Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT  AT EIN GOHEBWYR.

HAWLIAU Y DOSBARTH I GWEITHIOL.

I Tref; Oedfaon v Sul.I

DYDDIADUR Y FFUG-FONEDDWR.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

DYDDIADUR Y FFUG- FONEDDWR. Yn ddiweddar daeth i'm meddiant ddau neu dri o ddyddiaduron lied ddyddorol, ac yr wyf yn medd- ,wl am gyhoeddi ambell un o honynt yn awi ac yn y man. Nid wyf am ragymadroddi ychwaneg. Dyma i'cli darllenwyr ddolen neu ddwy o Ddyddiadur y Swell, neu y ffug-foneddwr." EBRILL I.-Dyina ddydd gwyl yr holl ffyliaid, a'r hyn sydd yn bwysicach fyth, sef dydd gwyl fy ngenedigaeth inau. Buaswn wedi gwahodd rhai or cymydogion i gyd-lawenychu a mi, ond y mae trychfileiddiwch eu moesau yn gyfryw ag sydd yn clafychu fy enaid. EBRILL 2.—Yr oeddwn er's mis yn ol wedi bod yn tynu fy llun. Derbyn y lluniau heddyw oddi- wrth yr arlunydd. Anfon y cwbl yn ol gydag anathema ddaeargrynfaol, am fod y ploryn sydd yn ymdabernaclu ar flaen fy nhrwyn wedi ei dynu yn rhy amlwg. Yr oeddwn wedi gorchymyn i'r arlun- ydd fod iddo dynu fy nhrwyn heb na phloryn na chochni arno. EBRILL 3.—Cymeryd gormod o'r "effeithiol" neitliiwr. Hyny yn acliosi i fy mreuddwydion fod yn lied raniantus. Y trychineb ofnadwy a'm cyfar- fyddodd yn fy mreuddwyd yd oedd gweled fy hunan heb nac addurn, liarddwch, na gogoniant—yr oedd fy mwstas wedi diflanu. Pan ddeffroais yr oeddwn yn foddfa 0 chwys ac yn crynu drwydclof. Rhodd- ais fy nghrys gwyn glan am danaf, coler a chadach am fy ngwddf, cuffs am fy arddyrnau. &c- ac aethum i'r glass (nid wyf yn credu mewn ^hyd yn nod i'r glass fy ngweled yn anhrefnus), i edrych beth oedd y mater. 0 lawenydd, gwelwn fod fy mwstas yn ei le, yn dirf ac yn ffi-iv)-,thla,vii. Eis- teddais o flaen y glass o chwech y boreu hyd ganol dydd, i gyrlio fy mendigedicaf fwstas, heb na brecwasst na dim byd. EBRILL 4.—Myned i 'ngwely hyd amser te, oher- wydd fy mod wedi digio wrtli y byd, gan i mi dder- byn llythyr oddiwrth rywun a dim Sgweiar" ar ei gas. Pan godais, rhoddais ddarlith wreichionllyd i'r olchwraig am fod yna ysmotyn cymaint a blaen ewin chwanen ar lawes chwith fy nghrys gwyn. EBRIl 5.-Oclieiieidio yn ddwys wrth weled fod blaen fy nhrwyn yn parhau i gochi. Tyngu 11 w het ar flaen myniawyd yr ymborthaf ar starch a blawd ceirch fel na byddo i liw fy nhrwyn mwyach fy nhafiu i'r falan, a fy nghadw yn effro "drwy y nos. EBRILL 6.—Bachgen bach yn capio i mi ar y stryd. Dyma yr hogyn callaf a mwyaf gobeithiol yn yr ardal. Bydd yn y Senedcl cyn hir. Addewais roddi mincieg iddo pan welwn ef nesaf. Prynais glos pen glin, a photelaid o beth i berswadio fy ngwaflt i droi ei liw, ac infestiais mev/n peiriant godidog i wneyd fy nhrwyn yn llai. EBRILL 7.—Dydd Sul, fel mae'r gwaethaf. Gwraig y parson wedi anfon i mi yr arswydolion ceiniog, nid amgen y Christian Herald a'r Gad Lef. Anfon- af lytliyr twrna iddi am ei hindipence. Mae rhai pobl yn ofnadwy o ddigywilydd. Rhoddi y papurau i'r olchwraig (gan ei badyn gwrthod cymeryd pres) am starchio a smwddio fy ngholer a hithau yn ddvdd Sul. EBRILL 8.—Y forwyn yn colli saim ar lawes fy nghot. Rhoddi rhybudd iddi ymadael, a dal coron yn ei chyflog. Tori fy eye-glass. I fy ffyrnigo yn fwy, cael llythyr oddiwrth fy mam i ddweyd fod yr hen wraig yn dyfod yma yfory. Mae yr hen wraig yn un mor ofnadwy o gomon, ac yn un mordueddol i holi a stilio, fel y buasai yn well ddengwaith genyf anfon pres y tren am iddi aros gartref. EBRILL 9.—Yr hen wraig wedi dod. Ymbarelo whalbon fawr o dan ei chesail a hen giarpad bag wedi llwydo yn ei llaw. Dim bonet newydd na dim byd. Yr oeddwn yn chwys hyd fodiau fyi-iaraed pan welais hi. Yr hen wraig yn siarad dros y stryd, minau yn dirgel felldithio yr ymbarelo a'r ciarpad bag nes cyraedd y ty. EBRILL 10.—Cuddio fy modrwy swllt a cheiniog, fy menyg, a fy cigars, &c, er mwyn arbed gwaith deuddeng awr i dafod fy mam. Yr hen wraig yn myned adref hefo'r tren olaf. Rhyddhad mawr. Gorfc d cario'r ymbarel a'r bag i'r station. Cymeraf fy nienydddio cyn y gwnaf hyny eto. EBRILL II.-Aros yn y ty i ddysgu rhegi yn barchus yn ol y ffasiynau diweddaraf. Mae fy stoc o regfeydd clasurol wedi myned i lawr er's tro. Mae cyniaint 0 v/aith blagiardio yn y byd, fel y mae yn anmhosibl i mi gyflawni y gwaith hwnw i foddlon- rwydd hb wneud cyfeiriadau personol at yr hen Facligen o Fwth y Brwmstan. Ieir pobl y ty nesaf yn aflonyddu ar fy nghwsg. Myned yno a rhoddi tro yn nghorn gyddfau dau bechadur o Gochin China. Cyn myned i n'gwely, cael symans am fwrdro da pluog. EBRILL 12.-Cael fy argyhoeddi. nad yw y mas- ba y ltoe d di lia i yw y mas- nachwyr y byddaf yn delio a hwy yn parchu digon arnaf. Penderfynu y bydd i mi o hyn allan geisio, fy cigars 0 Lerpwl, fy nhybaco 0 Fristol, fy watch o Coventry, careiau fy esgidiau o Northampton botyn-iali fy nghrys 0 Lundain, a fy nant-bigydd o Paris. EBRILL 13.—Gwneyd fy ngoreu i gofio anghofio ei bod yn ddydd Sul. Cael hwyl ac arddeliad wrth ddarllen y Sporting News. Tafiu scent hyd bedair siwt 0 ddillad. Penderfynu dysgu dawnsio, a chael