Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

YN NGHWMNI NATUR. I

- - --I 0 yGADAJR YNYS FADOO.…

[No title]

--------- ---- - --- --------…

wvwwwwwwwwwvwww IAchos John…

IDedfryd am Warcheidwaid MileI…

IY Prif-fFyrdd a'r Moduriau.…

[No title]

O'R PEDWAR CWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R PEDWAR CWR. PENODWYD Dr. Williams. aelod o Gyngor Dosbarth Aethwy (Menai Bridge), yn unfrydol i fod yn Swyddog Meddygol y Cyngor yn lie Dr. Peter Frazer. Y mae Cyngor y Dwyrain Mon, wedi tori eu cysylltiad yr un modd a'r Cyd-bwyllgor Iechydol am eu bod yn ystyried nad yw yn iawn iddynt dalu am Arolygwr Meddygol i Ysgolion Sir Caernarfon, a hwythau yn gorfod talu am unyn eu Sir eu hunain. Y MAE Bwrdd Gwarcheidwaid Wrecsam wedi pasio i ofyn i Mr. W. E. Weaver, i ym- ddiswyddo. Bydd y plant yn cael eu hanfon i'r Ysgolion Cyhoeddus ar ol diwedd y flwydd- yn a penodir gwr a gwraig i ofalu am danynt fel rieni maeth (foster parents). Bwrdd y Llywodraeth Leol sydd wedi awgrymu hyn. PASIODD ChwarelwyrBethesda benderfvniad yn gwrthdystio yn erbyn gwaith awdurdodau Coleg Bangor yn defnyddio Llechi gwyrddion Deheudir Cymru at doi y Coleg newydd, ar draul anymwybyddu llechi yr ardal sydd wedi cyfranu mor helaeth at y-Gronfa a'r Coleg. MEWN cyfarfod o Eglwyswyr, ddydd Sadwrn, yn Wrecsam, o dan lywyddiaeth Arglwydd Kenyon, ystyriwyd y priodoldeb o ddarparu mwy o gyfleusderau i addoli yn y dref. Argymellwyd codi Ty Eglwysig, dwy eglwys newydd, ac ysgol eglwysig a gostia £ 10,700. FEL yr oedd un o'r enw Ryles, aeldo o Gat- rawd y Tanddiffoddwyr yn Rhyl, ar do ty oedd ar dan yn y dref yn ceisio gorchfygu yr elfen ddinystricl, llithrodd i lawr a syrthiodd dros yr ymyl. Cafodd godwm o tua ugain llath a der- byniodd niweidiau mewnol trymion. YR oedd cynifer a 187 o ymgeiswyr am y swydd o Ystorydd Cynorthwyol o dan Gym- deithas Gydweithiol Heywood, am y cyflog o 24/- yr wythnos. Oherwydd nifer yceisiadau methwyd a phenderfynu ar pwy a gymerid, a rhaid fu gohirio y pwyllgor er iddynt eistedd bron trwy'r nos i fyned trwy y ceisiadau. Y MAE Ymddiriedolwyr Porthladd Caer- narfon yn adrodd i allforiad y llechi oddiyno syrthio cbwech a haner y cant ar y flwyddyn flaenorol, a dadforiad glo at y chwareli wedi syrthio bedwar a'r ddeg a chwarter y cant. Y MAE Miss Margaret Jones, wedi cwblhau ei haner can' mlynedd o wasanaeth fel ysgol- feistr Ysgol Henfelin, Dolgellau. Y mae Archeb wedi ei gwneyd o dan Deddf Oriau Masnachdai, 1904, i gatKholl fasnachdai Dosbarth Dinesig Colwyn fel y eanlyn :-Llun, Mawrth, ac Iau, am saith o'r gloch un o'r gloch ddydd Mercher, wyth nos Wener, a deg nos Sadwrn. DYDD Iau, claddwyd Cadben Owen Morris, High Street, Porthmadoc. Yr oedd yn 73 mlwydd oed, a bu farw ddydd Mawrth yn Caerdydd pan yno ar fusness. Yr oedd Cadben Morris yn dra adnabyddus trwy Ogledd Cymru mewn cylchoedd Morwrol. Gedy fwlch amlwg ar ei ol. Y MAE yr Henadur Edward Hughes, Wrecsam, wedi ei ddodi ar restr ynadon Sir Dcinbych. Y MAE y Gwir Barchedig Esgob Kerley a'r Parch. J. J. Dunne wedi glanio yn Lerpwl o New York i fod yn bresenol yn y Gynhadledd Babyddol gynhelir y mis nesaf. Ar fwrdd yr un llong a hwy yr oedd y Barnwr Fred Lane, yr hwn yw y Barnwr ieuengaf a fu gan Am- erica erioed yn perthyn i'w Huchel-lys. AETH un Mr. Yates, dyn dyeithr, i geisio dringo gwyneb craig y Gogarth Bach, Llan- dudno, a syrthiodd i lawr gryn bellder. Yr oedd mewn lie, pan ddaethpwyd o hyd iddo, nad allai symud i, fyny nag i lawr. Aeth nifer yno i'w waredu. ( MEWN ynadlys arbenig yn Mangor yr wyth-; nos ddiweddaf, cyhuddwyd 13 o ddynion, yr oil oddigerth un yn grwydriaid o Loegr, o feddwdod, a rhai o honynt o fod yn afreolus. Addefodd yr oil o honynt iddynt gael diod, a chan nad oedd ganddynt arian i daiu ydirwyon aethont i garchar Caernarfon. YN foreu dydd Mercher cyfarfu Albert Lewis, Wigan, a damwain angeuol, yn Llan- dudno Junction. Yr oedd Lewis yn gyru tren o lo o Wigan i Gaernarfon, ac yn aros yn y Junction i gael dwfr. Aeth i ben y lie y cedwir glo ar y peiriant i estyn y bibell ddwfr, tra yr aeth y taniwr i roddi olew i'r peiriant. Wedyn gwelwyd Lewis gan gludwr yn gor- wedd yn anymwybodol ar y platfform, a chlud- wyd ef gyda thren arbenig i ysbyty Bangor, He y bu farw dydd Iau. DIWEDD yr wythnos hysbyswyd fod Chwarel y Vronheulog yn llonyddu. Rhoddwyd rhy- budd i'r holl weithwyr ymadael. Ymddengys mai prif achos yr ataliad yma ydyw marwol- aeth y baneddwr, Mr. Aspinwall, yr hwn oedd y prif allu yn y cwmni, ac fod yn anhawdd gan ereill ymgymeryd a hi oherwydd y dirwasgiad masnachol. Yr oedd yno tua 50 o weithwyr. WEDI bod yn absenol am gryn amser ar y Cyfandir, y mae y gantores bydenwog Madame Patti wedi dychwelyd yn 01 i Lundain. Y MAE Mr. Elwy D. Symond, a benodwyd yn Dderbynydd Swyddogol dros Lerpwl a Birkenhead, yn fab i'r Parch. J. D. Symond, Towyn. I Ni ddarfu i gyn-Clerc Ynadon Gwrecsam (Mr. J. A. Hughes) fod yn absenol o'r llys ond pum' gwaith yn ystod 43 mlynedd. Yn awr y mae yn ustus heddwch ei hunan. RHODDWYD yr henalaw Gymreig Y Nyth a'r Aderyn i gerddoriaeth gan Mr. D. Jen- kins, Mus. Bac. Can ydyw i soprano nen contralto. YN Llys Ynadol Fleetwood, ddydd Mercher, cyhuddwyd dwy ddynes o ymosod ar hen ddyn, 87 mlwydd oed, a hyny ar y brif flordd. Gohiriwyd eu hachos. DYWEDIR fod rhai newyddiaduron Japan- aidd yn gweled bai ar Lywodraeth y wlad hon am lywodraethu mor galed yn India. BOREU dydd Mawrth crogwyd Thomas Siddle, llafurwr, yn Ngharchar Hull. Llof- ruddiodd ei wraig. Bwytaodd foreubryd rhag orol, ac aeth i'r crogbren a gwen ar ei wyneb. TYDDYNWR tlawd oedd tad Abraham Lin- coln, rhyddhawx y Caethion. MAB amaethwr dinod oedd Daniel Webster, y geiriadurwr. (

GLANCONWY.

PENRHYNDEUDRAETH.

LSadrata oddiar Lei dr.

ILLANBEDR.

- - ............................................................…

-DOLWYDDELEN.

Bwrdd Llywodraethwyr YsgolionI…