Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

.Marwolaeth Ddamweiniol yn…

-BWRDD Y GWAROHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

[No title]

PENMACHNO.

VVWWVWWWVWVWWWWWV GARN DOLBENMAEN.…

Cyfarfod Chwarterol y Wesleyaid.

TREFN OEDFAON Y SUL

PENRHYNDEUDRAETH, I

QELLILYDAN.

Marwolaeth Dr. Mills Roberts,…

I BLAENAU FFESTINIOG.

PENRHYNDEUDRAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENRHYNDEUDRAETH. CYFARFOD LLENYDDOL CARMEL.—Cafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf dyddorol a chwaeth- us a allesid meddwl am dano, nos Sadwrn. Yn absenoldeb R. O. Jones, Ysw., Festiniog, Uanwyd y Gadair lywyddol gan J. Jones Morris*, Ysw,, Portmadoc, yr hwn hefyd a arweiniodd y cyfarfod yn wir Iwyddianus. Nid yn am! y gwelwyd Mr. Morris yn y fath hwyliau. Gwelwyd ef amryw weithiau yn ystod y cyfarfod yn cael cymorth i chwerthin o waelod ei galon. Dyma enwau y Buddugwyr: — Canu, Arglwydd dyma fi," ymgeisiodd 4, laf, R. J. Jones, 2, H. Hnghes Roberts, 3, Nelly Jones. Cwestiynau yn Safon 4ydd, Ellen Blodwen Jones. Cystadleuaeth Deuawd i Blant, "Plant Caersalem," rhanwyd y wobr rhwng Jenny Thomas a Mary G. Roberts, a Sallie Morgan a Polly Hughes. Ateb cwestiynau yn Safon V, ymgeisiodd 5, Sallie Morgans. Unawd i Blant, Clyw ni addfwyn Waredwr," 1, Jenny Thomas, 2, Margred A. Williams apiary G. Roberts. Ateb cwestiyn- au yn Safon VI, Margred A. Williams. Unrhyw Adroddiad i Blant dan 12 oed, ymgeisiodd 8, 1, Robert T. Evans, 2, George Williams. Corau Plant. Daeth dau gor vn mlaen, y naill dan arweiniad Edward J. Roberts, a'r Hall dan arweiniad Robert D. Roberts. Ty'n yr Ardd, "Cwsg fy Noli" (D. W. Lewis). Yr oedd y gystadleuaeth hon yn hynod o galed. Trodd y fantol o blaid y Cor alaf. Adroddiad i rai dan 25ain oed, "Damwain mewn chwarel." ymgeisiodd 3, Miss L. A. Williams, Minffordd. Unrhyw Unawd i rai heb enill 7/6 yn flaenorol, ymgeisiodd 17, Mr. William Pritchard, Park, Llanfrothen. Unrhyw Bedwarawd. Daeth tri ytnlaen, Mr. Josepb Roberts a'i barti; Mr. R. J. Jones, Festiniog a'i barti: a Mr. Robert D. Roberts, Church Street, a'i barti. Yn ffodus iawn yr oedd y tri parti wedi dewis yr un dernyn, Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd," dyfarnwyd yr olaf yn oreu. Ateb cwestiynau dosbarth dan 21ain oed, Miss Lizzie Morgans. Am y D'oyles goreu, Miss Sina G. Roberts, -Church Street, yn oreu allan o chwech. Am y Crotchet Tie, Miss Mary Roberts, Llanfrothen yn oreu allan o bump. Cystadleuaeth Datganu "Tydfil" (Tom Price), ac Adgyfodiad" (D. Emlyn Evans). Dau barti ddaeth yn mlaen, Gorphwysfa dan arweiniad Mr. Thomas Humphreys Jones, a Carmel dan arweiniad Mr. Joseph Roberts, dyfarnwyd yr olaf yn oreu. Derbyniwyd pob dyfarniad o eiddo Mr. Jones (LIew Cynfal) yn hynpd o hapus. Cyfeiliwyd yn feistrolgar gan Miss Williams (Meirionwen Deudraeth). Diolchwyd yn gynes i bawb am eugwasanaeth. Er nad oedd Mr. R. O. Jones yn bresenol aeth yn ddwfn i'w boced er ein cynorthwyo. Yr un modd Mr. Jones Morris yn ychwanegol at ei rodd haelionqs yntarrT Ychwanegodd amryw weitbiau at y gwobrwyon. Rhaid dweyd fod Boneddigion o'r fath hyn yn brin yn ein gwlad.—J.R. ERCOF. Daeth y newydd prudd am farwolaeth Mr. D. W. Jones, Park Road gynt, yn America, ar Mawrth 19. Rhyw haner blywddyn yn ol oddiar yr aeth yno gyda'i anwyl ferch, a'r hon y cydymdeimlwn yn fawr. ■—Wythnos i nos Sul cyhoeddwyd "gostegion priodas Mr. J. Hopton, garddwr Castell Deudraeth. tra yr oedd ef yn marw o waed- wenwyniad Daeth yma o Swydd Hwlffordd ychydig fisoedd yn ol. Rhyfedd fel y mae angeu yn tori i lawr yn mhell ac agos. LLWYDD. Ein llongyfarchiad mwyaf calonog i Mr. Morris W. Reese, Cae'rgraig, ar ei lwyddiant yn enill y Bronze Medal mewn Anianeg yn Ngholeg Mungo, Glasgow. MARWOLAETH MR. DAVID ROBERTS. — Dydd Iau, Mai yr 2il, bu farw Mr. David Roberts, Bryngwilym (gynt o Danlan, Llanfrothen), yn 76 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion marwol yn mynwent Ramoth, dydd Llun. Gwasanaethwyd wrth y ty gan Mri. Stepen Jones, Porthmadog, a J. D. Davies, Blaenau Ffestiniog ac wrth y bedd gan Mri. W. Humphreys (Elihu), Blaenau Ffestiniog a Stephen Jones, Portmadoc. Yr oedd yr ymadawedig yn wr diargyhoedd, yn byw bywyd gwir Gristion yn ei holl gysyllt- iadau. Dangoswyd cydymdeimlad dwfn ar teulu trallodedig. AAAAAAA AAA..& A A. AAA AAA AAAA A A AAA