Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
NODION O'R CYLCH.
NODION O'R CYLCH. Y MAE y Moduriau yn brysur fyned yn bla, bron can waethed a'r cymysg-bla gynt, ar els. gwld, ac nid oes dim ond braich gref Meinriau Ynadol a ddug y nifer Iuosocaf o'r Modnrwyr i'w pwyll. Nid yw dirwyo yn tycio dim, a rhaidd fydd carcharu cyn y rhoddir terfyn ar y gyrwyr gwallgcfus sydd yn eu mysg. Yr oedd chwech achos yn Llys Llan- rwst ddydd Llun, a dan yn y Blaenau ddydd Iau, Yn yr achos cyntaf yn Llanrwst yr oedd boncddwr ieusngc yn cael si gyhuddo o yru i beryglu bywyd y cyhoedd. Gwnaed yn hollol amlwg nad oedd yn gyru yn gyflym, ond fod modur arall yn pasio mewn lie neiliduol, a bod boneddiges ieuangc yn digwydd bod yn y lie hwnw ar ochr y ffordd. Am deilyngdod yr achos ni ddywedwn air, gan mai y Faingc oedd yr awdurdod i benderfynu hyn ar sail y tyst- iolaethau oedd o'u blaen; ac yn mhellach, deaUwn fod apel i'w wneyd yn erbyn eu dyf- arniad. Ein hamcan yn cyfeirio at yr achos yw hyn :-Yr oedd Miss Petit, Bodhyfryd, yn dyst,—yr unig dyst, o'r trosedd honedig. Pobpeth yn dda. dangosodd ei bod yn fonedd- igs mewn gwirioned'd ac nidmewn enw, a rhoddodd ei thystiolaeth yn glir a diamwys. Ond paham yr oedd eisiau i'r Milwriad John- stone, Cadeirydd y Faingc, godi o'i sedd yn nghanol yr Ynadon, a myned trwy eu canol i gyrchu Miss Petit o ystafell gyfrinachol yr Ynadon, a dod a hi i mewn trwy ganol y Faingc i'r tyst-Ie, a hithau fyned yn ol pan orphenodd dystio trwy yr un ffoidd i'r un ys- tafell ? Ni ddylasai yr un ynad symud oddiar ei eisteddle i gyrchu yr un tyst gan nad pwy ydoedd, gan fod yr Uwch-Arolygydd a'i swyddogicn yn y Llys i ofalu am y tystion. Nid ydym ar un cyfrif yn awgrymu fod dim o'r fath wedi dylanwadu ar y Faingc yn eu dyf- arniad, ond yr oedd yn beth na welsom erioed yn digwydd mewn unrhyw Llys arall yn ystod ein profiad cyhoeddus o'r Llysoedd am gyfnod o dros ddeng mlynedd a'r hugain. Llys i farnu achosion heb adnabod personau yn dystion na phleidiau yw yr un Ynadol, a drwg genym i'r peth uchod gymeryd lie yn Llys Llanrwst ddydd LIun. YN nghyfarfod Rheolwyr Addysg Dosbarth Ffestiniog ddydd Iau, bu trafodaeth faith ar adfer y Llechi ysgrifenu i'r Ysgolion yn lie papur. Y mae Cyngor Sirol Llundain wedi pasio eu cael yn ol ar gyfrif eu bod yn iachach a bod y draul yn llai. Cafwyd profion diamheuol fod papur yn andwyol:i olwg plant gyda liygaid gweiniaid, a bod y llechan las yn esmwyth i'r liygaid ac ateb pob pwrpas yn llawn gwell. Pasiwyd penderfyniad cryf i'w anfon i'r Pwyllgor Sirol i argymell arnynt basic i gael llechi eto i'r Ysgolion. Gan fod costau y Sir gydag Addysg yn swm mor fawr, diau y rhoddir sylw dyladwy i'r awgrym, ac y cawa weled y llechen las mewn urddas etc yn holl Ysgolion y Sir. YN yr un cyfarfod bu yftyriaeth ddwys uwch- ben y ffaith fod y Dosbarth yn colli rhai o'i Athrawon goreu oherwydd y cyflogau. Prof- wyd fod cyfartaledd y cyflogau ar gyfer pob plentyn yn Ysgolion y Sir yn uwch na'r Siroedd cy!chysc!» £ ond aad eedd.y Raddfa cyflogau yn un gyfartal a theg, a'r canlyriidd yw fad Ath- rawon yn symud i leoedd eraill lie y cant gyflog cyfartal i werth eu gwasanaeth. Colled arbenig i Blaenau Ffestiniog fu symudiad mwy nag un o'r rhai aethant ymaitb yn ddiweddar. Addewir gwell trefn, ond,gall y peth ddod yn rhy ddiweddar oni ymysgydwir yn bur fuan. TALODD Mr. R. H. Williams, Arolygydd y Llywpdraeth gyda Deddf y Tlodion ymweliad a Bwrdd Llanrwst ddydd Mawrth. Peth newydd yw gweled Swyddog o'r fath yn eistedd yn y Bwrdd i wrandaw ystyriaeth o bob achos sydd ar y llyfrau. Gofynai am reswm dros fod elusen o gwbl yn cael ei ganiatau mewn amryw: aShosion, pabam can lleiad o elusen mewn achosian eraill, a phabam cymaint yn y lleill. Rhoddodd y Gwarcheidwaid eu rhesymau, ond mewn lluaws o achosion prof- wyd yn glir mai teimlad yn fwy na barn deg oedd yn rheoli wrth basio yr elusenau. Bu achosion y rhai oeddynt yn cael elusen ac yn cadw gwartheg o dan sylw, a chyfarwyddwyd fod yn rhaid gwneyd i ffwrdd a'r gwartheg neu ar elusen. Teimlad cyffredinol y Bwrdd oadd, fod syhvadau Mr. Williams yn agoriad Ilygad iddynt, a byddent yn sicr o facteisio arnynt. Mae ganddo ef fantais neillduol i gyflawni ei Iswydd bwysig gan iddo fod yn Archwyliwr o dan y Llywodraeth am bymtbeng mlynedd cyn cael ei benodi iddo. Heblaw byny, y mae yn gymro twmn-galon, ac yn siaradwr Cymraeg llitinig.
-Dwy Ghwarel. I
Dwy Ghwarel. Y mae cyfarwyddwyr Chwarel Cydweithiol Bethesda ar werthiant eu llschi am yr baner blwyddyn derfynai Mehefin yn cyraedd y swm ■ c /3.061 cynydd o ;C286 ar yr haner blwydd- yn cyferbyniol yn 1907. Yr oedd gwerth y cynyrch tua £ 148 yn llai na'r haner blwyddyn ddiweddai Rhagfyr 1907. Dywed y cyfar- wyddwyr fod dyn wedi codi o anymddiried- aeth (diffidence) mewn cefnogi cynyrchu, ac yr hyn nas gall ond colled fod y canlyniad ar bris isel presenol arwerthiant llechi." Y mae Mr. W. J. Parry, wedi ymddiswyddo fel Eheolwr, a'r Cyfarwyddwyr wedi penodi Mr. B. Davies, yr Is-reolwr i gymeryd ei !e. Wedi ainryw fisoedd o segura y maerhagol- wg dda yr ail gychwynlr chwareH Corris, ac yn rhoddi terfyn ar yr amgylcbiadau gwasgcdig yn y He. Mewn anerchiad yn Machynlleth, dywedodd Arglwydd Herbert Vane, Tempest, ei fod wedi arwyddo prydles i chwareli Braich- coch, a gobeithiai y byddent yn gweithio yn fuaner rhoddi gwaith i'r lluaws sydd yn awr yn segur yn y lie. AAAAAAAAAAA A AJ
[No title]
Valentine's Local View Postcards are the i best and cheapest. May be obtained at the RHEDEGYDD OFFICE,
COR Y GARN AC EISTEDDFOD_I…
COR Y GARN AC EISTEDDFOD I PWLLHELI. II tor. uoiygycd.— in eicn rnityn tluveddai, ymddengys fod eich Gohebydd o'r Garn wedi cael hwyl neiliduol wrth gyhoeddi fod gwobr bir ddisgwyiiedig y Cor wedidyfod i'w dwylaw, Y mae y Corau eraill i'w hedmygu yn fawr am ei gwroldeb yn anfcn y Protest. Gwelodd y Pwyllgor ei bod yn haeddu ystyriaeth ddifrifol, neu ni buasent yn cymeryd mis o amser cyn trosglwyddo y wobr drosodd i'r Cor buddugol. Credaf fod y Pwyllgor erbyn hyn wedi gweled y dylent roddi y rheol hon yn llawer mwy dealiedig at y dyfodol. Felly, gwybydded y byd, a'r Garn, mae o herwydd Ilacrwydd yn y rheol y maent wedi ei goddef. Na, nid meth- iant yn y Protest, fe ddisgwylir at y dyfodol y gwelir effaith y cyfryw, trwy i'r Pwyllgor roddi adran neu ddwy at y rheol, sef na chaniateir Professors i gynorthwyo, hefyd nodi fod pob aelod o'r Cor i ddod o fewn cylch neilldnol, ond nid cymaint a 5 neu 6 milldir, fel y bu yn y gvstadleuaeth boo, Dylai hefyd fod gwell trefn mewn perthynas i rif y Corau, yr oedd y 4 Cor fu yn cystadlu yn amryv/io o 61 i lawr i 31, er hyny, bu yn sgos i'r Cor bach o'r Peurhyn roddi cwrfa dda iddynt, ac onibai am y dosbarth a nodais nid oes amheuaeth na feUy y buasai. Ie, gresyn fod Corau yn gwneud cynhwrf, ond gresynus i'r eithaf ydyw fod Corau yn rhoddi achos cynhwrf trwy gymeryd mantais ar wendid ambell i reol. Dyna fel y bu yn yr achos hwn. Methodd Cor y Garn a deal! amod Cystadleuaeth Gorau Lleol (Local Choir) o herwydd y dylni hwn gwnaethant gam a'r rhai oedd yn cydgystadlu a hwy, gan iddynt gymeryd hyfdra i eangu ystyr y gair Lleol," y tuhwnt i'r hyn y darfu ei cyd-ym- geiswyr na'r Pwyllgor ei ddycbmygu rhag ofn iddynt fyned i'r un amryfusedd eto, awgrymaf iddynt roddi ychydig o amser i geisio deall amod Cystadleuaeth yn well at y dyfodol. BRAVURA.
- - -TYLOTTY - -LLANRWST.…
TYLOTTY LLANRWST. Mr. Gol.-Teimiat ddyledswydd i gymdeith- as a dynoliaeth awgrymu ymchwiliad mwyaf difrifol Gwarcheidwaid Undeb Llanrwst at sefyllfa anfoddhaol Mortuary" y Sefydliad uchod. Mewn canlyniad i'r ddaniwain alarus i un o'r dynion ieuanc mwyaf cymeradwy a gobeithiol, golli ei fywyd yn anamserol yn gymdogaeth Bettwsycoed rai dyddiau yn ol, a chymerwyd y corff i'r lie yr wyf yn cyfeirio ato, yr hwn, credaf nad yw yn deilwng o'r Undeb a'r gymydogaeth yn y ganrif bresenol. Mae yn fwy tebyg i Green house bychan mewn gardd na dim arall. Drws a ffenestr yn gwyn- ebu yr haul yn ei nerth. Ager boeth yn dod i'r gwyneb wrth fyned i fewn. Os ydyw y lie felly yn deilwng o Gorffdy mae yn ddargan- fyddiad newydd i mi. Os ydyw pob teulu yn gorfod disgwyl am nifer o ddyddiau am bresen- oldeb y 'Coroner' cyn bydd yn oddefol gan y Gyfraith i symud y corff o'r lie crybwylledig. Mae'r matter yn wir deilwng o sylw. Hefyd, onid ydyw yn ddolur i deimlad y gwahanol berthynasau i'r arffodusion nad oes gobaith iddynt ond gorphen eu gyrfa ddaearol yn y Sefydliad uchod, a gorfod myned trwy y lie poeth angbymwys hwnw. DAVID JONES, Adeiladydd, Blaenau Ffestiniog.
ILLANRWST."v
LLANRWST. "v TREFN Y MODDION SABBOTHOL. YrEglwys Sefydledig. St. Crwst.-IO, Parch. J. Morgan, B.A. 6, Parch. D. C. Davies, B.A. St. Mary.-IO, Parch. D. C. Davies, B.A. 6, Parch. J. Morgan, B.A. Y Methodistiaid. Seion.-Parch. Richard Rowlands, Scotland Street. Heol Scotland.—Parch. H. Jones Davies, Tre- garth. Yr Attnibynwyr. Tabernacl.-IO, Cyf.. Gweddio. 6, Parch. Thomas Jones. Ebenezer. -Parch. R. D. Richards. Y Wesleyaid. Horeb.-Parch. W. Lloyd Davies. St. James (English Chapel).—Mr. A. Fisher, Mochdre. Y Bedyddwyr. Penuel .-Parch. H. Cernyw Thomas. ENILL.-Erlyr-ir arnom gywiro mai Miss M. E. Evans, ac Did Mrs. Evans, Bryn Dinas, Caernarfon, gynt o Lanrwst, a enillodd y wcbr am Crocket Lace yn Eisteddfod Llangollen. SALE"TALYCAFN.—Dydd LluD. cynhaliodd Mri. R. a Rogers Jones, eu 'Harwerthiant cyfnodol yn Talycafn Mart. Elai yr Wyn Tewion Crossbred i fyny i 25/ Myllt a Mamcgiaid i 24/ Gwarfheg tewion i ^17 |12s 6c; Buchod a Heffrod blithion a chyflo i £ 15 10s 0c; Bustych a Heffrod cadw i £ 8 12s 6c Moch i £ 5 a Lloi tewion i;63 I5s Dc. GWERTHU TAI.-Prydnawn ddydd Mawrth, yn yr Eagles Hotel rhoddodd Mr. W. G. Jones y fferm Cae Cwmpas, Penmachno, o dan y morthwyl. Yr oedd nifer rhagorol wedi dod yn nghyd, a'r cynygion yn fywiog. Tarawyd y lie i Mr. Edward Jones, Penyffridd, Penmachno, am [216. Yn dilyh yr uchod yn yr un lie, rhoddodd Mr. Rogers Jones, y fferm Ty'nddol Gwytberin, o: daDI yi morthwyl. Yr cedd yr ymgeisiaeth am hon yn fywiog dros ben, ac yn y diwedd fe'i prynwyd gan Mr. Aneurin Evans, Cyfreithiwr, Dinbych, i Mr. William Jones, Ty Celyn, Llansanan, am £ 1,175. CHWAREUON.—Y mae mantolen y Sports diweddaf wedi ei chyhoeddi, a dengys fod gan y Pwyllgor weddill da wrth gefn wedi talu eu holl ofynion. Nid yw hyn i synu ato pan gofiwn mai y Parch. J. Cardigan Williams, yw Cadeirydd y Pwyllgor, a Mr. Albert, Hughes, yr Ysgrifenydd, gyda, llu o wyr seiog i'w canlyn. Y mae Mr. Hughes yn cynllun o Ysgrifenydd gyda gwaith o'r fath, a gofalodd am gael pobpeth yn drefnus at yr Wyl ac y:mae hyny yn bwyslg iawn erbyn y bydd yr adeg i wneyd cyfrif yn dod. Llongyfarchwn ef a'r Pwyllgor yn galonog iawn. YN VANCOUVER.—Yn y Drych am Medi 3, ceir darlun o Gwmni cerddorol pump o Gymry sydd yn tynu sylw mawr gyda'u canu. Yn eu plith y mae ein cyfaill ieuangc talentog Mr. Louis Roberts, Avondale. LIawen genym weled fod ein dynion ieuaingc yn parh&u i ddringo grisiau anrhydedd yn mhob cwr o'r byd. CERDDOROL,—Da genym gael ar ddeall mai un o blant yr ardal hon ydoedd yr enillydd yn Eisteddfod Llangollen am gyfansoddi Pedwar- awd, "K.L. oedd wrth y cyfansoddiad, a deailwn :'mai Mr. Joseph E. Jones, Conwy, oedd hwnw. Y mae ef yn Cerddor o allu, ac yn hanu o deu!u cerddorol. Yn Eisteddfod Caernarfon 1906 yr oedd yn enill ar gyfansoddi Anthem,
- ...... ,..- .... "......…
BLAENAU FFESTINIOG. SPECIAL LINE—SPECIAL OFFER. Egg Plum only 2d. per lb. Prolific, Czar and all the best kind, only 3d. per lb., at E. B. Jones & Co., Blaenau Festiniog. NOFIEL.-Gellir cael y Nofel newydd bob- logaidd Arwriaeth John Anthony, neu Ramant Bywyd Cymro" gan Lyfrwerthwyr y dref. Myned pawb olwg ar y llyfr hynod hwn. YN DARLiTHio.—Nos Sadwrn diweddaf, yr oedd y Parch. Peter Jones-Roberts yn darlithio yn Nghapel y Wesleyaid, Maentwrog. Ei destyn ydoedd "Gipsy Smith." CALFARIA.—Y Sabboth diweddaf, cynhal- iwyd cyfarfod pregethu blyiiyddol Calfaria. Yr efengylwyr eleni oeddynt y Parchn. W. S. Jones, Llwynpia; a J. Lee Davies, Brynaman. Traethant y gwirioneddau gyda bias. Am 2 prydnawn Sadwrn, cynhaliwyd Cyfeillach, a siaradwyd ynddi gan y gweinidogion uchod. Y SiciNrORF. Talodd Seindorf Arian Oakeley ymweliad a Llan Ffestiniog, pryd- nawn Sadwrn diweddaf. Mawr ganmolir eu chwareuadau proffeswrol gan yr ardalwyr. BLWYDD-DAL I'R OEDRANUS.—Bu yr Is- bwyllgor lleol y cylch hwn yn eistedd dydd Iau diweddaf yn y County Buildings, i ystyried y trefniadau at gario allan ddarpariaethau y Ddeddf newydd uchod. Y FYDDIN DIRIOGAETHOL.—Galwyd i fyny ein Catrawd Leol nos Sadwrn diweddaf, am Ymarferiad Arbenig (Special Drill), yr hon a gymerodd le yn Hen Ysgoldy Dolgarregddu. DAMWAIN. Dydd Mawrth, bu i Mrs. Elizabeth Williams, priod Mr. William Williams, 2, Glan'rafon Terrace, Tanygrisiau, gyfarfod a damwain erchyll i'w braich, wrth syrthio ar gareg yn y drws. Gweinyddwyd arni gan Mr. Thomas Lewis, Gwyndy. SEION.Deallwn mai y Parch. R. Parry, Aberdulais, un o gyn-weinidogion yr Eglwys, fydd yn gwasanaethu yn Nghapel Seion, y Sabboth nesaf. CANTATA.—Wythnos i nos Iau, bydd Cor o dan arweiniad Mr. J. Lloyd Edwards, A.c., yn perfformio Goruchafiaeth Joseph yn y Neu- add. Cymerir y gadair gan Dr. Jones, Isallt. Bydd yn wledd i glywed y Gantata hon. PLAID LLAFUR.—Y mae Plaid Annibynol Llafur yn gwneyd paratoadau at Ymgyrch o blaid y mudiad yn Ngogledd Cymru. Yr wythnos nesaf, bydd Mr. James Parker, yr Aelod Llafur dros Halifax, yn anerch nifer o gyfarfodydd,—y Sabboth yn Wrecsam dydd LIun yn y Rhyl; dydd Mawrth yn Blaenau Ffestiniog; dydd Mercher yn Llandudno a dydd Iau yn Bangor. CANU PENILLION.—Yn Eisteddfod Llan- erchymedd, ddydd Gwener, enillodd Mr. J. D. Jones (loan Dwyryd) y Bathodyn Aur am ddatganu Penillion. Pan gofid ei fod yn nghartref Datganwyr gyda'r Tanau y mae y fuddugoliaeth hon yn un y gall fod yn falch o honi. Llongyfarchwn ef yn fawr ar ei lwydd. MARWOLAETH SYDYN.—Nos Wener, yn hynod sydyn pan ar ymweliad a'r Rbingyll Lloyd, bu farw Mrs. Elizabeth Jones, anwyl briod Mr. Thomas Jones, o Fanceinion. Nid oedd Mrs. Jones ond 46 mlwydd oed, a chydymdeimlwn a'i phriod, a Mr. a Mrs. Lloyd yn ngwyneb y brofedigaeth sydyn. CYFARFOD YSGOL.—Cynhaliwyd y cyfarfod ysgol y Sabboth diweddaf yn nghapel y Tabernaci, o dan lywyddiaeih Mr. Thomas J. Roberts, Rhiw. Yr oedd y cyfarfod cyntaf yn gael ei gynal nos Wener yn y Garregddu. Am 9 boreu Sul, holwyd Swyddogion y ddwy Ysgol-Trefeini a Tabernacl, gan Mr. E, E. Roberts, Gwylfa. Am 10, holwyd y Plant o'r Safon IV. hyd y IX. yn Hanes Noah. Am 11, agorwyd y mater, sef Y pwysigrwydd o bresenoli ein hunain yn gyson yn yr Ysgol Sul," gan Mr. Owen R. Owen, Maenofferen. Am 2, Holwyd y Dosbarth Canol yn hanes y "Gweddnevádhd," a'r plant lIeiaf yn y vi. benod o'r Rhodd Mam. Am 6, holwyd y Dosbarth Hynaf yn Matthew, xvi. benod, o'r 13—28 o'r adnodau. Yn absenoldeb y Parch. John Owen, M.A., yr holwyddorwr appwynt- iedig, cymerwyd ei le gan y Parch. R. R. Morris. Yr oedd yr hoii a'r ateb yn un o'r pethau goreu fwynhawyd yn ystod y dydd. Ar ddiwedd yr oedfa hwyrol, bu i Gor yr Eglwys, o dan arweiniad galluog Mr. Lewis Jones, Frondeg, ganu y Cydgan, Efe a Ddaw" (T. Price); tra y dilynai Miss Mary I Lloyd Edwards, Gelli, yn feistrolgar ar yr Organ. Cafwyd cyfarfod ysgol rhagorol drwyddo draw. YR YSGOL SIROL.-Cyfarfu Rheolwyr yr Ysgol Sirol prydnawn ddydd Gwener, pryd yr oedd yn bresenol Mri. John Lloyd Jones (Cadeirydd), W. P. Evans, R. Walker Davies, B A., Miss Brymer. Mrs. Jones, Isallt; Miss Jones, Parch. T. H. Hughes, Dr. R. D. Evans, F. P. Dodd, M.A. (Prif- Athraw), ac R. O. Davies (Clerc). Awd trwy restr y rhai oeddynt yn gofyn am y Pierce's Grants, a cbaed nad oedd'ond Mey- rick Fughe, Erwcoed, yn dod i fyny a'r telerau gosodedig yn nglyn a hwy, a phasiwyd i'w argymell i'r Ymddiriedoiwyr. Penodwyd pwyllgor o dri:—Mr. Walker Davies, Dr. Evans, a Miss Brymer i ystyried beth ellid ei wneyd gyda darparu He eistedd yn y Laboratory pan oeddid dan orfodaeth defn- yddic y lie yn Classroom. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Haydn Jones yn hysbysu fod Miss Elsie Vaughan 1 Hoskins wedi cyraedd y He uwchaf yn y Sir gyda'r Arholiadau, a bod Ysgoloriaeth o £ 10 yn dod iddi. Caniatawyd traul teithio i ferch Mr. Owen Tones, Croesor. Y Prif-athraw a hysbysodd y gellid ad- newyddu ysgoloriaethau 12, Yr oedd 21 yn eu dal yn bresenol, ac nis gallai argymell peidio adnewyddu ond rhyw 2 o honynt.—Gadawyd heb benderfynu ar y nifer hyd nes y cyferfydd y Cyngor Dinesig.—Cyfarfu y Cyngor, ond aeth yn rhy hwyr i'r pwyllgor eistedd, ac felly bu raid galw y Pwyllgor nos Lun. Pasiwyd i dalu £ 3 yr un i'r rhai oeddynt wedi eu henill. A. &
I---TREFRIW.
I TREFRIW. Cyfarfu y Rheolwyr Addysg ddydd Ian, pryd yr oedd yn bresenol y Parch. Henry Jones, Mrs. Ocklestone, a R. E. Thomas (clerc).-Oddiar adroddiad y Swyddog Pres- enoldeb pasiwyd i ofyn i Mr. Thomas Griffith fesur y pellter o'r Ysgol i Talyllyn.-I-lysbys- wyd fod plant y Brwynog wedi dechreu lletya yn y pentref.—Yr oedd plentyn yn methu dyfod i'r Ysgol am nad oedd gaaddynt ddillad ac esgidiau, a phasiwyd i'r Swyddog wneyd ymchwiliad.—Pasiwyd hefyd i roddi prawf digonol i'w gael yn achos plentyn oedd yn esgeuluso yr Ysgol ei fod yn cael cwrs o addysg gofynol.—Adroddwyd fod chwech o blant wedi ymgeisio yn arholiad yr Ysgol Sirol, allwydd- odd pedwar o honynt, a phasiwyd i longyfarch yr Athraw a'i gynorthwywyr yn ngwyneb hyny.—Hysbyswyd fod enwau y rhai oedd am ymuno a'r Ysgol Nos i gael eu hanfon i mewn erbyn nos Wener nesaf.
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Fel car-lyniad i'r IliLellau doniol a gyhoedd- asom o'r bJaen am Fechgyn y Penrhyn yn myned am dro i'r Wyddfa, fe gyfansoddiwyd a, ganlyn 'Rwyf finau'n cofio tipin Am Natives y Cefn Coch, A'u trefn o fyw, a thalu rhent Trwy gadw ffowls a moch Nid oedd na Jam na Jelly, Fel sydd y dyddiau hyn, Bananas na Tomatos, Na son am fara pryn. Shot oer, ac uwd a thruog, A hefyd bara llaetb, Oedd ymborth ygorphenol, A chocos mawr y traeth D'oedd angen am un meddyg I fyw o fewn i'r lie, 'Roedd mwy o yfed wermod A llai o yfed Te Mae'r ffasiwn wedi newid Fel pobpeth yn ei dro, Ystyrir dyn, a chlos pen glinr Y dyddiau hyn o'i go Mae suit o frethyn cartref Ac iddi gynffon hir, Yn wrthrych gwawd, a sylw, Pob plentyn yn y Sir. R'wyn cofio William Ellis Yn fawr ei sel, fel sant, A'i Fibl dan ei gesail 11 Yn myn'd i sgo!dy'r Pant; A het a chantel lydan, Ac Umberelo mawr, A math o stand up collar Sydd out of date yn awr. Nid oedd na Bike, na Motorr I'w cael o fewn i'r fro, Na train, na dim o'r cyfryw I gario calch na glo Yr hybarch Owen Robert, A Mari Jones, Tar rhiw, A Ruth y Gors, a cheftyl du, A gariodd tra fu byw. R'wyn cofio cewri'r pulpud A'i lleisiau fel y gloch, J Yn dod i efengylu 0 bell i'r hen Gefn Coch Yr anwyl William Prytherch A hefyd Islwyn fwyn, A Joseph Thomas, Carno, Ac Edwards o Tynliwyn. R'wyn cofio'r hen weddiwyr Fu'n tynu'r nef i lawr, Yn offerynau amlwg Yn Haw y Brenin Mawr Mae swn ei mwyn weddiau Yn ymbil ar ei Duw, Ac hen Amenau cynes Yn arcs ar fy uglyw. s R'wyn cofio'r duwiolfrydig Fwyn Robert Jones y llaeth. A'r flon fu yn ei gynal D'yw eto ronyn gwaeth; Ar bwys ei ffon addolodd Waredwr plant y ilawr, Mae Duw yn Ihvyddo'r teulu Lie mae'r hen ffon yn awr. Mae eto un yn aros Mor hoew ag un IIanc, Hen fardd sydd adnabyddus Sef Davies, Tanybanc; Mae'n gristion egwyddorol Yn wr sy'n meddu barn, Yn feirniad craff a gonest J A Chymro hyd y cam. Mae genyf hen chwiorydd Sy'n deilwng wrthrych cAn,, Maent bellach wedi myned I'r deg Jerusalem lân; Sian Shone, a Lowri Wmffra, Mair Pary, gyda hwy, Y tair a ga'dd ei bywyd Trwy haeddiant marwol glwy'„ Sian Jones o Hafod Mynydd Sy'n disgwyl am ei stad, Mae'r etifeddiaeth iddi'n dod Wrth Destament ei Thad Hi gaiff fynediad helaeth Rhyw ddydd i'r nefoedd wen, Aniflanedig goron Gogoniant ar ei phen. Mae genyf hen adgofion Am ganu boreu f'oes, Fel byddai'r hen chwiorydd Yn canu Gwaed y GroQS;" Nid wrth y Notes y byddant Fel yn y dyddiau byn, I Ond fel y byddai'r a\\el 0 ben Calfatia frvn. Crossoswallt. I DAVID RICHARDS,
ROE WEN.
ROE WEN. Agorwyd Darllenfa y lie hwn ddydd Sadwrn gan Miss Noel H. Bibby, y Llywyddes. Wrth ddatgan y sefydliad yn agored, fe ddymunodd Miss Bibby bob llwydd iddo, ac anrhegodd y lie a darlun o'i Fawthydi y Brenin. Mr. J. Hartley Bibby (Llywydd), mewn araeth fer a chynwyssawr a ddywedodd fod ya falch ganddo ei fod wedi bod yn abl i gychwya y Ddarllenfa yr holl a obeithiai fyddai yn fwynhad iddynt oil yn yr ardal. Mr. W. Lloyd (Cadeirydd y Pwyllgor) "a atebodd mewn dull doeth, a diolchodd i Mr. a Mrs. Hartley Bibby a Miss Neol Bibby am y dyddordeb a gymerent yn y pentref, ac am eu. cefnogaeth i bob mudiad daionus yn eu plith.
Advertising
TRETH Y TLODION. Dymunir ar i bawb sydd heb dalu y DRETH hon, wneyd hyny yn ddiffael cyn nen erbyn DYDD LLUN NESAF* Medi 21ain, 1908. Y SWYDDOGION PL WYFOL.
TANYGRISIAU --I
TANYGRISIAU I HOLLTI LLECHAU.—Dydd Iau diweddaf, bu cystadleuaeth holiti llechau yn yr Ardd- angosfa Amaethyddol yn Harlech. Ac y mae yn liawenydd genym gael llongyfarch Mri W. L. Jones, am enill y wobr flaenaf, a Thos. W. Lewis yr ail wobr. Hefyd llongyfarchwn Md. Jacob Jones a'i fab yr wythnos hon eto, ar eu gwaith yn enill y gwobrwyon canlynol:- Yn Harlech, y wobr gyntaf am "Specimen of Tweed" made in Merionethshire, hefyd y wobr flaenaf am Specimen of Hand Knitted Stockings."—Yn Llandudno o dan nawdd "Cymdeitbas Duwydianau Cymreig enillodd yn laf am "Ladies coat & Skirt one colour." laf am "Stripe Dress material" for Ladies. laf am Specimen of Yarn suitable for fancy stockings, laf am Specimen of Linscv Skirting." Enillodd y gwobrwyon uchod gyda clianmoliaeih i'w ddefnyddiau a'i waith. DAMWAIN.—Cvfarfu T. H. Davies. Brvn- ffynon a damwain i'w law yn y Felin. --r- AR YMWELIAD.—Yr wythnos ddiweddaf, bu Mr. William Jones, a'i deulu, ar ymweliad a'i hen ardal. Dras ugain mlynedd yn ol aethi Patagonia. Mab ydyw i'r diweddar Llewelyn Jones, Teiliwr.—Y Sabbath hefyd yr oedd Mr. Edward Griffiths gyda ni, a llongyfarchwyd ef gan egiwys Bethel ar ei ddewisiad yn olynydd i'r Parch W. Jones, Portinorwig, Dymunwn iddo bob llwyddiant yno, y mae wedi bod yn Hafurus iawn i baratoi ei hun ar gyfar ei waith yn y weinidogaeth. MARW.—Boreu dydd Mawrth yn nhy ei chwaer yn Bethseida Terrace, bu farw Mr. Evan Jones, saer maen, gwr adnabyddus i bawb sydd yn yr ardal. Dyn tawel ydoedd, da ei waith. Cafodd gystudd trwm, a bu farw yn 66 oed. Cleddir yn Ramoth Llanfrothen (anghy- oedd), dydd Gwener nesaf.
Family Notices
Genedigaethau. JONES.—Medi 12, priod Mr. Evan Jones, Aberserw, Trawsfynydd, ar fab. MORRIS.—Medi 12fed, yn Ceylon Villa, Port- madoc, priod Mr. J. Jones Morris, Cyfreith- iwr, ar ferch. DAVIEs.-Medi 15, priod Mr. George Davies, Maenofferen, Blaenan Ffestinicg, ar ferch. JONES.—Medi 16, priod Mr. Moses R. Jones, Maenofferen Hotel, Bl. Ffestiniog, ar ferch. Priodasau. ROBERTS.—ROBERTS.—Medi 10, yn nghapel M.C. Penmorfa, gan y Parchn. J. Owen, M A., Criccieth, a J. W. Fculksr (A.), Tabor, Mr. Owen Roberts, New Cambria, Unol Dalaethau, a Miss Kate Roberts, Arfon Cairy, Criccieth, gynt o Glan BJrJ. Marwoiaethau. GRIFFITHS.—Medi 16eg, yn 82 mlwydd oed, Mrs. Catherine Griffiths, gweddw y diweddar Mr. William Griffith, Railway Inn, Blaenau Ffestiniog. Yr oedd yn awr yn gwneyd ei chartref gyda'i mherch Kate, priod Mr. Robert Jones, 4, Bron View Terrace, Maen- offeren, yn nhy yr hon y bu farw yn hynod sydyn chwech o'r gloch boreu ddydd Mercher. Yr oedd ei hunig fab, Mr. Griffith Griffiths, wedi dod drosodd o Utica, America, i edrych am dani ar ol bod yno am ddwy flynedd a'r hugain, a dymun- iad mawr yr hen fam oedd cael ei weled cyn ymado a'r fucheddghon. Yr cedd y mab yn Lerpwl pan fu farw ei fam ar fyrder dych- welyd yn ei ol i'r America. Yr ?oedd yn' gymydoges anwyl ac agos, yn ddynes dawel, gymwynasgar, a chymeradwy, a theimlir cbwithdod ar ei hoi. Yr oedd yn aelod o eglwys Seion (B), He y bu yn ffyddlon hyd y diwedd. Cleddir yn mynwent Bethesda, ddydd Sadwro, yn cychwyn o'r ty am 2 o'r gloch. (Dymunir ar i newyddiaduron Amer- icanaidd gofnodi yr uchod).