Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. Cynhaliwyd cyfarfod Blynyddol y Cyngor uchod nos Iau, pryd yr oedd yn bresenol Mri David Williams, William Owen, Cadwaladr Roberts, Owen Jones, John Cadwaladr, Hugh Jones, Hugh Jones (Llan), T. J. Roberts, R. Roberts, Ben T. Jones, W, J. Rowlands, J. Lloyd Jones (leu), William Edwards, R. C. Jones, E. M. Owen, Evan Jones, R. T. Jones, Richard Jones, R. O. Davies (Clerc), W. E. Alltwen Williams (Peirianydd), George Davies (Arolygydd lechydol), a Car- adoc Rhydwen (Clerc Cynorthwyol). Ethol Cadelrydd. Y Clerc a ddywedodd mai gwaith cyntaf y cyfarfod oedd ethol Cadeirydd.—Mr. David Williama a gynygiodd eu bob yn dewis Mr. John Cadwaladr, yr Is-Gadeirydd am y flwydd- yn ddiweddaf, i fod yn Gadeirydd a chefn- ogwyd gan Mr. William Owen.—Mr. John Cadwaladr a gynygiodd eu bob yn ail ddewis Mr. David Williams yn Gadeirydd am flwydd- yn arall; a chefnogwyd gan Mr. Cadwaladr Roberts. Yr oedd ef yn credu mewn cadw yr un Cadeirydd yn y Gadair am ddwy flynedd.- Mr. David Williams a ddywedodd y buasai yn gymwynas ag ef pe buasent yn ethol rhywun yn ei le. Yr oedd ef yn credu mewn newid pob blwyddyn.-Mr. William Owen a ddadleuodd dros newid bob blwyddyn, neu ni fuasai ar un cyfrif yn cefnogi iddynt ddewis yr Is-Gadeir- ydd i'r swydd gan fod ganddo y parch dyfnaf i'r Cadeirydd am y flwyddyn abasiodd. Dew- isiwyd Mr. John Cadwaladr yn unfrydol, a diolchodd yntau am yr anrhydedd anysgwyl. iadau a osodwyd arno. Ymdrechai wneyd ei oreu gyda'u cynorthwy hwy i gario y gwaith yn mlaen er budd pawb yn y plwyf. Is-Gadeirydd. Mr Hugh Jones, Fferyllydd, a gynygiodd eu bod yn dewis Mr. Evan Jones i'r Is-gadair. Bu o wasanaeth mawr yn y Cyngor er ei etholiad, a theilynga y gydnabyddiaeth hon ganddynt. Cefnogodd Mr. E. M. Owen. Dewiswyd Mr. Jones yn unfrydol, a diolchodd yntau am yr anrhydedd osodwyd arno. Byddai iddo barhau i wneyd ei oreu ar y Cyngor er lies yr holl blwyfolion. Cydymdeimlad. Mr. William Owen a gyfeiriodd mewn modd tyner at y golled fawr oeddynt wedi ei gael fel Cyngor trwy farwolaeth Mr. William Evans, un o aelod yr un rhanbarth ag ef, sef Bowydd. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn a hoffid gan bawb o honynt, a bu o wasanaeth mawr yn eu plith. Dymunai iddynt anfon eu cydymdeimlad "dwysaf a Mrs. Evans a'i mherch fach yn eu profedigaeth.—Mr. R. Ci Jones fel cyd-aelod o'r un Rhanbarth a gefnogodd.—Cododd pawb ar eu traed i basio y bleidlais. Y Pwyllgorau. Ail etholwyd y Pwyllgor Ananol, y Pwyllgor Iechyd, Pwyllgor y Dwfr a'r Nwy. Ar Bwyll- gor y Llyfrgell dewiswyd yr holl aelodau gyda Mr, R. C. Jones yn lie y diweddar Mr. Wil- I Evans, a Mrs. Hughes, Vicarage yn He .as Baker. Ar y Pwyllgor Addysg dewiswyd Mri D. Williams a Hugh Jones, Fferyllydd yn ile Mri Hugh Lloyd a William Evans. Ail ddewiswyd yr holl Bwyllgorau eraill, ond dy- wedodd Mr. Owen Jones na wnai ef weithredu ar y Pwyllgor Qwaith. Amrywiol. Dodwyd sel y Cyngor ar amryw gytundebau i gario carthion y Dosbarth. Pasiwyd cofnodion y pwyllgo* arianol heb eu darllen na hysbysu eu cynwys. Ar gynygiad Mr. Owen Jones a chefnogiad Mr. William Edwards pasiwyd i ohirio pasio yr Amcamgyfrifon hyd y, cyfarfod nesaf, a'r un modd benderfynu swm y dreth. Yr Aelodau. Y Gbrc a sylwodd fod Mr. Hugh Lloyd wedi gadael yr ardal, ac yr oedd Mr. William Evans wedi marw. Hefyd, yr oedd yn ddyled- swydd arno eu hysbysu fod Dr. Evans wedi absenoli ei hun dros y. nifer a ganiateir i aelod- au a chadw eu haelodaeth. Yn achos Mr. Humphrey Roberts bu iddo anfon ar ran y Cyngor, ac anfonwyd tystysgrif feddygol ei fod Hwyrach na yn wael.—Mr. Owen Jones, Hwyrach na bydd dim anhawsder cael certificate yn achos Dr. Evans Yr wyf yn cynyg fod y Clerc yn ysgrifenu ato i ofyn beth yw ei fwriad gyda golwg ar gadw eile yn y Cyngor."—Cefnogodd Mr. Cadwaladr Roberts a phasiwyd hyny. A.. A.A. A. A.. A A

i GYNQHOR DOSBARTH LLANRWST.I

YYRHOS A'R YCYLCH.YY--y-,

- - - - - - - - -- - - --…

Y IFASNACH LECHI. I

Gwyl iau Mr. Lloyd George.

I rv wwv www www vv vvvvxwn…

IO'R PEDWAR CWR.

-CAPEL -GARMON.-