ymosododd y gelynion arni yn ebrwydd wedi goleuo'r bore, a meddianna.sant y rhan fwyaf o'i phentrefi; (slturbs) ac ymosodasant ddwy waith ar y. dref ei hun mewn gwahanol fanau, eithr gyrwyd hwy ynol gycll Uaddfa a cholled fawr yn y ddau gynnyg; ond yr oeddynt etto yn meddiannu y rhan fwyaf o'r pentrefi, gan dynu ymaith nenau'r (rpofs) tai, a saethu yn gysson oddiar y muriau at y Uuoedd cyfunol oedd ar furiau'r dref, hyd oni osododd y nos derfyn ar yr ymdrech. Cadwpdd y gwyr traed Russaidd hefyd eu sefyllfa mewn parth arall o'r pentrefi; ac nid oedd ond ychydig dai yn gwa- haniaethu rhwng yrymdrcchwyr dros y nos. Col I odd y Russiaid dros fil o wyr mewn liadd a chlwyfo. Yr oedd colled y gelynion o angen- rheidrwydd yn fwy, o herwydd bod eu lluoedd yn fwy digysgod yn yr ymdrech. Ar fore'r Gfed, yr oedd y gelynion wedi rhoddi fynu'r ymdrech, a chiiio. Tra'r oedd hyn yn myned ymlaen, deallwyd fod Bonaparte yn symud tua'i du deau, ac aeth ei fyddin dros yr afon Aisne yn Bery-le-bac, ac ynghylch dau o'r gloch yn y prydnawa efe ymosododd ar du aswy5r sefyllfa a feddianuid gan Blucher gerllaw Craon; ac yr oeddid yn canfod rhesi cryfion o Ffrancod ar yr un amser yn cychwyn tua Laon. Gorchymmynodd y Maes-Lywydd Blucher i'r Cadfridog Winzingerode a deng mil o farchluoedd i gychwyn a gosod ei hunain yn nhramwyfa'r gelynion ar groes y ftordd o Corbeny i Laon; a pharodd i'r Cadfridog Bulow ac 20 mil o wyr fyned a meddiannu Laon. Nesaodd y gelyniou dan gysgod coedwig Corbeny, a gyrasant allan gyrft' helaeth o ysgarmeswyr, y rhai a gynnorth- wyd gan fangnelwyr, eithr hwy a faeddwyd, a therfynodd yr ymdrech gyda'r nos. Ar fore'r 7fed, deallwyd fod y gelynion wedi rhoddi heibio'r bwriad o gychwyn i Laon ond nid oeddid yn canfod yn eglur eu sefyllfaoedd ereill. Am 1 leg o'r gloch yn y bore dechreuodd y gelynion y rhuthr a'u holl alluoedd, y rhai a gyfrifid dros 60 mil o wyr, ar y man lle'r oedd gwyr tracd Winzingerode yn sefyll. Gyrodd y Maeslywydd Blucher yn ddiced i'r fan, lie y tybid fod ei farchluoedd wedi ymgynnull, end yr oedd anhawsderau annysgwyliadwy wedi rhwystro eu dyfodiad yn y nofe; ac o ganlyniad yr oedd yn llwyr anmhosibl myned ynmlaen yn oly cynllun a ffurfiami Blucher o'r blaen. Yn y cyfamser yr oedd y corff a osod wyd ger- Haw Craon yn agored i dan tra dinystnol. Yr oedd rhuadau y mangnelau o'r ddau tu yn ddychrynllyd dros ben, eithr gwrthwynebwyd y gelynion o bob parth gydâr fath ysbryd ag sydd uchlaw canmoliaeth. Pa fodd bynag, yr oedd lluyddwyr ar gyfer y Cadfridog Sacken mor lliosog fel y gwelodd ei bod yn angenrlieid- iol iddo gilio yn ol tua Laon, yu gyfatebol i'r cyfarwyddyd a roddasid iddo, pe ymosodid arno a lluoedd lawer lliosocach riilr melel,) ei hun. vr h "1., hyn a wnaeth yn y rnG.ld mv:"yaf trefnus. Ac er bed 11 o fangaelau wedi eu taflu oddiar eu ceyr yn y frwydr, ni adawyd gymmaiht ag un o honynt ar, ol, ac, ni chymmarwyd fwy tia 50 neu 60 o garcharorion oddi arno. Cyfrifir fod ei golled mewn ll?dd a chlwyfo ynghylch (IAvy fil. Lladdwyd ua Cadfridog, sef mab Count Stro- gonoffVl gynnar yn yr ymdrech, a chlwyfwyd tri Chadfridog Russaidd ereill. Clwyfwyd ped- war o Gadfridogion y gelynion a rhaid bod eu colled, trwy'r mangnelau a ddefnydùiwyd yn y modd mwyaf ardderchog, yn ddirfawr. Dros 42ain o ddyddiau, y mae y fyddin hon (gwrth- ddrych neillduol allonyddwch ac ymosodiadau y gelynion) wedi bod yn cychwyn, neu yn brwydro yn barhaus; canys heblaw brwydrau cyffredinoJ, ni bu and dau ddiwrnpd ar y rhai nad oedd naill ai'r ol, neu'r flaen fyddin yn ymdrech yn galed a'r gelynion. Ar y gfed ymosododd Bonaparte drachefii ali holl Inoedd ar sefyllfa Blucher yn Laon, eithr efe a faeddwyd gyda/r golled o 45 o fangnelau, llawer o arlwy rhyfel, a charcharorion, y rhai ydynt heb eu cyftif hyd yn hyn. Ar yr Chaus- see o Rheims yr aeth y frwydr yn cy If red in y dydd hwnw agorodd y gelynion fangnelfa o 40 i 50 o leiaf o fangnelan, a chychwynasant yn mlaen gyda'r fath hyder a phe buaseut yn sicr o lwyddiant. Symudasant tua phentref Althies, pan gyfarfu'r Tywysog Wiliam o Prussia a hwy ar hanner y fiordd, ac a'u dymchwelodd. Ac yna dechreuasant gilio vn ol, ac yn ebrwydd i ffoi, a chymmerwyd addi arnynt 8 mangnel, y ceflylau, a phob peth perthynol iddyht; ac yu fuan wedi hyny cymmerwyd drachefn 22ain o -fangnelau oddi arnynt; ac felly ymddengys i fyddin Blucher ysg faelu 75 o fangnelau y dydd hwn. Ymlidiwyd hwy C'yu belled a Corbeny, gan golli eu clud (baggage) carcharorion, &c. y rhai na alla;id eu darlunio am fod yr ymlidiad yn pavhau trwy y nos. Adnewyddodd Bonaparte ei ymcsodiadau ar y lOfed. Cymmerwyd ac adgymmerwyd coedwig I fechan gerllaw pentref Clacy bedair neu bump o weithiau, ac o'r diwedd arosodd yn meddiant y Cyngreirwyr. Fel hyn trowyd holl ruthriad- au y gelynion er dinystr iddynt eu hunain. Yr oedd lluoedd D' Yorck a Kleist, a Sacken yn ab- sennol ar y 10fed, canys aethentyn y bore i ymlid y rhan hyny o'r gelynion ag oeddynt wedi cych- wyn o Rheiras, ac nis gallasid eu galw yn ol mewn amser cyfaddas, ac am hyny nis gallwyd ddwyn yn mlaeh ryfel ymosodol (offensive) ar y dydd hwn o du y Cyngreirwyr. Ond yr oedd llwyddiant wedi coroni ymdrechiadau y lluoedd I uchod mewri lie arall, canys ysgafaelasant rhwng tair a phedair mil o garcharorion, llawer o glud rhyfel, a 45 o fangnelau. Y mae MitNi-riad Lowe yn barnu y bydd ym- drechiadau byddin Blucher rhagllaw o natur ymosootol. n Ar y 25ain o'r mis diweddaf gafaelodd Mr. Cadenhead cyllidydd yn Annan, YII yr I werddon, mewn llestr dystyllio (still) mewn ty neillduedig gerllaw Ty, Logan, yn mhlwyf Half Morton. Cynnwysai'r llestr dros 50 galwyn, ac yr oedd tri o ddyuion yn bresennol ar yr amser ac wedi l' chwilio i'r achos (drwywyd UI1 o honynt, Wil- liam Bell, o £30 j ac am iddo bcidlo eatult, 'gyrwyd ef i garchar; rbydl??aivn ?d y dd?u erpil!? wedi cael o honynt gerydd addas gan yr Ynadon, ?am nad oeddynt ond ymweled a'r lie, ac nid yn perthyn iddo. Bu ymryson dydd Llun diweddaf yn heolydd Irvine, (Scotland) rhwng rhai o'r trigolion, morwyr gan mwyaf, a rhai o filwyr y 27ain Catrod ag sydd yn aros yno, yr hwn a derfynodd mewn gwaed; pan oedd y milwyr yn cael y gwaethaf wrth ddyrnodio, rhedodd un o bonynt i'w luest am ei ddryll, ac a ddychweloddaca sacthodd Allan Hutton trwy ei gaion; gyrwyd y milwr, John MIMtnus, i'r carchar gan yr Ynadon, i gael ei brofi am y llofruddiaeth. Dyvtedir mai pan fygwthiwyd anfon y Cad- fridog Vandamme, (yr hwn sydd yn awr yn garebaror yn y Kremlin, Moscow) i Siberia, iddo gynnyg hysbysu peth o bwys i'r Cyngreirwyr os arbedid efrhag myned yno. Gwrthododd Lly w- odraeth Russia wrando arno'r waith gyntaf; eithr pan adnewydd'odd ei gynnyg. danfonwyd ato wr yn yr hwn y gallasai yiriddiried. A'r hysbysrwydd a roddodd iddo oedd, fed Bona- parte wedi danfon 350 miliwn o Ffrancs i, Ariandy Lloegr.-o'r arian a gynnullodd efe yn j Germany, gan enwi ar yr un pryd yr holl dai masnachol yn enw y rhai y danfonwyd hwynt.-— Amsterdam Courant, Maxsf'ih^ 1814. Yr oedd un dyn perthynol i deulu a fu byw yn ddiweddar yn y Castelinewydd (Lloegr) yn colli ei fwnws (money) yn fynych, ac er ei fod yn eu cuddio mewn amryw fanau, iiid hir y byddid cyn eu cael allan, o'r diwedd efe a'u gosododd rhwng dail y Bibl Teuluaidd i gadw, ac efe a ddeallodd yn ebrwydd eu bed mewn per- ffaith ddiogelwch yno; a ddywedai efe wedi hyny maili- unig Ie diogel yn y ty hwnw oedd rhwng cloriau'r Bibl Teuluaidd.

Advertising