Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

-CYNGOR -DINESIG -LLANRWST.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DINESIG LLANRWST. Cyfarfu y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol Mr. Wm. Hughes, U.H. (cadeir- ydd); Dr. 0;ven (Is-gadeirydd); Mri. D. J. Williams, Albert Hughes, William Davies, T. Rogers Jones, W. J. Williams, U.H., E. Mills, U.H., Arthur Parry, R. R. Owen (Clerc); Thomas Hughes (Is-glerc) E. M. Jones (Tretbgasglydd). Anghymeradwyo. I Ar gynygiad Mr. D. J. Williams a chefnog- iad Mr. W. J. Williams, pasiwyd i anfon rhybudd fiurfiol i Mr. Thomas Roberts, nad oedd y Cyngor yn abl i gymeradwyo ei gynllun o newid yr adeilad yn Cae Acra o fod yn lladd- dy i fod yn dy anedd. Yr holl Gyngor. Yn unol a rhybudd Mr D. J. Williamf a gynygiodd fod yr holl Gyngor yn y dyfodol i ffurfio y Pwyllgor Iechydol a'r Ffyrdd. Credai nas gallent wneyd eu gwaith yn drwyadl heb fod yn aelodau o'r pwyllgor hwn, ac nid oedd yn bosibl iddynt wybod am y gwaith yn ei fanylion. Yr oedd un o aelodau y Cyngor oedd hefyd yn aelod o'r Cyngor Sirol ac nad oedd yn aelod o'r pwyllgor hwn, a chredai Mr. Williams fod hyny yn anfantais fawr iddynt. Mr Albert Hughes a gefnogai, a sylwai nad oedd dim ond tri yno yn bresenol yn ypwyllgor y tro diweddaf y cyfarfyddodd. Y Cadeirydd attegai, ac mai anhawdd iawn oedd cael pwyllgorau. Pasiwyd y cynygiad yn unfrydol. Ad-benodi. Dr. Owen yn unol a'i rybudd a gynygiai ad- benodi Mr. George Wynne, yn Arolygydd lechydol am flwyddyn arall. Cefnogodd amryw, a phasiwyd yn unfrydol. Y Clerc a eglurai nas geUid penodi Swyddog Meddygol y noswaith hon, am mai ar y 17eg y gwneid y penodiad yn Nghaernarfon, ond byddai yn rhaid gwneyd y penodiad tfvvn y 30ain, ac awgrymai fod Cyngor arbenig i'w gynal yirhen pythefnos, a phasiwyd hyny. Y Trethi. Yr oedd £62 10s Oc o'r Dreth Gyffredinol; £ 2 5s Oc o Dreth y Dwfr; a £3 9s lOc o renti a thollau y Farchnadfa wedi eu casglu yn ystod y mis, yn gwneyd cyfanswm o £ 68 4s 10c. Y Farchnad Foch. I Derbyniwyd telerau dau am Ie i gynal yr uchod, ond pasiwyd i ohirio mewn trefn i'r Arolygydd ddwyn adroddiad. I Y Goleu. Daeth llythur oddiwrth Gwmni y Gwaith Nwy yn dweyd y gadewid y goleu am chwe' noson yn Mai 1909, i wneyd i fyny am y diffyg yn y dechreu. Cwynai Arolygydd y Goleuo oherwydd cyflwr y Nwy a phethau eraill, ac ar gynygiad Mr. D. J. Williams, a chefnogiad Mr. Wm. Davies, pasiwyd i anfon cwyn ytynt dros y.dref yn gyff- redinol. I Lleoedd Peryglus. Mr. E. Mills a alwai sylw at y lie peryglus oedd yn ngwaelod ffordd Llangernyw, gan fod y Modur yn dyfod i lawr mor gyflym, ac nid oedd dim arwydd iddynt. Mr. Wm. Davies attegai, fod yno Ie peryglus pe digwyddai i gerbyd ddyfod o un o'r ffyrdd croesion. Y Clerc a eglurai nas gallai y Cyngor wario dim ar y rhybuddion, ac ar gynygiad Mr. Albert Hughes a chefnogiad Mr. E. Mills, pasiwyd i anfon at Glwb y Modurwyr o berth- ynas i'r mater, a phasiwyd ymhellach i roddi rhybuddion i berchenogion y gwrychoedd eu tori. Arianol. I Pasiwyd i dalu biliau yn gwneyd cyfanswm o £ 33 12s 6c, yn gadael gweddill o £ 419 4s 4c I yn ffafr y Cyngor.

\^vwwvvwwwvwvwvvwvw BWRDD…

Advertising