Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

YN NGHWMNI NATUR. I

BETTWSYCOED. I

rvvvvvvvvvvvvvvvvwvwvvwvv\…

[No title]

ADOLYGIAD Y WASG. I

0 QADAIR YNYS FADOG._______j

HARLECH.

ICwymp Angeuo! yn Ngwallgofdy…

TRAWSFYNYDD.

Marwolaeth Mr. Sankey.

Damwain Angeuol gyda Modur.

I ARWEST FARDDONOL GLAN ,GEIRIONYDD..

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I ARWEST FARDDONOL GLAN GEIRIONYDD. Cynhaliwyd yr Arwest ddydd Iau, a chafwyd tywydd rhagorol a phob hwylusdod gyda'r gweithrediadau. Yr oedd Elis o'r Nant yn ei hwyliau goreu, ac efe agorodd yr Orsedd ac a gyflwynodd yr Urddau. Offrymwyd Gweddi yr Orsedd gan Ifan Dafydd. Canwyd Penillion gyda'r Delyn chwareuid gan y Telynor Dall o Feirion gan loan Dwyryd ac Owain Cybi, ac anerchwyd yr Orsedd gan amryw o'r Beirdd. A ganlyn yw rhestr y rhai a Urddwyd;—Mrs. Mrs. A. Ephraim (Meirionferch), Blaenau Ffestiniog; Mr. D. J. Roberts (Dewi Mai o Feirion); Miss Grace Lloyd (Heyrnwen), Llanrwst; Hugh Thomas (Huw Tudur), Trefriw; J. D. Jones (loan Dwyryd) Blaenau Ffestiniog John Thomas (Collwyn) Harlech Lilian C. Hughes (Lili'r Dyffryn), Trefriw; Mr. John Owed (loan y Cadlys), Llundain; W. B. Lowe (Daearegfab). Llanfairfechan; David Hughes (Dewi Ynyr), Talybont; Hugh D. Jones, Ysceifiog, Gaerwen, Mon; John Oats (loan Ludd), Llundain Edward Williams (Iorwerth Ddu), Trefriw J. R. Jones (Roser Geirion), Bangor; Hannah Davies (Garmonwen), Capel Garmon; J. D. Jones, Llwynfryn, Llanrwst; Annie Williams, (Nansi Prysor), Trefriw T. R. Roberts (Asapb), Caernarfon; D. Lloyd Jonrs (Dewi Talysarn), Tanycastell, Dolwyddelen; Parchn. H. R. Williams (Eppynt), Colwyn Bay Henry Jones (Nefynfab), Trefriw; IJarold Rathbone (Merlin Llefiad), Llandudno Jeanette Williams. (Llinos Gwyrfai), Lerpwl; O. J. Williams (Owain Cybi), Llangefni; Blodwen Jones (Llinos Dwyryd), Blaenau Ffestiniog; W. O. McGaul (Gwilym Alban), Llanrwst; Lorna L. S. Rathbone (Mwynen Lleifiad), Llandudno; Mary Owen (Mair Lleifiad) Rosamod Morris (Rhosmeurig), Waterloo; Annie BIodwen Jones (Llinos Arfon) Talybhnt; Florence Morris (Olwen Meurig); Mary Roberts (Llinos Gwydyr), Llanrwst; Pierce Evans (Prys Arfon) Trefriw, D. Francis (Telynor Dall o Feirion), BIaenau Ffestiniog Yr oedd y darpariaethau mewn ymborth yn rhagorol gan Mrs. Williams, Llys Taliesyn, yr hwn sydd ar lan y Llyn ac yn ymyl man cynal y' cyfarfodydd. Cynhaliwyd yr Arwest yn y prydnawn, ar Lawnt Llys Taliesyn, a chymerwyd y gadair gan Mr. John Owen, Llundain, Dirprwywr Deddf y Man-dyddynod, ac arweiniwyd gan Ellis o'r Nant. Enillwyd ar y toddaid i'r diweddar Mr. Peter Mc'Intyre, gan Perthog, Penmachno, ac ar y casgliad o enwau adar gan Mrs. Roberts, Llanrwst, ac ar yr adroddiad gan "Nansi Prysor." Cafwyd anerchiadau yn llawn o dan Cymreig gan Penllyn, y Parch. W. Wynn Davies, Bangor, a Bethel, Caerdydd, yn nghyda'r Cadeirydd. Beirniadwyd y beirdd gan Ifan Dafydd a Job; y llenorion, gan Elis o'r Nant; a'r adroddwyr, gan Penllyn a Llwynfryn. Terfynwyd drwy gydganu Hen Wlad fy Nhadau," ac ymwahanodd y dorf o flaen cawod o wlaw tyner.

I - - - - - - PENMACHNO.

ICRIOCIETH.

LLANGERNYW.

[No title]