Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

YN NGHWMNI NATUR. I

BETTWSYCOED. I

rvvvvvvvvvvvvvvvvwvwvvwvv\…

[No title]

ADOLYGIAD Y WASG. I

0 QADAIR YNYS FADOG._______j

HARLECH.

ICwymp Angeuo! yn Ngwallgofdy…

TRAWSFYNYDD.

Marwolaeth Mr. Sankey.

Damwain Angeuol gyda Modur.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Damwain Angeuol gyda Modur. Digwyddodd damwain dychrynllyd oddeutu milldir o Ddinbych, prydnawn Gwener, gyda Modur, pryd y lladdwyd boneddwr o Birming- ham, ac yr anafwyd ei wraig yn nghyda'r gyr- iedydd yn ddifrifol iawn. Yr oedd y parti yn myned ar daith drwy y wlad, a'r dydd dan sylw yn bwriadu cymeryd taith o Brestatyn i Bentrefoelas. Eisteddai Mr. Ernest H. Tim- son, Ivanhoe, Alderbroek road, Solihull, ar y sedd flaeriaf, ac eisteddai'r gyriedydd o'r tu ol. Yr oedd rheolaeth y cerbyd yn ngofal Mr. Timson, ond pan yn ymyl gefail Gwaerynof, trodd y cerbyd, a rhedodd i'r clawdd. Gwasg- wyd Mr. Timson o dan y cerbyd, a lladdwyd ef yn uniongyrchol. Derbyniodd y gyriedydd, Harry Steels, Acock's Green, Birmingham, niweidiau trymion i'w ben, ac ofnir ei fod wedi derbyn niweidiau i'r tu fewn. Gorwedda yn Ysbytty Dtabych ar hyn o" bryd. Diangodd Mrs. Timson gyda briw ar ei thalcen, ynghyda man friwiau ereill, ond dioddefa oddiwrth ys- gydwad blin.—Yn y trengholiad datganwyd barn i'r modur ddrysu yn ei beirianwaith, ac felly ddymchwelyd.

I ARWEST FARDDONOL GLAN ,GEIRIONYDD..

I - - - - - - PENMACHNO.

ICRIOCIETH.

LLANGERNYW.

[No title]