Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Helynt CWMNI CHWAREL YN I…

FFESTINIOG.I

I TANYGRISIAU. "*I-I

RHOS A'R CYLCH. ---I

TALSARNAU.

-MAENTWROG.,

I Can' Mil o bunau i bedwar…

-.-Cantorion Prysur.I

Hunanladdiad Sosialydd leuangc.

Family Notices

HARLECH.

,. -..- - -.;"" - -......-…

HEDDLYS BETTWSYCOED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEDDLYS BETTWSYCOED. Dydd Sadwrn, o flaen y Milwriad Johnstone, Robert Parry, a John Gower, Ysweiniaid. Clafr. Yr Arolygydd Rees a gyhuddodd Mrs. Eliza- beth Jones, Hafod Ifan, Ysbytty, o esgeuluso hysbysu yr awdurdodau fod clafr ar ddwy o'i defaid.—Mr. R. O. Davies, ar ran y Diffyn- yddes, a gydnabyddodd fod clafr ar ddwy o'r defaid, ond nid oedd hi yn gwybod hyny hyd nes yr hysbyswyd hi o'r ffaith. Yr oedd ei bugail wedi ymadael, a dysgwyliai am y bugail newydd yn mhen y mis. Bu y clafr ar y ddwy ddafad yn ystod yr amser hwnw, ahawdd oedd i beth felly ddigwydd yn nghanol y fath nifer ag oedd ganddi hi.-Taflwyd yr achos allan ar dalu y costau. Cyhuddwyd Robert Roberts, Ochr Cafn Canol, Ysbytty, o beidio hysbysu fod clafr ar dair o'i ddefaid.-Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros y Diffynydd, a dadleuodd ei fod bob amser yn ofalus gyda'i ddefaid er ei fwyn ei hun a'i eiddo, a phe yn gwybod am y tair dafad a nodid gan yr Heddlu, ni fuasai yn oedi o gwbl hysbysu am danynt.-Cadeirydd y Faingg a ddywedodd mai y ddirwy oedd pum' pant y ddafad, ond yr oeddynt yn cymeryd Swedd dyner ar yr achos, ac yn dirwyo i ddim ond pum' swllt,-Diffynydd. "Wel Syr, yr ydach chi yn ffeind iawn Modur. Modur. Yr Arolygydd Rees a gyhuddodd Harry Chaffy, Victoria Terrace, Llanrwst, o gadw Motor Traction ar y ffordd rhwng Llanrwst a Dolgarog heb arwydd priodol arno.—Cydnab- yddwyd y trosedd, a dirwywyd 5/- a'r costau. I I Cardota. Rhingyll Price a gyhuddodd James Price, crwydryn, o gardota yn Bettwsycoed, Ebrill 10.—Dirwy 10/- a'r costau, neu fis o garchar. Aeth i'r carchar. Tadogi. Margaret Mary Hughes, Lledr Cottage, Bettwsycoed, a gyhuddodd W. Twiston Davies, Conway House, Llanrwst, o fod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlon.—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr achwynyddes, a Mr. E. Davies Jones dros y Diffynydd.-Archeb, am 2/6 a'r costau arferol.