Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL1

Argyfwng Gweithfaol Pwysig.___

Gwrthdysiiad Athrawon Arfon.…

Gair yn ei Bryd. j

.Etholiad Newcastle-or.-Tyne.

■ I.... Diolch i Mr. Lloyd…

Adroddiad Dyddorol.I

'▼▼▼WTVVVVVVVvy-TAUSARNAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

'▼▼▼WTVVVVVV V vy TAUSARNAU. Gorchwyl prudd a galarus ydyw croniclo marwolaeth a chladdedigaeth y cbwaer hoff a charedig Miss Annie Davies, Llechollwyn. Bu farw boreu Llun, Medi 7fed, ar ol pum' wytbnos o gystudd caled, yn yr oedran cynar 0 34 mlwydd. Dioddefodd ei chystudd yn dawel, dirwgnach ac ymostyngol, a chredwn iddi suddo i'r afon a gwen buddugoliaeth ar ei gwyneb. Yr oedd yn ofni Duw o'imhebyd, athalodd ufudd-dod cyhoeddus e gwirfoddol i'w Gwaredwr, trwy gael ei bedyddio yn afon Artro, wrth ymyl hengapel Salem, Cefn- cymerau, gan y Parch, Georgr Williams, pan. yn ieuanc iawn. Bu yn ffyddlon i'w phroffes, yn addurn i grefydd, ac yn deyrngarol i'w Cheidwad. Bu yn aelod disglaer yn Salem, Cefncymerau, ac Ebenezer, Talsarnau, am tua deunaw mlynedd. Yr oedd ganddi barch- gwirioneddol i weinidogiony Gair, a dangosodd hyny mewn geiriau a gweitbredoedd. Llanwai nodweddion merch dduwiol a rhinweddol," ond gorphenodd ei gyrfa ddaearol mewn tangnefedd, ac v mae ei choffa yn bsrarogl hyfryd ac esmwyth gan ei holl gydnabod. Nodweddid hi gan synwyr- cyffredin cryf, cymeriad disglaer, profiad crefyddol uchel, a bu yn selog, ffyddlon, a defnyddiol gyda'r achos goreu, a theimla y frawdoliaeth yn Ebenezer, a holl gylch ei hadnabyddiaeth chwithdod mawr ar ei hol. Teimlwn yn hiraethus wrth feddwl na chawn weled ei gwyneb anwyl byth mwy yr ochr hyn i'r bedd. Yr oedd iddi air da gan bawb a chan y Gwirionedd ei hun, ni a gredwn. Y mae colled y teulu. y gymydagaeth, a'r eglwys yn fawr, ond credwn fod ei hennill hi yn fwy. Claddwyd yr hyn oedd farwol ohoni prydnawn dydd Iau canlynol yn mynwent plwyf Llanbedr angladd preifat. Gwasanaethwyd ar yr achlysur pruddaidd gan y Parchn. J. Tydvil Phillips, Ehenezer, Talsarnau. S. Pierce, Penrhyndeudraeth, H, D. Jones, Cefncymerau a Mr. Jones, Offeiriad Llanbedr. Heddwch i'w gorweddfa. Yr Arglwydd fyddo yn gysur ac yn ddiddanwch i'r teulu anwyl yn eu dagrau, ynghyd a'r perthynasau oil yn eu galar ar ol un mor gu. J. TYDFIL P, IIILLIPS, Ebenezer, Taisarnau.

vvvv VVVWVVWWV Y Ddamwain…

Advertising