Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

TWR Y GWYLIEDYDD.

Advertising

IMARWOLAETH A CHLADDEDIGAETHI…

AFGHANISTAN; :-77 ' Ei Daearyddiaeth,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

e bod yno mewn cyflawnder mawr, end er hyny y maent yno yn ddigon cyflawn i dalu am eu gweithiad. Ceir haiarn hefyd yn y wlad, ac fe ddywedir fod peth o'r haiarn a gafwyd yn agos i Peshawur yn gyfartal i ddim a geir yn Sweden. Gwerthir llawer iawn o'r haiarn yr flynyddol i'r India. Ceir fod plwm, halen, alwm, a salt petre hefyd ymysg adnoddau naturiol y wlad. Ond yr hyn sydd mewn mwyaf o gyflawdder yno—fel llechi yn Meirion-ydyw yr hyn a elwir yn lapis lazuli, ac a ddefnyddir i wnenthur y glasliw goleu (ultra marine) sydd mor adnab- yddus am ei brydferthweh a'i barhad mawr. Ceir clogwyni cyfain o'r defnydd hwn. Y mae y lapis lazuli hefyd mewn cyflawnder yn Persia a China, ac o'r lleoedd hyny gan mwyafy dygir ef i'r wlad hon. Tyfir gwenith, haidd, pys, ffa, gwenith India 1 (Maize) a reis yn Afghanistan, ynghyd ag am- ryw fathau eraill o ydau sydd yn tyfu yn yr India. Y bwydlysiau mwyaf cyffredin yn y wlad ydynt moron, maip, rhyddyglau (radishes) gwylaeth (lettuce) blodfresych (cauliflowers), wynwyn, gerllig, pompien (melon), a chucumer- au, ynghyd ag ychydig eraill a geir yn yr India. Yn y canoldiroedd hefyd tyfir gwreiddrudd (madder) ar raddfa eang iawn. Ceir odd- eutu deugaiu math o'r defnydd hwn. Defnyddir ef fel meddyginiaetl1 eryii foreu iawn hyd yn nod yn nyddiau y meddyg enwog Hip- pocrates, yr hwn oedd mewn bri dros bedwar cant o flynyddoedd cyn Crist, yr oedd mewn arferiad lied gy if red in. Defnyddir ef eto i ryw raddau yno i'r un dibenion, ond fel lliw y mae o fwyaf o wasanaeth. Tyfir ef hefyd mewn am- ryw fanau o Ewrop, ond nid ydyw yn tyfu vn dda .vn jyThrvrlain. p.r mw V().9h0,hl v yddir mwyaf o hono o un man. Nid oes yno goedwigoedd i'w cael ond yn y mynydd-dir. Ymysg y ffrwythau a dyfir yno y mae afalau, gelleig, eiryn a bricyll (apricots), ond yn fwy- af neillduol ffrwythau merwydd, neu fwyar Mair (mulberries) y rhai sydd i'w cael yno mewn cyflawnder mawr iawn. Y bwysicaf ymysg yr anifeiliaid geir yno ydyw y ddafad. Y mae dau fath o ddefaid i'w cael yno, ac oil yn perthyn i ddosbarth y cyn- ffonau mawrion, y rhai sydd mor fawrion mewn mewn rhai manau fel y defnyddir math o drol fecban wedi ei rhwymo wrth y defaid i gynal y gynffbn. Y mae dau gnaif un yn y Gwanwyn, a'r Hall yn Hyd. Defnyddir y laf yr hwn sydd fras neillduol atwneuthui carpedau, &c., ond y mae un Hydref yn gwneuthur gwisgoedd ardderchog. Ceir hefyd gyfiawnder o eifr yn y wlad. Y mae ceffylau ac asynod mown cyflawnder, ond nid ydyw eamelod a gwartheg mor lliosog. Y mae un creadur arall sydd yn bur adnabyddus yn y wlad hon yn cael ei dwyn yma o Cabal, sef y Persian Cat. Gellid tybio oddiwrth enw y gath mai yn Persia y mae ei chartref, ond nid oes ond ychydig o honynt i'w cael yn y wlad hono.. Yn Cabu], prifddinas Afghanistan y maent i'w cael mewn cyflawnder. Dichon y bydd y wybodaeth hon yn newydd i ambell i hen ferch sydd wedi arfer meddwl llawer o'i Pher- sian Cat, neu hwyrach yn rhoddi mantais i rai wybod pa Ie y gellir eu cael. Pe byddai y rhyfel wedi terfynu hwyrach y byddai yn dda gan yr Ameer werthu rhai o honynt i dalu y costau. jL olaidd, y llewpart, a'r hyaena ydynt yr anifeiliaid gwjlltion mwyaf cyffredin. Dychwelwn athanes y wlad yn ein nesaf.