Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Ffestiniog yryr amser gynt.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffestiniog yryr amser gynt. GAN IENADUR. fN. I. Dyma; fi wedi eicii abnyddu unwaith eto gyda'r pin. Yr hen amsei gyt, pan oeddwn yn ieuanc, a ddaeth i fy meddwl y to hwn—38 ml. yn ol yn yr ardal hou. Y pryd hwnw, nid oedd yma oiyf oldeutu un ran o chwech o dai i'r nifer sydd yma yn bresenol; ac nid oedd yma ond un ran o chwech o drigolion i'r nifer sydd yma yn awr. Nid oedd y chwarelwyr y pryd hwnw yn arfer diosg en dillad gwaith oddiam danynt hyd nes y desai yn amser i fyned i'r gwely; ac os dygwyddai i ryw lencyn new- id ei ddillad gyda'r nos, byddent yn ei ystyried yn llanc a haner, ac yn ei alw felly. Byddent yn dyfod i'r moddion heb newid. Y r mig leoedd y byddai cyrchfa pobl ydoedd y Hhiw (lie sydd yn awr yn cael ei brysur gladdu gan y domen), CroesffVmid, Tanymanod, a Chonglywal. Byddai golwg wladaidd iawn y pryd hwnw ar bawb yn gySYedinol. Byddai y trigulion yn prynu bwyd ddigoa dros y gauaf ar ddiwedd y flwyddyn. Hynyna o ragvmad- rodd a roddaf. Cyfnod y dadleuon oedd y cyfnod hwn, ac at hyny yr wyf am eich cyfeirio. Byddai dadleu ymhob pouc yn y chwarelau cydrhwng yr Annibynwyr a'r Meth- odistiaid; ac hefyd yr oedd yn eu plith rai o'r Wes- leyaid ac o'r Bedyddwyr. Byddai y Wesleyavd yn profiesu y gallant wneyd calon newydd iddynt eu hunain. Byddai yr Aunibynwyr yn dweyd fod v gair yn ddigonol ynddo ac o bono ei hunan i droi pecbadur a gwneyd calon newydd iddo, am ei fod wedi ei ysbrydoli, ac yn foddion digonol heb- weith- rediadau yr Ysbryd. Byddai y Methodiatiaid yn dal fod dyn mor farw a phren neu faen, heb nac ewyllys na gallu i wneyd dim tuag at gael bywyd-fod Duw wedi ethol rhyw nifer, ac yn eu bywhau (neb end y rhai a etholwyd); uas gallant wneyd dim eu hunain tuag at eu hachubiaeth. Byddai y Bedyddwyr yn dal mai bedyddio oedd yn cyfnewid y dyn, yn ys- brydoli bedydd, i raddau, gau roddi gormod o bwys arno. Dyna i chwi ryw fraslun o'r cyfnod dan sylw. Yr oedd yma rai dynion yn byawdl am ddadleu, ac yn meddu syniadau lied gywir ar lawer o'r pynciau atb- rawiaethol a goleddid y pryd hwnw ymysw y gwabann? onu^-i—■ -DQ y cyfnod dadleuol hwnw o les dirfawr yma, a thrwy y wlad yn gyffred- mol, fel, erbyn hyn, y mae yn ffaith fed y dosbarth gweithiol yn deall crefydd a'i hathrawiaethau YL well nac yr oedd dynion colegawl y cyfnod a n d~ wyd, oddigerth rhyw ychydig eithriadau, a r un cyf- nod a gododd lafur ac yruch wiliad yn y wlad. Y n awr, gall ein holl weinidogion o'r pedwar enwad a nodwyd gyfnewid pulpudau a'u gilydd; --gall y Methodistiaid dal "Gullu dyn; gall y Wesleyaid ddweyd, Gallu Duw yw hi; a gall yr Annibynwyr ddweyd, Pan ddel, efe a argyhoedda y byd." Y mae gan y dyn ei waith mae gan y Rabl ei waith ac y mae gwaith hefyd nas gall ond Ysbryd Duw ei wneyd arnom. Yr unig dafarn oedd yma ar y pryd ydoedd Glany- gors ond erbyn heddyw y mae wedi myned yn gors o dafarnau Un siop oedd yma, sef siop Maenoiteren. 1^1 Llan y byddai llawer o'r trigolion yn myned i brynu y pryd hwnw. Byddai dynion yn cario y nwyddau i'r Blaenau bob dyddcam lawer o flynydd- oedd. Yr oedd ganddynt geffyl a throl at y gorch- wyl. Nid oedd na thafarn na siop yn Tanygrisiau y pryd hwuw. Ni bu potbau felly yn hir; codwyd siopau yno cyn diwedd y cyfnod dadleuol. Yn awr mae Fourcrosses fel Llundain, Tanygrisiau fel Wrexham, Rhiwbryfdir fel Le'rpwl, Tanymanod fel Sheffield, a Chongywal fel Bristol. Dyna Ffestiniog 38 mlynedd yn ol: gwyddoch sut y mae yn awr.

Llythyr oddiwrth Mr. W. 0.…

Yr Eglwys yn Nghymru a'i Llenyddiaeth.