Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Helynt CWMNI CHWAREL YN I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Helynt CWMNI CHWAREL YN MLAENAU FFESTINIOG. Dydd Mawrth, yn Mansion House, Llundain, o fiaen Syr J. T. Ritchie, cyhuddwyd Henry Warwick Gyde (alias Peter Henry Bernard), a Walter Darby, 8, Union Court, Old Broad Street, Llundain, i gynllwyno Septimus Marcus (alias Marcus Edward Septimus Bernard), i gael trwy dwyll honiadau arian a diogelion gan bersonau ellid eu perswadio i brynu cyfranau yn y Welsh Slate Quarries (cyfyngedig), a'r North Wales Quarries (cyfyngedig), gyda'r amcan o dwyllo. Ni atebodd Darby i'r wys a rhoddwyd gwaratt i'w cIdal. Mr. Graham Campbell, wrth roddi amlinell- iad o'r achos, a ddywedodd i'r Cwmniau dan sylw gael eu ffurfio i'r amcan o sicrhau a gweithio chwareli yn Ngogledd Cymru. Ys- tyriai yr erlyniaeth yr achos yn un pwysig .awn. Yr oedd y ddau Gwmni yn awr yn Fethdaliadol trwy archiad yr Uchel-lys ar Chwefror 6, 1906. Yn achos y North Wales Slate Quarries bu i'r cyhoedd danysgrifio i brynu cyfranau o werth £ 4,510, y cyfryw gyfranau, yn ol yr erlyniaeth, oeddynt yn hollol ddiwerth. O'r swm hwn nid oedd dim Hai na £ 2,386 10s Oc wedi myned i logellau'r Diffynydd, a chaniatau swm neillduol dalwyd ganddynt i'r cwmni. Nid oedd ganddynt eiddo, ac yr oedd yr hawl chwarel yn ddi- werth. Yr oedd y tir berchenpg (Mr. Evan oleddyn Lloyd, Gorddinen; weal aagymerya meddiant o'r eiddo, a gwerthwyd y peirianau am trifle. Yn ystod yr holl amser y bu y Cwmni mewn bod, ni werthodd ond gwerth [30 14s 10c o lechi. 0 berthynas i achos y Welsh Slate Company, yr oedd, meddai y Bar- gyfreithiwr, yn fwy difrifol, gan i'r cyhoedd danysgrifio i'r swm o £ 14,060 am gyfranau, y rhai oeddynt yn hollol ddiwerth. O'r rhai hyny yr oedd Gyde a Darby wedi derbyn [8,950 fel gwertbwyr, yn ychwanegol at yr hyn sylweddolwyd trwy werthu cyfranau. Nid oedd ef (Mr. Campbell) yn bwriadu myned yn mhellach gyda'r achos y diwrnod hwnw, yn absenoldeb Darby, a gofynai ohiriad. Gohiriodd Syr J. T. Ritchie yr acbos, a chaniataodd feichiafaeth o bedair mil o bunau gyda rhybudd i'r Heddlu am 48 awr. 0 berthynas i Darby, dywedodd ei gyfreith- iwr iddo gysgu yn nhy ei frawd nos Lun, a'i fod wedi cael ei weled y boreu hwnw yn y ddinas. Nid oedd un lie i feddwl ei fod wedi diangc. Pan soniwyd am feicbiafaeth, sylwodd un o'r heddlu fod Gyde ar Mai 7fed, 1898, wedi cael ei ddedfrydu i bum' mlynedd o benyd wasanaeth yn yr enw Bernard am gael arian trwy dwyll. Cofia ein darllenwyr i ni gyhoeddi yn Chwefror 10, 1906, hanes yr achos o flaeny Barnwr Warrington, pan wnaed cais i ddirwyn i fyny Gwmni y Welsh Slate Quarries. Dyw- edodd Mr. Buckmaster, K.C., fod y Cwmni wedi pi godi gan y City of London Investment Corporation, y rhai oedd ganddynt gyfalaf o £ 11 5s Oc. Wedi ei dalu i fyny. Cawsant fudd-brydles yn Gorddinen, yn agos i Blaenau Ffestiniog, am l,500 o'r rhai yr oedd £ 250 i'w talu mewn arian. Yna gwnaethant gytundeb i werthu yr eiddo i un Marcus am 6 18, 000, o'r rhai yr oedd £ 10,500 i'w talu mewn arian. Corphorwyd y Welsh Slate Quarries yn 1904, gyda chyfalaf o £ 30,000, a bu iddynt roddi allan prospectus, yr hyn a ganlynwyd gan £14;525 mewn arian yn dod i law y Cwmni am gyfranau. Derbyn- iodd cychwynwyr y Cwmni (y City of London Investment Corporation) y rhan fwyaf o'r arian; ac yn bu cynygiad am gael dirwyn y Cwmni i fyny yn wirfoddot, gan ei uno a'r North Wales Quarries. Wrth roddi archeb i ddirwyn y Cwmni i fyny yn orfodol gyda'r costau, bu i'r Barnwr sylwi ei fod o'r farn fod digon o dystiolaeth ar y wyneb i brofi fod y Cwmni wedi ei godi a'i gario yn mlaen yn hollol i'r amcan o dynu arian allan oddiwrth y cyhoedd a chyflwyno y cyfryw i hyrwyddwyr y Cwmni, sef y City of London Investment Corporation, ac na fu yna erioed unrhyw fwriad gonest fod i'r Cwmni fusnes gwirioneddol o gwbl! Cafodd amryw o ardal Blaenau Ffestiniog golledion trwy gymeryd cyfranau yn y Cwmni uchod.

FFESTINIOG.I

I TANYGRISIAU. "*I-I

RHOS A'R CYLCH. ---I

TALSARNAU.

-MAENTWROG.,

I Can' Mil o bunau i bedwar…

-.-Cantorion Prysur.I

Hunanladdiad Sosialydd leuangc.

Family Notices

HARLECH.

,. -..- - -.;"" - -......-…

HEDDLYS BETTWSYCOED.