Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BLAENAU FFESTINIOG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BLAENAU FFESTINIOG. I CYMANFA GANU ANNIBYNWYR FFESTINIOG. -Bydd yr uchod yn cael ei chynal y Sadwrn nesaf, yn Jerusalem. Y cyfarfodydd i ddechreu am 2 a 5.30. Mr. Harry Evans yw'r Arweinydd, a sylwed y Cantorion y cynhelir Rehearsal nos Wener o dan arweiniad Mr. Evans. ER COF.-Y mae genym y gorchwyl prudd o hysbysu am farwoJaeth Mr. Richard J. Jones, Argraffydd, yr hwn a fu am flynyddoedd yn Swyddfa'r RHEDEGYDD. Mab ydoedd i'r ddiweddar Mrs. Williams, Rock Terrace, a brawd i Mrs. Winifred Hughes, 4, Dorfil Street. Bu farw yn Chicago Ebrill 7, a chladdwyd ef yn Oakridge Cementry wedi gwasanaethu yn Sheldon's 239 W. Maidson Street. Cydymdeimlir yn fawr a'r holl deulu yn eu trallod. CENHADOL.—Nos Fawrth nesaf, am saith o'r gloch, yn Nghapel Brynbowydd, cynbelir cyfarfod Cenhadol, pryd y bydd Mr. Evans, o Madagasgar, yn anerch y cyfarfod. Gwah- oddiad cynes i bawb. YMFUDO.—Dydd Sadwrn nesaf, bydd Miss Annie Kate Owen, Glasfryn, Maentwrog (nawr gyda Mrs. Jones, Uncorn Cottage), yn mor- dwyo am Spokane, U. D., ar fwrdd y Luis- itania. Cofus ydyw iddi fod yn ngwasanaeth Mrs E. Evans, Penygarth, High Street, am grym, ac mae iddi luaws o gyfeillion trwy yr ardal. Dymunwn iddi fordaith didramgwydd, glaniad hapus, a bywyd llwyddianus. YSGOL Y MANOD.—Prydnawn dydd Iau diweddaf rhanwyd gwobrwyon i'r plant gan y boneddigesau a'r boneddigion canlynol:— Mrs. J. Vaughan Williams, Tanymanod Hall; Mrs. J. R. Parry, a Miss Davies, Bethania Parch. D. Davies, Preswylfa; Parch. J. W. Davies, a Mrs. Davies, Maeshyfryd Parch. William Griffiths Jones, a Mrs. Jones, Y Persondy. Yn ystod y cyfarfod cafwyd anerch- iadau buddiol ac amserol iawn, a da fuasai i holl rieni yr ardal eu clywed. Yr oedd y canu a'r adrodd yn swynol iawn. Wedi hyn, aed yn mlaen i ranu y gwobrwyon. -Watches. (6). Am bresenoldeb llawn yn ystod y pedair blynedd diweddaf:—Maggie Williams, Bwlch- iocyn; Gwen Russell, Manod Road; Kate Jones, Glanaber; W. V. Owen, Caeclyd: W. O. Jones, Bethesda; R. W. Evans, Tecwyn House. Medals. (27). Am bresen- oldeb llawn yn ystod y flwyddyn. Blodwen Davies; Gwen E. Jones; Presilla M, Morris; Richard Griffith; Evan P. Jones E. Glynne Roberts W. T. Williams; William Vaughan Owen Kate Jones; Maggie Jones Elizabeth Roberts; Maggie A. Williams; W. M. Davies; R. W. Evans; Humphrey Jones; B.V.Owen; Gwen Morris; G. Russell; G. J. Arthur; W. O. Jones; S. M. Jones; M. Williams; J. E. Owen; Catherine Jones; M. Williams; Esther Russell; M. Williams. Llyfrau am ymddygiad da. (10). M. L. Jones Owen Edwards; Richard L. Jenkins N. L. Arthur; Maggie Hughes; W. T. Ed- wards; S. M. Jones; M. Williams; W. M. Davies; Mary E. Williams. Llyfrau. (45). I'r plant oedd wedi bod yn bresenol am 400 ac uchod o weithiau. Adran y Babanod:- Medals. Wm. Roberts John R. Williams Blodwen Roberts; Dd. Roberts; John Wil- liams. Llyfrau. (13), a phedwar am ymddyg- iad da. ENILL TLYSAU.—Yn y gystadleuaeth am y Tlysau aur am gicio pel yn Llanrwst ddydd Llun diweddaf, daeth Mri. E. Evans, Canton House, a W. Rowland Owen, Tanygrisian, allan yn fuddugoliaethus trwy eu chwareuad gyda team o'r enw Corinthians." DEWIS ARWEINYDD.—Mewn cyfarfod o'r Cor gynhaliwyd yn Church Hall, St. David, nos Fercher, dewisiwyd Mr. D. O. Morgan, un 0 wasanaethyddion Mri. E. B. Jones, Canton House, yn arweinydd y canu yno yn olynydd i Mr. Hughes, cyn-orsaf-feistr. Hyderwn y caiff lwyddiant a phob hwylusdod fel y cafodd Mr. Hughes o'i flaen i godi canu yr Eglwys i fri yn y lie. CYNGERDD.—Nos Wener, cynhaliwyd Cyng- erdd yn y Neuadd leol er cynorthwyo y Seih- dorf i fyned i'r daith, a daeth nlfer lied dda at eu gilydd ag ystyried y noson. Cafwyd dat- ganu rhagorol a chyngerdd dymunol dros ben. FOOTBALL COMPETITION.—As anticipated, the number of teams entered for this compet- ition which will be held at the Recreation Ground Saturday next, breaks all records. Sixteen Teams have entered, which necessiates curtailing the time of play for the first and second rounds to 10 minutes each way. The time of play in the semi-final and final will be decided by the Committee ,on Saturday. Kick off at 1 p.m. prompt. Any team not being ready to commence at the expiration of the preceding tie will be disqualified. Admission 6d. and 3d. The Draw is as follows :— Lloyd's University versus Manod Villa. St. David's Guild versus Manod Swifts. Coming Stars versus Festiniog. Cybi Rovers versus Granville Rangers. Married Team versus Royal Oakeley Com- bination Celtic versus Royal Engineers. Dorvil Juniors versus Red Dragons. Prysor Rovers versus Maentwrog Rangers. Y Sr--I.N-DORF.-Dydd Sadwrn diweddaf, cychwynodd y Seindorf gyda y tren 7-50 ar Linell y Great Western am Ddeheudir Cymru, a chyrhaeddasant Pontypridd am chwech o'r gloch yr hwyr, wedi taith flin iawn. Am 7-30 yn Pontypridd Town Hall cynhaliwyd Cyngerdd ganddynt, a gwelwyd llawer o'r Gogledd yno yn rhoddi cefnogaeth i'r Seindorf oedd mor uchel yn eu syniadau. Cynhali.wyd Cyngerddau Cysegredig y Sul yn y l'orlh am 3-30, ac yn Pentre am 8 yr hwyr, a chafwyd cyngherddau lied dda. Dydd Llun aeth y Seindorf i gystadlu i Eisteddfod Mountain Ash, yr hon a gynhaliwyd o dan reolau y South Wales Brass Band Associat- ion." Gofynid i bob un anfon enwau eu chwareuwyr i ysgrifenydd yr Association chwech wythnos cyny gystadleuaeth, ac yr oedd hyn wedi ei wneyd yn rheolaidd gan ein Seindorf, ond pan yr oeddynt yn myned i gym- eryd eu lie i ddechreu chwareu, wele un o Seindorf Cory yn dod i'r llwyfan, ac yn dyweyd fod Seindyrf y De yn protestio yn erbyn Solo Cornet y Royal Oakeley am nad oedd wedi cysgu yn Blaenau Ffestiniog bob nos am chwech wythnos cyn y gystadleuaeth ac eu bod hwy yn ystyried mai dyna oedd bona-fide member. Wedi dadleu ychydig, hysbyswyd Mr. Fidler a Mr. Lewis Davies, os y byddai i Mr. Laycock, eu Solo Cornet chwareu, na chant yr un ddimai pe byddai i'r Beirniad ddyfarnu unrhyw wobr iddynt. Yn nghanol y terfysg penderfynodd ein Seindorf chwareu heb y Solo Cornet, ac fod Mr. Fidler i chwareu ac arwain, ac yn nghanol y dyryswch hwn ar y funud olaf rhoddodd y Seindorf chwareuad ardderchog, a chredid y byddid yn y tri cyntaf. Ondow daeth Mr. J. Gladney, y Beirniad i'r llwyfan, a dywedodd mai Seindorf Ferndale oedd yn oreu, Cory yn ail, Tillery yn drydydd, ac Aberdare yn bedwer- ydd. Nid oedd y dyfarniad yn boblogaidd, hyd yn nod gan Seindyrf y De. Ar ol hyn aeth Seindyrf Ferndale, Tillery, Royal Oakeley, ac Aberdare, i Abergavenny erbyn y prydnawn. Tynwyd lot, a dechreuwyd ar y gystadleuaeth ar unwaith. Wedi i'r pedair Seindorf chwareu, daeth y Beirniad (J. Ord Hume) allan o'r tent, ac hysbysodd fod cystadleuaeth dda wedi bod, ond fod dwy Seindorf fel mewn dosbarth gwahanol i'r ddau arall, nid oedd ond shade rhyngddynt, ac yr oedd yn rhoddi y wobr gyntaf i Ferndale, yr ail i'r Royal Oakeley, y drydydd i Tillery, a'r bedwerydd i Aberdare. Rhifa Seindorf Arian Oakeley 19, tra yr oedd rhif y Heill yn 24. Pan y cofir hyn, ac yr ystyrir fod yr oil o'i haelodau yn gweithio yn galed bob dydd, tra y mae mwyafrif o Unawdwyr y lleill yn cael eu cadw yn y lie trwy elw a dderbynir oddi- wrth y clybiau, credwn y gallwn lawenhau yn hyn a wnaeth ein Seindorf, ac y caent ein cefnogaeth eto yn y dyfodol. Rhoddwyd der- by niad ardderchog iddynt pan gyrhaeddasant y BIaenau gyda'r tren 7 nos Fawrth. CAEL TRIP.—Gwelwn fod Mr. William Jones Penny, wedi llwyddo gyda'r gystadleu- aeth yn yr Answers i docyn rheilffordd ac eisteddle rad i weled y cicio terfynol am y gwpan yn y Palas Grisial ddydd Sadwrn. Caiff drip rhad mewn Modur o amgylch prif fanau y Ddinas, a chiniaw o'r fath oreu a'r ei laniad yno.

PENRHYNDEUDRAETH.

IHARLECH.-I

Family Notices

MARWOLAETH Y CYN-BRIFWEIN-IDOG.

- - - I Gweinidog yn fladd…

Advertising