Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MYNWCH gael rhai o'r BARGEINION ° •- SHOP YR ERYR, CHURCH STREET, BL. FESTINIOG. RHAID CLIRIO YR OLLR-R DRAPERY STOCK. Ebrill laf, 1908. ¡. T. ROBERTS. MAYROLES PERFECT THREE: 8, U T 1! 3 R?G s cI, r AND T f THEY ARE THE BEST YOU CAN BUY. maypoLE PAIY CO„ LYP, 12, CHURCH STREET, BLAENAU FESTINIOG. OVER 5SQ BRANCHES NOW OPEN.   '?  r- Dyma gwestiwn a ddylai 1 r gael eich sylw difrifolaf, a | A ydyw eich hyny heb oedi. Os ydyw eich golwg yn II Golwg yn ddrwg nid oes modd ei wella 1 Dd8ff 81") heb rhyw gyfrwng allanol i Ddiffygiol ? wneyd hyny. I Gochelwohrhagd ewis eiC, h Specio. a each hunain, gall hyny brofi yn fwy o niwed o iawer. Yr wyf yn barod i brofi eich I golwg yn rhad, ac os bydd ———————————————————-——— I angen Spectol arnoch gallaf gael rhai i'ch siwtio am bris I rhesymol. I W. Thomas Jones, u Watchmaker Optician, B. Festinio9 Mr. OWEN, L.D.S., R.C.S., (London), DENTIST, LLYS DORFIL, New Market Square, Blaenau Ffestiniog. Gellir ei weled yn BLAENAU FFESTINIOG, bob Dydd Llun o 10 hyd 8; Boreu Dydd Iau o 10 hyd 1 a Boreu Gwener o 10 hyd 1 o'r gloch. LLANRWST, bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher o lleg hyd 5 o'r gloch yn nhv Mrs. Parry, Station Road. WEALTH: The Reward of Thrift. Without Gambling! Without Speculating!! Without Risk III Invest Your Savings in Government PREMIUM BONDS. They are guaranteed as to principal and interest, consequently as safe as British Consols. They bear fixed interest in most cases from 2 to 4 per cent, and give the holdersjhe chance of acquiring a fortune by periodical Drawings with Prizes from 924,000 down to £20. A shoemaker whose wages were only 25/- per week has drawn the First Prize of £ 24,000 of the Ottoman Government Railroad Bonds, which he bought only two months before for £ 6-10-0. They appeal alike to the man with tho- sands and the man with shillings. EASY TERMS (from 10/- per month) of Payment if desired. Write a postcard for descriptive Booklet. The Anglo-American Finance Corporation 41, King WilliamlStreet, London, E.C.
Etholiad Manceinion. I
Etholiad Manceinion. Mae llawer o amser er's pan fu etholiad pwysicach yn ngholwg yr holl wlad na'r etholiad sydd yn awr yn cymeryd lie yn Manceinion, Gan mor gyffredinol ac angerddol ydyw y dyddordeb a deimlir ynddo gan Ryddfrydwyr a Cheidwadwyr y deyrnas, o'r braidd y gwneir sylw o etholiad Dewsbury, tref nad yw ond ychydig ugeiniau o filltiroedd oddiyno, He mae Mr. Runciman yr hwn sydd wedi ei benodi yn Llywydd Bwrdd Addysg yn apelio at yr etholwyr i'w ddewis drachefn i'w cynrychioli. Ddwy flynedd a haner yn 01 enillodd Mr. Winston Churchill Ogledd-Orllewin Manceinion oddiar y Toriaid, ac y maent yn gwingo yn fawr byth er hyny. Maent wedi bod yn haeru nad oedd ei fuddugoliaeth yn ddim amgen na damwain, ac y profent hyny y cyfle cyntaf. Mae cyfle wedi ei roddi iddynt yn awr, ond y mae yn dra amhaus genym a ydynt mor hyderus heddyw ag oeddynt wythnos yn ol. Er fod Mr. Joynson Hicks yn ddiffyndollwr yn ystyr gyffredin y gair, cymer drafferth i ddywedyd drosodd a throsodd drachefn mai y golygiadau a ddelir gan Mr. Balfour yw ei olygiadau ef. Awgryma felly nad yw yn canlyn Mr. Chamberlain yr hwn sydd yn myn'd yn mhellach yn flordd diffyndollaeth nag y mae Mr. Balfour, hyd y gellir ei ddeall, yn barod i fyn'd. Y dydd o'r blaen gofynwyd i Mr. Hicks egluro golygiadau Mr. Balfour, ond ei ateb oedd y cymerai ormod o amser iddo wneyd hyny. Ni ddywedodd ef na nebarall erioed eiriau mwy gwir. Nid yw Mr. Hicks yn ddigon eithafol i'w wneyd yn bosibl i ddiffyndollwyr selog fod yn frwdfrydig iawn o'i bliad; y mae yn ddigon o ddiffyndollwr i beri i Ryddfrydwyr Undebol sydd yn Rhydd- fasnachwyr bleidio ei wrthwynebydd Mr. Winston Churchill. Er fod y darllawyr a'r tafarnwyr yn gweithio yn egniol o'i blaid, nid ydynt yn myned i'r fath eithafion ag yr aethant iddynt yn Peckham. Yn ei ymdrech i enill cefnogaeth Rhyddfrydwyr Undebol a thafarnwyr a Phabyddion ac Iuddewon, y mae yn ei wneyd yn anhawdd i'r un o hon- ynt ddwyn mawr sel dros ei ymgeisiaeth. Wythnos yn ol yr oeddym yn cyfrif etholiad Mr. Churchill yn ansicr i'r eithaf. Erbyn heddyw yr ydym nid yn gobeithio yn unig ond yn credu hefyd y caiff oruchafiaeth. Ond nid gwiw anwybyddu'r ffaith fod ym- geisydd Sosialaidd ar y maes, ac mai rhai fuasent amgen yn pleidio ymgeisiaeth Mr. Church;ll ydyw bron yr oil o'i gefnogwyr ef. Er hyn yr ydym yn credu y dychwelir Mr. Winston Churchill, ac y dychwelir ef gyda mwyafrif anrhydeddus. Rhaid addef y byddai ei orchfygiad yn ddyrnod drom i'r Llywodraeth. Bydd ei oruchafiaeth yn gryfhad mawr iddi.
Y Llywodraeth ac YmreolaethI…
Y Llywodraeth ac Ymreolaeth I i'r Iwerddon. I Dydd Llun dywedodd Mr. Winston Churchill eiriau sydd yn sicr o fyn'd yn mhell i sicrhau i Mr Asquith a'i Weinydd- iaeth gefnogaeth gyffredinol y Blaid Wydd- elig yn y Senedd. Dywedodd ei fod wedi ei lwyr argyhoeddi fod yn angenrheidiol i'r Iwerddon gael Ymreolaeth ar y llinellau ar y rhai y mae Transvaal a Thalaeth Rydd yr Orein wedi ei gael, ac aeth rhagddo i ddy- weyd ei fod ar awdurdod y Prif-weinidog yn gwneyd. yn hysbys y bydd i Arweinwyry Blaid Ryddfrydol, pan ddaw etholiad cyffredinol, ofyn i'r wlad eu bawdurdodi i benderfynu'r cwestiwn Gwyddelig ar y llin- ellau hyn. Fel mae'n wybyddus, mae'r Gwyddelod hyd yn hyn wedi drwg-dybio Mr Asquith i fesur helaeth. Ond trwy bleidleisio dros y penderfyniad yn mhlaid ymreolaeth a gynygiwyd ychydig wythnosau yn 01 gan Mr Redmond-wedi i'r boneddwr gydsynio i'r geiriau yn ddarostyngedig i awdurdod y Senedd Ymherodrol" gael eu chwanegu at y penderfyniad-llwyddodd y Prif-weinidog i beri iddynt gredu y gellir cyfaill o hono. Mae ddiameugenym y bydd i'r datganiad diweddaf yma a wnaed ganddo trwy Mr Winston Churchill eu henill i gredu ynddo a disgwyl wrtho, ac i ymgadw rhaglei flino yn ddiachos yn Nhy'r Cyffredin. Cyf- rifwn fod genym reswrh digonol dros gredu hyn yn y ffaith fod cenadwri wedi eu hanfon i Wyddelod Manceinion-wedi ei harwyddo gan Mr John Redmond a MrT. P. O'Con- nor-yn yr hon y gelwir arnynt i bleidleisio 1 dros Mr Winston Churchill. Gwnaeth Mri. Redmond ac O'Connor hyn wedi i Esgob Pabyddol Manceinion apelio at y Gwyddelod i gefnogi Mr Hicks am nad yw yn cyfrif golygiadau Mr Churchill ar gwestiwn add- ysg yn foddhaol iddo ef a'i gyd-babyddion. Ar fwg y gwrendy yrhan fwyaf o'r Pabydd- ion yn yr etholaeth. Pa un ai ar yr Esgob a'r Offeiriad, ai ar eu harweinwyr gwleidyddol, y Mri Redmond ac O'Connor? Credwn mai ar y gwyr a enwyd olaf y gwrendy y y rhan fwyaf o honynt. Boed hyny fel y bo gan fod Arweinwyr y Blaid Wyddelig yn cefnogi ymgeisiaeth aelod o'r Weinyddiaeth, ni allent yn y Senedd wrthwynebu'r Wein- yddiaeth y mae yn aelod o honi. •
Cwestiwn Addysg.
Cwestiwn Addysg. Swn cytundeb. sydd i'w glywed yn y gwynt. Er nad yw golygiadau Mr. Churchill wrth fodd calon Arweinydd y Pabyddion, mae'r ffaith yn aros ei fod wedi dywedyd yn eglur ei fod yn credu y dylid 1 ac y gellid dyfod i gytundeb, ac y dylid gwneyd darpariaeth neillduol ar gyfer y Pabyddion ar y naill law a'r Iuddewon ar y Haw arall. Pan holwyd Mr. Runciman, Llywydd Bwrdd Addysg, gan rai o etholwyr Dewsbury, atebodd hwynt trwy ddywedyd fod yn rhaid iddo ymgadw rhag dywedyd dim a allai fod yn rhwystr ar ffordd cytun- deb oedd fel y credai, nid yn bosibl yn unig ond yn debygol hefyd. Yn chwanegol at hyn oil, dywedodd Mr. Lloyd George yn Manceinion nos Fawrth fod cytundeb yn bosibl ac yn ddymunol hefyd, ac mai yr ym- laddwyr goreu sydd fel rheol yn rhagori fel gwneuthurwyr tangnefedd. Yn ngwyneb hyn oil, rhaid i ni gredu nad oes gan y Llywodraeth fwriad i wthio mesur Mr. Me' Kenna drwy'r senedd, a'i fod yn debygol mai'r Mesur Addysg newydd fydd Mesur Esgob Llanelwy wedi ei newid dipyn, ac wedi chwanegu ato ddarpariaeth i gyfarfod a hawliau y Pabyddion.
Blwydd-dal Henaint.J
Blwydd-dal Henaint. Pan ddywedodd Mr. Asquith, flwyddyn yn ol, ei fod yn bwriadu trefnu blwydd-dal henaint yn mhen y flwyddyn, ni ddaeth i'n meddwl i ameu ei ddilysrwydd. Yr ydym yn bvrw ei fod y pryd hyny wedi gwel'd ffordd i orchfygu'r anhawsderau a amgylch- ant y cwestiwn. Dydd Mawrth, dywedodd Mr. Lloyd George y bydd blwydd-dal hen- aint yn ffaith cyn yr el y flwyddyn hon heibio. Mae'r gyllideb wedi ei pharatoi erbyn hyn gan Mr. Asquith, a chanddo ef y'i heglurir yn Nhy'r Cyffredin yr wythnos ar ol y nesaf. Wedi hyny syrth i ran Mr. Lloyd George, fel Canghel!ydd y Trysorlys, i weithio allan y cynllun, i'w berffeithio hefyd, ac i helaethu't ddarpariaeth sydd wedi ei gwneyd gan ei flaenorydd yn y swydd. Dywed rheswm nad yw yn bosibl gwneyd nemawr mwy na dechrau'r gwaith da yma yn awr, a deuparth gwaith, ei ddechreu." Llawenydd i ni sydd o feddwl y dygir y gwaith da rhagddo gan yr aelod gwir anrhydeddus dros Fwrdeisdrefi Arfon yn neillduol a thros Gymru yn gyffredinol. Mae'n waith nas gall lai na bod wrth fodd ei galon, ac y mae ynddo yntau gymhwysder i'w wneyd vn y mbdd goreu. Gwyddom ei fod yn ewyllysio ei wneyd, ac nid ydym yn tybied fod yn y wlad gynifer ag un a chanddo y gallu sydd ganddo ef i'w wneyd yn wir effeithiol.
Etholiad Dewsbury.-.----I
Etholiad Dewsbury. Nid oes achos i bryderu dim ynghylch yr etholiad yma. Mae dychweliad Mr. Runci- man mor sicr ag y gall dim sydd heb gym- eryd lie fod, oblegid y mae yn hynod bob- logaidd ac yn ysgubo pob peth o'i flaen. Gan mor gymeradwy ydyw nis gall ei wrth- wynebwyr gynal cyfarfod yr un adeg ag y cynhelir cyfarfod y bydd ef yn bresenol ynddo. Mae ei wrthwynebydd Toriaidd, ¡ Mr. Boyd Carpenter, yn amlwg heb obaith am Iwyado. Arwydd sicr o hyny ydyw ei fod wedi colli ei dymer ac yn iselhau ei hun ac yn andwyo ei achos drwy ddywedyd geiriau anmharchus am Mr. Runciman yr hwn sydd yn ddyn ieuanc ac yn edrych yn ieuengach nag ydyw. Nid yw Mr. Turner, ymgeisydd Llafur, yn anturio gobeithio y gorchfyga Mr. Runciman, ond mae'n lied debygol y daw ef allan o'rjymdrech yn llawer gwell nag y daw: Mr. Boyd Carpenter, y To
Athrawon Meirion.
Athrawon Meirion. Ymddengys i ni fod gan Atdrawon Ysgol. ion Elfenol Meirion achos i gwyno yn erbyn y modd y penodir rhai i lenwi'r lleoedd wag- heir o bryd i bryd yn yr ysgolion. Yr hyn mae'r Pwyllgor Addysg wedi arfer ei wneyd ydyw hysbysu am brif-athrawon neu brif- athrawesan pa bryd bynag fydd yn rhaid wrth un. Mwy priodol fuasai iddo wobrwyo rhai wedi gwasanaethu yn dda fel prif ath- rawon ysgolion bychain, drwy eu dyrchafu i ysgolion mwy a rhai wedi gwneyd gwaith da fel athrawon cynorthwyol, drwyeu penodi yn brif athrawon. Dyna'r unig ffordd i gadw goreuon yr athrawon cynorthwyol yn y Sir. Yr oedd penderfyniad i'r perwyl yma wedi ei basio tua thair blynedd yn ol, ond gadawyd ef yn llythyren farw hyd yn ddiweddar iawn. Yn nghyfarfod diweddaf y Pwyllgor Addysg gwnaed cyfrif o'r penderfyniad hwnw. Pen- odwyd Mr Ieuan R. Jones, Maesywaen, yn brif-athraw Ysgol Llandrillo, a phenodwyd Mr Mostyn, Cwm Llanfachreth, yn brif- athraw Ysgol Maesywaen. Fel hyn dyrch- afwyd a gwobrwywyd y naill a'r llall o hon- ynt am wasanaeth ffyddlon a Ilwyddianus iawn a gafwyd ganddynt. Yr ydym yn cymeryd yr hyn a wnaeth y PwyHgor Add- ysg yn yr Achosion hyn fel awgrym o'r hyn a wna mewn achosion cyffelyb yn y dyfodol. Os felly y gwna, bydd yr athrawon yn fodd- Ion a'r ysgolion ar eu mantais.
Mr. Lloyd George yn Manceinion
Mr. Lloyd George yn Manceinion Aeth Mr. Lloyd George i Fanceinion dydd Mawrth i gynorthwyo Mr. Winston Churchill, a gwnaeth hyny yn effeithiol dros ben. Siaradodd mewn pedwar o gyfarfod- ydd, ac, fel y dywed y Liverpool Daily Post &- Mercury —" gall ymresymiad cadarn a hyawdledd aruchel ddylanwadu ar etholwyr Gogledd-Orllewin Manceinion, dylai yr apel rymus a wnaed atynt gan Ganghellydd y Trysorlys osod Mr. Churchill ar ben y pol." Dywed gohebydd oedd yn bresenol yn y cyfar- fodydd anerchwyd ganddo fel hyn:- Rhaid fod llawer o'r rhai oeddynt yn ei wrando wedi gorfod tynu'r casgliad fod Mr. Lloyd George tu hwnt i bawb eraill yn cym- eryd He Mr. Gladstone fel dadleuydd eofn dros achosion moesol mawr." Yr ydym wedi darllen adroddiadau y newydfiaduron dydd- iol o'i areithiau, a theimlwn nas gallai neb wrando arnynt na'u. darllen yn ddiragfarn ac ystyriol heb deimlo fod rheswm a chyd- wybod yn galw arno i bleidleisio dros Win- ston Churchill. Cafodd ambell un a feddyl- iodd y gallai beri dyryswch i Mr Lloyd George trwy ei holi, achos i edifarhau, o blegid yr oedd ei atebion y fath ag i beri i'r holwyr ac eraill hefyd deimlo nad oeddvnt hwy yn gwybod dim a bod CangheÜyí Trysorlys yn gwybod pobpeth.
| ' * . - V vv vwv Buddugoliaethauf…
| V vv vwv Buddugoliaethauf y Pasg. Y mae genym eleni eto i longyfarch ein cyfeillion trwy y cylch hwn ar eu buddugoliaetll mewn gwahanol gystadleuon. Yn Arddangosfa Conwy. gwelwn fod y rhai canlynol wedi ènill :-Ci Defaid blewyn garw, 1 ac 2, Mr. W. G. Powell, Capel Garmon, ac efe oedd yr ail gyda. Chi Defaid ieuangc. Am y torllwyth o gwn yr oedd Mr. T. R. Jones, Moss Hill, Penmachno yn oreu. Am y Daeargi (Dosbarth agored), yr oedd yr Heddgeidwad Owen Jones, Blaenau Ffestiniog yn ail, ac yn oreu yn nosbarth y Cwn Ieuangc, gyda gwobr arbenig. Gwelwn hefyd fod Mr. Owen Roberts, 95, a Wynn Road, Blaenau Ffestiniog, yn ail,gydali Wyandotte. Enillodd Mr. R. Parry, Oakbank, Rhos, amryw wobrwyon gydag adar. Yn Eisteddfod Criccieth enillodd Miss Hum- phreys, Garn ar yr Unawd. Miss Parry a Miss Jonas, Penmorfa ar y Ddeuawd. Unawd Con- tralto, Mrs. Evan Lewis, Capel Curig. Unawd Tenor, Mr Evan Lewis, Capel Curig, ac efe a Mrs. Lewis oeddynt yn fuddugol ar yr Her- Ddeuawd. Unawd Soprano, Mrs. Eifion Jones, Garn 2, Annie Williams, Maentwrog. Prif- gystadleuaeth Gorawl, Cor Llanystumdwy; ail gystadleuaeth Gorawl, Cor y Garn. Daeth y gwobrau canlypol o Arddangosfa Nefyn i'r cylch hwn. Daeargi Cymreig, 1, R. Owen, Gorsaf Heddlu, Penrhyndeudraeth. Ci Fox Terrier, 1, William Thomas (Cromlechydd). Porthmadoc. Ci Defaid (blewyn Garw), Mrs. J. Barlwydon Davies, Dinas, Blaenau Ffestin- iog 2, Issaac Jones, Marian House, Blaen. Ffestiniog. Gast Ddefaid (blewyn garw), 1, T. Ffoulkes Morris, Blaenau Ffestiniog. Ci Hel- wriaeth, 1, W. J. Humphreys, Penrhyndeu- draeth; 2, H. J. Parry, Whitehall, Pwllheli. Ci neu Ast Ddefaid, cyfyngedig i Lleyri, 1, G. Cornelius Roberts, Pwllheli; 2, Evan Roberts, 3, Metre Square, Pwllheli. Colomen, John Hughes, 191, Manod Road, Bl. Ffestiniog. Hefyd enillodd W. H. Thomas, Glynllifon Street, Blaenau Ffestiniog ddwy drydydd wobr yn Nghaernarfon gyda'i golomenod.
TANYGRI$IAU.
TANYGRI$IAU. SYMUD,—Yr wytbnos o'r blaen daeth Mr. Reynold Williams adref o'r America; a'r wythnos hon ymadawodd Mr. Griffith Pierce Jones, Penllwyn, a'i deulu am Patagonia. Y PASG.-Treuliwyd gwyl y Pasg eleni 0tO trwy gael cyfres o bregethau gan rai o wyr blaenaf y Methodistiaid Calfinaidd. Cafwyd pregethu da a chynulliadau poblogaidd hwn. Testyn yr Ymdriniaeth yn y Seiat ddydd Llun oedd Buchedd y Saint" a siaradwyd yn dda ar y mater gan y Parchn. P. H. Griffith, W. E. Prydderch, a Thomas Williams. YMADAWOL.-Cofied pawb am y cyfarfod •' ymadawol a gynhelir heno yn Carmel, ynglyn ag ymadawiad y Parch. John Hughes.