Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
II'R BAILIFF. I
I'R BAILIFF. I Dyn bawlyd iawn yw Baili,-du genad, I O ganol trueni; A'th ddyled oni thali Gwas y d-l a'th geisia di. R. O. *MACHNO.
DYHUDDIANT- I'R BAILI. I
DYHUDDIANT- I'R BAILI. (Cyflwynedig i R. O. Machno). Mwy bawlyd na bwmbeili—yw tylw) fa Nas talant eu cyfri' I Y rhai hyn ro'ir i weini I dd—1 noeth feddyliwn ni. Nid gwas mor ddiflas aflan-i Belial Ydyw'r Baili druan,— i Hen r6g na thalo ei ran Eill siwtio'n well i Satan. Llanrwst. IEUAN DYFFRYN CONWY,
AR FARWOLAETH
AR FARWOLAETH Lizzie, merch Mr. a Mrs. William Owen, Meadow Bank, Llanrwst. Lizzie Owen, y lwys wywodd-byd oer, Ond bywyd uwch gafodd Drwy angau yno dringodd-i'r gwynfyd, I dir Ei iechyd Duw ei hun dyrchodd. Llanrwst. R. E.
CAN AR GAREG FEDD.
CAN AR GAREG FEDD. Achlysur cyfansoddi y llinellau isod oedd sylwi I a gwrando ar Fronfraith yn canu ar gareg- fedd geneth ieuangc yn mynwent gyhoeddus Bishop Auckland, Durham. Wrth rodio yn y fynwent Rhyw ddiwrnod gyda'r nos, Yn nghanol peraroglau A blodau man a'r rhos, A'r amryw gofgolofnau Oedd yno'n llu ar daen, 'Roedd rhai yn gaboledig A'r lleill yn arw'u graen. Ar un o'r cerig geirwon Oedd yno ger fy mron, Y safai Bronfraith brydferth, Yn tywallt miwsig non v Yr oedd rhyw swyn eithriadol Ac egni yn ei chan, Fel pe bai am ragori Ar swyn y blodau man. Yr oeddwn bron a meddwl Na chlywais hi erioed, Yn canu'n fwy perorol Ar lwyfan gwyrdd y coed; Pa beth aderyn prydferth Hyd yma'th ddygodd di, Dyeithrwch dy ddyfodiad Sy'n llawn o swyn i mi ?" Anrhydedd mawr a welaf I'r hon sydd wael ei gwedd, C-ael brjnfraith fwyt. s. ganu Ar gareg or ei bedd Mae cysylltiaeau teulu Gan anghof wedi ffoi, f A sereh a ehydymdeimlad Gan amser wedi'u cloi. Ond os yw cysylltiadiau Y byd yn troi yn bant, Mae Duw'n para i gofio Yn dyner am ei blant; A phrawf o'r cofin bwnw  I mi, oedd swynol gan w^ Y Fronfraith cyn noswylio, Ar fedd yr eneth Ian. Oes yspryd prophwydoliaeth Yn hyn, debygwch chwi, Fod 'deryn bach yn canu Ar faen ei beddrod hi,— Y gwelir hi rhyw ddiwrnod Er 'nawr yn wael ei gwedd, Ar ddydd yr Adgyfodiad Yn canu ar ei bedd ? M. J.
Family Notices
PRIODAS Miss Alice Roberts, Leeds Street, Blaenau Ffestiniog, a Mr. James Hargreaves. Alice hudol sy' wedi-ymrwyno I'r amod priodi; Mya'd i hwn mewn daioni Yn eneth hardd a wnaeth hi. Liiwied y nef yn llawen-iawn ei dydd, Nes y daw'n ei helfen I ganu yn ddigynen Am fyd rhwym y fodrwy wen. Darogan hyd a'i drygo,—nPwna neb, Uniawn lor a'i llwyddo Da, newydd Eden ieuo Alice fwyn yn felus fo. CYFFDY.
PENILLION TELYN.
PENILLION TELYN. Hawdd a difyr ydyw canu Pan fo'r beulwen yn tywynu, Byth rfi flina neb wrth ganu Gyda hi hen Delyn Cymru. o bur ddenus a barddonol Yw y blodau fyrdd amrywiol, 0 mor l&naidd yw y lili Gan y garddwr yn y gerddi. Awn ymlaen yn swn y Delyn. Er cael golwg ar y dyffryn; Myn'd mae'r afon yn ddolenog Ar hyd ddyffryn teg Maentwrog. 0 mae hen ddyffrynoedd Cymru Fel pa'n gyru'r beirdd i ganu, Tlws yw miwsig yr aderyn Fel hudolus gan y Delyn. Hardd yw'r dolydd gwyrdd a deiliog Hardd yw'r mynydd tal mawveddog Hardd yw holl brydferthwch anian Hardd yw'r Crewr mawr ei hunan. Hardd yw meinwen ddoeth, dalentog; Gwisgai harddwch tlws ardderchog; Er mor daled yw y delyn I Hon sydd dalach fwynach wedyn. I MORLWYD. I
IY GOEDWIG.
Y GOEDWIG. Mor brydferth yw'r goedwig mewn gwyrdd- wisg o sidan, t Ysblenydd yw anian i galon y bardd, Edmyga fy awen ei chwmni, mwyn, diddan, Pob deilen heb arian a chwifia yn hardd; Chwareua'r awelon y mwynion delynau, Caf ynddi folawdau gan adar yn braf, Siriolir yn ddyddiol ei swynol orielau Gan hyfryd belydrau haul gwresog yr haf. Bu'r Crewr anfeidrol o'i orsedd dragywydd Yn llunio'i chywreinrwydd Ei Hunan i gyd, Ills sedda yn siriol ar fynwes distawrwydd Yn fyw o lawenydd yn ngolwg y byd Ymgiliodd y Gwanwyn, daeth hafddydd a'i I degwch, I Teyrnasa prydferthwch yn lion ar ei sedd, I Caiff awen a chalon ddaearol hyfrydwch Yn barddwch gwyrddlesni swynhudol ei gwedd. I Llundain. LLINOS WYRE I -1
FFESTINIOG.TTTTTI
FFESTINIOG. T T T T T I YR ARDDANGOSFA ARDDWROL.-Cofied pawb y bydd yr Entries gogyfer a'r Arddangos- fa uchod yn cau dydd Sadwrn nesaf, Awst 15. Wn i ddim, Mr. Golygydd, a ydych chwi yn talu'r sylw dyladwy i'r Llan yma. Yr wyf yn sicrhau i chwi pe baech yn dod am dro yma weithiau y caech ddefnyddiau ilawer penod ddyddorus i'ch newyddiadur clodus. Mae yma gymeriadau mor wreiddiol a'r bryniau sy'n gwarchodi'r pentref—cymeriadau gwerth sylwi arnynt, a'i hastudio. Gwneir amryw droion smala hefyd ar brydiau fyddai'n iechyd i galon eu clywed. Yn ystod y dyddiau diweddaf yma y mae rhyw glefyd melus rhyfedd wedi ymweled ar Llan-y mae pawb bron yn chwilio am wenyn, rhyw awydd am fel wedi gafael ar gastric organs rhyw lu mawr o'r trigolion. Yn wyneb y ffaith hon cyfansoddodd rhyw wag o brydydd y gânfarddonllyd ganlynol:— EVAN A'R CACWN. Yn Llan Ffestiniog dro 'rol tro Bu cymeriadan rhyfedd; Ond erys y rhyfeddaf oil Hyd heddyw, trwy drugaredd. Mae llawer penod ddoniol iawn Yn mywyd pawb, mi dybiwn, Ond y ddoniolaf glywais i Yw'r benod ar y caqwn. Daeth clef yd melus rhyfedd iawn I'r ardal hon o rywle A'i sympton ydyw blys am fel. A gwenyn meirch, fel tase' Tarawyd Evan, druan gwr, Yn hynod drwm o'r clefyd, A chwilio bu am ddyddiau lu Am haid o wenyn diwyd. O'r diwedd cafodd baid fawr iawn Yn g'lwm mewn tomen ludw, A rhedeg bu bron colli'i wynt Am help, a chwch i'w cadw. Ymwibiai o'r naill dy i'r Ilall Gan geisio dyn i'w cychu, Ond rywfodd croeso oeraidd braidd Ga'dd Evan gyda'i stori. Beth bynag, wedi hir berswad Aeth dyn o'r Llan i'w ganlyn, A'i ddilyn hyd y domen wnaeth Er mwyn cael cychu'r gwenyn. Fe irwyd cwch a thruog du, A siwgr coch, mi dybiwn, Ond yn y domen ludw 'doedd Dim byd on J chwech o gacwn. CEUNANT GYNFAL.
Advertising
TREFN OEDFAON Y SUL Y METHODISTIAID. PENIF,L.-Parch. R. R. Williams, M.A., Towyn. ENGEDI.-Parch. S. E. Prydderch, Llundain. GWYLFA.—Parch. R. Hughes Weston Rhyn. BETHESDA.—Parch. J. Owen, M.A., Bowydd, TABERNACL.—Parch. Lodwick Lewis, Sea- combe. MAENOFFEREN.—Parch. T. J. Parry, B.A., B.D., Rhuddlan. BOWYDD—Parch. John Howell Hughes, Bala. GARREGDDU. Parch. Afonwy Williams, Abermaw. 9 RHIW.—Parch. T. J. James. Penmachno. BETHEL.—Parch. E. J. Evans, Penrhyn. CAFEL SEISNIG (EngUsh Chapel). Rev. John Owen, M.A., Criccieth. YR ANNIBYNWYR. BETHEL. Parch. T. Pritchard, Druid, Corwen. HYFRYDFA.—6. Parch. J. Williams-Davies. I BETHANIA.-10, Parch. T. Griffith. 6, Parch. J. Rhydwen Parry. JERUSALEM.—Myfyriwr o Goleg Caerfyrddin. BRYNBOWYDD.—6, Parch. George Davies. SALEM.-6, Parch. Thomas Griffith. CARMEL.—Parch. E. G. Davies. Y WESLEYAID. EBENEZER.—Parch. J. Maelor Hughes. DISGWYLFA. 10, Mr. R. Owen, Coleg Handsworth. 6, Parch. T. Isfryn Hughes SOAR, RHIW.—10, Mr. W. Roberts, Maen- twrog. ITANYGRISIAU.—2, Parch. J. Maelor Hughes. 6, Cyfarfod Gweddi. FFE.STINIOG.-IO, Parch. T. Isfryn Hughes. 6, Mr. R. Owen, Coleg Handsworth. Y BEDYDDWYR. SEION.—Parch. H. Bryn Davies, LIandudno. CALFARIA.—Parch. E. Cefni Jones. MORIAH.-Parch. E. Cefni Jones. PISGAH.—Mr. J. D. Davies. CAERSALEM.-IO, Mr. Phillip L'oyd. 6, Mr. David Garfield Owen. 0 BWYS I RAI AR YMWELIAD A LIVERPOOL. Dymuna miss WILLIAMS, gynt o Ty'nyffrwd, Penrhyndeudraeth, wneyd yn hysbys ei bod wedi SYMUD o 25a, High Street, Wavertree, i 57, DURNING ROAD, EDGE HILL, yn ymyl y Station, ac felly yn fwy cyfleus i YMWELWYR A LIVERPOOL. Ceir pob manylion ond anfon Post Card i'r cyfeiriad uchod. 2 ff 'a g oft tft, ciyH-y-WEPDW Art Galleries and Gardens, Near PWLLHELI. Special term & facilities are offered in SCHOOL PARTIES, &c. for what is an ideal Spot.; For Particulars apply:— MANAGER S. ANDREWS, & SONS, West End, Pwllheli. Esgidiau Newydd a Hen. Dymuna John Glynn Owen hysbysu ei fod yn gwneyd ESGIDIAU NEWYDD, ac yn TRWSIO HEW RAI, yn y modd goreu ac am y prisiau mwyaf rhesymol. Diolcha am y gefnogaeth sylweddol a gafodd hyd yma, ac erfynia am barhad o'r cyfryw. JOHN GLYNN OWEN, Bridge Cottage, BI. Ffestiniog. AUCTIONEER'S NOTICE. W. G. JONES, OF FARM COTTAGE, Llan-rwst Desires to make it known to the public at large that he has again taken out an AUCTIONEER'S LICENSE, and that he will undertake SALES OF PROPERTY, STOCK-IN-TRADE, FURNITURE, &c., &c., AT MODERATE TERMS and with Prompt Settlements. VALUATIONS FOR PROBATE AND OTHER PURPOSES. PORTLAND CEMENT goreu GRATIAU o bob math = WIRE NETTING cryf a da Gellir cael GWELL BARGEN ar y Nwyddau uchod gan THOMAS & WILLIAMS, nag mewn unrhyw fan arall yn y Cylch. Cofiwch y Cyfeiriad: PEMBROKE HOUSE., BLAENAU FFESTINIOG. JOHN PARRY JONES & SONS, AUCTIONEERS & APPRAISERS, Penrhyndeudraeth, Pwllheli and Barmouth. Sales of every description taken on most reasonable terms. Mr. R. G. Humphreys, (RHISIART 0 FADOG), Auctioneer and Valuer, WHITBURN HOUSE, Wynn Road, Blaenau Festiniog, Undertakes the Sale and Valuation of all PROPERTIES, on reasonable Terms. "ABRAHAM LINCOLN." Traddodir DARLITH ar y testyn uchod gan y PARCH. GOMER LEWIS, D.D., ABERTAWE, NOS IAU, HYDREF 15fed, 1908. Cadeirydd:—J. JONES-MORRIS, Ysw., CYFREITHIWR. Yr elw er cynorthwyo Thomas Evans Wil- liams, New Street, yn ngwyneb mawr waeledd ac amgylchiadau gwasgedig. Drysau yn agored 6-30, dechreuir am 7 o'r gloch. TOCYNAU :-2/ 1/ 6c. Gellir cael Tocynau yn Shop y Rbedegydd." CYCLES AT DYMOR HAF. Dymuna H. R. GRIFFITH, Plumber & Gasfitter, Hysbysu y Cyhoedd ei fod wedi cymeryd gweithdy Mri J. E. Jones & Sons, Tailors, &c., ac y bydd yn ychwanegol at ei waith arferol yn cario busnes yn mlaen yno fel CYCLE AGENT. GELLIR CAEL GANDDO CYCLES O'R GWNEUTHURIAD GOREU AM BRISIAU ISEL. Sole Agent for the New Hudson Cycles. Agent for Royal Enfield and I James's Cycles. Catalogues and List of Prices free on application. NOTICE OF REMOVAL. (HYSBYSIAD 0 SYMUDIAD). DYMUNA E. SAMUELS, HYSBYSU TRIGOLION FFESTINIOG A'R ARDALOEDD CYLCHYNOL, EI FOD WEDI SYMUD MAINS TONE HOUSE, STATION ROAD, FFESTINIOG, Lie y bydd yn cario yn mlaen ei FUSNES ar yr un llinellau a'r blynyddoedd gorphenol, gan ddiolch i bawb yn mhell ac agos am y gefnogaeth sylweddol a gafodd, a chan obeithio y derbynia barhad o'r cyfryw yn ei Fasnachdy Newydd. CIRCULAR TOUR by RAIL and COACH, through Llanfrothcn & AbergrSastyn Pass to Beddgetert, and back to Portmadoc, daily. Dymuna W. O. WILLIAMS, HOME = FROM HOME, P-ENRH YNDEUBRAETH. Hysbysu ei fod wedi cytuno gyda Cbwmni Reilffordd Ffestiniog i redeg COACHES bob Dydd o hyn i ddlwead mis Medi. TOCYNAU i'w cael yn DIPHWYS, BLAENAU FFESTINIOG, a THANYGRISIAU STATIONS, am 4/= yr un, yn cynwys y Tren a'r Goach. Ac hefyd bob math o Gerbydau, Close Carriages at Briodasau, &c. Hefyd Hearse a Cherbydau at Angladdau, yr oil i'w llogi i unrhyw fan am y Prisiau mwyaf rhesymol bydd bosibl. Pan y byddwch eisialu unrhyw fath o Gerbydau a Cheffylau da, galwch gyda W. O. WILLIAMS, HOME FROM HOME, Penrhyndeudraeth. BENTHYCIAD ARIAN.—0^10 i £ -.000 aryTeleraucauly-iol:- Taiu yn ol. æ £ s. e, 10 11 5 0 15 16 7 6 20 22 10 0 30 33 15 0 50 65 5 0 100 112 10 0 200 225 0 0 300 37 10 0 Taiu ya A £ s 400 450 0 500 542 10 600 675 0 0 700 785 10 0 800 900 0 0 900 1012 10 0 I 1000 1125 0 0 DIM EISIEU MEICHNIWR NA SICRWYDD. Telir allan arian a festhyciwyd. Anfonir y rhaglen yn rhydd gyda throad y post, ond an.1 fon cais am dano at v Manager, 16, BODFOR STREET, RHYL. EftlHYCIAD ARIAN.—O £ 10 i £ 1,000 -D ar v telerau canl vnol Ad-daliad. £ £ s. e. 10 11 5 0 15 16 7 6 20 22 10 n 30 33 15 50 56 5 0 100 112 10 0 200 225 0 0 Ad-daliad, £ £ c. 400 450 0 5(14) 542 10 0 600 675 0 U 700 785 10 0 800 900 0 0 900 1012 10 0 1000 1125 0 0 DIM EISIEU MEICHNIWR NA SIORWYDD. Telir allan arian a fenthyciwyd. Anfonir y rhaglen yn rhydd gyda throad y poet, ond anfon cais am dano at y Manager, 24, BANGOR STREET, CARNARVON. BENTHYCIR ARIAN AM BUMP Y -D CANT 0 LOG BLYNYDDOL, 6 £ 10 i X5,000 ar Mortgage a Life Policies, befyd ar Nodyn Addawol syml am log hynod o isel, i'w had-dalu yn Fisol, Chwarterol, neu haner-blyn- yddol, i dai ddalwyr eyfrifol. Gall yr arian arcs ar log yn unig. Cyfrinachol Hollol. Nid yw pellder o ddim pwys. Ysgrifenweh am fanylion, gan amgau amlen gyda stamp arni, at y benthycwr gwirioneddol, JOHN ROSE, 29, BUCKINGHAM ROAD, TCTE BROOK, LIVERPOOL. Cangheni 148, HIGH STREET, BANGOR; a 67, MOSTYN STREET, LLANDUDNO. Sefydlwyd 1887. CYMDEITHAS BENTHYCA GENEDLAETHOL. Y MAE wedi ei Sefydlu a'i Chofresftru yo unol a'r Mesur Seneddol i roddi benthyciada cyfrinachol heb ffurfioldeb Swyddfa Fe-nthye- v I bob dosbarth (Dyn neu Ddynes). 0 .£10 I £1000, ar addewidsyml i ad-dalu at angen uniongyrch* neu wasanaeth gyfrinachol; i gychwvn mew) masnach, dodrefnu eich ty, prynv. stock par. fydd V farchnad yn isel, i dalu rhent neu drethi 5 Anfonir yr arian trwy'r post os ewyllysir. Gellwch gael arian yn gyfrinachol yma, gan nad oes angen am ymgynghoriad, nac enwaurhai wneyd ymholiadau yn eich cylch. N i wrthodir byth unrhyw air didwyll. Gellir talu yn ol yn fisol, ohwarterol, neu haner-blynyddcl, neu os dewisir gellir gadael y swm am bum' mlynedd trwy dalu dim ond y llogau. Nid yw pellder o bwys. Llog ao ad-daliadau isaf yn L loegr a Chymru. Uwbl gyfrinachol, a thegwch hollol yn cael ei warantu. Gofynir i'r rhai gawiss fenthyg ar logau uehel mewn manau eraill í anfon atom ni, pan y gellir talu y benthyciadau- presenol a chael rhai mwy am logau is o lawer. Ni chyst dim i wneyd ymholiad, ond gall arbed punoedd i chwi trwy i chwi anfon yn gyfrinachol hollol, yn Gymraeg neu Saesneg am bapurau at y NATIONAL LOAN SOCIETY, 41, CORPORATION STREET, MANCHESTER Seiydlwyd 1887. Nat. Telephone, 260x5 neu at un o'n Canghenau yn Ngogledd Cymru 10, DEAN ST, BANGOR. CHEAP MONEY. The NORTH BRITISH AND MERCANTILE BANK OF SCOTLAND. ARE PREPARED TO ADVANCE LOANS to Respectable Persons on their own Security. No referencee required. Strictest privacy quaranteed. Information confidential. Persons wishing Loans from (5 to £ 5000 should consult us either personally, or by letter, enclosing stamped addressed envelope. Distance no object. Borrowers elsewhere paying extortionate interest are cordiallv in- I vited, when existing Loans will be paid off and arger advancee made. Cash sent by pest. The N. B. 6 M BANK OF SCOTLAND 100, -Vest Campbell Street GLASGOW /V YN AWR YN BAROD. Arwriaeth John Anthony neu Ramant Bywyd Cymro. gan EVAN ROWLANDS (Ap Llechwedd), PENYGELLI TERRACE. BL. FFESTINIOG. PRIS CHWE'CHEINIOG. Ar Werth gan yr Awdwr, neu yn Shop y "RHEDEGYDD"; a geHir ei gael yn Neheudir Cymru gan Mr. W. R. Thomas, Newsagent and Stationer, 86, Pontypridd Road, Porth. | d¥dlyndZdo°h rofi i -f1 un o'r LIyfrau hyn. mae yn wir ddyddorol i'w ddarllen. Cigars a Cigarettes. Y mae dros 100 o wahanol fathau o'r uchod mewn Boxes ac yn rhydd yn Shop Y GLOCH," y drws nesaf i'r Maypole Dairy Co.