Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol Mri. John Cadwaladr (Cadeirydd), Ev-n Jones (Is- Gadeiryddjj Cadwaladr R r. rd Roberts, John Lloyd Jones (leu7), il. Owen, William Qwen, Evan T. Pritchard, Richard Jones, David Williams, E. Lloyd Powell, J. T. Roberts, Hugh Jones, Hugh Jones (Llan), W. J. Rowlands, Lewis Richards, William Edwards, David Davies, R. 0. Davies (Clerc), W. E. Alltwen Wi!- hams (Arolygydd a Pheirianydd), A!un Davies (Clerc Cynorthwyol), Dr. Richard Jones (Swyddog Meddygol, a George. Davies (Arolygydd Iechydol). Cyngor Agored. Daeth pedwar trethdalwr i mewn ar ddech reu y gweithrediadau, a cherddasant yn mlaen at ymyl y Cadeirydd, ac wedi i'r cofnodion gael eu cadarnhau gofynwyd iddynt beth oedd eu nheges. Atebodd un o honynt, Y mae wedi bod yn ddadl yn y ty ciniaw yri nghylch y Cyngor, pa un a ydyw yn agored i'r trethdal- wyr a'i pcicLio, ac yx ydym £ el tretlid&U wyr ë;, 1 1- <1. YJ. dym leI !war trethu.l wyr wedi dod yma i gael gweled drosom ein hunain Mr. William Owen, Yr wyf yn cynyg eu bod yn cael aros i mewn. Y He sydd yn gyfyng hyd yn nod i'r aelodau pan fyddant oil yma. Byddai yn dda genym fi yn bersonol pe cynhelid y cyfarfodydd mewn lie digon eang i pwy bynag ddewiso "o'r trethdalwyr ddod iddynt." -Un or gohebwyr a ddywedodd fod y Cyngor wedi pasio er's blynyddoedd i'r holl gyfarfodydd fod yn agored.—Mr. Richard Roberts, Mi ail basiwn ni y peth. Yr wyi yn cefnogi Mr. William Owen."—Pasiwyd yn un- frydol.-Y Clerc (wrth y pedwar), Yr ydych yn deall-yn glir nad ydych i aros yma fel mater o hawl. Trwy ganiatad y Cyngor yn unig yr ydych i fod yma."—Pan oedd y Cyngor ar ganol ei waitb, aeth y pedwar allan wedi blino ar. Nvrandaw y gweithrediaclau, Gweithio Dcuddydd. Yr oedd y Pwyl!gor Gwaith wedi pasio i'r Feirianydd gyflogi chwech o ddynion oeddynt yn gweithio pedwar diwrnod yn y Chwareli i weithio bob dydd Gwener a Sadwrn hyd bed- war o'r gloch, a bod y cyfryw i gael eu hystyr- ied yn ddau ddiwrnod Hawn. Anfonodd y dynion byn, trwy Mr. John Edward Jones, lythyr i'r Cyngor yn dywedyd eu bod wedi gweithio wyth niwrnod ac yn hawlio cael pryd- nawn Sadwrn iddynt eu hunain neu y byddent yn gweithio haner diwrnod yn yr wythnos yn fwy na gweithwyr eraill,-Mr. William Owen a sylwod4 fod y dynion hyn wedi eu dewis i wei thio- dau ddiwrnod yn yr wythnos ar delcrau neillduol, ac os oedd y telerau hyny wedi eu cadw nid oedd gauddynt le o gwbl i gwyno. Yr oedd ef yn cynyg eu bod yn cadw yn fanwl at y penderfyniad.—Mr. William Edwards a ddywedodd fod y dynion hyn yn gweithio haner diwrnod yn fwy na dynion eraill, ac yr cedd yn cynyg fod eu cais yn cael ei ganiatau. —Mr. E. T. Pritchard, "Yr oeddynt yn ddiolchgar am waith pan ei cawsant, a dyma nhw yn cwyno. Pwy byth roddai waith i neb o gymwynas fel hyn ? Yr wyf yn cefnogi Mr. William Owen i gadw at y telerau."—Pasiwyd cynygiad Mr" Owen. Goleuo. I Yr cedd y Pwyllgor wedi cyfarfod a phasio i oleuo y lampau fel arferol. Mr. Richard Jones Si gynygiodd fod y lampau yn cael bu goleuo awr cyn i'r chwibanogl ganu yn y boreu pan fyddo angen hyny, ond ni chefnogodd neb ef. Pasiwyd i ofyn am gynygion am gyflenwi lampau at y tymor nesaf. Y Gatrawd Tanddiffoddwyr. Pasiwyd i Mr. H. R. Griffith fod yh Beir- ianydd i'r Gatrawd ar ymddiswyddiad y Peir- ianydd presenol.—Derbyniwyd adroddiad y Cadben arhoddwydystyriaeth fanwl iddo.—Yr oedd amryw Bwyllgcrau wedi eu cynal gyda golwg ar gael gorsaf i gadw y Peiriant a'r Offerynau, ac yr oeddid yn awr ar y ffordd i gael pethau i drefn gan fod y mater fu yn Haw yr Is-bwyllgor am cyhyd o amser wedi ei gymeryd oddiarno a'i roddi i'r Pwyllgor Dwfr a Nwy. Addysg. Gan nad oedd ond ychydig o geisiadau wedi dod i law am fyned i'r Ysgol Nos, pasiodd y pwyllgor i hysbysebu am i'r rhai ddymunent uno i gofrestru eu henwau Medi 10 a'r 11.— Oedwyd cwestiwn yr Ysgoloriaethau hyd nes cael adroddiad Mr. Dodd.—Pasiwyd i dalu gweddill arian y rhai enillasant Ysgoloriaethau mewn cydsyniad a chais amryw oeddynt wedi anfon lJythyrau at y pwyllgor, Yr oedd y Cyngor wedi gosod i lawr y delir fod y bed- waredd flwyddyn i'w threulio yn yr Ysgol, ond gadawyd ar dri o bwyllgor i drefnu ar y mater hwnw.-Pasiwyd i dalu £ 111 18s Oc i Reolwyr yr Ysgol, Sirol. Y Cadeirydd a ddywedodd fod Mr. T, O. Williams, Bowydd Road, wedi enill Tystysgrif anrhydeddus y City of Qnilts mewn Peirian- yddiaeth Chwarelyddol. Gyda'r Dystysgrif yr oedd wedi enill gwobr o gitii a bafhodyn. Yr oedd y wobr wedi cyrhaedd, ond ni ddaeth y bathodyn. Yr oedd yr arhoiiad yn un nod- edig o galed, ac yr oedd yn Ilawenydd iddynt 011 ddeall i Mr. Williams lwyddo i'w basio. Mri. E. M. Owen, T. J. Roberts a William Owen a wnaethant sylwadau pellach oil yn llongyfarch Mr. Williams, ac yn dymuno yn dda iddo.-Cyflwynodd y Cadeirydd y wobr iddo, a chydnabyddodd yntau yn ddiolchgar. Iechydol. Yr Arolygydd a. adroddodd i bedwar achos o Wddfglwyf dori allan yn ystod y mis, a gofid- iai ef a Dr. Jones orfod hysbysu i un ohonynt brofi yn angeuol.-Cofrestrwyd 18 genedigaeth a 12 marwolaeth yn ystod y mis, ond ni bu neb farw o'r darfodedigaeth. Dwfr. Bu y Peirianydd a'r Swyddog Meddygol yn gwneyd archwiliad ar y Llyn, a'r ystafelloedd puro dwfr, ac argymellent i'r mawndir oedd wedi crynhoi o amgylch genau y brif bibell ac ar y screens gael ei glirio ymaith yn ddioed er mwyn cadw y dwfr yn lan.—Yr oedd Dr. Jones yn galw sylw at y perygl o ganiatau i gwmniau gael myned at y Llyn i bleserau am y gallai y dwfr gael ei lygru drwy hyny, ac i ganlyniadau difrifol ddigwydd yn anisgwyliadwy. Mynwent y Llan. Yr oedd dau Bwyllgor wedi ei gynal yn nglyn a 4elaethiad Mynwent y Llan, a phasiwyd i brynu y ddau dy sydd yn y lie am £ 60 y ty, fod y tai i'w tynu i lawr, a'r cerig gael eu defnyddio at wneyd mur o amgylch y tir. Arianol. Pasiwyd i dalu Biliau i'r swm o 1"356 5s 4c, a £ 88 9s 4c ar y benthyciadau -Yr oedd awd- urdodau y Llythyrdy yn hawlio y swm o £ 16, sef un ran o bedair o'r un ran o dair diffygiol yn y derbyniadau gyda'r Pellseinydd.-Y Clerc a sylwodd ei bod yn anmhosibl i'r peth cjalu fel y mae y service yn awr, a theimlid na ddylai y Cyngor gydnabod eu cyfrifoldeb yn ilgwyneb hyny. Hysbysodd y Clerc fod tymor Mr. Evan Roberts yn y Swyddfa ar ben dranoeth ac mai ei gyflog hyd derfyn ei dymor oedd yr hyn yr argymellai y Pwyllgor i'w dalu. Mr. David Williams a gynygiodd eu bod i gael adroddiad gan eu cyfrifydd (Mr. W. W. Jones) o sefyllfa arianol y Cyngor yn bresenol. Diwedd y flwyddyn a ddeuai, a byddai yn rhy hwyr i ymysgwyd y pryd hwnw. Carai ef a'r holl drethdalwyr gael gwybod sut yr oedynt yn sefyll yn bresenol pan oedd ef yn dechreu ar ei waith.—Cefnogodd Mr. David Davies.— Mr. William Owen, fod gofyn peth felly yn ormod gan mai newydd ddod i'r Swyddfa yr oedd y cyfrifydd.—Y Clerc a ddywedodd eu bod wrth y gwaith o wneyd adroddiad, ac y cyflwynid ef mor fuan ag y byddo yn barod.— Mr. R. Roberts, "Pwy sydd yn gyfrifol am anfon y biliau allan ?"-Y Clerc, Y cyfrifydd sydd yn gyfrifol am bobpeth yn y Swyddfa er Awst 30."—Y Cadeirydd, "Nid oes modd bod yn rhy fuan gyda chael cyfrif mae y cyhoedd yn disgwyl yn bryderus am dano."—Pasiwyd i gael cyfrif mor fuan ag y byddo modd. Bil) Dr. Dibdin. I Yr oedd Dr. Dibdin wedi bod ar ymweliad a'r Blaenau i edrych y Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd. Ysgrifenodd llythyr Awst 20 yn cynwys adroddiad ar y lie ac yn awgrymu amryw gyfnewidiadau gan nad oedd y gwaith yn cael ei gario yn mlaen yn unol a'r cynllun. Hefyd gofynai am £112 Os Oc yn cynwys chwe' phunt am ei daith i'r lie, Yr oedd yn gwneyd adroddiad ar gais y Cadeirydd.—Mr. Cadwal- adr Roberts a ofynodd ar gals pwy y daeth Dr. Dibdin i'r lie, a thrwy awdurdod pwy y gofyn- odd y Cadeiryd iddo wneyd adroddiad ?"—Y Clerc, "Daeth yma ar ei gyfrifoldeb ei hun, Yr ydych wedi pasio i roddi f,6 i'r Peirianydd am bob ymweliad a wna ar eich cais ond dim i Dr. Dibdin yn mhellach na 8/- y dunell am y llechi at wneyd y gwelyau."—Mr. Wiliiam Owen a ddywedodd iddo gael ei alw at Dr. Dibdin i'r L. & N. Western Hotel (Mr. Rich- ard Roberts, Ie, ie "). Gofynodd a oedd cost 1 fod am wneyd odroddiad, ac atebodd ynt au. 'I "Dim." Aeth ef a Mr. Owen Jones i lawr. Dywed Dr. Dibdin nad yw y gwaith yn cae! ei wneyd yn ol y cynllun. Addawodd adrodd am I ddim, a dywedodd ei fod wedi anfon adroddiad fis yn ol. Gellid cael y gweddillion chwarel yn nes ac yn rhatach nag yn yr Oakeleys na'r Llechwedd. Paham nad eu cael o Foty a Bowydd, Maenofferen, neu'r Diphwys. Arbed- ai hyny lawer o gost gyda'r cario.-J-Mr. Evan Jones a gynygiodd fod y gwaith wedi ei wneyd yn hollol yn ol y cynllun basiodd Bwrdd y Llywodraeth Leol. Yr oedd ganddydt hawl i ddefnyddio cerrig yn lie llechi os dewisient, ac nid oedd yn iawn i Dr. Dibdin gwyno o'r achos.—Mr. D. Williams a ddaliai mai mewn Cyngor agored y dylai y mater gael ei drafod, a phasiwyd i wneyd felly. Ymddiswyddo. I Anfonodd Mr. R. T. Jones ei ymddiswydd- iad i mewn, a datganwyd fod y sedd yn wag. Y Corau a'r Neuadd. Anfonodd Mr. W. Mona Roberts lythyr yn gofyn am delerau y Cyngor am fenthyg y Neuadd i Gor Merched ymarferyd.—Mr. E. Jones a ofynodd beth oedd y telerau i Gor y Moelwyn, ac atebodd y Cadeirydd nad oedd telerau wedi ei wneyd a hwy.—Ar gynygiad Mr. William Owen pasiwyd i'r pwyllgor fynsd i mewn i'r holl fater. I Uno PwyiJgorau. Mr. T. J. Roberts, yn unol a'r rhybudd a roddodd a gynygiodd eu bod yn uno y PwyUgor Gwaith a'r Pwyllgor Carthffosydd gyda'r Pwyllgor Iechyd a'r Ffyrdd. Yr oedd yr Is- bwyllgorau yn Ilawn anibendod, ac yn afres- ymol o hir gyda gwneyd dim i bwrpas. Eisoes gwnaed i ffwrdd ag Is-bwyllgor yr Orsaf Dan, gan nad oedd modd cael ganddynt symud yn mlaen i unlle. Nid oedd ef yn tcimlo y dylai Is-bwyllgorau gael gorchymyn i'r De a'r Gog- ledd symud wrth eu cais. Yn ami ni byddai digon o'r aelodau yn dod at eu gilydd i wneyd gwaith yn yr Is-bwyllgorau, ond denai digon i'r rhai cyhoeddus am y byddai eu henwau yn cael eu cyhoeddi.—Mr. E. Lloyd Powell a gefnog- odd.—Mr. E. Jones a gynygiodd a chefnogodd Mr W. Owen fod pethau yn cael eu gadael fel y maent gyda'r ychwanegiad o fod Mri. T. J. Roberts ac E. Ll. Powell yn cael eu hychwan- egu at y ddau Bwyllgor.-Y Cadeirydd, Y mae y ddau Is-bwyllgor yma wedi gwneyd gwaith mawr, ac wedi arbed llawer iawn o arian i'r trethdalwyr, ac y mae eu henwau ar y cofnodion fel y mae enwau y rhai ydynt ar y PwyiJgorau Sefydlog.—Pasiwyd i adael pethau fel y maent.-Mr, T. J. Roberts, Yr wyf yn gwrthod bod yn un o'r ddau Is-bwyllgor: nid fel yna y cymeraf fy nirmygu gen) ch am gynyg y penderfyniad." I Llechi at Doi Coleg Bangor. I Cynygiodd Mr. Cadwaladr Roberts, bender- I fyniad o wrth-dystiad cryf yn erbyn gwaith awdurdodau Colqg Bangor yn cymeryd llechi at doi yr adeiladau newyddion o chwareli dyeithr gan adael o'r neilldu lechi Sir Gaer- narfon a Meirion, lie yr oedd cefnogaeth gyffredinol wedi ei roddi i'r coleg mewn cyfran- iadau, &c —Mr. Hugh Jones a gefnogodd a phasiwyd yn unfrydol. Y Llyfrgell. Cyflwynwyd rhestr gyflawn o'r Ilyrfau gymeradwyid gan y PwyUgor i'w pwrcasu.— Mr. R. Jones a gynygiodd fod y rhestr yn cael ei rhanu er mwyn i'r aelodau gael amser i edrych drosti, a bod Cyngor arbenig yn cael ei gynal yn mhen yr wythnos i'w phasio neu fel arall.-Mr. David Davies a gefnogodd. Yr oedd yn bwysig i gymeryd pwyll i ystyried pa lyfrau bwrcesid i'w rhoddi yn nwylaw ieuengtid yr ardal. — Pasiwyd hyny.-Mr. E. Lloyd Powell, Yr wyf yn gweled yr amcan mewn golwg yn eithaf da." Dewis Rheolwr Gwaitb. Yr oedd cynifer a 24 o Ymgeiswyr am y swydd o Rheolwr Gwaitb, am y cyflog o £ 50. —Cynygiodd Mr. William Owen i'r gwaith o ddewis gael ei ohirio am fis gan nad oedd holl aelcdau y Cyngor yn bresenol, ond ni chefn- ogwyd ef gan neb, ac awd yn mlaen i ddarllen y ceisiadau, ar ol cynyg a chroes-gyityg am dros haner awr. Rhybuddiwyd y Cyngor fwy nag unwaith gan y Clerc i fod yn ofalus gyda'r hyn a besid rhag rhoddi cyfle i neb o'r ymgeiswyr ddod a chyngaws yn erbyn y Cyngor.—Yr ymgeiswyr oeddynt :-Thomas Hughes, Dol- gellau John Hunter, Pwllbeli; E. W. Edwards, Pwllheli; Morris H. Williams, Llanfair, P.G.; Owen Hughes, Talsarn; Evan E. Griffiths, Tanygrisiau; Cadwaladr Williams, Llandwrog; William Williams, Wynn Road, Blaenau Ffestiniog; R. C. Jones, Church Street, eto; Evan Lewis Evans, Lerpwl; Thomas' F. Walton. Dolgellau; D. R. Roberts, Bala; W. E. Alltwen Williams, Blaenau; Arthur H. Davies, LIandudno; Robert Jones, Manchester; B. Fenche, Bangor; Thomas E. Jones, Tylors- town; Richard Owen, Llanfair, P.G.; James Greffyn, Dolgellau Idwal Owen, Rhyd-ddu Griffith H. Jones, Bootle; W. C. Williams, Wynn Road, Blaenau Ffestiniog; John Pritchard, Tanymanod Terrace, Blaenau; Owen Owens, Blaenau.—Yn y dewisiad cyntaf daeth y chwech canlynol, i mewn am ail ddewisiad.—Evan E. Griffith, R. C. Jones, Evan Lewis Evans, D. R. Roberts, W. E. Alltwen Williams, S. H. Jones. Penderfyn- wyd i'r tri uwchaf ymddangos o fiaen y Cyngor nos Wener i'r detholiad terfynol gael ei wneyd. Safai y pleidleisiau fel y canlyn :—E. E. Griffith, 8; R. C. Jones, 5 E. Lewis Evans, 11; D. R. Roberts, 9; Alltwen Williams, 6; Griffith H. Jones, 7.— Felly bydd Griffith, Evans, a Roberts yn dod o flaen y Cyngor nos Wener nesaf, a pharha y Swyddogion presenol yn eu lie hyd nes y cymerir y gwaith i fyny gan y Swyddog newydd.

-CYNGOR -DINESIG -LLANRWST.…

\^vwwvvwwwvwvwvvwvw BWRDD…

Advertising