Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

IBYWYD AC ANTURIAETHAU I.MADOG…

I -'.- PRENTEG

IEISTEDDFOD UNDEBOL CWMORTHIN,…

[No title]

Y MYNWENTYDD.

CYFARFOD ORDEINIO MR. R. H.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD ORDEINIO MR. R. H. PARRY. Nos Sadwrn, Sul, a LIun y Pasg, ordeiniwyd Mr R. Parry, yn weiuidog ar eglwys (A.), Eettws, Abergele. Nos Sadwrn, am 7 o'r gloch, ar Sul am 10 a 2, pregethwyd gan y Parch W. B. Marks, Criecieth. ac am 6 gan y Parch W. E. Jones, Colwyn. Am 10 boreu Llun, cafwyd anerchiad ar "Ffurfiywodraeth Eglwysig," gan Mr Jones, Colwyn. Dywedai fod y cyfarfod yn eithriadol, ac d dan yr amgylch- iadau y goddefir iddo ddweyd ychydig am y fli-Lif a' gredir gan yr Annibynwyr, a chafwyd ganddo sylwadau gwerth- fawr a hyny yn fyr a phwrpasol. Yna galwyd ar y Parch E. C. Davies, B.A., Menai Bridge, (yr hwn y bu Mr Parry, o dan ei addysg), a holodd y cyfaill ieuainc ar brif athraw- iaethau Cristionogaeth, ac atebodd hwynt yn effeithiol a. boddhaol. Yna offrymwyd yr Urdd Weddi gan Mr Davies. Wedi hyny rhoddodd ychydig anogaethau i'r gweinidog- ieuanc, yn sylfaenedig yn benaf ar gyngor Paul i Timotheus, Ymarfer dy hun i ddnwioldeb. Da. genym allu dweyd fod y Parch E. C. Davies, yn dwyn y dystiolaeth uch.tf i Mr Parry, am ei gymeriad moesol, a dywedai y barnai yn uchel am ei grefyddolder. Yna cafwyd anerchiad gan y Parch D_ D. Richards. Nantglyn, ar "Ddyledswyddau yr eglwys." Gan fod yn y cyfarfod nifer o gyfeillion o Ffestiniog, wedi dod yno i ddangos eu parch i Mr Parry, teimlid mai priodol fyddai cael gair gan rai ohonynt, a galwyd ar Mri M. 0. Williams, G. J. Evans, ac Edward Young, a dadganent yn gylioeddiis eu llawenydd o gael bod yno ar yr achlysur o ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth, en cyfaill a'u cyd- aelod crefyddol yn Hyfrydfa. Yna cafwyd gair gan Mr Parry o i deimlad, acamlwg ydoedd ei fod yn teimlo i'r byw bwvsigrwydd y gwaith ac oedd ef wedi ymaflyd ynddo. Am 2 o'r gloch dechreuwyd gan Mr Richard, Nantglyn, a, phregethwyd gan y Parchn J. P. Evans, Henryd, a E. C. Davies, ac am 6 yr hwyr gan Evans a Davies.

I YMA AC ACW.