Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

-----PENILLION I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENILLION A ddarllenwyd yn JS ghyfarfod Cymdeithas Enweiriawl Bl. Ffestiniog. Ar nawngwaith un dydd o Fehefin Neilkluais o ddwndwr y byd, I'r fan lie mae hedd yn teyrnasu Ar orsedd distawrwydd o hyd I lechwedd y Manod talgribog Sy'n arliin o ramant ei hun, Ai sy'n megis drych gwasanaethgar I'r bryniau gael gweled en lIun.. Eisteddais ar gadair o fwsog Yn nghesail gysgodol ryw fryn, Mewn bwriäd o gael cyfansoddi Englynion i'r'Manod a'r Llyn'; Ond collais bob trem ar gynghanedd Wrth wylio rhyw ddynion oedd draw, Yn cerdded yn chwim tuag ataf A Genwair gan bawb yn ei law. Cyn hir, at y Llyn cyrhaeddasant Gan roddi'r Genweiriau mewn trefn A thynu mewn gobaith y Fasged Gllldasant bob un ar y cefn Gan arswyd ag ofn eu tramgwyddo Dynesais i gysgod y bryn, Ar ymgom a glywais cyd-rhyngddynt Oedd rhywbeth yn debyg i hyn ;— "Yn enw dyn byw Robert Davies, Medd un gwr cyhyrog yn hy. D'oes ynia r'un brithyll am gydio 'Rwyf fi am gael newid fy mhlu Wel wir Capten Hughes ebe yntau, Gwnaf finnau r'un fath yn right siwr, A cheisiwn gyflawni'r ddiareb Sef ffitio y bluen i'r dwr." Yn gogiais fy nghlust o'r tu dehau l'r Llyn r' oedd rhyw seiniau tra lion, 'Rol gwralldo. hen gan adnabyddus Y 'Fam gyda'i baban' oedd hon Yn wir pendeifynais adnabod Y gwr oedd yn gantor mor gu A gwelais cyn hir yn ei berson Y scrchog John Williams. Graigddu. Dilynais hwy 'n ol tuag adref Ymgomient yn fel us heb ball, Y naill yn dwys adrcdd Traddodiad Hen Lyn y Morwynion' i'r llall ) Ar tlydydd yn canu yn lIawen Wrth feddwl dyfodol mor wyn, Oedd iddo r'ol gweled y pysgod Yn claddu mor dda yn y Llyn. Fel yua terfynodd y nawngwaitli I, ,L. Difyraf a dreuliais erioed, > Tra nos yn ei mentyll angladdol Yn claddu y dydd wrth ei throed; Ond er i'm roi mhen ar obenydd A gwahodd cwsg melas i 'ngol, Dychwelais ar edyn breuddwydion I lan Llyn v Manod yn ol. Nawn arall, mewn nwyd ymchwiliadol Am greiriau yr amser a fu, At 'Feddau y Gwyr'—fe ymrodiais I fwyniant unigedd mor gu Ond ataf daeth awel o'r mynydd Mewn hoen gan spardynu fy nerth, A than ei dylanwad esgynais I gopa y Gamallt dra serth. Ceir yma gyflead rhagorol 0 wir arucheledd ein gwlad, Y bryuiau fel mtld wyliedyddion Yn gwarchod y fan mewn parhad A'r Llynoedd fel dyfal athrawon Yn dysgu'r ymwelydd o hyd, I edrych lei hwy tua'r nefoedd Yn nghanol ystormydd y byd. Dan bwys drychfeddyliau reI yna t Yn sydyn eisteddais i law-r, Cofnodais hwy, riiag i ddyfancoll Gael gwledd o athrylith mor fawr; Ond siomiant fel cawr a drywanodd Fwriadau fy nghalon bob un, Dangosodd yu glir na chawn dreulio Y nawn ar y inynkdd fy-hian. Canfyddais In mawr o bysgotwyr Yn pryanr ddynesu i'r lie, .Wrth wrando fe'l elywais yn enwt Ryw Dretor, a, Hugh Plas-yn-dre Aeth pyneiaa y dydd dan eu sylw Tra'i,. disgwyl am "naid' ar y pysg, Ar ffraeth Daniel Jones o Langernyw I'w dala roi ddarlitli llawn dysg. 'Roedd arogl blodau Meheiin Yn Ilwythog o iecliyd yn dod, I chwyddo hapusrwydd y fangre Ar gopa y mynydd di-nod Tra'r diwyd Enweirwyr yn treluio Eu horiau hamddenol ynghyd, Dan wen diniweidrwydd ei hunan 0 olwg deniadau y byd. Cael chwaneg i dreulio eu horiau Mewn gwir ddiniweidrwydd fel hyn. A fyddai'n yn hyfforddiant i grefydd Wneyd duwch hanesiaeth yn wyn: Cael chwaneg i ddringo'n mynyddau » I'r fan lie mae purdeb yn byw; Ddifoda y drain eenfigenllyd Wnallt flodau athrylith yn wyw. Aelodau Gymdeithas Enweiriawl Eweh rhagoch mewn llwwclcliant o hyd, A threuliwch eich oriau hamddenol Mewn mwyniant di-bechod i gyd Dymunwn i ran Mr Casson, Ar doeth Ysgrifenydd hir oes, A llwyddiant i droi llawer eto I rodio ar lwybrau glan moes. BRYFBIB.

CYLCHWYL LENYDDOL A CHERDDOROL…

DAMWAIN DDIFRIFOL YN CHWAREL…

[No title]

BLAENAU FFESTINIOG.