Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL1

Argyfwng Gweithfaol Pwysig.___

Gwrthdysiiad Athrawon Arfon.…

Gair yn ei Bryd. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gair yn ei Bryd. Mewn ymddiddan a gymerodd Ie. ychydig ddyddiau yn ol rhyngddo a chynrychiolydd y Standard, dywedodd y Cownt Von Buelow, Canghellydd yr Almaen, air yn ei bryd. Mater yr ym- ddiddan oedd y berthynas anfoddhaol sydd ar hyn o bryd rhwng Prydain Fawr a'r Almaen, mater ag yr ydym amryw weithiau wedi galw sylw ein darllenwyr ato. Dywedodd y Canghell- ydd fod y drwgdeimlad yn fath o wall- gofrwydd, ac y bydd iddo, os pery, wneyd ni wed anrhacthol i'r naill deyrn- as fel i'r llall. Y mae, ebai, i'w briodoli yn benaf i'r ffaith fod darllenwyr newyddiaduron yn cyfrif yn Ilawer iawn pwysicach nag ydynt mewn gwirionedd eii-iau ddywedir yn achlysurol gan bersonan mewn safleodd uchel. Rhaid, dybygwn, mai yr Ymherawdwr Gwilym ydyw y "personau hyny. Wfftiodd y syniad fod gan yr Almaen fwriad i ddarparu iddi lynges a ddeil ei chystad- leu a'r llynges Brydeinig, a phan ddy- wedodd cynrychiolydd y Standard y bydd agos cyn gryfed a'n llynges ni ymhen ychydig flynyddoedd, atebodd y Canghellydd Bydd ymhen dau can' mlynedd. Yna dygodd ymlaen ffigyrau a'u dyben i osod allan nerth cymharol y pedair llynges a ganlyn o ran tunell- aeth (tonnage). Dyma hwy :—Pryd- ain Fawr, 1,587,582 tunell; Yr Unol Dalaethau, 614,179 Ffrainc, 514,4-97 Yr Almaen, 474,855. Os ydyw y ffigyr- au hyn yn gywir, mae ein llynges ni cyn gryfed a'r tair eraill gyda'u gilydd. Da ydyw gweled gwladweinwyr penaf y ddwy deyrnas yn cytuno i gondemnio gwaith y rhai sydd yn ceisio cyneu tan rhyfel.

.Etholiad Newcastle-or.-Tyne.

■ I.... Diolch i Mr. Lloyd…

Adroddiad Dyddorol.I

'▼▼▼WTVVVVVVVvy-TAUSARNAU.

vvvv VVVWVVWWV Y Ddamwain…

Advertising