Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
YN NGHWMNI NATUR. I
YN NGHWMNI NATUR. I (GAN CAERWYSON.) I (Hawl-ysgrif.) I Yr wyf y tro hwn am gael Cwmni Natur gyda'r Naturiaethwr galluog a sylwgar, Mr. J. A. Walpole-Bond, Tynygraig, Buallt. Mawr oedd fy moddhad o gael ei gyfrol hardd, "Bird Life in Wild Wales" (Bywyd Adarol yn Ngwyllt Walia), yn anrheg oddiwrth ei An- rhydedd y Barnwr Gwilym Evans, ychydig amser yn ol efe ei hun yn naturiaethwr ac hynafiaethydd o'r radd flaenaf, heblaw ei fod yn awdwr amryw lyfrau cyfreithiol o bwys. Prisiaf y llyfr yn fawr oherwydd y Rhoddwr, a'r parch uchel sydd genyf i goffadwriaeth ei dad Hybarch, yr hwn, ar gyfrif ei allucedd, ei gymeriad, a'i oedran patriarcbaidd a adwaenid yn mblith gweinidogion ei enwad fel Esgob Hebron." Hefyd yr wyf yn prisio y llyfr am ei fod yn gofnodiad syml, ond hynod o ddar- llenadvvy, o'r hyn a welodd yr Awdwr ei hun o ddydd i ddydd yn yr ardaloedd hyny o Ddeheudir Cymru yr ymwelodd a hwy. Ced- wir enwau y manau y bu ynddynt heb eu crybwyll, ond gyda Aethum drosodd i A. Ymwelais a C,&c. Gyda hyny yn fwriadol, er mwyn cadw "cartrefi" (haunts) adar prinion yn guddiedig rhag eu difawyr, yn arbenig felly y Barcutan (Kite), yr Hebog (Peregrine Falcon), y Gigfran (Raven), a'r Cudyll Mawr (Buzzard) yr hwn a elwir yn gyffredin yn Nghymru yn "Farcutan." Y mae y iath elyniaeth creddfol rhwng Ceidwaid helwriaeth a'r Adar hyn, a'r Cydyllod eraill, fel y lladdant bob un o honynt a ddigwydd ddod i'w cyraedd ond yn yr ardaloedd y bu yr Awdwr yn gwneyd ei archwiliadau, yr oedd yr 011 o honynt o dan gadwraeth fanwl y tir Arglwyddi a boneddigion eraill ydynt wedi ffurfio Cymdeithas i'r perwyl hwnw. Gresyna ef yn fawr fod neb boneddwr yn gwarafun Iar Fynydd lesg neu ei chyw llesg, ac ambeil lefren (young hare) i'r Barcut a'r Cudyllod, gan eu bod yn wir deilwng a damaid pe ond am y brogaod, y nadrodd, y tyrchod daear, a'r Geneugoegiaid, a difant ar eu tiroedd. Diolch oer yr amaethwr i'r Ddallhuan fydd yn lladd o chwech i naw o lygod yn ei ydlan bob nos, yw ei lladd am ei bod yn gwneyd swn aflafar o gwmpas y ty yn y nos!" Caiff y gath iyw ganddo, a digonedd o lefrith gan y merched yn y fargen, am ei bod yn dal ambell lygoden, er ei bod yn rhegl yn enbyd o gwmpas y ty ar adegau, a heb ddal un llygoden am bob haner dwsin a ddelir gan y Ddallhuan Bu yr Eryr Euraidd (Golden Eagle) yn gwneyd ei chartref yn ein plith ar hyd y canrifoedd, a chymerodd mynyddoedd Arfon eu henw oddiwrth hyny,- "Eryri," oherwydd mai yno y nythai yr Adar godidog hyn; ac y mae yn Arfon," Greigiau'r Eryrod" yn nrws Eryri yn arcs hyd y dydd hwn, er nad oes yr un Eryr yn nythu ynddynt er's dros ddwy ganrif. Y mae yr Eryr Tinwyn (White-tail Eagle), yn nythu eto yn Ngogledd Cymru; ond gwell i mi beidio dywedyd yn mha le rhag y bydd i hano hefyd gael ei hymlid ymaith ó'n plith. Lladdwyd yr un ymwelodd a thir y Rhug, Corwen, a stwffiwyd hi i'w chadw yn y Plas fel un o'i brif gywrein- ion; a'r un dynged a fu i'r un ymwelodd a Pale, Llandderfel, yn ogystal ag amryw Adar prinion eraill ydynt i'w gweled yn y ddau Balas hyn. Crybwylla Mr. Walpole-Bond fod ei linynau wedi syrthio mewn lleoedd hyfryd i gael golwg at y "nawddgolliaid (out-laws), fel y geilw yr Adar ydynt i'w gweled wedi eu hoelio gyda'r cathod, gwencwn, &c., wrth dai y Ceidwaid helwriaeth; a "rhed dwfr o'm danedd" am na fuaswn yn eael y fraint o fod gydag ef yn dringo y ceunentydd dyfnion a'r coedydd uchel i gael gweled y Gigfran yn ei rhyw," Y Barcut yn ei ryw," &c., yn eu cartrefi; Ffawd arall a ddaeth i'w ran ydoedd cael Ceidwaid helwriaeth, a Mr. Oliver G. Pike, yr Adar-wawl-lunydd adnabyddus, gydag ef i'w gynorthwyo i fyned at y nythod, a chael darluniau mor odidog o honynt. Y mae gwy- bodaeth yr Awdwr am Fyd yr Adar yn un eang a manwl iawn, a theimlir wrth ddarllen ei lyfr nad yw yn traethu yr oil a allai am ddim y sonia am dano dyna un gwahaniaeth amlwg sydd rhwng dyn llawn a dyn prin ei wybodaeth. Y mae un fel ffynon ddofn, loyw, a Hawn, a'r hyn a godir o honi at wasan- aeth arall yn arosyn loyw, ahithau ynparhau yn Hawn; tra y mae y 11a11 fel cor-bwll bychan, ac wrth godi ychydig o hono cymysgir y llaid a'r dwfr nes anurddo y cwbl, a gadewir y pwll yn sych. Rhaid i un grafu pob congl i gael rhywbeth i'w draethu, tra'r llall o'i gyflawn- der a fynega ei feddwl yn rhydd a rhwydd. Rhaid fod Mr. Walpole-Bond yn meddu gwy- bodaeth fanwl am yr ugeiniau Adar y traetha yn eu cylch- cyn iddo ymweled a'u cartrefi, neu ni allasai fod mor sicr mai hwy oeddynt, a I rhoddi ffrwyth ei sylwadaeth i eraill mewn dull mor hapus. Rhenir y Llyfr i ddeuddeg penod:—Wythnos yn y Bryniau-Rhai o'r Nawddgolliaid Pluog —Gyda'r Gigfran yn Nghymru-Rhai o Adar y Ffrydiau-Haf gyda'r Adar yn Nghymru- Gydag Adar y Mor yn Tenby-Rhai o Adar Prinion y Dywysogaeth—Brys-nodion—Gyda'r Hebog a'r Cudyll Glas Bychan yn Sir Frycheiniog—Yn Nghartrefi y Barcut—Syl- wadau ar Adar. Ceir yma Ddarluniau o gynifer a 58 o nythod, gan mwyaf yn rhai prinion, a dyddorol iawn yw darllen am yr hongian wrth raffau, y dringo coed a chreigiau fa i gael at amryw o honynt. Nid oes gyda ni yn Ngogledd Cymru leoedd cyfleus i rai o honynt nythu; ond y mae genym y Trochydd (Dipper), yr Hebog, y Cudyll mawr, y Cudyll, Y Cudyll Coch, Cudyll y Grug, y Dallhuan Glustiog a'r Gorniog, Bod Tinwyn, y Bod Glas, a'r Farcutan. Gyda'r rhai hyn, y Troellwr, a'u cyffelyb y treuliodd yr Awdwr ami i Wanwyn a haf yn Neheudir Cymru, a thraetha am y dyddordeb gafodd yn eu mysg nes dyddori eraill megis pe gydag ef yn y fan a'r lie. Yr oedd yn meddwl yn ami wrth ddarllen am dano yn dringo y coed am y canoedd coed a ddringais inau yn y dyddiau a fu, a'r mwynhad a gefais wrth syllu ar y wyau neu'r cywion yny nythod. Rhaid i mi ganu yn iach i'r llyfr yn awr, a'r tro nesaf fyned am nythod rhai o'r Adar prin- ion a nodir gan yr Awdwr.
- - --I 0 yGADAJR YNYS FADOO.…
0 y GADAJR YNYS FADOO. y Y Yr wythnos hon derbyniwyd newydd am farwolaeth Mr. Robert Roberts, mab y diwedd- ar Mr. John Roberts, New Street, Porthmad- og, gynt o Hir Ynys. Cymerodd y ddamwain le yn Corlise, Wisconsin. Ymddengys ei fod mewn gwasanaeth yn y rhan hono, ac iddo fyned i Corlise i fwrw Sul. Tua deg o'r gloch yn yr hwyr, dychwelai adref ar hyd llinell y rheilffordd, ac wrth csgoi un gerbydres, aeth i gyfarfod un arall, pa un a'i tarawodd i lawr gan ei ddrylho a'i ladd mewn moment. Yr oedd wedi t re alio 15 mlynedd yn y cylch yno gan wasanaethu gyda gwahanol amaethwyr, etc. Diau y cofia llawer am yr ymadawedig cyn ei ymadawiad i'r Unol Dalaethau pan y dilynai yr alwedigaeth o gigydd. Yr oedd tua 54 mlwydd oed. Y mae yn ei olynu ei frawd, Mr. John Roberts, athraw, Llanaelhaiarn a'i chwaer, Miss Roberts, New Street. CYNHEBRWNG CADBEN 0. MORRIS.— Dydd Gwener claddwyd gweddillion Cadben Morris (" Albert Baltzer ") yn Llanbedr. Gwasanaethid gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Y Galarwyr oeddynt.— Mri. Gth. Evans, sEvan Lloyd, Wm. Powell, neiod; Wm. Jones, David Morris, R. J. Morris, :D. 0. M. Roberts, cefndryd David Davies, brawd-yn-nghyfraith David Williams ac R. Roberts. Yn marwolaeth Cadben Morris collwyd un o forwyr mwyaf llwyddianus Porthmadog. Dywedir iddo wneyd i'r Albert Baltzer" dalu am dani ei hun bedair gwaith drosodd. Yr oedd Cadben Morris yn graff ei lygad ac yn gywir ei farn. DAL LLEIDR YN NOF-TH.-Darfu i T. Kew- ley, 19 oed, brodor o Lerpwl, ddwyn oriawr ymdrochwr yn y Garreg Goch, yr wythnos ddi- weddaf. Pan awd ar ei ol, diangodd i'r dwfr, a thynodd am dano. Ceisiwyd ei ddal ond nofiai ymaith. Gorfu iddo fyned ar ddarn o graig yn ymyl y Borth, ac aeth John Williams, pilot, mewn cwch ato, a thvnodd ef i'r cwch. Ymgasglasai canoedd o bobl ar ben y graig uwchben John Williams. Taflodd boneddiges ei Mackintosh i Kewley, a rhoddodd J. Williams fenthyg ei got iddo, er mwyn iddo guddio ei noethni. Llwyddwyd i gael rhai o ddillad y llanc. Cludwyd ef i Benycei, acynoeymerwyd gofal o hono gan y Rhingyll D. M. Jones. Dygwyd ef o flaen yr ynadon pryd y dywedwyd fod y carcharor wedi bod yn y Clio ac wedi methu cael lie fel morwr yn herwydd nas gallai glywed yn dda. Elai oddiamgylch i chwareu 'fflute', ac yr oedd yn dlawd iawn.-Dywedodd y carcharar ei fod heb fwyd er's tri diwrnod. Yr oedd ei fam ac un o'i frodyr yn nhlotty Ler- pwl. Nis gwyddai lie yr oedd ei dad a'i frodyr eraill.—Gohiriwyd yr achos er mwyn i'r heddgeidwaid wneyd ymchwiliad i hanes y diffydydd. CYFARFODYDD CENHADOL.—Y Sabbath diweddaf cynhaliwyd cyfarfod cenfiadol awyr- agored yn Nghlog-y-Berth pryd y pregethwyd gan Mr. Wm. Roberts, Maentwrog. Y WYDDFA.-Rhed char-a-banc modur rhwng Tremadog a'r Wyddfa bob dydd. YR YSGOL UWCH SAFONOL.—Rhaid i bobl Tremadog foddloni ar y cynllun wthiwyd dros- odd i sefydlu yn Mhorthmadog Ysgol Uwch Safonol. Bydd raid i blant y Dref gerdded bob dydd i Borthmadog o hyn allan. Nid yw pobl y dref heb ddisgrifio y cynllun mewn geirian beirniadol cryfion iawn, ac an- hawdd ydyw peidio cydymdeimlo a hwynt. Y mae materion Addysg Dyffryn Madog er's hir amser yn nwylaw person au ag sydd wedi profi eu hunain y blynyddoedd diweddaf yn dra anfedrus i'r gwaith. Aeth y trigolion i gredu nas gallai eu harweinwyr gyflawn camgymer- iadau, a'r canlyniad yw y sefyllfa anfoddhaol sydd a'i bethau yn awr. Gresyn yw cadw yr un dosbarth o bobl mewn swyddi yn hir. Collant gydymdeimlad i'r werin, ac ant yn fwy o Swyddogaethwyr nag o ddyngarwyr. YSGOL GOLAN.-Bydd yr Ysgol hon yn barod yn fuan. Mr. W. Davies, cyn-athraw Ysgol Tremadog fydd y Prif-athraw. Brodor o Borthmadog yw efe. PRIODAS.-Dydd Mercher, yn Eglwys Sant loan, gan y Parch. J. E. Williams, ficar, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. S. Hughes, curad, priodwyd Mr. John Hughes, gynt o Blaenau Ffestiniog, ond yn awr yn Tonypentre, Rhondda, D. C., a Miss Maggie Ellis, merch Mr. a Mrs. Griffith Ellis, Glan Llyn Farm, Morfa Bychan. Y gwasanaethyddion oeddynt Miss Sarah Ellis (chwaer) a Mr David Hughes (brawd). Ar ol mwynhau boreufwyd, aethant i dreulio eu mis mel yn nghanol dymuniadau da eu cyfeillion. Cic GAN GEFFYL.—Dydd Sadwrn, darfu i geffyl perthynol i Sipsiwns, tra mewn cae, gicio Mrs. Ann Roberts, Tanycoed, Penmorfa, gan achosi ciweidiau difrifol. FFORDD HAIARN BEDDGELERT.—Gwnaed cais at berchenogion rheilffordd Beddgelert i ofyn iddynt ganiatau i gerbydau yn cael eu tynu gan geffylau, redcg ar y rheilffordd hyd nes y gorphenir hi i gyd. MOEL Y GEST.—Bwrieoir gwneyd rhod- feydd prydferth i ben Moel-y-Gest, ac ar hyd ei ochrau. Byddai hyny yn gaffabliad gwerth- fawr iawn, a gwnai ddaioni mawr i'r ardal fel lie i ddieithriaid.
[No title]
DYDD Iau diweddaf, cyfarfyddodd bacbgen ieuanc o'r enw Lewis Owerl- Cae Mawr, Llan- ddaniel, Mon, a darrfwaln angeuol, tra yr oedd yn ymryson ras a'i geffyl haiarn gyda chyfaill iddo yn y psntref, pryd yn sydyn wrth geisio osgoi deurodwr arall oedd yn dod i'w cyfarfod, i'w gyfaill yn anffodus redeg i Owen, gan ei daflu i'r llawr, gyda'r canlyuiad iddo farw ganol dydd y diwinod canlynol oddiwrth effeithiau y godwm.
--------- ---- - --- --------…
Anwybotiaeth Mam yn Rhlwias- Nos Fercher, cynhaliwyd Trengholiad yn Rhiwlas, gan Mr. J. Pentir Williams, ar gorph baban pum' wythnos oed Mrs. Grace Parry, Cefn Braich, Rhiwlas.-Mynegodd y fam fod y plentyn yn un o efeilliaid. Rhoddai con- densed milk iddo yn fwyd, Ilond liwy de i bob haner pint o ddwfr cynes.—Y Crwner: A oes cwynion wedi bod yn nghylch y modd yr ydych wedi dwyn eich plant i fyny ?-Oes, un- waith; ond yr wyf wedi gwella er hyny. Faint o blant sydd genych,—Bu genyf ddeg, ond y mae chwech ohonynt, yn cynwys yr un presenol, wedi marw.-Deallaf fod eich gwr yn ngharchar.—Ydyw.—A ydych wedi dioddef rhyw gymaint er pan y mae yno ? 0, nac ydwyf.—Dywedodd Dr. Dunn Hollby, Felin- heli, fad marwolaeth i'w briodoli i ddiffyg bwyd priodol. Ni phwysa y corph ond pum' pwys, tra y dylai bwyso o wyth i ddeg pwys.—Dy- wedodd y Crwner ei fod yn resyn na fyddai cyfraith i rwystro pobl yn y fath amgylchiadau i briodi.—Dychwelwyd rheithfarn o Farwol- aeth oddiwrth achosion nuturiol, yndilynbwyd anmhriodol a diffyg maethiad."
wvwwwwwwwwwvwww IAchos John…
wvwwwwwwwwwvwww Achos John Roberts, Penrhyn- I deudraeth. Dydd Gwener, yn Heddlys Porthmadoc, cy- huddwyd John Roberts, dyn ieuangc o Pen- rhyndeudraeth o fod yn cario llawdryll gyda'r bwriad o wneyd ymosodiad ar Julia Askers, 16 oed, ar y ffordd fawr. Tystiodd yr eneth i Roberts dynu y llawdryll allan pan wrthododd hi fyned gydag ef oddiar y ffordd. Taflwyd yr achos allan, ond cyhuddwyd,ef yn mhellach o fod yn cario llawdryll heb fod achos cyfreithlon yn galw ani hyiiy: ojan daedal basiwyd yn 1328 y dygwyd y cyhuddiad hwn. Traddod- wyd ef i'r Frawdlys i sefyll ei brawf. Yr oedd eisoes wedi ei draddodi i sefyll ei brawf am ymosod ar eneth dan oed.
IDedfryd am Warcheidwaid MileI…
I Dedfryd am Warcheidwaid Mile I End. Daeth prawf deg o Warcheidwaid a Chyn- Warcheidwaid Undeb Mile End i derfyn. Parhaodd o flaen y Barnwr Phillimorea rheith- wyr arbenig am ugain niwrnod. Cyhuddwyd hwy o gyd-gynllwyn a throseddau o dan Ddeddf Cyrph Cyhoeddus (ymarferion llyg- redig), a chodai y cyhuddiadau yn nglyn a chyflenwyr nwyddau at Wasanaeth yr Undeb. Cafwyd yr oil yn euog. Yr oedd amryw gy- huddiadau, ond ceid hwy yn euog o gyd-gyn- llwyno neu dderbyn llwrgwobrwyon. Y Barnwr wrth basio dedfryd arnynt a sylwodd ei fod yn bryd clirio drygedd o'r fath o'r wlad. Pan oedd deg o ddynion fel y cyhuddedigion yn cael eu dwyn i'r llys dylid gwneyd esiample o honynt i eraill. Byddai iddo i ddechreu eu difreinio i ddal unrhyw swydd gyhoeddus am saith mlynedd. Gofidiai nad allai eu gorfodi i dalu yn ol i'r Undeb yr arian derbyniasant gan y golygai hyny eu cadw yn ngharchar am eu hoes. Ond byddai iddo osod swm arnynt dalu i'r Goron, a gobeithiai y cyflwynai y goron arian yn ol i'r Undeb. Yr oedd yn dirwyo Thomas Gould, 70 oed, i £ 25, a 15 mis o garchargydallafurcaled: John Edward Kemp, i £ 25, a 6 mis o garchar gyda llafur caled John Edward Loptus, 31 oed, Archibald W. A. Ridpath, James F. Stammers, Walter Trott, 46 oed,la Samuel Gilder, 58 oed, i £ 25 a naw mis gyda llafur caled; Joseph Gibson, £ 250 heb garchar; yr Henadur Rowland Hirst, V.H., Cynfaer Stepney, dwy flynedd o garchar gyda llafur caled a'r Henadur John G. Warren, U.H., £ 250 a blwyddyn o garchar gyda llafur caled.
IY Prif-fFyrdd a'r Moduriau.…
I Y Prif-fFyrdd a'r Moduriau. I Yn Nghyngor Sirol Dinbych, wrth gyflwyno adroddiad Pwyllgor y Ffyrdd, dywedodd Mr. Gomer Roberts, fod y Pwyllgor yn cael eu byddaru gan lythyrau oddiwrth Cymdeithasau Moduriau. Y pwngc i'r Cyngor oedd,—Pa un a oeddynt yn myned i gadw y Ffyrdd mewn cyflwr priodol at ofynion lleol, ynte eu gwneyd yn gwrs plesera i bobl dyeithr ? Codai y costau yn ddifrifol, nid oblegid gofyniadau lleol, ond o achos pleser-geiswyr a boneddigion rhedegfeydd. Yn 1898 costiai y ffyrdd ;,C12, 524 i,w cadw, a chostiodd i'r Sir y llynedd /20.404 cynydd o agos i £ 8,000. Yr oedd y cynydd hwn yn cael ei achosi gan y Moduriau. Cynygiai i gefnogi deiseb Cyngor Aberteifi i ofyn am rodd ychwanegol o'r Llywodraeth at y ffyrdd, a phasiwyd hyny yn unfrydol. WWWWSAAAAAAAAAAAAAAAAAAA;
[No title]
DYDD Mawrth tra yn ymdrochi gyferbyn a'r West End Parade, bu i un o'r ymwelwyr gael cramp, ac oni bai am ymdrech arbenig Mr. Fred E. Young, trwy neidio i'r dwfr a'i dynu i'r Ian, buasai wedi boddi.
O'R PEDWAR CWR.
O'R PEDWAR CWR. PENODWYD Dr. Williams. aelod o Gyngor Dosbarth Aethwy (Menai Bridge), yn unfrydol i fod yn Swyddog Meddygol y Cyngor yn lie Dr. Peter Frazer. Y mae Cyngor y Dwyrain Mon, wedi tori eu cysylltiad yr un modd a'r Cyd-bwyllgor Iechydol am eu bod yn ystyried nad yw yn iawn iddynt dalu am Arolygwr Meddygol i Ysgolion Sir Caernarfon, a hwythau yn gorfod talu am unyn eu Sir eu hunain. Y MAE Bwrdd Gwarcheidwaid Wrecsam wedi pasio i ofyn i Mr. W. E. Weaver, i ym- ddiswyddo. Bydd y plant yn cael eu hanfon i'r Ysgolion Cyhoeddus ar ol diwedd y flwydd- yn a penodir gwr a gwraig i ofalu am danynt fel rieni maeth (foster parents). Bwrdd y Llywodraeth Leol sydd wedi awgrymu hyn. PASIODD ChwarelwyrBethesda benderfvniad yn gwrthdystio yn erbyn gwaith awdurdodau Coleg Bangor yn defnyddio Llechi gwyrddion Deheudir Cymru at doi y Coleg newydd, ar draul anymwybyddu llechi yr ardal sydd wedi cyfranu mor helaeth at y-Gronfa a'r Coleg. MEWN cyfarfod o Eglwyswyr, ddydd Sadwrn, yn Wrecsam, o dan lywyddiaeth Arglwydd Kenyon, ystyriwyd y priodoldeb o ddarparu mwy o gyfleusderau i addoli yn y dref. Argymellwyd codi Ty Eglwysig, dwy eglwys newydd, ac ysgol eglwysig a gostia £ 10,700. FEL yr oedd un o'r enw Ryles, aeldo o Gat- rawd y Tanddiffoddwyr yn Rhyl, ar do ty oedd ar dan yn y dref yn ceisio gorchfygu yr elfen ddinystricl, llithrodd i lawr a syrthiodd dros yr ymyl. Cafodd godwm o tua ugain llath a der- byniodd niweidiau mewnol trymion. YR oedd cynifer a 187 o ymgeiswyr am y swydd o Ystorydd Cynorthwyol o dan Gym- deithas Gydweithiol Heywood, am y cyflog o 24/- yr wythnos. Oherwydd nifer yceisiadau methwyd a phenderfynu ar pwy a gymerid, a rhaid fu gohirio y pwyllgor er iddynt eistedd bron trwy'r nos i fyned trwy y ceisiadau. Y MAE Ymddiriedolwyr Porthladd Caer- narfon yn adrodd i allforiad y llechi oddiyno syrthio cbwech a haner y cant ar y flwyddyn flaenorol, a dadforiad glo at y chwareli wedi syrthio bedwar a'r ddeg a chwarter y cant. Y MAE Miss Margaret Jones, wedi cwblhau ei haner can' mlynedd o wasanaeth fel ysgol- feistr Ysgol Henfelin, Dolgellau. Y mae Archeb wedi ei gwneyd o dan Deddf Oriau Masnachdai, 1904, i gatKholl fasnachdai Dosbarth Dinesig Colwyn fel y eanlyn :-Llun, Mawrth, ac Iau, am saith o'r gloch un o'r gloch ddydd Mercher, wyth nos Wener, a deg nos Sadwrn. DYDD Iau, claddwyd Cadben Owen Morris, High Street, Porthmadoc. Yr oedd yn 73 mlwydd oed, a bu farw ddydd Mawrth yn Caerdydd pan yno ar fusness. Yr oedd Cadben Morris yn dra adnabyddus trwy Ogledd Cymru mewn cylchoedd Morwrol. Gedy fwlch amlwg ar ei ol. Y MAE yr Henadur Edward Hughes, Wrecsam, wedi ei ddodi ar restr ynadon Sir Dcinbych. Y MAE y Gwir Barchedig Esgob Kerley a'r Parch. J. J. Dunne wedi glanio yn Lerpwl o New York i fod yn bresenol yn y Gynhadledd Babyddol gynhelir y mis nesaf. Ar fwrdd yr un llong a hwy yr oedd y Barnwr Fred Lane, yr hwn yw y Barnwr ieuengaf a fu gan Am- erica erioed yn perthyn i'w Huchel-lys. AETH un Mr. Yates, dyn dyeithr, i geisio dringo gwyneb craig y Gogarth Bach, Llan- dudno, a syrthiodd i lawr gryn bellder. Yr oedd mewn lie, pan ddaethpwyd o hyd iddo, nad allai symud i, fyny nag i lawr. Aeth nifer yno i'w waredu. ( MEWN ynadlys arbenig yn Mangor yr wyth-; nos ddiweddaf, cyhuddwyd 13 o ddynion, yr oil oddigerth un yn grwydriaid o Loegr, o feddwdod, a rhai o honynt o fod yn afreolus. Addefodd yr oil o honynt iddynt gael diod, a chan nad oedd ganddynt arian i daiu ydirwyon aethont i garchar Caernarfon. YN foreu dydd Mercher cyfarfu Albert Lewis, Wigan, a damwain angeuol, yn Llan- dudno Junction. Yr oedd Lewis yn gyru tren o lo o Wigan i Gaernarfon, ac yn aros yn y Junction i gael dwfr. Aeth i ben y lie y cedwir glo ar y peiriant i estyn y bibell ddwfr, tra yr aeth y taniwr i roddi olew i'r peiriant. Wedyn gwelwyd Lewis gan gludwr yn gor- wedd yn anymwybodol ar y platfform, a chlud- wyd ef gyda thren arbenig i ysbyty Bangor, He y bu farw dydd Iau. DIWEDD yr wythnos hysbyswyd fod Chwarel y Vronheulog yn llonyddu. Rhoddwyd rhy- budd i'r holl weithwyr ymadael. Ymddengys mai prif achos yr ataliad yma ydyw marwol- aeth y baneddwr, Mr. Aspinwall, yr hwn oedd y prif allu yn y cwmni, ac fod yn anhawdd gan ereill ymgymeryd a hi oherwydd y dirwasgiad masnachol. Yr oedd yno tua 50 o weithwyr. WEDI bod yn absenol am gryn amser ar y Cyfandir, y mae y gantores bydenwog Madame Patti wedi dychwelyd yn 01 i Lundain. Y MAE Mr. Elwy D. Symond, a benodwyd yn Dderbynydd Swyddogol dros Lerpwl a Birkenhead, yn fab i'r Parch. J. D. Symond, Towyn. I Ni ddarfu i gyn-Clerc Ynadon Gwrecsam (Mr. J. A. Hughes) fod yn absenol o'r llys ond pum' gwaith yn ystod 43 mlynedd. Yn awr y mae yn ustus heddwch ei hunan. RHODDWYD yr henalaw Gymreig Y Nyth a'r Aderyn i gerddoriaeth gan Mr. D. Jen- kins, Mus. Bac. Can ydyw i soprano nen contralto. YN Llys Ynadol Fleetwood, ddydd Mercher, cyhuddwyd dwy ddynes o ymosod ar hen ddyn, 87 mlwydd oed, a hyny ar y brif flordd. Gohiriwyd eu hachos. DYWEDIR fod rhai newyddiaduron Japan- aidd yn gweled bai ar Lywodraeth y wlad hon am lywodraethu mor galed yn India. BOREU dydd Mawrth crogwyd Thomas Siddle, llafurwr, yn Ngharchar Hull. Llof- ruddiodd ei wraig. Bwytaodd foreubryd rhag orol, ac aeth i'r crogbren a gwen ar ei wyneb. TYDDYNWR tlawd oedd tad Abraham Lin- coln, rhyddhawx y Caethion. MAB amaethwr dinod oedd Daniel Webster, y geiriadurwr. (
GLANCONWY.
GLANCONWY. Dydd Iau, casglodd tua phum' cant o den- antiaid etifeddiaeth Bryn Eisteddfod o flaen y palas Henafol hwnw i'r amcan o gyflwyno anrheg i Etifedd y stat hono, yr hwn a anwyd Mehefin 2. Cryd Henafol o dderw cerfiedig a chwpan arian hardd oedd yr anrheg, ac arnynt yn gerfiedig :-Anrheg ddydd Genedigaeth i Hugh Maurice Carstairs Jones-Mortimer, yr hwn a anwyd Mehefin 2, 1908, gan denantiaid Bryn Eisteddfod, Awst 2, 1908." Cyflwynwyd yr anrhegion gan Mr. John Hughes, Glyn, a Mr. John Davies, Frongoch. Sylwodd Mr. Davies mai dyma y mab cyntaf a anwyd yn Bryn Eisteddfod er's 160 o flynyddoedd. Mr. C. B. Jones-Mortimer, wrth ddiolch i'r tenantiaid, a ddywedodd fod rhai canoedd o flynyddoedd oddiar yr amser y dywedodd Ior- werth y Cyntaf wrth gyflwyno y Tywysog Gymru cyntaf i'r Cymry, "nis gall siarad yr un iaith ond yr eiddoch chwi." Yr oedd hanes yn ail adrodd ei hun y diwrnod hwnw, gan na fedrai Etifedd Bryn Eisteddfod wneyd dim mwy na Thywysog cyntaf Cymru. Ond dymuniad dwfn y rhieni oedd iddo yn yr amser a ddaw allu siarad a'r tenantiaid yn yr hen iaith Gymraeg," Wedi hyny rhoddwyd gwledd i bawb oedd yn bresenol, a the a chwaseuon i blant yr Ysgolion*;
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliodd y brodyr yn Carmel eu gwledd flynyddol i'r plant. Trwy garedigrwydd Mr. William Jones, Ty Fry, cafwyd He cyfleus at wneyd y wledd o de a bara brith, a chafwyd lie i chwareu ganddo. Mwynhaodd pawb ei hun yn y modd goreu, ac ni chollodd neb ddim ond dwy lwy de. Diolchwyd yn gynes i deulu car- edig Ty Fry, a chafwyd can ddoniol dros ben oddiwrth un b blant Carmel. sef Mr. William Berwyn Roberts, mab Dewi Gerddor.—Yr un dydd, bu Ysgol Sul Nazareth, yn gwledda gerllaw i Benybwich, a Minffordd ar Benbryn Polyn. Cawsant brydnawn hafaidd a phawb yn eu hwyiiau goreu. Nos Sftbboth, yn Nghymdeithas Ymdrech Grefyddol Gorphwysfa, darllenwyd papyr rhagorol gan Miss A. Jones, Eryri Terrace.— Yr un adeg yn Nghymdeithas Nazareth, dar- llenodd Mr. R. T. Williams, Garth Celyn, bapyr ar Temtiad Crist."
LSadrata oddiar Lei dr.
LSadrata oddiar Lei dr. Diangodd Ernest Ward, 18 oed, Clerc Mri. Benson, Ludgate Hill, Llundain, Gorphenaf 1, gyda £166 9s lc o arian ei feistri. Pan ddal- iwyd ef yn Lerpwl nid oedd ganddo ond 11/ Hona iddo gael ei ysbeilio o £ 130 gan dri dyn yn Caerdydd y rhai a roddasant gyffuriau iddo, a'i adael ar ochr y ffordd oddiallan i'r dref. Yna gwnaeth ei ffordd am Lerpwl gyda'r bwr- iad o fyned i Canada, ond bu i'r dyn yr arhosai gydag ef ei ysbeilio o £ 31 10s Dc. Pan aeth at yr.ljeddlii i adrodd e: gSL'ed, dali wyd ef cyhuddiad o ladrata. Dywedodd ei dad effod yn meddwl fod gwobr yn ei ddisgwyl" yn yr ysgol y bu yn fyfyriwr o honi. Anfonwyd ef i garchar am chwech wythnos. I..
ILLANBEDR.
LLANBEDR. Bu farw Mrs. J. Williams, Tyn'llan, boreu- Mercher, ar ol cystudd byr. Yr oedd yn ei chynefin iechyd dydd Sadwrn. Chwith iawn genym ei cholli, oherwydd ei bod yn un o'r chwiorydd hynaf y Pentref, ac yn un os nad yr aelod hynaf yn Moriah, Llanbedr. Dydd Gwener, dygwyd gweddlllion Capt. Morris yma i'w gladdu ynghladdfa y teulu. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Anghyhoedd ydoedd yr angladd o Borthmadpg. Tarawyd yntau yn sydyn iawn yn Nghaerdydd. YR ARDDDANGORFA A'R SPORTS.—Y mae golwg addawol dros ben am Sports ac Arddangosfa lwyddianus yma dydd Sadwrn, yr 22ain o'r mis hwn, gan fod yr Entries yn dylifo i law yr Ysgrifenydd-Mr. Ellis Jones, The Library, Llanbedr. Diameu y' cymerir dyddordeb mawr 3p y gwahanol gystadleuon dyddordeb mawr lluosog ac amrywiol, ac yr gan eu bod ydym yn gwahodd sylw gwyr llechi Ffestiniog ac Arfon at y Gystadleuaeth Hollti Llechi sydd ynglyn a'r Show. Hefyd dymunir adgoffa y rhai sydd yn bwriadu cystadlu fod yr Entries yn cau y Sadwrn nesaf.
- - ............................................................…
v Dadgysylltiad. Nos Fawrth, yn Ysgoldy y Wesleyaid Cym- reig yn Nghaernarfon, rhoddodd y Parch. Evan Jones adroddiad am ymweliad y ddir- prwyaeth a Mr. Asqnith yn Nhy'r Cyffredin o berthynas i Ddadgysylltiad. Llywyddwyd gan y Parch. R. Morgan, ac yn mysg ereill yn bres- enol yr oedd y Parchn. W. Jones, D. O'Brien Owen, Ishmael Evans, J. E. Hughes, M.A., H. Harris Hughes, B.A.,B.D., a Lloyd B. Roberts, a Mr. Beriah G. Evans.—Dywedodd Mr. Jones, i Mr. Asquith roddi derbyniad car- edig iawn i'r ddirprwyaeth. Datganodd ei farn fod Mr. Asquith yn bwriadu, nid yn unig ddwyn Mesur Dadgysylltiad yn ystod y Senedd- dymhor nesaf, ond hefyd yn bwriadu ceisio ei basio drwy y Senedd. Deallai hefyd fod y Cabineb yn ffafriol i'r cwrs hwnw.—Diolch- wyd i Mr. Jones am ei lafur yn nglyn a Dad- gysylltiad.
-DOLWYDDELEN.
DOLWYDDELEN. Gyda gofid dwys yn ydym yn hysbysu am farwolaeth Mrs. Gwen Jones, Glanaber (Tan-y- castell gynt). Yr oedd allan yn hwyr prydnawn ddydd Llun, ac yn edrych mor siriol ac iach ag arferol, a theimlai yn hynod o falch o gael gweled ei phum' mab wedi dod adref o'r De- heudir am eu gwyliau i edrych am dani hi a'i pbriod; ond yn oghanol y mwynhad o'u cym- deithas bu farw yn hollol ddirybudd ar y sofa tra gyda hwy fel teulu o'i chwmpas. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'i hanwyl briod, y ferch a'r chwech mab, yn eu galar a'u profed- igaeth lem,
Bwrdd Llywodraethwyr YsgolionI…
Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion I Dosbarth Ffestinlog. I Cynhaliwyd cyfarfod arbenig o'r Bwrdd uchod yn y, Police Buildings, Bl. Ffes- tiniog, dydd Iau, Awst 6ed Mr. J. Rhydwen Parry yn y gadair. Amcan y cyfarfod oedd ystyried ymddiswyddiad Mr. Wm, Humphreys, Athraw Cynorthwyol yn Ysgol y Bechgyn Maenofferen, ac i ddewis un yn ei le. Yn ei lythyr diolchai Mr. Humphreys i'r Bwrdd am eu caredigrwydd iddo yn ystod yr amser y bu yn eu gwasanaeth, a thalai deyrned neillduol i Mr. Cadwaladr am lawer o addysg a hyffordd- iant a dderbyniodd ganddo tra bu yn athraw odditano. Pasiwyd i dderbyn yr ymddiswydd- iad. Ymgeisiai Mr. J. W. Thomas, Tanybwlch, Manod Road, am y He. Bu Mr. Thomas yn eu gwasanaeth o'r blaen fel disgybl athraw. Aeth oddiyma i Goleg Bangor lie cafodd yrfa lwyddianus. Enillodd yno y radd o B.A., gydag anrhydedd mewn rhai pynciau. Dyg- wyd tystiolaeth uchel i'w gymwysderau i'r gwaith, a phasiwyd yn unfrydol i'w benodi, ar y dealltwriaeth y telid iddo yr un cyffog ag a delid yn floenorol i Mr. Humphreys. Pasiwyd hefyd i wneyd ychydig adgyweiriad- au angenrheidiol ar yr ysgolion.