Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

YN NGHWMNI NATUR. I

- - --I 0 yGADAJR YNYS FADOO.…

[No title]

--------- ---- - --- --------…

wvwwwwwwwwwvwww IAchos John…

IDedfryd am Warcheidwaid MileI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Dedfryd am Warcheidwaid Mile I End. Daeth prawf deg o Warcheidwaid a Chyn- Warcheidwaid Undeb Mile End i derfyn. Parhaodd o flaen y Barnwr Phillimorea rheith- wyr arbenig am ugain niwrnod. Cyhuddwyd hwy o gyd-gynllwyn a throseddau o dan Ddeddf Cyrph Cyhoeddus (ymarferion llyg- redig), a chodai y cyhuddiadau yn nglyn a chyflenwyr nwyddau at Wasanaeth yr Undeb. Cafwyd yr oil yn euog. Yr oedd amryw gy- huddiadau, ond ceid hwy yn euog o gyd-gyn- llwyno neu dderbyn llwrgwobrwyon. Y Barnwr wrth basio dedfryd arnynt a sylwodd ei fod yn bryd clirio drygedd o'r fath o'r wlad. Pan oedd deg o ddynion fel y cyhuddedigion yn cael eu dwyn i'r llys dylid gwneyd esiample o honynt i eraill. Byddai iddo i ddechreu eu difreinio i ddal unrhyw swydd gyhoeddus am saith mlynedd. Gofidiai nad allai eu gorfodi i dalu yn ol i'r Undeb yr arian derbyniasant gan y golygai hyny eu cadw yn ngharchar am eu hoes. Ond byddai iddo osod swm arnynt dalu i'r Goron, a gobeithiai y cyflwynai y goron arian yn ol i'r Undeb. Yr oedd yn dirwyo Thomas Gould, 70 oed, i £ 25, a 15 mis o garchargydallafurcaled: John Edward Kemp, i £ 25, a 6 mis o garchar gyda llafur caled John Edward Loptus, 31 oed, Archibald W. A. Ridpath, James F. Stammers, Walter Trott, 46 oed,la Samuel Gilder, 58 oed, i £ 25 a naw mis gyda llafur caled; Joseph Gibson, £ 250 heb garchar; yr Henadur Rowland Hirst, V.H., Cynfaer Stepney, dwy flynedd o garchar gyda llafur caled a'r Henadur John G. Warren, U.H., £ 250 a blwyddyn o garchar gyda llafur caled.

IY Prif-fFyrdd a'r Moduriau.…

[No title]

O'R PEDWAR CWR.

GLANCONWY.

PENRHYNDEUDRAETH.

LSadrata oddiar Lei dr.

ILLANBEDR.

- - ............................................................…

-DOLWYDDELEN.

Bwrdd Llywodraethwyr YsgolionI…