Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

AT Y GOLYGWYR.

AT Y GOLYGWYR. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT Y GOLYGWYR. FONEDDIGION,-Teimlaf yn ddioleligar os caniatewch i'r ychydig linellau hyn ymddangos yn eich rhifyn nesaf o'r RI-IEDEGYDD. 0 dan y penawd "Ffestiniog a'r amgylchoedd," a ymddangosodd yn yr Herald am Tach. 27, gan Ffestinfab, cawn ef yn gofyn, "Ai gwir fod masnachwyr Ffestiniog wedi gwrthod Mr. Roberts, prif swyddog y Co-operative, i'w Cymdeitlias ? Yr ydym wedi clywed hyny." Os darfu Ffestinfab glywed hyny, yr wyf fel aelod o'r Gymdeithas yn sicrhau na wrthod- wyd Mr. Roberts i'w Cymdeithas, ond ar yr un pryd yr wyf yn addef na wahoddwyd Mr, Roberts i fod yn aelod o'r Gymdeithas fel masnachwyr eraill; a chan hyny hyny amcanaf roddi fy rheswm am hyny. Prif ddiben masnachwyr Ffestiniog (fel y mae yn hysbys i Ffestinfab os darllenodd ychydig o'r Rheolau yn y RHEDEGYDD ychydig wythnosau yn ol) yn sefydlu Cymdeithas oedd er mwyn cael allan gynllun er atal personau oedd yn myned o'r naill siop i'r llall oedd yn proffesu rhoddi credit, a hyny am amser maith, heb ystyried am foment fod eisieu talu; ond cyn gynted ag y byddai siopwr newydd yn dechreu, yr oeddynt yn ymadael a'r hen siop lie yr arferent brynu, ac yn myned i'r siop newydd; ac felly yr oeddynt yn byw naill flwyddyn ar ol y Hall ,"1- Jalu ond yo^y'-ig arian, a hyny p vr oeddynt yn leehrc' l Ul1\'hyw fisiiaelidy. v an hyny mae yn amlwg nad oedd angenrheidrwydd rhoddi gwahoddiad i Mr. Roberts, olierwydd fod masnacli y Co-operative yn cael ei gario ymlaen ar y ready money system; a phan ystyrid mai er budd masnachwyr oedd yn rlioddi credit y sefydlwyd y Gymdeithas, gwclir ar unwaith y rheswm paham na wahoddwyd Mr.' R. Gan hyny yr wyf yn gobeithio fod yr ychydig uchod yn ddigon o eglurhad i aelodau y Co-operative mai nid o ddim drwg-deimlad, ond mai ffolineb fuasai gwahodd un nag oedd dim a wnelo ef a'r peth o gwbl. Yr eiddoch, AELOD.

.SUurtjtJdion ttot.I

Y RHYFEL.

I NEWYDDION -DiWEDPABAF

--,-I agoriad y SENEDD.

Family Notices