Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST.

-.-LLANRWST.

VWWVAA»V\^/WWVWWWVWWV BWRDD…

Dyngarwch Cymro Seuangc o…

BETTWSYCOED. I

'''VV'"vvvvv'Vv VV,V"'Y''VV"…

- - -- w-- _- w -I .vvvLiadrata…

r BLAENAU IFFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

r BLAENAU FFESTINIOG. FFRWYTHAU.-Stoc newydd o Ffrwythau Ffresh rhagorol. Egg Plums am 2g. y pwys. Plums goreu 4c. yr wythnos, hon, gan E. B. Jones & Co., Canton House. Y mae pob math o Picture Post Cards i'w cael yn Shop Y Rhedegydd" am lg, yr un. NOFF-L.-Gellir cael y Nofel newydd bob- logaidd Arwriaeth John Anthony, neu Ramant Bywyd Cymro" gan Lyfrwerthwyr y dref. Myned pawb oiwg ar y llyfr hynod hwn. CADAIR ETO.-Y mae genym i longyfarch ein cyfaill talentog Bryfdir yr wythnos hon etc ar ei waith yn enill Cadair gwerth pedair punt, a phum' punt o wobr yn Nghastell Newydd Emlyn, gyda Phryddest ar Hydref Einioes." Y Beirniaid oeddynt Gwylfa a Brynfab. Hir oes iddo eto i ddwyn anrhydedd pellach i'n plith. PREGETHU.—Nos Wener diweddaf, yn nghapel Trefeini, traddododd y Parch. D. Hoskins, M.A., Bethesda, bregeth ragorol i gynulleidfa dda. Y SEINDORF .-Dydd Iau diweddaf, aeth Seindorf Arian Oakeley i lawr i Lanrwst i wasanaethu mewn Ymgyrch Adlonol. Rhodd- odd eu gwasanaeth foddlonrwydd llwyr i bobl y dref ac edrychir yn mlaen am eu dyfodiad yno eto i chwareu i Arddangosfa Fawr Nant Conwy, a gynhelir ar yr 20fed o'r mis hwn. AR EU GWYLIAU.—Y mae liu mawr o drig- olion yr ardal yn awr yn treulio eu gwyliau ar hyd glanau y mor, ac yn mwynhau eu hunain yn iawn. CYNGHERDD.—Nes Iau diweddaf, yn y. Neuadd Gynull, cynhaliwyd Cyngherdd er budd Mr. Edward Parry, Tyddyn Dewyn, Dorvil Road, pryd y gwasanaethwyd gan y datganwr poblogaidd Mr. Emlyn Davies, A.R.C.M Cefnmawr; CorMeibiony Moelwyn yn cael eu cynorthwyo gan amryw o dalentau lleol mewn canu ac adrodd. Llywyddwyd gan y Parch. T. H. Hughes, Ficar St. Dewi; ac arweiniwyd gan Mr. H. Jones, (Bryfdir). Dilynwyd y cantorion ar y berdoneg gan y cyfeilyddes medrus Miss A. E. Owen-Davies, A.R.C.M. Cafwyd Cyngherdd rhagorol iawn. Y CYNHAUAF GWAIR.-Prysurdeb mawr a welir y dyddiau hyn mewn amryw leoedd yn y Cylch gyda'r Cynhauaf Gwair. Pawb wrthi a'u holl egni yn ceisio ei gael i ddiddosrwydd, cyn i lawer o wynt Awst a'i lifogydd ymarllwys ac anadlu arno. YR ARDDANGOSFA ARDDWROL.-Fel y mae yn wybyddus i bawb erbyn hyn, y cynhelir Arddanghosfa Arddwrol Ffestiniog, ar y 29ain o'r mis hwn, yn Ysgol y Cynghor, Ffestiniog. Dymunai yr Ysgrifenyddion ar i bawb gofio y bydd yr Entries yn cau ar y 15fed o'r mis hwn, sef y Sadwrn nesaf. YN DYCHWELYD.—Ddechreu yr wythnos hon, dychwelodd llu o'n dynion ieuainc yn ol am y Pyllau Glo, wedi bod adref yn treulio ychydig o wyliau. Bydd y gweddili yn ymad- ael o hyn i ddiwedd yr wythnos hon. Dym- unwn iddynt oil tra oddicartref bob dedwydd- wch a llwyddiant. AR EU GWYLIAU.-Y mae llu mawr o dri- golion yr ardal yn awr yn treulio eu gwyliau ar hyd glanau y mor, ac yn mwynhau eu hnnain yn iawn. Y DIEITHRIAID.—Ni welwyd cymaint o ddieitbriaid yn ein hardal er's llawer blwyddyn ac a welir y dyddiau hyn, a golwg arnynt eu bod yn mwynhau eu hunain yn fawr yn awelon iach y mynydd. CERDDOROL.—Llawen genym gael llon- gyfarch Mr. D. R. Jones, Birkenhead, gynt o'r Swyddfa hon, ar ei lwyddiant eithriadol yn Eisteddfod Newmarket Gwyl y Banciau. Enillodd y wobr gyntaf gyda'i Gor Cymysg, yr ail gyda'i Gor Meibion, y cyntaf gyda'i Barti Cymysg. Cyntaf ar Unawd Baritone ac ar y Ddeuawd, Anaml iawn y clywir am y fath lywydd wedi disgyn i ran yr un un mewn cynifer o gystadleuon yr un dydd. Dymunol iawn oedd genym weled yr hanes am dano fel un o fechgyn y Blaenau. LLYTHYRAU.—Y mae ein Postfeistr poblog- aidd wedi cydsynio i ddodi box llythyrau gyferbyn a Chapel Bethania, lle'r oedd yr hen bwmp." Bydd hwn yn sicr o fod yn hwylus iawn i'r rhan hon o'r ardal. MODDION Y SABIBOTH.-YN y Capel Seisnig, gwasanaethir y Sabboth nesaf, gan Dr. Egryn Jones, Llundain; ac yn Calfaria gan Mr. Iorwerth Hughes, Blaenau Ffestiniog, ac nid fel yr hysbysir genym yn ngholofn y Cyhoedd- iadau.

Family Notices