Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
At Bysgotwyr Afon Ddwyryd, f Dyffryn Maentwrog. Y mae i'w cael ar Werth yn Shop tsaf, ma ntwltog Ddetholiad o'r PLU cymhwysaf i'r Afon uchod, ac i Lynoedd y Cylch. "Trout Files"-March Brown, Coch=y=Bonddu, Blue Bottle, Duns, Ants, Palmers, Tags. 2c. yr un, is. 9c. y dwsin. "Sewing a Grayling n-Claret Body, Blue Hackle, Zeal- Wing, &c. 2k. yr un, 2/3 y dwsin. Gilt Casting Lines-Fine, Medium and Strong, for Salmon. gd. to 1/3 each. Hooks to Gut for Worms. Waterproof Lines 20 yards long. Y mae yr uchod y math goreu o BLYF am Bysgod i ddiwedd y Flwyddyn. Medi 1908. Flwyddyp.. TIiOS, ROBERTS. 'ii- w", -=: I ASK FOR A FREE SAMPLE OF OUR BEST mMFOLE mARQARINE at any of our 570 Branches* You will find it flS GOOD as BUTTRo But about Half the Price 1 OVERWEIGHT GIVEN AWAY:1II- Half-pound GIVEN with each 1-Sb, Quarter-pound! GIVEN with each Mb. Two-Ounces GIVEN with each Mb, at 1/- British-made under Government inspection. MAYPOLE DAIRY CO'S WORKS, Godley, Cheshire. MAYPOLE DAIRY COMPANY, LTD. 12, CHURCH STREET, BLAENAU FESTINIOG. The Largest Retailers of BUTTER, TEA, and Margarine in the United Kingdom. ■■■! ■■ ■ lilHiiirr r* 'i' r ll mill IK M ill Mr. OWEN, L.D.S., R.C.S., (London), DENTIST, LLYS DORFIL, Ne\fr Market Square, Blaenau Ffestiniog. Gellir ei weled yn BLAENAU FFESTINIOO, bob Dydd Llun o 10 hyd 8 Boreu Dydd Iau o 10 hyd 1 a Boreu Gwener o 10 hyd 1 o'r gloch. LLANRWST, bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher o lleg hyd 5 o'r gloch yn nhy Mrs. Parry, Station Road. ARE YOU interested in Birthday Cards & Picture PostjCards ? IF SO, we respectfully call your attention to the HIGH CLASS & ARTISTIC STOCK which we have now on Hand. PICTORIAL LETTER CARDS Containirig 12 North Wales Views, very artistically printed, for ONE PENNY. Post Card Frames & Post Card Blotting Pads, 6d. each. Children's School Bags and all School Requisites. APRON FILES, Is. & 6d. each. ANCHOR fILES, from 5s. 6d. Rtiedegydd Office," LBI. Ffestiniog.
NODIADAU WYTHNOSOL1
NODIADAU WYTHNOSOL 1 Mr. Winaion Cnurchilf. Mae dyddordeb cyffredinol a byw iawn y cyhoedd yn mhriodas Mr. Win- ston Churchill, yr hon gymerodd le dydd Sadwrn diweddaf, yn dangos y safle bwysig sydd iddo yn ngolwg y wlad, a'r modd y rnae:wedi enill ei sylw. Nid yw eto ond tair-ar-ddeg a'r hugain oed er hyny gwylir ei symudiadau a delir ar ei eiriau i fesur mwy nag y gwneir yn achos unrhyw aelod arall o'r Weinyddiaetb, ac eithrio Mr. D. Lloyd George yn unig. Er nad oes ond ychydig amser er's pan dorodd ei gysylltiad a'r blaid Doriaidd, y mae yn Rhyddfrydwr iach a chryf, ac os nad ydym yn camgymeryd, gwelir ef cyn bo hir (os caiff fywyd ac iechyd) yn gweith- io ym mhlaid diwygiadau cymdeithasol y buasid ychydig flynyddoedd yn ol yn eu cyfrif yn chwildroadoi i'r eithaf. Ffaith ag y mac yn wiw gwneyd cyfrif o honi ydyw y cyfeillgarwch rhynddo a Mr. Lloyd George, Yr oedd ei ymwel- iad a'r Eisteddfod yn nghwmni y Canghellydd yn dangos fod teimladau caredig ihyngddynt, ond ceir arwydd eu bod yn gyfeillion mynwesol yn y ffaith fod Mr. Lloyd George yn un o'r tri a arwyddasant dyst-ysgrif ei briodas; ei fam a brawd y briodasferch oedd y lleill. Mae hyn yn ddigon i'n hargyhoeddi nad oes perygl i'r ddau genfigenu y naill wrth y Hall, ond y ceir, hwy yn cyd- weithio o un galon ac un enaid mewn gwaith a ddwg enw iddynt hwy ac elw mawr i'r wlad. Da ydyw gweled dau wr fel hwy yn aelodau o Weinyddiaeth Ryddfrydol. Y mae yn ddigon i'n sicr- hau ei bod yn weinyddiaeth o ddifrif, a'i hamcan nid i ofalu am fuddianau un dosbarth mewn cymdeithas, ond i geisio daioni y bobl oil. Hir oes a iechyd i Mr. a Mrs. Winston Churchill.
Argyfwng Gweithfaol Pwysig.___
Argyfwng Gweithfaol Pwysig. .,ICó. -,V"UD'!W.J:IQ; I Hydyn hyn nid oes sicrwydd, ac ni ellir dywedyd ei fod yn gymaint ag yn d-ebygol y daw perchenogion melinau cotwm Swydd Gaerhirfryn i gy tun deb a'u gweithwyr. Yn unig y mae gobaith y deuant, ond y mae yr amser sydd yn aros iddynt gytnno bron a c i .:wyn iben. Onid ymheddychant erbyn dydd Sadwrn nesaf, cauir y melinau, a thefler cynifer a 150,000 o bobl allan o waith. Ni ddichon cynifer fod allan o waith am wythnos heb i lawer iawn orfod di- oddef; pe byddent am wythnosau lawer heb weithio golygai hyny gyni a thrueni mwy nag y gallwn ei sylweddoli. Da y gwna y ddwy blaid i wylio rhag rhoddi ffordd i yspryd cyndyn ac ystyfnig, Mae perygl mewn amgylcbiadau fel hyn i awydd i orchfygu wneyd pobl yn rhag- farnllyd ac yn hwyrfrydig i wrando ar reswm. Pa mor anhawdd bynag ydyw rhwystro "cload allan" neu "sofyll allan" rhag cymeryd lie, nid yw mor anhawdd ag a fydd gwneyd heddwch wedi i ryfel ddechreu. Yr ydym yn gobeithio ac yn ofni-yn gobeithio y goreu ac yn ofni y gwaethaf.
Gwrthdysiiad Athrawon Arfon.…
Gwrthdysiiad Athrawon Arfon. Hysbysir fod cryn nifer o'r gwyr mwyaf adnabyddus yn mhlith Athrawon yn Ysgolion Elfenol Arfon wedi cymer- yd ffordd ryfedd i ddangos eu bod yn anghymeradwyo y modd y'u bernir gan Bwyllgor Addysg Arfon. Dywedant fod y mwyafrif o aelodau'r pwyllgor hwnw yn galw eu hunain yn Rhyddfrydwyr, ond eu bod wedi cefnu ar draddodiadau ac egwyddorion sylfaenol Rhyddfryd- iaeth, ac yn ymddwyn yn drahaus, yn anghyfiawn, ac yn ormesol tuagat yr Athrawon. Oherydd hyn, ac er mwyn gwrthdystio yn ei erbyn, mae'r Athraw- on wedi cytuno a'u gilydd i dori pob cysylltiad rhyngddynt a'r Cymdeithasau Rhyddfrydol Lleol y maent yn aelodau ohonynt, ac, mewn llawer o achosion, yn swyddogion ynddynt, hyd oni chyd- nebydd Aelodau'r Pwyllgor Addysg eu bai ac y gadawant eu ffordd drygionus. Oni bae fod genym ormod o barch i blant dywedasem fod yr Athrawon hyn yn blentynaidd. Beiant aelodau'r Pwyll. gor Addysg am beidio gweithredu yn gyson a'r egwyddorion a broffesant, a dywedant H Hyd oni weithredwch chwi yn gyson a hwy, ni wnawn ninau ddim i gefnogi yr egwyddorion." Oni chymer- ant ofal, ant yn gyff gwawd gwlad. Y mae genym Ie i ddisgwyl am rhywbeth amgenach na hyn oddiwrth y rhai sydd yn cyfranu addysg i blant y genedl.
Gair yn ei Bryd. j
Gair yn ei Bryd. Mewn ymddiddan a gymerodd Ie. ychydig ddyddiau yn ol rhyngddo a chynrychiolydd y Standard, dywedodd y Cownt Von Buelow, Canghellydd yr Almaen, air yn ei bryd. Mater yr ym- ddiddan oedd y berthynas anfoddhaol sydd ar hyn o bryd rhwng Prydain Fawr a'r Almaen, mater ag yr ydym amryw weithiau wedi galw sylw ein darllenwyr ato. Dywedodd y Canghell- ydd fod y drwgdeimlad yn fath o wall- gofrwydd, ac y bydd iddo, os pery, wneyd ni wed anrhacthol i'r naill deyrn- as fel i'r llall. Y mae, ebai, i'w briodoli yn benaf i'r ffaith fod darllenwyr newyddiaduron yn cyfrif yn Ilawer iawn pwysicach nag ydynt mewn gwirionedd eii-iau ddywedir yn achlysurol gan bersonan mewn safleodd uchel. Rhaid, dybygwn, mai yr Ymherawdwr Gwilym ydyw y "personau hyny. Wfftiodd y syniad fod gan yr Almaen fwriad i ddarparu iddi lynges a ddeil ei chystad- leu a'r llynges Brydeinig, a phan ddy- wedodd cynrychiolydd y Standard y bydd agos cyn gryfed a'n llynges ni ymhen ychydig flynyddoedd, atebodd y Canghellydd Bydd ymhen dau can' mlynedd. Yna dygodd ymlaen ffigyrau a'u dyben i osod allan nerth cymharol y pedair llynges a ganlyn o ran tunell- aeth (tonnage). Dyma hwy :—Pryd- ain Fawr, 1,587,582 tunell; Yr Unol Dalaethau, 614,179 Ffrainc, 514,4-97 Yr Almaen, 474,855. Os ydyw y ffigyr- au hyn yn gywir, mae ein llynges ni cyn gryfed a'r tair eraill gyda'u gilydd. Da ydyw gweled gwladweinwyr penaf y ddwy deyrnas yn cytuno i gondemnio gwaith y rhai sydd yn ceisio cyneu tan rhyfel.
.Etholiad Newcastle-or.-Tyne.
Etholiad Newcastle-or.-Tyne. VVeai petruso llawer, a dadleu yn eu plith eu hunain, penderfynodd Arwein- wyr lleol Plaid Anibynol Llafur beidio dwyn allan ymgeisydd yn yr etholiad agoshaol. Credwn eu bod wedi pender- fynu yn ddoeth, ac y buasent wedi gwneyd yn ddoethach fyth pe buasent wedi bygwth llai, oblegid nis gall y byg- ythion lai na chwerwi i ryw fesur y teimladau rhwng y RhydBfrydwyr a hwythau. Canlyniad hyny, mae'n ddi- ameu genym, fydd rhwystro rhai o honynt rhag pleidleisio dros yr ym- geisydd Rhyddfrydol. Mr. Shortt ydyw hwnw-bargyfreithiwr wrth ei alwed- igaeth, a brodor o'r ddinas. Dywedir ei fod yn wleidyddwr deallus, yn siaradwr gwych, ac yn wr cymeradwy gan dri- golion y ddinas. Mae'r ymgeisydd Toriaidd, Mr. Renwick, yn un o blant y ddinas hefyd, ac y mae yn bersonol mor gymeradwy a Mr. Shortt. Ond gelwir ar yr etholwyr i bleidio nid personau ond egwyddorion, ac y mae'n ddiameu genym y bydd i'r mwyafrif anferthol o honynt bleidio yr un egwyddorion ag a bleidiasant ddwy flynedd-a-haner yn ol. Nid yw yn rhesymol disgwyl y bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yn gymaint yn awr ag oedd y pryd hyny, ond yr ydym yn hyderus y bydd y fath ag a wna y Rhyddfrydwyr yn foddlon ac a'i gwna yn anmhosibl i'r Toriaid haeru nad yw'r wlad yn credu yn ngweinyddiaeth Mr. Asquith.
■ I.... Diolch i Mr. Lloyd…
■ I. Diolch i Mr. Lloyd George. Mae gan bobl tref Fflint achos i ddiolch yn fawr i Mr. Lloyd George. Un o ganlyniadau Deddf Breintebau 1907, awdwr yr hon ydyw ef, ydyw fod Cwmni wedi ei ffurfio, gyda chyfalaf o £J50,000, i gychwyn gwaith sidan yn y dref hono. Mae'r cwmni eisoes wedi prynu 55 erw o dir gerllaw y dref, ac nid cynt y gorphenir yr adeiladau a godir ac y gosodir i fyny y peirianau angenrheidiol nag bydd yno waith i tua mil o bobl. Bydd tua'r haner o honynt yn ferched. Y mae digon wedi ei ddy- wedyd i ddangos, gymaint caffaeliad fydd y gwaith i'r dref a enwyd. Nid yw y gwaith hwn ond un o lawer o ddegau ag y gneir parotoadau i'w hagor mewn gwahancl ranau o'r wlad, ac y mae'r clod am hyn yn ddyledus i'r aelod gwir anrhydeddus :dros Fwrdeisdrefi Arfon. Myn rhai newyddiaduron Toriaidd ei amddifadu o'r clod sydd yn ddyledus iddo. Haerant mai eiddo eraill ydyw'r synied a briodolir iddo ef. Beth er hyny ? Efe a ddygodd i fewn y mesur sydd wedi rhoddi gwerth yn y syniad, a gwaM ydyw gwarafun iddo y credyd am hyny.
Adroddiad Dyddorol.I
Adroddiad Dyddorol. Ceir llawer o ffeithiau dyddorol dros ben mewn adroddiad a gyhoedcwyd yn I ddiweddar gan Fwrdd Addysg y Llyw- odraeth, am y flwyddyn yn diweddu Awst laf, 1907. Gwelir ar unwaith fod y ffigyrau diweddaraf sydd yn yr ad- roddiad yn llawn flwydd oed, Gwelwn wrth ei ddarllen fod nifer y plant yn yr ysgolion elfenol yn myn'd ryw gymaint yn ilai bob blwyddyn er's amryw flyn- yddoedd bellach. Mae llai o blant dan bump, a llai o blant dros ddeuddeg mlwydd oedd ynddynt nag a fyddai. Mewn rhai lleoedd ni chaniateir i blant dan bum' mlwydd oed fyned i'r ysgol am y galwai hyny am 'helaethur adeil- adau. Heblaw hyny nid ydyw tiii en-ii inorbarod i'w hanfon ag y buont, ac nid drwg i'w hyny. Yr hyn sydd yn cyfrif am leihac1 yn nifer y rhai dros ddeuddeng mlwydd oed ydyw fod mwy o honynt nag a fyddai yn cael eu hanfon i'r Ysgol- ion Canolraddol, ac y mae hyny yn beth., i lawenychu o'i blegid. Ni fu erioed yn yr ysgolion gynifer o blant rhwng pump a deuddeng mlwydd oed ag sydd yn awr. Blwyddyn ddrwg iawn fu'r flwyddyn yr adroddir am dani i'r Ysgol- ion Eglwysig. Cauwyd 74 o honynt (yn cynwys lie i 12,814 o blant) a thros- glwyddwyd 35 o ysgolian (yn cynwys lIe i 9,036 o blant) i Bwyllgorau Addysg.: Felly collodd yr Eglwys 109 o ysgolion, ynl cynwys 21.850 o leoedd, tra nad agorwyd ond pedair o ysgolion newydd- ion yn cynwys lleoedd i 247 o blant. Yn 1899-1900 yr oedd yn Nghymru a Lloegr 14,409 o Ysgolion Eglwysig, 31, lleoedd ynddynt i 3,723,810 o blant; erbyn y flwyddyn 1906-7, 13,370 o honynt oedd yn aros, a lleoedd ynddynt i 3,410,530. Yn ystod yr un amser aethi yr ysgolion dan reolaeth y cyhoedd i fyny o 5,691 (yn cynwys lleoedd i 2,785,801) i 7,203 (yn cynwys lleoedd i- 3,651,537). Sieryd y ffiigyrau hyny drostynt eu hunain, a pharant lawenydd i garedigion rhyddid gwladol a chref- yddol. AAAAAAAAA A A A A A A A A a A A A A A A a
'▼▼▼WTVVVVVVVvy-TAUSARNAU.
'▼▼▼WTVVVVVV V vy TAUSARNAU. Gorchwyl prudd a galarus ydyw croniclo marwolaeth a chladdedigaeth y cbwaer hoff a charedig Miss Annie Davies, Llechollwyn. Bu farw boreu Llun, Medi 7fed, ar ol pum' wytbnos o gystudd caled, yn yr oedran cynar 0 34 mlwydd. Dioddefodd ei chystudd yn dawel, dirwgnach ac ymostyngol, a chredwn iddi suddo i'r afon a gwen buddugoliaeth ar ei gwyneb. Yr oedd yn ofni Duw o'imhebyd, athalodd ufudd-dod cyhoeddus e gwirfoddol i'w Gwaredwr, trwy gael ei bedyddio yn afon Artro, wrth ymyl hengapel Salem, Cefn- cymerau, gan y Parch, Georgr Williams, pan. yn ieuanc iawn. Bu yn ffyddlon i'w phroffes, yn addurn i grefydd, ac yn deyrngarol i'w Cheidwad. Bu yn aelod disglaer yn Salem, Cefncymerau, ac Ebenezer, Talsarnau, am tua deunaw mlynedd. Yr oedd ganddi barch- gwirioneddol i weinidogiony Gair, a dangosodd hyny mewn geiriau a gweitbredoedd. Llanwai nodweddion merch dduwiol a rhinweddol," ond gorphenodd ei gyrfa ddaearol mewn tangnefedd, ac v mae ei choffa yn bsrarogl hyfryd ac esmwyth gan ei holl gydnabod. Nodweddid hi gan synwyr- cyffredin cryf, cymeriad disglaer, profiad crefyddol uchel, a bu yn selog, ffyddlon, a defnyddiol gyda'r achos goreu, a theimla y frawdoliaeth yn Ebenezer, a holl gylch ei hadnabyddiaeth chwithdod mawr ar ei hol. Teimlwn yn hiraethus wrth feddwl na chawn weled ei gwyneb anwyl byth mwy yr ochr hyn i'r bedd. Yr oedd iddi air da gan bawb a chan y Gwirionedd ei hun, ni a gredwn. Y mae colled y teulu. y gymydagaeth, a'r eglwys yn fawr, ond credwn fod ei hennill hi yn fwy. Claddwyd yr hyn oedd farwol ohoni prydnawn dydd Iau canlynol yn mynwent plwyf Llanbedr angladd preifat. Gwasanaethwyd ar yr achlysur pruddaidd gan y Parchn. J. Tydvil Phillips, Ehenezer, Talsarnau. S. Pierce, Penrhyndeudraeth, H, D. Jones, Cefncymerau a Mr. Jones, Offeiriad Llanbedr. Heddwch i'w gorweddfa. Yr Arglwydd fyddo yn gysur ac yn ddiddanwch i'r teulu anwyl yn eu dagrau, ynghyd a'r perthynasau oil yn eu galar ar ol un mor gu. J. TYDFIL P, IIILLIPS, Ebenezer, Taisarnau.
vvvv VVVWVVWWV Y Ddamwain…
vvvv VVVWVVWWV Y Ddamwain Angeuol yn Capel Garmon. Dydd Gwener, o flaen Dr. J. R, Hughes (Trengholydd), a deuddeg o Reithwyr i'r rhai yr oedd y Parch. Llewelyn Jerman yn Flaenor, cynhaliwyd trengholiad ar gorph Mr. W. H. Parry, mab 17 mlwydd oed, Mr. W. Parry, Cefncestyll, yr hwn a gyfarfu a'i ddiwedd trwy i ergid o'r gwn a gariai fyned trwy ei ochr a'i ladd yn y fan. Dychwelwyd rheith- farn o farwolaeth ddamweiniol." Claddwyd y gweddillion ddydd Sadwrn, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parch. Ll. Jerman.
Advertising
Pan bydd angen HYSBYSEBU genych, peidiwch anghofio y Papyr Teuluaidd hwn.