Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YNADLYS BETTWSYCOED. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YNADLYS BETTWSYCOED. i PYSGOTA ANGHYFREITHLAWN. I Ddydd Sadwrn, o flaen y Milwriad Johnstone, I T, W. Jelf-Fetit, a T. Osborne Yale, Yswein- I iaid. Meddw ac Afreolus. I Cyhuddid Isaac Jones, Town Hill, Llanrwst, o fod yn feddw yn mhentref Penmachno, Awst 26aia. Addefai y trosedd, a gofidiai am a ddigwyddodd. Dirwywyd ef i swllt a'r costau. Cyhuddid Robert Davies, plastrwr, Scotland Street, Llanrwst, o fod yn feddw ac afreolus yn yr un lie ar yr un dyddiad, a dirwywyd ef i haner coron a'r costau. Chwareu Peli ar Gam-amssr. I Yr Uwcharolygydd Rees, a gyhuddai Emely Anne Reeve Lay, Cobden Hotel, Capel Curig, o ganiatau chwareu peli (billiards), yn ei thy ar ol deg o'r gloch. Ymddanghosai Mr. J. J. Marks i arwain yr achos ar ran yr Heddlu, a Mr. Hamlet Roberts, Penygroes, dros y ddiffynyddes. Rhoddwyd tystiolaeth yn yr achos gan yr Heddwas Pritchard, Capel Curig, yr hwn a ddywedai iddo fyned i'r Gwesty tua haner awr wedi deg, Awst 13, ac aeth i'r billiard room lie yr oedd Mr. Cobden yn chwareu peli gyda bcn- eddwr arall, Mrs. Cobden yn chwareu y berdoneg, a dyn arall yn canu, a bu iddo ymholi am y ddiffynyddes, a dywedodd wrthi y byddai iddo gymeryd cwrs yn eu herbyn, dywedcdd hithau y deuai i'r Llys am fod gan- ddi eisiau pobpeth yn iawn. Wrth Mr. Roberts.—Gwyddai am Cobden Hotel yn dda, a gallai weled y goleu o'r ffordd, Nid oedd wedi cwyno yn ei gylch hyd y tro hwn. Nid oedd y person oedd yn chwareu yn frodor o Capel Curig. Vivian Cobden a ddywedai mewn amddi- ffyniad eu bod wedi caniatau i'r ymwelwyr arhosent yn y ty, chwareu er's 14 mlynedd, ac ni chlywsant gwyn o gwbl. Ni fu iddynt ganiatau i breswylwyr y lie chwareu ar ol deg. Wedi i Mr. Roberts anerch, dywedodd y Cadeirydd eu bod o'r farn fod trosedd wedi ei gyflawni, ond eu bod yn taflu yr achos allan ar daliad y costau. Pysgota Anghyfreithlcn. Robert Willliams, ceidwad yr afonydd a gyhuddai John Lovell, Narrow Street, Llan- rwst o ddal eog drwy foddion anghyfreithlawn yn Afon Conwy, ar foreu Sul, Awst 16eg, ac hefyd cyhuddai ddau o'i frodyr, Seth a Joseph Lovell, o'i gynorthwyo. Erlynai Mr. C. T. Allard, ac amddiffynid John Lovell gan Mr. E. Davies-Jones, yr hwn mewn araeth ramantus a ddadleuai yn gryf nad oedd achos yn ei eibyn ac fod camgymeriad mawr wedi cael ei wneyd, a'i fod yn myned i alw tyst a ddywedai ar ei lw mai efe ac Did John Lovell oedd gyda'r ddau ereill, ac fod Dr. Lloyd Williams, Llanrwst, yn barod i dystio ei fod yn gweini ar y diffynydd tua'r amser y cyhuddid ef o fod wrth yr afon. Yr oedd y diffynydd wedi gwasanaethu yn y rhyfel yn Ne Affrig ac yr oedd wedi cael ei glwyfo. Hefyd yr oedd wedi cyfarfod a damwain yn ngwaith Dolgarog ac yr oedd yn myned i hawlio iawn. Yr oedd rhywbeth mewn enw, ac anffodus iawn i'r diffynydd oedd y ffaith mai John Lovell oedd ei enw, gan fod iddo gefnder o'r un enw yr hwn oedd yn hysbys fel hen droseddwr yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd y diffynydd yn gweithio yn rheolaidd gyda'r Mri. Bott a Senett, yn Dolgarrog. Tystiai Robert Williams ei fod wedi gweled y diffynydd a dau eraill wrth yr afon y dydd a nodwyd. Daeth John oddiwrth yr afon ac eog yn ei law. Aethant i gyfeiriad y Felin Blwm. Yr oedd dillad goleu am John, ac yr oedd yr afon yn isel iawn ar y pryd. Yr oedd yn sicr mai y diffynydd oedd yno. Yr Heddwas Jones, Llanrwst, a dystiai iddo weled y cyhuddedig yn dyfod allan o'i dy y boreu dan sylw rhwng tri a phedwar, ond aetb yn ei ol pan welodd y tyst. Gwelodd ddau eraill yn dyfod o'u tai yn Chapel Street. Evans, Gwiga, Talybont, a ddywedodd nad oedd wedi gweled Mr Davies-Jones o gwbl, Ei fod yn myned adref o Lanrwst y boreu Sul dan sylw, wedi lletya dros y nosyn 7, Plough St. Ar ei ffordd adref gwelodd Seth Lovell ac un arall y tybiai ei fod yn frawd iddo, ac aeth gyda hwy at yr afon. Pan wnaeth y Ceidwad ei ymddangosiad o'i blanhiga, rhedodd ef i gyfeiriad Trefriwi Yr oedd yn sicr nad oedd John Lovell yno o gwbl. Wedi gwrando'r dystiolaeth hon, dywedai y Cadeirydd eu bod yn taflu yr achos yn erbyn John Lovell allan, a chaniattawyd gohirio yr achos yn erbyn y ddau eraill am fis. Heb Drwydded. Cyhuddid Seth a Joseph Lovell o bysgotta yn afon Crafnant, Awst 28, heb drwydded. Nid ymddanghosant a dirwywyd hwy i bunt a'r costau bob un, neu fis o garchar a llafur caled.

TALSARNAU. I

HEDDLYS LLANRWST. I

0 GADAIR YNYS FADOG,I

Adolyjgiacl y Wasg.i

Beirniadaeth -Seindorf -OakeleyI…

IArddangosfa y Diwydianau…

OYNGOR GWLEDIG LLANRWST,

BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST.

IGWYTHERIN. - ....... - -…

TRAWSFYNYDD.

. - ...............- ....-…

- -CAPEL CURIG.

[No title]