Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YNADLYS BETTWSYCOED. i

TALSARNAU. I

HEDDLYS LLANRWST. I

0 GADAIR YNYS FADOG,I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 GADAIR YNYS FADOG, TYFU "BULBS.Os derfydd am y fasnach lechi, mae gobaith am fasnach arall yn Mhorth- madog. Os gwywa y naill fasnach hyderir y "blodeua" y Hall. Yn y Traeth, dydd Sadwrn, p!anwyd chwech o bulbs gan Mrs. Lloyd George ar gais pwyllgor gwelliantau y dref. Wrth wneyd hyny dywedodd y gellid gwneyd masnach eang mewn tyfu blodau. Cynghorasai y diweddar Mr. W. E. Gladstone ffermwyr y wlad feithrin ffrwythau a blodau, gyda'r canlyniad fod llawer o fferm- wyr yn awr yn gwneyd mavy o arian oddiwrth hyny nac oeddynt wrth dyfu ydau.-Dywed- odd Cadben J. R. Pritchard y bwriedid planu canoedd o'r "bulbs" yn y Post a Morfa Bychan. Anfonid gwerth miloedd o bunau o flodau o Holland i Loegr bob blwyddyn. Pabam nad ellid gwneyd masnach gyffelyb yn Mhorthmadoc ? Diolchwyd i Mrs. Lloyd am ei gwasanaeth caredig ar gynygiad Mr. J. Davies a chefnogiad Mr. J. R. Owen. Y LLONGAU.—Ychydig iawn o longav sydd yn y porthladd y dyddiau hyn. Y "Charabanc."—Ni phrofodd y "Char abanc" modur redai rhwng Pwllheli, Tre- madoc, a Beddgelert yn llwyddiant. Aeth teimlad yr ardaloedd yn ei erbyn trwy ei fod yn ymyryd a gwaith cerbydwyr Ileol. YMRYSONFA CWN DEFAID.-Dydd Sadwrn cynhaliwyd yn y Traeth ymrysonfa cwn defaid. Yr enillwyr oeddynt:—Dosbarth laf. 1, T. Roberts, Llantysilio, Llangollen; 2, J. Moses, Brogyntyn; 3, Edward Evans, Brynbriglas, Bala. Dosbarth 2il. 1, R. Williams, Traws- fynyddd 2, Wm. Jones, Plas Nant, Corwen 3, E. Evans, Bala. Dosbarth 3ydd. 1, W. Jones, Brynrodyn, Ffestiniog 2, T. Roberts, Llangollen (yr hwn hefyd gafodd y wobr am feddu y llywodraeth oreu ar ei gi) 3, G. R. Roberts, Llanllyfni; 4, W. Owen, Llansannan. Cafwyd hefyd cystadleuaeth cneifio defaid.— 1, Hugh Evans, Cwrt, Trawsfynydd; 2, E. Jones, Penystryd, eto; 3, R. Roberts, Hafod If an, Ysbytty. MARWOLAETH CADBEN LLONG.-Yr wyth- nos ddiweddaf, claddwyd Cadben Evan Jones, Henblas, Pwllheli. Efe oedd ysgrifenydd Ileol bywydfadau Criccieth, Pwllheli, Aber- soch a Phorthdinlleyn. Hen lane ydoedd. Ei bleser oedd materion y mor. Yr oedd yn ddyn hynaws, o dymer ragorol, ac yn hollol unplyg yn ei eiriau a'i ymddygiad, Bu ei rieni yn cadw y Llythyrdy yn Mhwllheli am lawer o flynyddoedd, Cadben Jones, y Post yr arferid ei alw. Yr oedd yn ymhyfrydu yn y gwaith o ofalu am y bywydfadau. Anhawdd fydd cael ei gystal i'r gwaith hwnw. VS/VA/\A/VVS-AAA/SAAAAA/*WAAAAAA/VVV

Adolyjgiacl y Wasg.i

Beirniadaeth -Seindorf -OakeleyI…

IArddangosfa y Diwydianau…

OYNGOR GWLEDIG LLANRWST,

BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST.

IGWYTHERIN. - ....... - -…

TRAWSFYNYDD.

. - ...............- ....-…

- -CAPEL CURIG.

[No title]