Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MYNWCH gael rhai o'r E' w w w BARGEINION o SHOP-YR-ERYR, CHURCH STREET, BL. FESTINIOG. RHAID CLIIO YR OLLgO'R DAPEY STOCK. Ebri11 1af, 1908. T. ROBERTS. Ebrill laf, 1908. T. ROBERTS. MAYROLES PERFECT THREE: I TEB EGGS AND T Af THEY ARE THE BEST YOU CAN BUY. mAyPOLE PfllRV O., LTP. 12, CHURCH STREET, BLAENAU FESTINIOG. OVER 55Q BRANCHES NOW OPEN. -====== I Dyma gwestiwn a idd ddyllalaii gael eich sylw difrifolaf, a | A ydyw cich hyny heb oedi. y yw Os ydyw eich golwg yn I I Cc!wQ yn ddrwg nid oes modd ei wella | Dd8ff"' I., heb rhyw gyfrwng allanol i II Dd'l'ffygiOl ? f wneyd hyny. Gochelwch rhag dewis eich Spectol I each hunaSss,. gallhyny brofi yn | fwy o niwed o lawer. | Yr wyf yn barod i brofi eich | golwg yn jrhad, ac os bydd —————' 1 ?"'——————————————— angen Spectol arnoch g1Jllaf gael rhai i'ch siwtio am bris rhesymoI.  Thomas Jones", f Watchmaker & l{ewboro' Buildings, B, Festiniog ?;! i .¡., Mr. OWEN, L.D.S., R.C.S., (London), DENTIST, LLYS DORFIL, New Market Square, Blaenau Ffestiniog. Gellir ei weled ya BLAENAU FFESTINIOG, bob Dydd Llun o 10 hyd 8; Boreu Dydd Ian o 10 hyd 1 a Boreu Gwener o 10 hyd 1 o'r gloch. LLANRWST, bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher o lleg hyd 5 o'r gloch yn nby Mrs. 1 arry, Station Road. ( WEALTH: The Reward of Thrift. Without Gambling! Without Speculating!! Without Risk Invest Your Savings in Government PREMIUM BONDS. They are guaranteed as to principal and interest, consequently as safe as British Consols. They bear fixed interest in most cases from 2 to 4 per cent, and give the holders the chance of acquiring a fortune by periodical Drawings .with Prizes from 924,000 down to £20. A shoemaker whose wages were only 25/- per week has drawn the First Prize of £ 24,000 of the Ottoman Government .Railroad Bonds, which he bought only two months before They appeal alike to the man with tho- sands and the man with shillings. EASY TERMS (from 101-per month) of Payment if desired. 8 Write a postcard for descriptive Booklet. The Anglo-American Finance Corporation 41, King Wiliiam^Street, London, E.G.
AT EIN GOHEBWVR.I
AT EIN GOHEBWVR. I Y BEIRDD.-Dialch i ehwiJ 011 am eich ffydd- londeb. Ymdrechwn wneyd lie i gynifer o'r cynyrchion ag y gallwn yn ein nesaf. Rhaid i chwi wrth amynedd. ^VSA^AA/WVWVVVVVAVVWVWVVVV
NODIADAU WYTHNOSOL I
NODIADAU WYTHNOSOL I Y Prif-weinidog. Dychwelodd Mr. Asquith adref wedi ei wneyd yn Brifweinidog y Brenin, ac y mae yn naturiol i ni gydmaru neu gyferb/nu ei berthynas ef a'i blaid ei hun ac a phleidiau eraill yn Nhy'r Cyffredin a pherthynas ei flaenorydd a hwynt. Prin y gallesid dis- gwyl cael olynydd i Syr Henry Campbell; Bannerman mor gymeradwy ag ef gan y! Rhyddfrydwyr a Chynrychiolwyr Llafur, a'r Aelodau Gwyddelig. Ond mae'n sicr fod Mr. Asquith nid yn unig heb fod yn hoff gan Blaid Llafur a'r Blaid Wyddelig, ond eu bod yn edrych arno gyda mesur o ddrwg dybiaeth. Dichon fod yn meddyliau Cyn- rychiohvyr Llafur tagfarn yn ei erbyn. Bwrier mai rhagfarn ydyw erys yn wir fod rhagfarn yn beth anhawdd iawn i'w symud. Nid yn rhwydd yr enilla hwynt i gredu ei fod mewn cydymdeimlad ar achos sydd mor agos at eu calonau. Gobeithiwn, fodd bynag, y bydd i'w gynllun i ddarparu blvydd-dal mewn henaint ddangos fod ei galon yn curo mewn cydymdeimlad gwir a gweithwyr, ac y gesyd angenrhaid ar Gyn- rychiolwyr Llafur i gydnabod-neu o'r hyn lleiaf i gredu-ei fod wedi gwneyd gystal ag y gallai yn yr amgylchiadau. Parthed teim- Iadau y BlaidWyddelig tuag ato, mae ei eiriau ef ei hun yn y gorphenol wedi gwneyd yn wybyddus i bawb nad yw yn dwyn sel dros ymreolaeth, a'i fod yn cyfranogi rhyw gymaint o ofnau Arglwydd Rosebery. Mae'n wir na phenderfynir mor cwestiwn yma yn y senedd bresenol er hyny, byddai yn gryn fantais i'r Llywodraeth gael yr Aelodau Gwyddelig yn ewyllysio yn dda iddi yn hytrach nag yn dymuno ei dadymchweliad. Er nad ydynt, hwyrach, yn cyfrif Mr. Asquith yn mhlith gelynicn croes eu hachos, mae'n sicr nad ydynt yn ei ystyried yn gyf- aill iddo. Gwylient ef yn ddibaid a dalient ar bob gair a ddywed, ac ofnwn y ceir hwynt yn barotach i roddi yr esboniad gwaethaf nag i roddi'r esboniad goreu ar ei eiriau a'i weithredoedd. Nid oes genym achos i gredu y caiff drafferth gyda chorph y Blaid Ryddfrydol, ond bydd yn rhaid idco wrth nid ychydig o ddoethineb i enill ym- ddiried ac i sicrhau cydweithrediad calonog yr adran Radicalaidd o honi. Profir hyd yi eithaf ei ddawn i drin dynion."
.I Ofnilr Gwir.
Ofnilr Gwir. Nos Lun diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod mawr yn Lerpwl i gefnogi Mesur y Trwydd- edau, dan lywyddiaeth yr Esgob Chavasse. Er fod pob rhag ofal wedi ei gymeryd er mwyn sicrhau cyfarfod trefnus, gwelwyd cyn gynted ag y dechreuwyd y gweithrediadau fod yno nifer o wrthwynebwyr y mesur wedi ymlusgo i fewn, a'u bod wedi dyfod yno gyda'r bwriad o ddyrysu y cyfarfod os gall- ent. Yr oedd yn amlwg oddiwrth y rhanau o'r neuadd yn y rhai yr eisteddent eu bod yn deall eu gilydd, ac wedi cynllunio yn ofalus fel y gallent gydweithredu a'u gilydd yn y ffordd effeithiolaf i gyraedd eu hamcan. Mae Dr. Chavasse yn fawr ei barch gan bawb-rgan Eglwyswyr ac Anghydffurffwyr hefyd, ond dangosodd pleidwyr y fasnach nad yw ddim ganddynt "gablu urddas" pan y beiddia gwr gwir urddasol draethu barn anghymeradwy yn eu golwg. Pe buasaiy dynion terfysgIyd hyn wedi myn'd i'r cyfarfod i wrando, ac yn dangos mewn modd rhesymol a gweddus eu bod yn anghytuno a'r siaradwyr, ni allesid beio arnynt. Ond aethant yno nid i wrando ond i geisio ei wneyd yn anmhosibl ? neb siarad. Pwy a wnaeth y trefniadau, ac ar draul pwy ? Rhaid i ni gredu fod darllawyr a thafarnwyr yn gyfrifol am yr hyn gymerodd le, a bod y terfysgwyr yn cael eu talu am eu gwaith an- heilwng. Mae'r fasnach yn ofni'r gwir, ac yn ofni i'r cyhoedd gael gwybod y gwir am ei fod yn ei chondemnio hi, a gorfodir ni i gredu fod y rhai ag y mae yn dwyn elw iddynt wedi penderfynu rhwystro'r gwir rhag cael ei draethu, os gallant rywfodd. Y mae ganddynt achos i ofni'r gwir am eu masnach, oblegid pe bai'r cyhoedd yn gwybod y drydedd ran o'r gwir am dani gwnai fyr waith arni. Da yw deall fod penderfyniadau yn cymeradwyo y mesur wedi ei basio. Yr oedd ychydig filoedd drosto, ychydig gan- oedd oedd yn ei erbyn. Ac y mae yn dda genym allu credu mai effath drwg-gynllun- iau a haerllugrwydd fel a grybwyllwyd fydd argyhoeddi'r wlad fod yn hen bryd cyfyngu ar rwysg y fasnach mewn diodydd meddwol. +
Pwyllgor Addysg Mon.I
Pwyllgor Addysg Mon. Galwyd ein sylw at un mater neillduol fu gerbron Pwyllgor Addysg Mon yn ei gyfarfod diweddaf. Ymddengys fod y gwaith yn galw am chwanegu un at y clerc- od sydd yn Swyddfa Addysg y Sir, a gwnaed hyny mewn ffordd nad oes dim i'w ddyweyd drosti tra y mae llawer iawn i'w ddywedyd yn ei herbyn. Fel hyn y gwnaed. Anfonodd is-bwyllgor (ag y perthynai iddo wneyd y trefniadau angenrheidiol) at Brif- athraw Ysgol Sirol Llangefni i ofyn iddo a wyddai am fachgen ieuanc y gaUai ei gym- eradwyo. Enwodd yntau un o'r ysgolorion, a phenodwyd hwnw i'r swydd yn amodol. Yr amod oedd fod yn rhaid i'r penodiad gael ei gadarnhau gan Bwyllgor Addysg. Ni hysbyswyd y swydd wag yn y newydd- iaduron, ni chafodd neb arall gyfle i'w icheisio, llanwyd hi yn y modd a enwyd. Pwy a ddywed fod peth fel hyn yn iawn ? Neb, dybygwn. Dylem ddywedyd na ddy- wedodd neb air yn erbyn y llanc a benod- wyd. Cytunai, pawb a'i hadwaenent ei fod yn gymwys i'r swydd. Ond y mae'n bosibl, o'r hyn lleiaf, fod yn Mon eraill mor gymwys ag ef, a dylesid ar bob cyfrif roddi iddynt gyfle i gystadlu am y swydd. Dylai Pwyllgorau a Chynghorau ofalu am weith- redu mewn modd na ddyry esgus i neb feddwl heb son am ddywedyd fod rhai yn cael eu ffafrio ar draul gwneyd cam ag eraill. Er fod pwyllgor Addysg Mon wedi cadarn- hau gwaith ei is-bwyllgor (heb neb yn gwrthwynebu), y mae'n weddol sicr na fydd i'r un is-bwyllgor arall wneyd peth tebyg i hyn.
IY Weinyddiaeth Newydd. I
I Y Weinyddiaeth Newydd. I Mewn colofn arall ceir restr gyflawn o gynifer o aelodau'r Weinyddiaeth ag ydynt yn y Cyfringylch. A gadael allan o'r cyfrif Syr Henry Campbell Bannerman, Mr. Asquith, y Prifweinidog o'r blaen, a'r Prif- weinidog presenol, ymddengys i ni fod y Weinyddiaeth fel y mae yn well nag fel yr oedd. Arglwydd Elgin ydyw yr unig wr ag ygwelodd Mr. Asquith yn dda hebgor ei wasanaeth, ac nid yw'r Llywodraeth ar ei cholled o hyny. Erys Arglwydd Ripon yn ei le, ond y mae wedi ceisio am i'r gwaith o arwain y Rhyddfrydwyr yn Nhy yr Arg- lwyddi gael ei roddi i Arglwydd Crewe yr hwn sydd wedi cymeryd lie Arglwydd Elgin fel ysgrifenydd y Trefedigaethau. Paid Arglwydd Tweedmouth a bod yn Arglwydd Cyntaf y Morlys, a rhoddir y swydd i Mr. Mc'Kenna, a chymer ei le ef yn Swyddfa Addysg gan Mr. W. Runciman yr hwn fel ei flaenorydd sydd yn Anghydffurfiwr ac yn cael edrych arno fel gwr a dyfodol disglaer iddo. Olynydd Mr. Lloyd George yn Swyddfa Bwrdd Masnach ydyw Mr. Winston Churchill. Efe a W. Runciman ydyw y ddau aelod newydd o'r Cyfringylch. Symudir Mr. John Morley a Syr Henry Fowler i Dy'r Arglwyddi, ond parhant i weithredu, y naill fel Ysgrifenydd yr India, Hall fel Canghellydd Duciaeth Caerhirfryn. Rhaid oedd gwnevd Mr. Lloyd George yn Ganghellydd y Trysorlys, a hyfryd ydyw gweled fod y Wasg Doriaidd yn gymaint a'r Wasg Ryddfrydol yn cydnabod ei ragor- iaeth, yn canmol ei ddoethineb, yn cydnabod ei Iwyddiant mawr yn Swyddfa Bwrdd Mas- nach, ac yn llawenhau yn ei ddyrchafiad er nad oes sicrwydd llawn eto, dywedir yn dra phendant y codir Swydd Bwrdd Masnach a Swydd Llywydd Bwrdd Llywodraeth Leol mewn urddas a gwerth. 0 hyn allan bydd y cyflog yn y naill achos fel y llall yn C5,000 yn lie £ 2,000.
I Is-ysgrifenyddion, &c.I
I Is-ysgrifenyddion, &c. I Penodwyd y Milwriad Seely (Swyddfa'r Trefedigaethau) Arglwydd Lucas (Rhyfel), F. P. Acland (Ysgrifenydd Arianol Swydd- fa Rhyfel) a Mr. T. R. Buchanan (Swydd- fa'r India). Dynion ieuainc ydynt, ond y maent eisoes wedi profi i foddlonrwydd y gellir gwladweinyddion o honynt. Symud- wyd Dr. Macnamara o swyddfa Bwrdd Llywodraeth Leol.i'r Morlys, yn lie Mr. E. Robertson yr hwn sydd yn awr heb swydd fel y mae Mr. Lough, Is-ysgrifenydd Bwrdd Addysg. Ni fu Mr. Lough yn llwyddianus o gwbl yn ei le. Wrth ei fwrw o'r neilldu cysurir ef trwy ei wneyd Y Gwir Anrhydeddus Thomas Lough, ond nid oes cysur felly wedi ei toddi i Mr. Robertson.
Seddau Gweigion.
Seddau Gweigion. Bydd yn rhaid i'r gwyr a enwir isod geisio ad-etholiad yn y lleoedd geir gyferbyn a'u henwau. Dengys y ffigyrau faint oedd y mwyafrif Rhyddfrydol yn Ionawr 1906. Olynydd i Mr. Morley Montrose 2494. Olynydd i Syr H. Fowler-Wolverhampton- 2865. Mr. Winston Churchill—Manceinion—1241. Mr. Runciman-Dewsbury-3805.
Cyfarfod Chwarterol^An ni…
Cyfarfod Chwarterol^An ni !bynwyr Meirion. Dydd Iau a dydd Gwener, cynhaliodd Anibynwyr'Meirion eu Cyfarfod Chwarterol yn Ebenezer, Trawsfynydd, o dan lywyddiaeth Mr. ]. Ffoulkes Jones, U.H., Corwen, yn absenoldeb Mr. Jordan, Bala, oherwydd afiechyd. Nos Iau, pregethwyd yn Jerusalem gan y Parch. J. R. Evans, Penal; yn y Cwm (M.C.) gan y Parch. T. Talwyn Phillips, B.D., Bala ac yn Ebenezer gan y Parchn. Rhys Davies, Corris, a R. E. Davies, Dinas Mawddwy. Dechrenwyd yn Ebenezer gan y Parch. John Hughes, Blaenau Ffestiniog. Cafwyd cynulliadau da a phregethau grymus. Cafwyd Cynadledd boreu ddydd Gwener, a'r prydnawn. Y prydnawn, darllenwyd papur gan y Parch. Gwilym Thomas, Arthog, ar Y modd i wella y Gyfeillach," a dilynwyd gan bregeth nerthol gan y Parch. W. Pari Huws, B.D.. Dolgellau. Oedfa rymus iawn oedd hon. Yn yr hwyr cafwyd dwy bregeth yn Ebenezer gan y Parchn. T. Griffith, Salem, Blaenau Ffestiniog, a J. M. Williams. Pregethai Mr. Griffith ar y pwngc, sef "LIe Caniadaeth yn y moddion cyhoeddus," a chaed ganddo neges gref ec amserol. Dechreuwyd gan y Parch. Gwilym Thomas, Arthog. Daeth cynrychiolaeth gref o bob rhan o'r Sir i'r cyfarfod, a rifent tua deugain. Croesawid hwy a chiniaw a the yn Ysgol y Cyngor gan arlwy baratoedig gan Mrs. Roberts, Dwyryd House, ac yr oedd ya pobpeth allesid ei ddymuno. Daeth Eglwys Ebenezer allan yn deilwng gyda'r paratoadatl, ac ad-dalwyd hi gan y cyfarfodydd grymus a fwynhawyd. Llawen genym weled Mr, Richards a phobl ei ofal mor ddedwydd gyda'u gilydd.
Bwrdd Addysg Dosbarth Llanrwst.
Bwrdd Addysg Dosbarth Llanrwst. 'Prydnawn LIun, o dan lywyddiaeth Mr. William Hughes, u.H., cyfarfu y Rheolwyr Addysg canlynol, Mri. Dr. Owen, W. Cynwyd Williams, T. R. Jones. Edward Mills, W. G. Owen, W. E. Jones, a J. E. Humphreys (Clerc). Cafwyd adroddiad yr Ysgol-feistr ar waith y rhai lanhaent yr Ysgolion, ac yr oedd ar y cyfan yn foddhaol.—Yr oedd yr un lanhai ysgol Eglwysbach yn ymddiswyddo ar gyfrif fod y cyfarfodydd gynhelid yn y nos yn dyblu ei gwaith.-Pasiwyd i gyfiwyno y llythyr i'r Ysgolfeistr a'r cynrychiolydd lleol cyn derbyn yr ymddiswyddiad.—Penodwyd Mary Elizabeth Williams yn lie ei mham i lanhau Ysgol Llanrwst. Ar gynygiad y Cadeirydd pasiwyd i'r quorum fod yn bedwar yn Ile chwech. Ar gynygiad y Parch. W. Cynwyd Williams, pasiwyd i ofyn i Bwyllgor Addysg y Sir wneyd rbeol i'r plant gael eu cadw yn yr Ysgolion hyd nes y sicrheir lleoedd iddynt fyned i wasanaethu. Yr oeddynt yn cerdded yr heolydd, neu sefyllian ar y conglau yn dysgu segura. Yr oedd cyfartaledd y presenoldeb yn yr Ysgolion yn 88 y cant.
Cyfafod Chwarterol Oylchdaith…
Cyfafod Chwarterol Oylchdaith Wesleyaidd Llanrwst. Cynhaliwyd' cyfarfod chwarterol y Gylch- daith ddydd Sadwrn yn nghapel Horeb, o dan lywyddiaeth y Parch Edward Davies, kralyg- ydd y Gylchdaith. Daeth cynrychiolwyr o holl gapeli y cylch, ac yr oedd hefyd yn bres- enol, y Parcbn. W. Lloyd Davies, Penmachno, W. J, Jones, Eglwysbach; Mri T. R. Jones, Edward Mills, U.H. (dros Mr Hugh Pierce), Goruchwylwyr y Gylchdaith, a Mr. E. Davies- Jones (Ysgrifenydd Mygedol). Pasiwyd penderfyniad cefnogol i'r Mesur Trwyddedol newydd. Penodwyd Mri. Hugh Pierce. T. R. Jones, E. Davies-Jones, Herbert Hughes, J. W. Jones a Dr. Owen, i gynrychioli y Gylchdaith yn Nghyfarfod Talaethol Caernarfon', Mai 5. Danggsai cyfrif ysgolion Sabbothol y Gylch- daith gynydd o 63 yn rhif yr aelodau. Hysbyswyd fod Mr R. W. Perks, A.s., y Parch. H. Wiseman, Llywydd y, Gynhadledd Wesleyaidd, Parch J. Hornerbrook a Dr Hope i ddod i'r Gymeithasfa nesaf yn Llanrwst dros y Gynhadledd. Cynhelir y cyfarfod yn Me- hefin. Pasiwyd i anfon gwahoddiad i Mr. Tom Price, Prif Weinidog Awstralia i ddod i'r Gym- deithasfa. Bu Mr Price yn aelod o eglwys Boundary Street, Lerpwl cyn iddo ymfudo i Awstralia. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr. Ellis Owen, Dolwyddelen, a Mr Robert Roberts, Swch yr Hafod ar farwolaeth eu mheibion. Hysbysodd Mr T. R. Jones y byddai y Parch Gwilym Roberts yn dod i Eglwysbach yn lie y Parch. W. J. Jones. Siaradwyd yn uchel am Mr. Jones a'r gwaith da a wnaeth tra y bu yn y Gylchdaith. Pasiwyd i roddi gwahoddiad cynes i'r Parch. T. C. Roberts fel olynydd i'r Parch E. Davies, amser yr bwn sydd yn terfynu yn y Gylch- daith yn Awst nesaf. Cafwyd cyfatfod dymunol iawn.