Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

IBYWYD AC ANTURIAETHAU I.MADOG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BYWYD AC ANTURIAETHAU I. MADOG PUW. li PENOD XIII. YE YMGYRCH. Yr oedd yn foren oer. Disgynai y gwlaw yn llifeiriant, a chwyrnellai gwynt nerthol. Yr oedd y, Tyawr ar fin tori, ac nid oedd neb i'w ganfod ar hyd yr heolydd. Llusgid Madog yn gyflym ar hyd.yr heolvdd gan Twm Ffowc, gyda yr hwn yr oedd Tobi. Pan yn Sunbury, troisant i mewn i dafarn, i ddisgwyl am y nos. Cafodd Tobi a Twm Ffowe, lawer iawn o ddiod yno. Ar un o oriau tywyllaf y nos, cychwynasant allan, a chyrhaeddwyd i Chert- sey. Safasant o flaen ty hardd yr olwg arno, yrhwn I a amgylchid gan fur uchel. Dringodd Tobi i'w ben yn y fan, ac yna gafaelodd Twm Ffowc yn Madog, a chodwyd yntau ifyny. Yr uedd y bachgen wedi dychrynu yn ddirfawr, ac ymbiliai am gael myned yn ol. Dos drosodd," meddai Twm, gan gynddeiriogi, a thynu y pistol o'i boced dos drosodd, neu taenaf dy ymenydd hyd y glaswellt! Cydiodd Tobi yn y bachgen, a llusgodd ef at y ty. Ni fu Twm Ffowc ddim ychydig funydau cyn llwyddo i symud y gauad-ddor oddiar un o'r ffenestri. Nid oedd hon yn ddim ond ffenestr nodedig o fechan, ac nis gallai ond bachgen bychan basio drwyddi. "Gwando di yn awr y gwalch," meddai Twm Ffowc, yr wyf am dy roddi drwy y ffenestr yna. Cymer y golau yma, dos yn araf a distaw drwy ystafelloed^ d y llawr, ac agor y drws gyferbyn a'r heol i ni." Z) Oydiodd Twm yn Madog a rhoddodd ef i mewn drwy y ffenestr, ac yna estynodd lusern iddo, gydag archiad ychwanegol iddo fyned yn syth at y drws. Yn ystod yr ychydig amser a gafodd y bachgen i ymbwyllo, yr oedd wedi penderfynu rhedeg i fyny Srisiau a welai o'i flaen a rhybuddio v teulu. Yn Eawn o'r bwriad hwn, aeth y? ei flaen yn ddistaw. "Tyr'd yn ol! gwaeddai Twm yn uchcl. Yn ol! yn 01. Clywodd Madog waedd uchel yn y ty, ac yn ei ddyehryn gadawodd i'w lusern syrthio, acni wyddai pa un i wnevd a'i rhedeg a'i aros yn ei unman. Ail-adroddwyd y waedd—ymddangosodd goleuni —yr oedd gweledigaeth o ddau ddyn ar ben y grisiau wedi haner ymwisgo, yu rhythu o flaen ei lygaid-ffiachiad-swn mawr-mwg-swn eto, ond yn mha Ie ni wyddai-a ehwympodd i lawr. Rhuthrodd Twm Ffowc i mewn drwy dynu y ffenestr o'r mur, a llusgodd y bachgen dideimlad yn ti ol. Wrfch wneyd hyn tanioad ei -it, v dynion oedd yn y ty. Gafael yn dynaeh," gwaeddai Twm Ffowc tra yn tynu Madog drwy y ffenestr. Maent wedi ei -daro. Mae yn Fwaedti 1 Yna daeth swn cloch yn canu, yr hwn a ymgym- ysgai a swn drylliau a bloeddiadau dynion. Teimlai y bachgen ei hunan yn cael ei gario ymaith yn gyflym. Daeth teimlad oer, marwol dros ei galon ac ni chlywodd ac ni welodd ddim yn ychwaneg. PENOD XIV. GWELY MARW YR HEN SALI. Rhaid i ni daflu trem yn ol eto am ychydig i gyffiniau anwyl a thawel Llanelwy. Yn y tlotty yr oedd Mr Jenkins a Mrs. Morris yn eistedd yn agos iawn i'w gilydd. Yr oedd y cwnstabl newydd fod dros ei ben a'i glustiau mewn cariad a Mrs. Morris, ac yr oepd ar fin ei chusanu a thaflu rhyw sylw ychwanegol tebyg iddi, pryd y clywyd euro ar y drws. Yswatiodd y ddau mewn amrantiad. Os gwelwch yn dda," meddai yr hen wreigan yn y drws, mae yr hen Sali yn myn'd yn gyflym." "Beth yw hyny i mi," meddai Mrs Morris, "nis gallaf fi ei chadw yn fyw." Na fedrweh, mae yn wir, meistress," oedd ateb- iad .yr hen wraig, ond mae ganddi hi rywbeth eisieu ei ddweyd, ac ni wna hi byth ddim marw yn ddistaw nes y deuwch i'w glywed." Prysurodd Mrs. Morris i'r ystafell lie yr oedd Sali ynddi. Yr oedd yno ddoctor ieuanc—un o brentisiaid doctor y plwyf—yn bresenol, yr hwn a ddywedodd wrth Mrs. Morris y dylai ofalu am ychwaneg o dan ar noswaith mor oer. Yr oedd yr hen Sali ar hyn o bryd yn gorwedd mewn cyflwr anymwybodol ar y gwely, ac yr oedd amryw hen wragedd gyda Mrs Morris a'r meddyg yn y llofft yn disgwyl i'r hen Sali allu dweyd rhywbeth. Cyn hir dyna hi yn Iluchio ei breichiau allan o'r gwely, ac yn edrych yn gyffrous, ac yn gofyn mewn llais gwan, Pwy sydd yna ? Nesaodd Mrs. Morris ati, a pharodd iddi orwedd yn llonydd. "Ni wnaf byth orwedd yn fyw eto llefai y wraig yn ffyrnig. "Rhaid i mi gael dweyd wrthi. Deuweh yn nes yma." "Gwrandewch arnaf ii," meddai. "Yn yllofft hon, ac yn y gwely hwn, yr oeddwn unwaith yn edrych ar ol geneth ieuanc brydferth, yr hon a ddYgWyd iT ty a'i thraed yn ddolurus ar ol ceidded Uawer iawn o ffordd. Rhoddodd enedigaeth i fachgen, a bu y fam farw. Gadewch i mi weled— pa flwyddyn oedd hi." Hidia mo'r flwyddyn, dGE yn dy flaen Sali," meddai Mrs. Morris. 1. "Ie, beth am dani," meddai Sali yn gynhyrfus. Yspeiliais hi—do—'doedd hi ddim yn oer—nac toedd, yr wyf yn dweyd wrthych -'d oedd hi ddim yn oer!" "Dwyn pa beth," gofynai gofynai Mrs. Morris yn ddychrynedig. "Ei dwyn hi," meddai Sali, "yr unig beth oedd ganddi. Yr oedd ganddi eisieu dillad i'w chadw yn gynes, ac ymborth i'w fwyta ond yr oedd wedi ei chadw hi yn saff, ac yr oedd ganddi yn ei mynwes. Yr wyf yn dweyd wrth niai aur ydoedd—aur pur a allasai achub ei bywyd i "Aur llefai Mrs. Morris, "dos yn mlaen. Gofynodd i mi ei chadw yn saff iddi. Dwynais hi yn fy nghalon pan v hi gyntaf yn hongian am ei gwddf. Buasent wedi trin y plentyn yn wahanol pe gwybuasent y cwbl." Gwybod beth 1" gofynai y llall. Siarad Tyfodd y bachgen mor debyg i'w fam fel na fedrwn i byth anghofio yr amgylchiad. Druau or eneth Mor ieuanc ac mor ddiniwed Arhoswch, mae Ylia ychwaneg i'w ddweyd." Brysia, neu bydd yn rhy ddiweddar," meddai Mrs. Morris. Dywedodd y fam wrthyf pan ddaeth poenau marwolaeth ati, os byddai i'w phlentyn gael ei eni yn fyw a thyfu, y gallasai y diwrncd ddyfod pryd na byddai ganddo gywilydd elywed ei fam yn cael ei henwi." Enw'r bachgen ? gofynai Mrs. Morris. "Madog y galwyd ef," ebai Sali yn wanaidd. Yr aur a ddygais oedd "————— Ie, beth ydoedd," holai y llall. Gwyrodd yn awyddus i wrando am atebiad, ond syrthiodd yr hen Sali yn ddideimlad ar y gwely, gan furmur rhywbeth anealladwy yn ei gw?dfg.wely, (I'w BARHAU.)

I -'.- PRENTEG

IEISTEDDFOD UNDEBOL CWMORTHIN,…

[No title]

Y MYNWENTYDD.

CYFARFOD ORDEINIO MR. R. H.…

I YMA AC ACW.