Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

PEN BLWYDD "Y RHEDEGYDD."I

^AAAAAAAAAA/S^WsA^WWSAA/WVV…

IGwaith Dwfr Harlech.- Ymchwiliad…

I LLANRWST.

AA/VWW\/V\WVWVWVVVVVV\\VV…

I:

) Jehu mewn Helbu.

I - Glanhau Esgidiau.

I Ffrwydriad mewn Ystorfa.…

I Agor Bedd Druce.

\AAAA/VWWWVVWVWWV VVVWV |…

I BLAENAU FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BLAENAU FFESTINIOG. Pregethir yn nghapel Jerusalem, y Sabboth nesaf, gan y Parch. O. Davies, Ganllwyd; a'r Parch. J. Rhydwen Parry, Bethania, am 10 yn Bethel, Ffestiniog. CYFARFOD YMADAWOL. — Ymadawodd y cyfaill ffyddlon W. J. Evans, gynt Waterfield Place, Bethania, Blaenau Ffestiniog, o'n plith, ar yr hwn achlysur y cynhaliwyd cyfarfod ym- adawol iddo gan Gymry Schenectady, oher- j wydd ei ymdrech gyda'r Achos Cymreig yn y He. Cyflwynwyd iddo Feibl Hardd gan Ruth Jones dros y Cymry yma, yr hon sydd yn ferch- ieuengaf i John J. Jones, Lafyette, sef brodor o Conglywal, ac yn gefnder i Griffith Roberts, Neuadd-ddu. Caed cyfarfod adlon- iadol, y cyntaf ericed yn Gymraeg yn yr ardal hon. Gwasanaethwyd ynddo gan y rhai can- Ilynal :-Can. "Hen Wlad fy Nhadau," gan Owen Jones, brodor o Rhuddlas, Sir Gaer- narfon anerchiadau y Beirdd Can gan Ben. Mates Can, Christmas Lulla By," gan Rnth Jones; Adroddiad, "Wesul tipyri," gan W. Williams; Can gan Ed. Maites; Penillion gyda'r delyn, gan J. Jones a Wm. Williams Araeth fyrfyfyr; Adroddiad, "Shon, chwareB teg," gan W. Williams, brodcr o Tunygrisiau Detboliad ar yr offeryn gan James Mates, I ddiweddu y cyfarfod cafwyd can, "Gwnewch Pobpeth yn Gymraeg," gan William Williamsg" a'r gynulleidfa yn uno yD y cydgan. Ar ol y cyfarfod cafwyd gwledd i'r corph o wahanol ddaateithion. Yrn\vaha~.wyd gan ddymuno mordaith gysurus i'n cyfajll. Cafodd pawb eu boddlcni yn gampus, tua haner cant mewn nifer. Cadeirydd y cyfarfod oedd Mr. Wm. Williams. Y mae ein cyfaill wedi cael y fraint o weled un o ryfeddodau y byd, sef Ehaiadr y Niagra, yn ngwmni ysgrifenydd y Uineliau hyn a chyfaill arall, a golygfa ardderchog ydyw. Disgynasom yn Buffalo, yn yr hwn Ie y caw- som y fraint o weled cof-golofn yr Arlywydd Mc'Kinley, yr hon sydd yn hardd iawn, gan ei bod y diwrnod hwnw yn ddydd ei goffadwr- iaeth—y Civil War. Yr oedd yr hen filwyr wedi crynhoi at eu gilydd mewn gcrymdaith. Er wedi gwargrymu gan henaint yr oeddynt yn edrych yn non y diwrnod hwnw. Aethom wedi hyny gyda y Trolley Car at Rhaiadr y Nisgra, 27 milldir oddiyno. Dychwelasom adref erbyn boreu dranoeth wedi trerdio diwr- nod hapus dros ben. DIRWESTOL.—'Yn nghyfarfod dirwestol nos Sadwrn diweddaf canwyd Carolau. Dechreu- wyd gan Mr. Evan R. Jones, Bsthesda. Llyw- yddwyd y cyfarfod gan Mr Hugh S. Jones i, Carol gan Mrs Ephr&im, a'r gynulleidfa yn uno yn y cydgan. Carol gan Mri John Jones a'i barti. Wm, Eyan Jones a'i barti, Miss Ell ell Jones, Penygroes, Mr Lewis Jones a'i bartil, Mr Richard Thomas, Mr David E. Jones a'i barti (ddwywaith), Mr. Evan Williams a'i barti, etc gan Mr Lewis Jones. Adroddiadau gan Miss Myfanwy Jones a Mr Robert Morris l Triawd gan Mr David H. Jones a'i gyfeillion, a David Griffiths a'i gyfeillion. Diweddwyd y cyfarfod gan y brawd Mr. John Hughes. Bydd Band of Hope Gwylfa yn gwasanaethu nos Sadwrnnesaf.-T.R. TEML Y DUFFWS.-Nos Wener diweddaf. cynhaliodd y Demi hon ei chyfarfod. Agor- wyd yn y drefn arferol. Adroddiad gan Robert O. Williams. Can gan Mrs Ephraim a Miss Katie Jones, Cromwell Street. Adroddiadau gan Jennie Williams a Mrs Owen, Tanybwlch. Rhoddwyd aeron i bob aelod o'r Demi gan y chwaer Mrs Owen, a'r un modd wythnos i nos Wener diweddaf gan y chwaer Mrs D. G. Wil- liams, am ba rai y diolchwyd iddynt yn gynes gan y Deml am eu rhodd caredig. Cauwyd y Demi yn y drefn arferol.—T.R. ANKHEGION.—Rhoddodd Mr. W. Lloyd Roberts, cynberchenog y RHEDEGYDD, anrheg- ion i bob un o'i denantiaid yn y Blaenau a Llan Ffestiniog yn wythnos y Nadolig. Gwaith caredig yw cofio mor haelfrydig am danynt. LLONGYFARCHIAD.- Dyrnunwn longyfarch Mr. D. R. Jones, AvallonJ ar ei waith yn enill dwy gini a choron arian hardd, gwerth pedair gini, yn Eisteddfod Goronog Lerpwl, Gwyl y Banc, am y bryddest oreu, pedwar cant o lin- ellau ar y testyn A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf." Dywedai'r beirniad-y Parch. D. Adams, B.A.. fod ei Bryddest ar ei phen ei hun yn y gystadleuaeth, ac yo wir deilwng o'r Goron Cenedlaethol.—CYFAILL. Y PARCH. J. JENKINS (GWILI).—Deallaf mai y Prif-fardd a'r pregethwr poblogaidd Gwili o Rydychain fydd yn pregethu yn nghapel Seion y Sul nesaf.-Hefyd bydd yn dda gan luaws, mae'n debyg, ddeall ei fod yn rraddodi Darlith ar Ganwvll y Cymry." yng Nghymdeithas Ddiwylliadol Seion, nos Fawrth nesaf, am 7.30, pryd y bydd croesaw cynes i bawb ddod i'w wrandaw. Mae Gwili yn en* wog iawn, ac yn adnabyddus i lawer yn Ffes- tiniog fel ysgolor, bar dd, a lienor, o'r radd flaenaf. Dewch yn Ilu i'w wrando. BARDD. Deallwn mai y Parch. Cefni'Jones, Calia-ria, ydoedd yr ail, o 14 o ymgeiswyr, am Gadair yn Mon y Nadolig. Os nad ydym yn camgymeryd, dyma yr ail, bryddest Iddo- oedd yn ail hefyd o nifer dda gyda'i brydde* gyntaf. Mae Mr. Jones yn hawio safle amlwg yn mhwlpud ei enwad fel pregethwr gailuog a meddyliwr cryf. Cydnabyddir ef bellach yn mhiith ein beirdd. Daiied y bardd-bregethwr Cefni ati nes cael Cadair i eistedd ynddi fel un tra theilwng o'r anrhydedd. Prophwydwn hyny yn fuan.—CYFAILL. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL SEION.—Nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr. R. Jones (Peror- fryn). Darllenodd Mr. Griffith Roberts bapur llafurfawr a chlir, a1' Sosialaeth a Chrisaonog- aeth." Zmdriniodd ei bwnc amserol. gvda deheurwydd neillduol, gan osod ei bwyntiau yn egiur a chEr. Yr oedd ei bapur yn liawn o wersi buddiol, ac addysgiadol, a chafwyd gwobr dda am. ddod ¿rwy'r oerni i'w wrando. Siaradwyd yn mhellach yn fvr ac i bwrpas gan Mri. M. Williams, Griffith Roberts, Wil- Ham Hughes, S.. S. Jones a'r Llywydd.—Da | oedd bod yno.