Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT  AT EIN GOHEBWYR.

HAWLIAU Y DOSBARTH I GWEITHIOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HAWLIAU Y DOSBARTH GWEITHIOL. Mae y dyddiau i ddirmygu y gweithiwr, ac i edrych arno fel un anbeilwng o ddyrchafiad ac anrhydedd, wedi myned heibio er's cryn amser bellach. Lawer 0 flynyddau yn ol yr oedd mawrion ein gwlad yn dal eu penau yn rhy uchel hyd lwybrau urddas a balchder, fel nad oeddynt yn dewis ymostwng i gymeryd sylw 0 weithiwr, ond pan fyddai ei ddynoliaeth yntau yn ymostwng i t. wenieithio iddynt. Yr oedd gormod o ddwndwr y byd yn eu clustiau fel na allasent glywed un deisvf- iad 0 eiddocreadnr o weithiwr. Yr oedd y mawrion rhodresgar a chymhenfeilch hyn yn ddeillion i'w holl rinweddau, ac yn fyddar i'w holl anfanteision. Prin yr ysgwydasai yr un ohonynt eu tafodau mewn lIe cyhoeddus i ddadleu o blaid y gweithiwr. Ond mae dyddiau y sarhau—dyddiau troi yr ysgwydd oer -wedi darfod i raddau. Cydnabyddir heddyw fod y gweithwyr yn ddynion, megis eraill, ac ystyrir eu bod fel dosbarth yn allu 0 nerth a dylanwad yn y wlad. Gwelir yn hollol eglur eiibod yn gallu yfed yn helaeth o ffynhonau addysg iach mor naturiol a neb yn y wlad. Cyn belled ag y mae gallu meddyl- iol yn myned, nid yw llawer ysgogyn balch a hunanol, sydd yn tybied fod y blaned yn troi oddeutu ei fys bach ef; yn deilwng 0 ddatod carai esgid ami faehgen 0 weithiwr. Mae yr holl wlad yn cymeryd ei hargyhoeddi, yn raddol, ond yn sicr, fod y gweithiwr yn haeddianol 0 ddyrehafiad. Nid yn fynych y clywir hyd yn nod y Toriaid mwyaf ystyfnig ac anobeithiol yn dadleu dros ei gadw i lawr a'i ddiraddio. I ba beth y mae y cyfnewidiad angenrheidiol hwn yn syniadau yr awdurdodau beilchion am y gweithiwr i gael ei briodoli? Ni a gredwn mai i'r gweithwyr eu hunain yn benaf. Daethant o'r diwedd i gredu mai nid 0 dan draed neb yr oedd eu lie hwy i fod-nad oedd yn angen- rheidiol iddynt hwy na neb arall ymgrymu yn wasaidd, na llyfu y llwch er mwyn rhoddi gwenau ar wyneb ac arian yn llogellau rhyw un dosbarth arbenig yn y wlad. Trwy i'r gweithwyr ddeffroi eu hunain yn yr olwg ar eu ceffyrau, bu hyny yn foddion i ddeffroi eraill. Ond cymerwyd cryn amser i argyhoeddi llawer i arglwyddyn modrwyog ac ystiwerdyn ymyrgar fod yn y gweithiwr druan, elfenau i wneyd cymeriad anrhydeddus, heb son am gael ei ddyrchafu fel person cyhoeddus. Efallai nad yw y wlad eto wedi ei llwyr argyhoeddi i raddau digon helaeth yn y mater hwn, ond na laesed y gweithwyr eu dwylaw. Mae olwynion y cerbyd wedi dechreu troi, ac y mae ar eu llaw hwy i'w cadw i droi yn y dyfodol, ac i droi yn llawer iawn cyflymach nag y maent yn bresenol. Mae y dosbarth gweithiol eu hunain i'w canmol yn fawr am eu hymdrechion dyfal i daflu hualau trais, ac i ddatod llyfFetheiriau gorthrwm oddiwrthynt, a dylasent gael cynortliwy a chefnog- aeth pob dosbarth arall i wneyd hyny. Maent yn darllen llyfrau da a buddiol, yn cyflenwi eu meddyl- iau a gwybodaeth sylweddol a thrwyadl, yn ym- hyfrydu mewn rhoddi addysg bur ac effeithiol i'w plant, ac yn cyfranu yn helaeth at y sefydliadau hyny sydd yn add urn l'n gwlad. Mae yr ystyr- iaethau hyn yn galw am i'r gweithwyr ddyfod allan eu hunain yn fwy cyhoeddus, ac yn galw yn arbenig am i bawb roddi cymhorth a chwareu teg iddynt i wneyd hyny. Maent fel dosbarth yn y gorphenol wedi profi eu hunain yn nodedig o ffyddlon i ddos- barthiadau eraill pan yn ceisio myned i safieoedd o anrhydedd, ond a ydynt hwy eu hunain yn cael y gyfran a haeddant 0 gynrychiolaeth ar fyrddau y cyhoedd? Dyma gwestiwn teilwng o'u hystyriaeth hyd yn nod ar adeg dawel fel hyn, pan y gallant gael hamdden a phwyll i dclod i ddealltwriaeth a'u gilydd, ac i drefnu eu catrodau yn nghyd, fel y byddont yn barod pan ddaw y cyffeusdra iddynt i ddangos eu nerth a'u dylanwad. Ofer ydyw dadleu nad oes ganddynt o ran gwybodaeth, medr, a phroflad, ddi kon(dd o dd; niou, y iylesid eu dyrcl: afu i safieoedd o urddas ac ymddiriedaeth. Nid yw a f ii i sa fieoe d d o ur d das ai e Yb.ti cii -nia g iie l au ac i yn ddoeth iddynt aros i barotoi eu magnelau ac i awchlymu eu cleddyfau yn nghanol arogl mwg y frwydr. Rhaid deffro mewn pryd i drefnu, os am sicrhau goruchafiaeth. Gwyddom y gall fod cryn siarad yn eu plith ar y mater yr ydym yn ysgrifenu j arno, ond y mae yn bosibl siarad a siarad yn ddi- baid, a cholli y fuddugoliaeth yn y diwedd. Mae digon o siarad wedi bod, onid doeth a fyddai gweith- redu bellach? Ond bod yn bwyllog a gofalus i ddod i ddealltwriaeth briodol a'u gilydd, mae yn eithaf posibl i weithwyr Cymru gael gwell cyn- rychiolaeth yn y lleoedd hyny y mae cyfiawnder a chwareu teg yn galw yn ucbel ar hyd y blynydd- oedd am iddynt ei gael. Bydded iddynt gladdu pob llwfrdra ac yswildod allan o'r golwg, ac ym- daith allan fel guroniaid na bydd dim a'u boddlona ond cael meddiant o'u hawliau teg a cliyfreithlon.

I Tref; Oedfaon v Sul.I

DYDDIADUR Y FFUG-FONEDDWR.