Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

ER SERCHOG GOFFADWRIAETH

ENGLYNION I'R ATHIST.

TELYN Y -GWANWYN.j

;IMAIR MON.

I GLAN Y MOR. ]

I CYFLWYNIR I

...................- .......................-…

I BEDDGELERT.

Advertising

CAN BRIODASOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAN BRIODASOL Mr. a Mrs. Thomas J. Jones, 1, Glanaber, Dolwyddelen. Os nad oes can aderyn I'w glywed yn y coed, Os ydyw'r blodau dillyn Mewn bedd o dan fy nhroed; Mae serch yn dal i swyno, Yn rhoddi gwen a chån- Nis gall dim byd andwyo Ei nodau gwyn a glân. Nis gall yr eira oeri, Teimladau gwresog serch, Mae hwn yn dal i losgi Er oerni'r gauaf erch Y, gauaf oedd ei amser Yn hines Tom a'i fun, I losgi bob anbawsder Er gwneyd y ddau yn un. Dymuno'r wyf o galon, I'r fflam barhau o hyd, Fel byddo holl gysuron ,Gwir serch yn dod i'ch byd Ac os y daw ystormydd, Os chwyth y gwynt yn groes, Boed serch yn ddiogelydd I'ch cadw rhag un loes. Mae hyn i'w gofio hefyd Yn awr wrth ddechreu byw, i Nad oes defnyddiau gwynfyd, t Gan neb, ond gan eich Duw Gofalwch am eu meddu Heb oedi mynwch hyn, A bydd eich bywyd felly, A'ch aelwyd fyth yn wyn. J. LL. D.