Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YNADLYS BETTWSYCOED. i

TALSARNAU. I

HEDDLYS LLANRWST. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEDDLYS LLANRWST. I Dydd LIun, o flaen y Milwriad Johnstone y Milwriad Higson Syr Charles Mc Laren, A.S.; Dr. T. E. Jones; O. Isgoed Jones; H. J. W. Watling Parch. H. Rawson Williams; W.J.Williams; William Hughes a J. R. Williams, Ysweiniaid. Iaith Aflan. I Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd Alice Owen, River Terrace, Llanrwst, ac Ellen Jones, o'r un lie, o fod yn ymladd a'u gilydd ac arfer iaith anweddus Awst 23. Yr oedd y ddwy, yn ol tystiolaeth yr Achwynydd a'r Uwcharolygydd Woolam, yn achosi llawer iawn o boen i'r cymydogion trwy en dull ewer- ylgar ac afreolus. Ni fuont erioed o flaen y Faingc hyd y tro hwn gan i'r Swyddogion eu goddef yn amyneddgar i edrych a fuasant yn diwygio.—Dirwywyd y ddwy i haner coron a'r costau. Gwr a Gwraig. Yn achos Ellen Davies, Brynrhys, Glan Conwy, a John Davies ei gwr, gofynodd Mr. J. E. Humphreys am obiriad gan fod cytundeb ar gael ei dynu allan i John Davies dalu 10/- yr wythnos at gynhaliaeth ei wraig a'i blant.- Caniatawyd y cais, a daw y mater i fyny yn y Llys nesaf. I Tadogi. I Yn achos Elizabeth Jane Davies yn erbyn Owen Roberts, hysbyswyd y Llys nad oedd y gwysion wedi eu gwasanaethu. Mary Catherine Hughes, Brynrhys, Glan- conwy, a ofynodd am archeb yn erbyn Thomas Owen Evans, o'r un lie i dalu at fagu ei phlentyn anghyfreithlon anwyd Mehefin 10. Ymddangosodd Mr. J. E. Humphreys dros yr Hawlyddes, a Mr. Joseph Lloyd, Llanelwy, dros y Diffynydd.—Yr oedd y tystiolaethau y fath nad yw yn weddus eu cyhoeddi.—Gwrth- ododd y Faingc wneyd Archab o ddiffyg tyst- iolaeth gadarnhaol. Meddwi. I Yr Uwcharolygydd Woollan a gyhuddodd David Davies, Twnan, Colwyn, o fod yn feddw yn Llanrwst, Medi 10.—Tystiodd y Swyddog fod y Diffynydd yn amaethwr parchus, a chafodd ef yn nghwmni dwy y gwyddai na byddai yn ddiogel gyda hwy a chlodd ef i mewn hyd nes y sobrodd,—Dirwy swllt a'r costau. Y Modurwyr Jehuaidd. Yr Uwcharolygydd Woolam a gyhuddodd chwech o Fodurwyr o droseddu y gyfraith gyda'u Moduriau,—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr Heddlu i erlyn yn yr holl achosion. Hysbyswvd y Llys nad oeddid wedi llwyddo i wasanaethu gwys ar olaf Max Mattbien, ac felly nad ellid myned yn mlaen gyda'r achos yn ei erbyn. Yr achos cyntaf ydcedd yn erbyn boneddwr ieuangc o'r enw Ernest Henry Wheeler, Bel- mont, Wardla Road, Sale, Manchester, yr hwn a amddiffynwyd gan Mr. O. Aneurin Evans. Y cyhuddiad yn ei erbyn ef ydoedd am yru i beryglu bywyd y cyhoedd ar y ffordd rhwng Talycafn a Llanrwst ar Awst 24ain.— Parhaodd yr achos hwn am dros ddwy awr, a'r unig dyst ynddo ydoedd Miss Elsi Jelf Petit, Bodhyfryd, Llanrwst. Tystiodd hi ei bod yn cerdded adref o Talycafn, ac i Fodyr y Diffynydd a Modur arall basio eu gilydd mewn lie cul yn hollel ar gyfer y lie y safai hi fel y bu raid iddi bwyso ar ochr y clawdd i ochel y modur yr hwn oedd o fewn modfedd i'w thraed." Yr amddiffyniad ydoedd na welodd Mr. Wheeler mo honi, neu y buasai yn atal ei fodur. Yr oedd yn foneddwr uchel ei barch ac yn dal trwydded Modur er's tair blynedd a baner. Ni chwynwyd wrtho erioed o'r blaen yn nghyich ei yru.-Dadleuai Mr. O. Aneurin Evans na fuasai y peth yn cael sylw o gwbl, a chaniatau ei fod:wedi digwydd oni bai mai;Miss Petit, merch un o'r Ynadon oedd yn digwydd bod ar y ffordd ar y pryd.—Dywedodd y Cad- eirydd fod y Faingc yn ystyried fod yr achos wedi ei brofi, a'u bod yn d'rwyo y Diffjnydd i bum' punt a'r costau arferol, ac yn atal ei drwydded am dri mis.—Rhoddwyd rbybudd yr apelid yn erbyn y ddyfarniad. Cyhuddwyd William Francis Holcroft, Drayton House, Stourbridge, o yru ei Fodur yn gyflymach nag oedd caniatad ar Medi 6ed. —Addefwyd y trosedd, a dirwywyd i bunt a'r costau. Ralph Birket Lines, Englefield, Queen's Road, Llandudno, a gyhuddwyd o yru yn gyflymach nag oedd caniatad ar Medi 6ed.- Addefwyd y trcsedd, a dirwywyd i bunt a'r costau. John Burton, 11, Pheobe Ann Street, Lerpwl, a gyhuddwyd o yru dros y cyflymder caniataol ar Medi 6.-Addefwyd, a dirwywyd i bunt a'r costau. William Edward Watson, The Gables, Colwyn Bay, a gyhuddwyd o yru yn rhy gyflym trwy dref Llanrwst Medi 6, ac o fethu dangos ei drwydded pan ofynwyd am dani.— Addefwyd y cyhuddiadau, a dirwywyd ef i bunt a'r costau am y trosedd cyntaf, a thynwyd y cyhuddiad arall yn ol gyda chydsyniad y Faingc.

0 GADAIR YNYS FADOG,I

Adolyjgiacl y Wasg.i

Beirniadaeth -Seindorf -OakeleyI…

IArddangosfa y Diwydianau…

OYNGOR GWLEDIG LLANRWST,

BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST.

IGWYTHERIN. - ....... - -…

TRAWSFYNYDD.

. - ...............- ....-…

- -CAPEL CURIG.

[No title]